2012 Rhif 166 (Cy.25)
ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2012

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(3D), 4(2) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy2, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998:

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2012.

(2)

Daw rheoliad 2(2) i rym ar 2 Ebrill 2012, daw rheoliadau 2(3)(a) a 2(4)(a) i rym ar y diwrnod y daw adran 8 o Ddeddf Addysg 20113 i rym, a daw rheoliadau 2(3)(b) ac (c) a 2(4)(b) ac (c) i rym ar y diwrnod y daw adran 7 o Ddeddf Addysg 2011 i rym.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 20002.

(1)

Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 20004 fel a ganlyn.

(2)

Yn lle rheoliad 3(a) rhodder y paragraff a ganlyn—
  • “erthygl 18(2) (addasrwydd i addysgu) neu 19 (unigolion gwaharddedig) o Orchymyn Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Cyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban) 20115 neu benderfyniad gan Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban i ddileu unigolyn o'r gofrestr, yn dilyn ei ddyfarnu'n euog o dramgwydd, o dan erthygl 27 (tramgwyddau) o'r Gorchymyn hwnnw.”.

(3)

Yn Atodlen 1,

(a)

ar ôl paragraff 21, mewnosoder y canlynol—

“21A

Telerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person ac sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002.”.

(b)

ym mharagraff 22A, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.

(c)

ym mharagraff 22B, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.

(4)

Yn Atodlen 2,

(a)

ar ôl paragraff 12A, mewnosoder y canlynol—

“12B

Telerau unrhyw orchymyn gwahardd sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person ac sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002.”.

(b)

ym mharagraff 13A, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.

(c)

ym mharagraff 13B, hepgorer y geiriau “neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr”.

Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 (“Rheoliadau 2000”), o ganlyniad i Ddeddf Addysg 2011 (“Deddf 2011”), sy'n darparu ar gyfer diddymu Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr (“CACLl”) ac yn gwneud darpariaeth newydd o ran gwahardd personau rhag cyflawni gwaith addysgu. Mae Rheoliadau 2000 hefyd yn ystyried dyfodiad rhannau o Orchymyn Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Cyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban) 2011 i rym.

Mae rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn gosod darpariaeth newydd yn lle rheoliad 3(a) o Reoliadau 2000. Mae'r ddarpariaeth newydd yn ystyried dyfodiad i rym rannau o Orchymyn Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Cyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban) 2011, sy'n gwneud newidiadau i'r meini prawf a fydd yn penderfynu bod person yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr athrawon yn yr Alban.

Mae rheoliad 2(3) yn ychwanegu paragraff newydd at Atodlen 1 i Reoliadau 2000 sy'n darparu y bydd telerau unrhyw orchymyn gwahardd a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”), o dan yr hwn y mae person yn cael ei wahardd rhag cyflawni gwaith addysgu, yn cael eu cofnodi yn y gofrestr athrawon sy'n cael ei chynnal gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Mewnosodir adran 141B yn Neddf 2002 gan Ddeddf 2011. Mae'r rheoliad hefyd yn diddymu cyfeiriadau at CACLl ym mharagraffau 22A a 22B o Atodlen 1 i Reoliadau 2000.

Mae rheoliad 2(4) yn darparu y caiff telerau unrhyw orchymyn gwahardd a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf 2002, o dan yr hwn y mae person yn cael ei wahardd rhag cyflawni gwaith addysgu, eu darparu i gyflogwyr ac eraill. Mae'r rheoliad hefyd yn diddymu cyfeiriadau at CACLl ym mharagraffau 13A a 13B o Atodlen 2 i Reoliadau 2000.