- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
7 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mawrth 2011
Yn dod i rym
6 Ebrill 2011
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011 ac mae'n dod i rym ar 6 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn —
mae i “Credyd Treth Plant” a “Credyd Treth Gwaith” yr ystyr a roddir i (“Child Tax Credit”) a (“Working Tax Credit”) yn Neddf Credydau Treth 2002(3);
ystyr “Gorchymyn 2003” (“the 2003 Order”) yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003(4);
ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw'r incwm am y flwyddyn dreth wedi ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(5).
3.—(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2003.
(2) Yn lle erthygl 3 o Orchymyn 2003, rhodder—
3. Rhagnodir Credyd Treth Plant at ddibenion adran 512ZB(4)(aa)(ii) o Ddeddf Addysg 1996 –
(a)pan fo hawl gan riant P i gael Credyd Treth Plant ond dim hawl i gael Credyd Treth Gwaith; a
(b)pan fo rhiant P yn cael Credyd Treth Plant yn rhinwedd dyfarniad ar sail incwm blynyddol nad yw'n uwch na'r swm o £16,190.”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 512ZB(4)(aa)(ii) o Ddeddf Addysg 1996, pan fo gan riant P hawl i gael Credyd Treth Plant ond dim hawl i gael Credyd Treth Gwaith a'i fod yn cael Credyd Treth Plant ar sail incwm blynyddol nad yw'n uwch na £16,190, bod gan P hawl i gael ciniawau ysgol am ddim.
1996 p.56. Rhoddwyd adran 512ZB, ynghyd ag adran 512, fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, a 512ZA yn lle adran 512 gan adran 201(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) ac mewnosodwyd is-adran (4)(aa) ac (c) o adran 512ZB gan adran 26(1)(c) ac (e), yn eu trefn, o Ddeddf Tlodi Plant 2010 (p.9). Am ystyr “prescribed” gweler adran 512(6).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 2002/2006, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/732, 2003/2815, 2004/2663, 2006/745, 2006/766, 2007/824, 2007/1305 a 2008/2169
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys