Gwnaed yr Offeryn Statudol Cymreig hwn o ganlyniad i ddiffyg yn OSC 2011/3042 (Cy.320) as fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys eu bod wedi cael yr Offeryn Statudol Cymreig hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gwnaed
10 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Ionawr 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliadau 1(2) a (3)
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Daw'r rheoliad hwn a rheoliadau 2 a 3 i rym am 12:01 am ar 15 Ionawr 2012.
(3) Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym yn union ar ôl hynny.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(5) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(3).
2.—(1) Mae Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011(4) wedi eu dirymu.
(2) Mae'r diwygiadau a wnaed gan y Rheoliadau hynny wedi eu dadwneud.
3. Mae Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011(5) wedi eu dirymu.
4. Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
5. Yn rheoliad 2(1)(6)—
(a)hepgorer y diffiniad o “y Cynulliad” (“the Assembly”);
(b)hepgorer y diffiniad o “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”);
(c)yn y mannau priodol mewnosoder—
“ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol(7);
ystyr “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”) yw gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol(8);”;
(ch)hepgorer y diffiniadau o “awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) ac “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”).
6. Ym mhob man y mae'n digwydd yn rheoliadau 2, 11, 15 a 16 yn lle “y Cynulliad” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
7. Yn y mannau a ganlyn yn lle “gwastraff trefol” rhodder “gwastraff trefol a gasglwyd”—
(a)rheoliad 6(1)(b) ac (c);
(b)yn yr ail fan y mae'n digwydd yn rheoliad 14(2)(i);
(c)rheoliad 14(2)(ii).
8. Ym mhob man y mae'n digwydd yn lle “gwastraff trefol pydradwy” rhodder “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd”.
9. Yn lle rheoliad 8 rhodder—
8. Bernir bod chwe deg un y cant o'r swm o wastraff trefol a gasglwyd yn wastraff trefol pydradwy a gasglwyd.”.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
10 Ionawr 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (“Deddf GAMA”) yn sefydlu system o dargedau ar gyfer lleihau maint y gwastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon ar gyfer tirlenwi ym mhob rhanbarth o'r DU ac yn y DU yn gyfan. Mae hyn yn rhoi effaith i rwymedigaethau'r DU o dan erthygl 5(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff (OJ Rhif L 182, 17.7.1999, t. 1).
Cesglir a gwaredir gwastraff trefol pydradwy gan awdurdodau lleol a chan y sector preifat. Mae'r targedau yn gymwys i'r ddau ohonynt.
Fel rhan o'r drefn i sicrhau bod y targedau'n cael eu bodloni, mae Deddf GAMA yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyrannu lwfansau i awdurdodau lleol yn eu swyddogaeth fel awdurdodau gwaredu gwastraff. Caniateir i awdurdodau lleol dirlenwi un dunnell o wastraff trefol pydradwy ar gyfer pob lwfans a ddelir ganddynt. Ceir y rheolau manwl ar sut y mae'r system o lwfansau'n gweithio yn Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)). Nid yw'r Cynllun hwnnw'n gymwys i wastraff a waredwyd gan y sector preifat.
Yn flaenorol defnyddiwyd y term “biodegradable municipal waste” (“gwastraff trefol pydradwy”) yn Neddf GAMA i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ei gwmpasu ac i gyfeirio at y categori ehangach o wastraff y mae'r targedau'n ei gwmpasu. Cafodd Deddf GAMA ei diwygio er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau. Gwnaed y diwygiadau hynny gan Reoliadau Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/2499) a ddaeth i rym ar 21 Tachwedd 2011. Dangoswyd y gwahaniaeth drwy gyflwyno'r term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol” i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ymwneud ag ef. Gwnaed diwygiad cysylltiedig i gyflwyno'r term “gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol” i wahaniaethu rhwng gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdodau lleol a gwastraff trefol nas casglwyd gan awdurdodau lleol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 fel bod y termau newydd hefyd yn cael eu defnyddio yn Rheoliadau 2004. Diwygiadau technegol yw'r rhain a fydd yn cael effaith niwtral ar awdurdodau lleol a'r sector busnes a'r sector gwirfoddol.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu dwy set gynharach o reoliadau a luniwyd i wneud yr un diwygiadau. Roedd y Rheoliadau cynharach hynny yn cynnwys gwallau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n angenrheidiol i wneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
2003 p. 33. Mae diwygiadau i adran 24 o'r Ddeddf nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2004/1490 (Cy. 155); diwygiwyd gan O.S. 2005/1820 (Cy. 148) Atodlen 2 paragraffau 5 i 8 ac O.S. 2011/971 (Cy. 141) rheoliad 3.
Mae diwygiadau i reoliad 2(1) nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
I gael ystyr “local authority collected municipal waste” gweler adran 21(4) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003.
I gael ystyr “biodegradable local authority collected municipal waste” gweler adran 21(2)(b) o'r Ddeddf honno.