Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 166 (Cy.25)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2012

Gwnaed

20 Ionawr 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Ionawr 2012

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(3D), 4(2) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2012.

(2Daw rheoliad 2(2) i rym ar 2 Ebrill 2012, daw rheoliadau 2(3)(a) a 2(4)(a) i rym ar y diwrnod y daw adran 8 o Ddeddf Addysg 2011(3) i rym, a daw rheoliadau 2(3)(b) ac (c) a 2(4)(b) ac (c) i rym ar y diwrnod y daw adran 7 o Ddeddf Addysg 2011 i rym.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000

2.—(1Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000(4) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 3(a) rhodder y paragraff a ganlyn—

  • erthygl 18(2) (addasrwydd i addysgu) neu 19 (unigolion gwaharddedig) o Orchymyn Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Cyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban) 2011(5) neu benderfyniad gan Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban i ddileu unigolyn o'r gofrestr, yn dilyn ei ddyfarnu'n euog o dramgwydd, o dan erthygl 27 (tramgwyddau) o'r Gorchymyn hwnnw..

(3Yn Atodlen 1,

(a)ar ôl paragraff 21, mewnosoder y canlynol—

21A  Telerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person ac sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002..

(b)ym mharagraff 22A, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.

(c)ym mharagraff 22B, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.

(4Yn Atodlen 2,

(a)ar ôl paragraff 12A, mewnosoder y canlynol—

12B  Telerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person ac sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002..

(b)ym mharagraff 13A, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.

(c)ym mharagraff 13B, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Ionawr 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 (“Rheoliadau 2000”), o ganlyniad i Ddeddf Addysg 2011 (“Deddf 2011”), sy'n darparu ar gyfer diddymu Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr (“CACLl”) ac yn gwneud darpariaeth newydd o ran gwahardd personau rhag cyflawni gwaith addysgu. Mae Rheoliadau 2000 hefyd yn ystyried dyfodiad rhannau o Orchymyn Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Cyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban) 2011 i rym.

Mae rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn gosod darpariaeth newydd yn lle rheoliad 3(a) o Reoliadau 2000. Mae'r ddarpariaeth newydd yn ystyried dyfodiad i rym rannau o Orchymyn Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Cyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban) 2011, sy'n gwneud newidiadau i'r meini prawf a fydd yn penderfynu bod person yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr athrawon yn yr Alban.

Mae rheoliad 2(3) yn ychwanegu paragraff newydd at Atodlen 1 i Reoliadau 2000 sy'n darparu y bydd telerau unrhyw orchymyn gwahardd a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”), o dan yr hwn y mae person yn cael ei wahardd rhag cyflawni gwaith addysgu, yn cael eu cofnodi yn y gofrestr athrawon sy'n cael ei chynnal gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Mewnosodir adran 141B yn Neddf 2002 gan Ddeddf 2011. Mae'r rheoliad hefyd yn diddymu cyfeiriadau at CACLl ym mharagraffau 22A a 22B o Atodlen 1 i Reoliadau 2000.

Mae rheoliad 2(4) yn darparu y caiff telerau unrhyw orchymyn gwahardd a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf 2002, o dan yr hwn y mae person yn cael ei wahardd rhag cyflawni gwaith addysgu, eu darparu i gyflogwyr ac eraill. Mae'r rheoliad hefyd yn diddymu cyfeiriadau at CACLl ym mharagraffau 13A a 13B o Atodlen 2 i Reoliadau 2000.

(1)

1998 p. 30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys o ran Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). Mewnosodwyd adran 3(3D) gan baragraffau 1, 3(1) a (5) o Ran 1 o Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a diwygiwyd adran 4(2) gan baragraffau 1, 4(1) a (2) o Ran 1 o Atodlen 12 i'r Ddeddf honno.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill