Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011 ac mae'n dod i rym ar 6 Ebrill 2011.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn —
- mae i “Credyd Treth Plant” a “Credyd Treth Gwaith” yr ystyr a roddir i (“Child Tax Credit”) a (“Working Tax Credit”) yn Neddf Credydau Treth 20023;
- ystyr “Gorchymyn 2003” (“the 2003 Order”) yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 20034;
- ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw'r incwm am y flwyddyn dreth wedi ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 20025.
Diwygio3.
(1)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2003.
(2)
“Credydau treth rhagnodedig3.
Rhagnodir Credyd Treth Plant at ddibenion adran 512ZB(4)(aa)(ii) o Ddeddf Addysg 1996 –
(a)
pan fo hawl gan riant P i gael Credyd Treth Plant ond dim hawl i gael Credyd Treth Gwaith; a
(b)
pan fo rhiant P yn cael Credyd Treth Plant yn rhinwedd dyfarniad ar sail incwm blynyddol nad yw'n uwch na'r swm o £16,190.”.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 512ZB(4)(aa)(ii) o Ddeddf Addysg 1996, pan fo gan riant P hawl i gael Credyd Treth Plant ond dim hawl i gael Credyd Treth Gwaith a'i fod yn cael Credyd Treth Plant ar sail incwm blynyddol nad yw'n uwch na £16,190, bod gan P hawl i gael ciniawau ysgol am ddim.