Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Gwnaed yr Offeryn Statudol Cymreig hwn o ganlyniad i ddiffyg yn OSC 2011/3042 (Cy.320) as fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys eu bod wedi cael yr Offeryn Statudol Cymreig hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 65 (Cy.16)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed

10 Ionawr 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Ionawr 2012

Yn dod i rym yn unol â rheoliadau 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 11(1), (2)(b), (d), (f) a (3), 12(1), (2) a (4), 24(1)(c) a 26(3) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2012.

(2Daw'r rheoliad hwn a rheoliadau 2 a 3 i rym am 12:01 am ar 15 Ionawr 2012.

(3Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym yn union ar ôl hynny.

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(5Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(3).

Dirymu Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011

2.—(1Mae Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011(4) wedi eu dirymu.

(2Mae'r diwygiadau a wnaed gan y Rheoliadau hynny wedi eu dadwneud.

Dirymu Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011

3.  Mae Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011(5) wedi eu dirymu.

Diwygio Rheoliadau 2004

4.  Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygio rheoliad 2(1) (dehongli)

5.  Yn rheoliad 2(1)(6)

(a)hepgorer y diffiniad o “y Cynulliad” (“the Assembly”);

(b)hepgorer y diffiniad o “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”);

(c)yn y mannau priodol mewnosoder—

ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol(7);

ystyr “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”) yw gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol(8);;

(ch)hepgorer y diffiniadau o “awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) ac “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”).

Rhoi “Gweinidogion Cymru” yn lle “y Cynulliad”

6.  Ym mhob man y mae'n digwydd yn rheoliadau 2, 11, 15 a 16 yn lle “y Cynulliad” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

Amnewid y term “gwastraff trefol a gasglwyd”

7.  Yn y mannau a ganlyn yn lle “gwastraff trefol” rhodder “gwastraff trefol a gasglwyd”—

(a)rheoliad 6(1)(b) ac (c);

(b)yn yr ail fan y mae'n digwydd yn rheoliad 14(2)(i);

(c)rheoliad 14(2)(ii).

Amnewid y term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”

8.  Ym mhob man y mae'n digwydd yn lle “gwastraff trefol pydradwy” rhodder “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”.

Amnewid rheoliad 8 (penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy sydd mewn swm o wastraff)

9.  Yn lle rheoliad 8 rhodder—

Penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy a gasglwyd sydd mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd

8.  Bernir bod chwe deg un y cant o'r swm o wastraff trefol a gasglwyd yn wastraff trefol pydradwy a gasglwyd..

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

10 Ionawr 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (“Deddf GAMA”) yn sefydlu system o dargedau ar gyfer lleihau maint y gwastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon ar gyfer tirlenwi ym mhob rhanbarth o'r DU ac yn y DU yn gyfan. Mae hyn yn rhoi effaith i rwymedigaethau'r DU o dan erthygl 5(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff (OJ Rhif L 182, 17.7.1999, t. 1).

Cesglir a gwaredir gwastraff trefol pydradwy gan awdurdodau lleol a chan y sector preifat. Mae'r targedau yn gymwys i'r ddau ohonynt.

Fel rhan o'r drefn i sicrhau bod y targedau'n cael eu bodloni, mae Deddf GAMA yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyrannu lwfansau i awdurdodau lleol yn eu swyddogaeth fel awdurdodau gwaredu gwastraff. Caniateir i awdurdodau lleol dirlenwi un dunnell o wastraff trefol pydradwy ar gyfer pob lwfans a ddelir ganddynt. Ceir y rheolau manwl ar sut y mae'r system o lwfansau'n gweithio yn Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)). Nid yw'r Cynllun hwnnw'n gymwys i wastraff a waredwyd gan y sector preifat.

Yn flaenorol defnyddiwyd y term “biodegradable municipal waste” (“gwastraff trefol pydradwy”) yn Neddf GAMA i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ei gwmpasu ac i gyfeirio at y categori ehangach o wastraff y mae'r targedau'n ei gwmpasu. Cafodd Deddf GAMA ei diwygio er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau. Gwnaed y diwygiadau hynny gan Reoliadau Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/2499) a ddaeth i rym ar 21 Tachwedd 2011. Dangoswyd y gwahaniaeth drwy gyflwyno'r term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol” i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ymwneud ag ef. Gwnaed diwygiad cysylltiedig i gyflwyno'r term “gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol” i wahaniaethu rhwng gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdodau lleol a gwastraff trefol nas casglwyd gan awdurdodau lleol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 fel bod y termau newydd hefyd yn cael eu defnyddio yn Rheoliadau 2004. Diwygiadau technegol yw'r rhain a fydd yn cael effaith niwtral ar awdurdodau lleol a'r sector busnes a'r sector gwirfoddol.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu dwy set gynharach o reoliadau a luniwyd i wneud yr un diwygiadau. Roedd y Rheoliadau cynharach hynny yn cynnwys gwallau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n angenrheidiol i wneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(1)

2003 p. 33. Mae diwygiadau i adran 24 o'r Ddeddf nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

O.S. 2004/1490 (Cy. 155); diwygiwyd gan O.S. 2005/1820 (Cy. 148) Atodlen 2 paragraffau 5 i 8 ac O.S. 2011/971 (Cy. 141) rheoliad 3.

(6)

Mae diwygiadau i reoliad 2(1) nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

I gael ystyr “local authority collected municipal waste” gweler adran 21(4) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003.

(8)

I gael ystyr “biodegradable local authority collected municipal waste” gweler adran 21(2)(b) o'r Ddeddf honno.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill