- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 5 Ebrill 2006.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn, ac eithrio pan fo'r cyd—destun yn mynnu fel arall—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal yw y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr “canolfan ymgynnull” (“assembly centre”) yw canolfan ymgynnull fel y'i diffinnir yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005(1);
ystyr “cofrestr” (“register”) yw'r gofrestr sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor;
ystyr “CPH” (“CPH”) yn y ffurfiau yn Atodlenni 2 a 3, yw Rhif y daliad ym mhlwyf y sir, a neilltuir o bryd i'w gilydd i unrhyw fangre neu ran o fangre gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC” (“Council Directive 92/102/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ynglŷn ag adnabod a chofrestru anifeiliaid (2);
ystyr “daliad mewnforio” (“holding of import”) yw'r daliad lle mae anifeiliaid sydd wedi eu mewnforio o drydedd gwlad yn cael eu symud iddo gyntaf at bwrpas ffermio da byw;
ystyr “dogfen symud” (“movement document”) yw'r ddogfen symud sy'n ofynnol gan Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor;
ystyr “y Gorchmynion blaenorol” (“the previous Orders”) yw—
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) (Rhif 2) 2002(3);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) 2002(4);
Gorchymyn Adnabod Defaid a Geifr (Lloegr) 2000(5);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) Gorchymyn 2002(6);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(7);
Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(8);
Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000(9);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 2004(10);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 1997(11);
Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Yr Alban) 2000 (12); neu
Gorchymyn Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Yr Alban) 2002(13);
ystyr “nod y ddiadell” (“flockmark”), ac eithrio ym mharagraff 18 o Atodlen 1, yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â diadell o ddefaid ar ddaliad;
ystyr “nod yr eifre” (“herdmark”), ac eithrio ym mharagraff 18 o Atodlen 1, yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â geifre o eifr ar ddaliad;
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC(14);
ystyr “tag adnabod” (“identification tag”) yw'r tag clust y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 5 o Atodlen 1 ac a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 22;
ystyr “tag R” (“R tag”) yw tag clust coch a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 22 gyda chod yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn—
y llythrennau “UK”;
nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle mae'r anifail pan roddir y tag clust;
Rhif unigryw; a'r
llythyren “R”;
ystyr “tatŵ R” (“R tattoo”) yw tatŵ gyda'r wybodaeth ganlynol, yn y drefn sy'n dilyn—
nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle mae'r anifail pan roddir y tatŵ;
Rhif unigryw; a'r
lythyren “R”;
ystyr “tag symud” (“movement tag”), ac eithrio ym mharagraff 18 o Atodlen 1, yw tag clust a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 22 gyda chod yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn—
y llythyren “S”; a
nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre y mae'r anifail yn ei gadael;
ystyr “tir pori dros dro” (“temporary grazing”) yw daliad lle mae ceidwad yn symud anifail am gyfnod cyfyngedig er mwyn iddo gael ei fwydo neu gael pori;
ystyr “Rhif unigryw” (“unique number”) yw Rhif sy'n unigryw i anifail mewn diadell neu eifre ac nid yw'n cynnwys mwy na 6 digid;
ystyr “tag X” (“X tag”) yw tag clust a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 22 gyda chod yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn—
y llythrennau “UK”;
nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre y mae'r anifail yn ei gadael;
Rhif unigryw; a'r
llythyren “X”.
(2) Mae gan y dywediadau sydd heb eu diffinio ym mharagraff (1) ac a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn ac yn Rheoliad y Cyngor hefyd, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag yn y Rheoliad Cyngor hwnnw.
3.—(1) Mae cyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “cod adnabod unigol”(“individual identification code”) anifail, ac eithrio anifail sydd â mwy nag un tag clust neu datŵ gyda Rhif adnabod unigol i'r anifail, yn gyfeiriad at y cod ar—
(a)y dull cyntaf o adnabod a roddwyd ar yr anifail yn unol â Rheoliad y Cyngor; neu
(b)y tag clust neu datŵ a ddefnyddiwyd i adnabod yn unigol, anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005 yn unol ag unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol neu, yn achos anifail sydd heb ei adnabod felly, y cod ar y tag adnabod.
(2) Yn achos anifail sydd â mwy nag un tag clust neu datŵ gyda Rhif i adnabod yr anifail yn unigol, mae cyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at y “cod adnabod unigol” (“individual identification code”) yn gyfeiriad at—
(a)yn achos anifail nad yw'n dod o Ogledd Iwerddon, y tag clust neu datŵ gyda'r llythrennau “UK”a Rhif sy'n adnabod yr anifail yn unigol neu, os nad yw'r anifail wedi ei nodi felly, y tag clust neu datŵ a roddwyd yn fwyaf diweddar ar yr anifail sy'n ei adnabod yn unigol; neu
(b)yn achos anifail o Ogledd Iwerddon, y cod sydd wedi ei roi ar y tag clust yng nghlust chwith yr anifail.
4. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor.
5. Mae'n rhaid i unrhyw awdurdodi, cymeradwyo neu ganiatâd a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn neu trwy Reoliad y Cyngor fod mewn ysgrifen. Gall fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu trwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
6.—(1) Mae'n rhaid i unrhyw geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1)(paragraff cyntaf) ac Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon.
(2) At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—
(a)9 mis o'r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir mewn amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu
(b)6 mis o'r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.
(3) Y cod adnabod ar gyfer y dull cyntaf o adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor yw'r wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn ganlynol—
(a)y llythrennau “UK”;
(b)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle ganwyd yr anifail; ac
(c)Rhif unigryw.
7.—(1) Yn unol ag Erthygl 4(2)(c) o Reoliad y Cyngor, y system i gymryd lle'r ail ddull o adnabod, ac eithrio ar gyfer anifail sy'n gysylltiedig â masnach o fewn y Gymuned, yw'r system yn Atodlen 1.
(2) Ar ben hyn, mae darpariaethau Atodlen 1 yn gymwys yn ogystal â'r gofynion canlynol—
(a)Erthyglau 4(1), 4(2)(a), 4(4), 4(5) a 4(6) o Reoliad y Cyngor a'r Rhan hon o'r Gorchymyn hwn;
(b)Erthyglau 5(1), 5(3) a 5(5) o Reoliad y Cyngor a Rhan 3 o'r Gorchymyn hwn; ac
(c)Erthyglau 6(1) a 6(3) o Reoliad y Cyngor a Rhan 4 o'r Gorchymyn hwn.
(3) Hefyd mae Atodlen 1 yn gymwys i anifeiliaid a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.
8.—(1) Yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 ac sy'n gysylltiedig â masnach o fewn y Gymuned, nid yw Atodlen 1 yn gymwys. Yr ail ddull o adnabod a ddynodir yn Erthygl 4(2)(b) o Reoliad y Cyngor yw tag clust neu dransbonder electronig sy'n cydymffurfio ag Adran A.4 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.
(2) Mae'n rhaid bod gan yr ail ddull o adnabod—
(a)cod adnabod sydd yr union yr un fath â'r cod a ddefnyddiwyd yn y dull cyntaf o adnabod o dan erthygl 6(3), yn achos anifail a anwyd yng Nghymru, neu erthygl 10(3), yn achos anifail a fewnforiwyd o drydedd wlad; neu
(b)yn achos lle nad oes dim ond tag clust, y llythrennau “UK”, nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle cafodd yr anifail ei eni neu ei fewnforio, Rhif unigryw a'r llythyren “X”.
9. Rhaid peidio â defnyddio'r dull adnabod y cyfeirir ato yn Erthygl 4(3) o Reoliad y Cyngor ac a ddisgrifiwyd yn Adran A.7 o'r Atodiad i'r Rheoliad hwnnw.
10.—(1) Mae'n rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon.
(2) At ddibenion Erthygl 4(4) (paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod ar gyfer adnabod anifail yw 14 o ddiwrnodau.
(3) Y cod adnabod ar gyfer y dull cyntaf o adnabod at bwrpas Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor ar gyfer anifeiliaid a fewnforiwyd o drydydd gwledydd yw'r—
(a)llythrennau “UK”;
(b)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle cafodd yr anifail ei fewnforio;
(c)Rhif unigryw; ac
(ch)y llythyren “F”.
11. Yn unol ag Adran A.2 (yr ail baragraff) o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor, ar gais y ceidwad—
(a)caiff gwneuthurwr tagiau clust sydd wedi eu cymeradwyo ychwanegu gwybodaeth atodol i'r tagiau clust; a
(b)caiff gwneuthurwr transbonder electronig ychwanegu gwybodaeth atodol i gasin y transbonder,
cyn belled â bod yr wybodaeth atodol yn wahanol i'r Rhif adnabod a chyn belled â bod y Rhif adnabod yn ddarllenadwy bob amser.
12.—(1) Ni chaiff unrhyw berson dynnu neu roi un newydd yn lle'r dull gwreiddiol o adnabod anifail sy'n dod o Aelod—wladwriaeth arall yn groes i Erthygl 4(5) o Reoliad y Cyngor.
(2) Ni chaiff unrhyw berson fynd yn groes neu fethu â chydymffurfio ag Erthygl 4(6)(paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor.
(3) Gall unrhyw berson a gyhuddir o fynd yn groes i Erthygl 4(5) neu 4(6) o Reoliad y Cyngor neu sy'n methu â chydymffurfio â'r Erthyglau hynny amddiffyn ei hun trwy brofi bod—
(a)dull o adnabod wedi cael ei dynnu i atal poen neu ddioddefaint diangen i anifail; a
(b)y rhoddwyd dull newydd o adnabod yn ei le gyda'r un cod ar yr anifail cyn gynted ag y bo'n bosibl.
13.—(1) Os bydd y dull cyntaf o adnabod anifail sydd ag un tag yn mynd yn annarllenadwy neu'n cael ei golli tra bod yr anifail yn dal i fod ar y daliad geni neu'r daliad y mewnforir yr anifail iddo ac nad yw'r ceidwad am unrhyw reswm arall yn gallu deall y cod gwreiddiol ar y dull adnabod, mae'n rhaid iddo roi tag clust newydd yn ei le sy'n cynnwys—
(a)y llythrennau “UK”;
(b)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle mae'r anifail pan roddir y tag clust;
(c)Rhif unigryw; ac
(ch)yn achos anifail a fewnforiwyd o drydydd gwledydd, y llythyren “F”.
(2) Os gwelir bod y dull cyntaf o adnabod ar anifail sydd ag un tag yn annarllenadwy neu ei fod wedi ei golli ar unrhyw ddaliad arall ar wahân i'r daliad geni neu'r daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo ac nad yw'r ceidwad yn gallu deall y cod gwreiddiol ar y dull adnabod, mae'n rhaid iddo ei gyfnewid gyda thag R.
(3) At ddibenion yr erthygl hon, ystyr “anifail gydag un tag” (“single tagged animal”) yw anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 sydd â dim ond dull cyntaf o adnabod yn unol ag Erthygl 4(2)(a) o Reoliad y Cyngor.
14.—(1) Mae unrhyw geidwad, ar wahân i gludwr, sy'n methu â chydymffurfio ag Erthyglau 5(1), 5(3) a 5(5) o Reoliad y Cyngor ac, mewn perthynas â chofrestr, yn methu â llenwi a chadw'r gofrestr honno yn unol â'r erthygl hon, yn euog o drosedd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(15).
(2) Mae'n rhaid i unrhyw geidwad, ar wahân i gludwr, roi'r wybodaeth ganlynol ar y gofrestr pan symudir anifail yn ôl ac ymlaen o'i ddaliad, yn ogystal â'r wybodaeth sy'n ofynnol gan Adran B o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor—
(a)nifer yr anifeiliaid a symudir; a naill ai
(b)yn achos anifail sydd wedi ei adnabod yn unol ag Erthyglau 4(2)(a) a 4(2)(b) o Reoliad y Cyngor, y cod ar y dull cyntaf o adnabod, ac os yw'n wahanol, y cod ar yr ail ddull o adnabod;
(c)yn achos anifail a symudwyd i'r daliad o Aelod—wladwriaeth arall ac sydd wedi ei nodi yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, y cod ar y tag clust a roddwyd o dan y Gyfarwyddeb honno; neu
(ch)yn achos unrhyw anifail arall, y manylion sydd yn rhaid eu rhoi yn y gofrestr o dan Atodlen 1.
(3) Yn ogystal â pharagraff (2), pan symudir anifail o un lleoliad i'r llall ar y daliad, os nad yw'r lleoliadau hynny'n gyfagos, mae'n rhaid i'r ceidwad gofnodi yn y gofrestr —
(a)disgrifiad o'r lleoliadau y symudwyd yr anifail iddynt ac oddi wrthynt;
(b)dyddiad y symud; ac
(c)nifer yr anifeiliaid a symudwyd.
(4) At bwrpas Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, mae'n rhaid i'r gofrestr fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2.
(5) Mae'n rhaid i'r ceidwad lenwi'r gofrestr ar yr adegau canlynol—
(a)yn achos symud anifail i'w ddaliad neu o'i ddaliad, o fewn 36 awr i'r symud;
(b)yn achos symud anifail o un lleoliad i'r llall ar ei ddaliad, o fewn 36 awr i'r symud; ac
(c)yn achos rhoi tag clust neu ddyfais electronig newydd yn lle'r hen un, o fewn 36 awr i'w newid.
(6) At bwrpas Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod y mae'n rhaid i'r gofrestr fod ar gael yw 6 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn galendr pan wnaed y cofnod diwethaf.
15.—(1) Pan symudir anifeiliaid o farchnad, mae'n rhaid i weithredwr y farchnad gofnodi'r Rhif lot y rhoddodd i'r anifeiliaid hynny o dan erthygl 31(1) yn y gofrestr yn y farchnad yn ogystal â'r wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei chofnodi yn y gofrestr honno o dan Reoliad y Cyngor ac erthygl 14.
(2) Pan symudir anifeiliaid i ddaliad o'r farchnad, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw gofnodi Rhif y lot a roddwyd gan y farchnad i'r anifeiliaid hynny yn ei gofrestr yn ogystal â'r wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei chofnodi yn y gofrestr honno o dan Reoliad y Cyngor ac erthygl 14.
16. Yn ychwanegol i ofynion erthygl 14, pan symudir anifail o ddaliad i ladd—dy, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw gofnodi cyfeiriad y lladd—dy yn ei gofrestr, yn ogystal ag enw'r lladd—dy fel sy'n ofynnol gan Adran B.1 (chweched mewnoliad) o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.
17.—(1) Mae'n rhaid i'r ceidwad gydymffurfio ag Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor a llenwi'r ddogfen symud yn unol â'r erthygl hon.
(2) Mae unrhyw geidwad sy'n peidio â chydymffurfio ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor yn euog o drosedd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'n rhaid i'r ddogfen symud—
(a)bod ar y ffurf sydd wedi ei osod yn Atodlen 3;
(b)cael ei llenwi'n llawn gan y ceidwad priodol fel y nodwyd yn y ffurflen honno; ac
(c)yn ogystal â chynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan Adran C o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor, mae'n rhaid i'r ddogfen gael ei llenwi gan y ceidwad gyda'r wybodaeth yn Atodlen 3, gan gynnwys—
(i)yn achos anifail sydd wedi ei adnabod yn unol ag Erthyglau 4(2)(a) a 4(2)(b) o Reoliad y Cyngor, y cod ar y dull cyntaf o adnabod, ac os yw'n wahanol, y cod ar yr ail ddull o adnabod; neu
(ii)yn achos unrhyw anifail arall, y manylion y mae'n rhaid eu cofnodi yn y ddogfen symud o dan Atodlen 1.
(4) Gall gweithredwr y farchnad lenwi dogfen symud electronig ar ffurf wahanol i'r hyn sydd wedi ei nodi yn Atodlen 3, cyn belled â'i bod—
(a)yn cynnwys yr wybodaeth yn Adran C o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor a pharagraff (3)(c)(i) neu (3)(c)(ii) o'r erthygl hon; a'i bod
(b)wedi ei hargraffu a'i llofnodi gan weithredwr y farchnad.
(5) At bwrpas Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod lleiaf y caiff ceidwad y daliad fydd yn derbyn yr anifail gadw'r ddogfen symud yw 3 blynedd o ddyddiad symud anifail i ddaliad y ceidwad.
18. Pan symudir anifeiliaid o farchnad, mae'n rhaid i weithredwr y farchnad gofnodi Rhif y lot a ddyrannodd i'r anifeiliaid hynny o dan erthygl 31(1) yn y ddogfen symud, yn ogystal â'r wybodaeth y mae'n ofynnol iddo gofnodi yn y ddogfen symud o dan Reoliad y Cyngor ac erthygl 17.
19.—(1) Yn achos anifail a symudwyd i ddaliad arall—
(a)ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad arall hwnnw, mae'n rhaid i'r cludwr roi'r ddogfen symud i'r ceidwad yn y daliad hwnnw; a
(b)mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad.
(2) Yn achos anifail a symudwyd o ddaliad ar gyfer ei draddodi tu allan i'r Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i geidwad y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail adael y daliad.
20. At ddibenion Erthygl 7(2) o Reoliad y Cyngor, mae'n rhaid i geidwad sy'n cadw anifeiliaid yn barhaol, cyn 1 Chwefror o bob blwyddyn, wneud stocrestr o nifer yr anifeiliaid ar ei ddaliad ar 1 Ionawr y flwyddyn honno.
21.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae unrhyw geidwad sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor yn euog o drosedd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gwybodaeth a ddarparwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 3 o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(16).
(3) Mae'n rhaid i'r ceidwad hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ysgrifen am unrhyw newid yn yr wybodaeth a nodwyd yn Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor o fewn 30 diwrnod i unrhyw newid o'r fath.
(4) Ar ôl derbyn hysbysiad o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor bod person wedi dod yn geidwad ar ddaliad, mae'n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ddarostyngedig i baragraff (5), ddyrannu nod y ddiadell mewn perthynas â phob diadell o ddefaid ar y daliad a nod yr eifre mewn perthynas â phob geifre o eifr ar y daliad.
(5) Lle bo'r daliad yn lladd—dy neu'n farchnad, mae'n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddyrannu nod y ddiadell neu nod yr eifre lle mae'n ystyried ei fod yn briodol i wneud hynny yn unig.
22.—(1) Yn ogystal â chymeradwyo tagiau clustiau at bwrpas Adran A.3 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo tagiau clustiau at ddibenion y Gorchymyn hwn.
(2) Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo tagiau clust o dan baragraff (1) ac eithrio pan mae wedi'i fodloni eu bod—
(a)wedi eu gwneud o ddeunydd sydd ddim yn ddiraddiadwy;
(b)na ellid ymyrryd â nhw;
(c)eu bod yn hawdd i'w darllen;
(ch)eu bod wedi eu dylunio i aros ar anifail heb ei niweidio;
(d)eu bod yn amhosibl i'w hail—ddefnyddio; a
(dd)eu bod wedi eu nodi'n barhaol gyda'r wybodaeth sy'n ofynnol gan y Gorchymyn hwn.
23.—(1) Ni chaiff unrhyw berson dynnu unrhyw dag symud, tag adnabod, tag X neu dag R oddi ar anifail heb awdurdod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, oni bai ei fod yn cael ei dynnu i atal poen neu ddioddef diangen i'r anifail.
(2) Mae paragraffau (3) i (5) yn ddarostyngedig i erthygl 25.
(3) Os caiff tag symud ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i geidwad yr anifail, os yw'n gwybod Rhif y tag symud hwnnw, roi tag newydd yr union yr un fath ar yr anifail cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 6 mis, ar ôl i'r tag symud gael ei dynnu neu ei golli neu ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.
(4) Os caiff tag adnabod ei dynnu neu ei golli neu os yw'n mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i geidwad yr anifail roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le neu roi tag R ar yr anifail cyn gynted ag y bo modd, ond ddim mwy na 6 mis, ar ôl i'r tag adnabod gael ei dynnu neu ei golli neu ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.
(5) Os caiff tag R ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i geidwad yr anifail roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le neu roi tag R arall ar yr anifail cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 6 mis, ar ôl i'r tag R gael ei dynnu neu ei golli neu ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.
(6) At bwrpas yr erthygl hon, mae “tag symud”, “tag adnabod”, “tag X” a “tag R” yn cynnwys unrhyw dag clust sydd wedi ei cael roi ar anifail yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn unol â Rheoliad y Cyngor ac unrhyw ddarpariaethau sy'n rhoi grym i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd â'r un cod â thag symud, tag adnabod, tag X neu dag R.
24.—(1) Ni chaiff unrhyw berson dynnu tag clust neu datŵ sydd wedi ei roi neu ei osod ar anifail o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol heb awdurdod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, oni bai ei fod wedi ei dynnu i atal poen neu ddioddef diangen i'r anifail.
(2) Mae paragraffau (3) i (6) yn ddarostyngedig i erthygl 25.
(3) Os caiff nod S ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i geidwad yr anifail, os yw'n gwybod Rhif y nod S hwnnw, roi neu osod tag newydd yr union yr un fath yn ei le ar yr anifail cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 6 mis, ar ôl i'r nod S gael ei dynnu neu ei golli neu ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.
(4) Os caiff tag tarddiad ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i'r ceidwad roi neu osod ar yr anifail—
(a)tag newydd yr union yr un fath yn ei le;
(b)tag clust neu datŵ gyda'r llythrennau “UK”, yn achos tag clust, nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle cafodd yr anifail ei eni a Rhif unigryw, os yw'r anifail ar y fferm eni; neu
(c)tag R neu, yn achos rhoi tatŵ newydd yn ei le, tatŵ R, os yw'r anifail ar ddaliad gwahanol i'r daliad geni.
(5) Os caiff nod F ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i'r ceidwad roi neu osod ar yr anifail—
(a)nod newydd yr union yr un fath yn ei le;
(b)tag clust neu datŵ gyda'r llythrennau “UK”, yn achos tag clust, nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle mewnforiwyd yr anifail a Rhif unigryw a'r llythyren “F”, os yw'r anifail ar y daliad mewnforio; neu
(c)tag R neu, yn achos tatŵ newydd yn lle'r hen un, tatŵ R, os yw'r anifail ar ddaliad gwahanol i'r daliad lle mewnforiwyd yr anifail.
(6) Os caiff nod R ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i'r ceidwad roi neu osod ar yr anifail—
(a)tag R, os yw'r nod R yn dag clust neu'n datŵ ; neu
(b)tatŵ R, os yw'r nod R yn datŵ .
(7) At ddibenion yr erthygl hon, ystyr “nod S” (“S mark”), “nod y tarddiad” (“origin mark”), “nod F” (“F mark”) a “nod R” (“R mark”) yw—
(a)y nod S, nod y tarddiad, nod F a nod R a oedd wedi eu rhoi neu eu gosod ar yr anifail yn unol ag unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol sy'n gymwys o ran Cymru; neu
(b)yn achos anifail o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon unrhyw dag clust a roddwyd ar anifail yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn unol ag unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol sy'n gymwys yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon sydd â'r un cod â nod S, nod y tarddiad, nod F neu nod R.
25.—(1) Nid yw'r gofynion yn erthyglau 23 a 24 i roi tagiau clust a thatŵs newydd yn lle'r hen rai yn gymwys i weithredwr marchnad neu weithredwr lladd—dy.
(2) Os caiff tag clust neu datŵ ei dynnu neu ei golli neu os sylwir ei fod yn annarllenadwy tra bod anifail ar y ffordd i'r farchnad neu yn y farchnad, mae'n rhaid i'r person sy'n prynu'r anifail yn y farchnad roi un newydd yn ei le yn unol â'r darpariaethau canlynol cyn gynted ag y bo modd ac ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'i ddaliad—
(a)yn achos tag symud sy'n cael ei dynnu neu ei golli neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid iddo roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le, oni bai, ar ôl cymryd yr holl gamau rhesymol nad yw'n gallu deall y Rhif ar y tag gwreiddiol;
(b)yn achos tag adnabod sy'n cael ei dynnu neu ei golli neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid iddo roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le neu dag R;
(c)yn achos tag clust a roddwyd ar anifail o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol, ar wahân i farc S, sy'n cael ei dynnu neu ei golli neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, rhaid iddo roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le neu dag R; neu
(ch)yn achos tatŵ a roddwyd ar anifail o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol sy'n cael ei dynnu neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid iddo roi tag R neu datŵ R ar yr anifail.
26. Ni chaiff unrhyw berson addasu, dileu neu ddifwyno'r wybodaeth ar unrhyw dag clust, tatŵ neu dransbonder electronig sydd wedi ei roi ar anifail o dan—
(a)Rheoliad y Cyngor;
(b)y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethau sy'n rhoi grym i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(c)unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol; neu
(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod Wlad arall yn unol â'r Gyfarwyddeb honno.
27. Ni chaiff unrhyw berson roi tag clust coch ar unrhyw anifail, ar wahân i dag R.
28. Ni chaiff unrhyw berson roi neu osod ar unrhyw anifail, unrhyw dag clust, tatŵ neu dransbonder electronig sydd â nod y ddiadell neu nod yr eifre arno, ac eithrio at bwrpas cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor neu'r Gorchymyn hwn, oni bai ei fod wedi'i awdurdodi i wneud hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
29. Ni chaiff unrhyw berson draddodi anifail i gael ei allforio neu ei fasnachu o fewn y Gymuned os oes ganddo dag clust neu datŵ gyda'r llythyren “R”yn dangos ei fod yn dag clust neu datŵ newydd yn lle'r hen un a roddwyd neu a osodwyd o dan erthyglau 13(2), 23, 24 neu 25 neu o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol.
30.—(1) Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson sydd wedi ei gyhuddo o fynd yn groes i, neu o beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn neu yn Rheoliad y Cyngor sy'n ymwneud â rhoi neu osod tagiau clust, tatŵs neu dransbonderau electronig brofi y byddai gwneud hynny yn achosi poen neu ddioddefaint diangen i'r anifail.
(2) Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson sydd wedi ei gyhuddo o fynd yn groes i, neu beidio â chydymffurfio gydag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn neu Reoliad y Cyngor sy'n ymwneud â symud anifail o ddaliad heb roi neu osod y tag clust, tatŵ neu dransbonder electronig gofynnol brofi bod yr anifail wedi cael ei symud o'r daliad i gael triniaeth brys gan filfeddyg.
31.—(1) Mae'n rhaid i weithredwr marchnad sicrhau bod yr holl anifeiliaid yn cael eu rhannu'n lotiau o un neu fwy o anifeiliaid yn syth ar ôl iddynt gyrraedd y farchnad a bod Rhif lot yn cael ei ddyrannu i bob lot.
(2) Ni chaiff unrhyw berson brynu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn prynu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae'r anifail yn perthyn iddo ac yn symud y lot cyfan o'r farchnad i'r un daliad.
(3) Ni chaiff unrhyw berson werthu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn gwerthu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot i'r un prynwr.
32. Ni chaiff unrhyw berson dderbyn anifail o Aelod Wlad arall oni bai ei fod wedi ei adnabod yn unol â—
(a)Rheoliad y Cyngor yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005; neu
(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.
33. Ni chaiff unrhyw berson dderbyn anifail o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon oni bai ei fod wedi ei adnabod a'i dagio a bod ganddo ddogfen symud yn unol â—
(a)Rheoliad y Cyngor, yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005, gan gynnwys unrhyw randdirymiad a weithredwyd o dan Reoliad y Cyngor; neu
(b)yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005, unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol ac unrhyw ofynion ychwanegol sydd wedi eu gosod mewn deddfwriaeth sy'n gorfodi Rheoliad y Cyngor.
34.—(1) Mae Atodlen 1 yn gymwys o ran symud anifail gydag un tag sydd wedi dod i mewn i Gymru o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
(2) At bwrpas yr erthygl hon, “anifail gydag un tag” (“single tagged animal”) yw anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 ac a adnabuwyd yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon gyda dim ond y dull cyntaf o adnabod yn unol ag Erthygl 4(2)(a) o Reoliad y Cyngor ac unrhyw ddarpariaethau sy'n rhoi grym i'r Erthygl honno yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
35.—(1) Bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddyd, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad arbennig neu achos arbennig, y bydd unrhyw ddyletswydd a roddir ar awdurdod lleol o dan baragraff (1) yn cael ei chyflawni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.
36.—(1) Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(17)yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Mae Erthygl 9 wedi'i ddileu.
(3) Ym mharagraff 12 o Atodlen 1, mae is—baragraff (2)(c) wedi'i ddileu.
(4) Yn Atodlen 2—
(a)mae paragraff 6(2)(c) wedi'i ddileu;
(b)mae paragraff 7(2)(b) wedi'i ddileu; ac
(c)mae paragraff 8(2)(a) wedi'i ddileu.
37.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'r canlynol wedi'u dirymu—
(a)Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(18);
(b)Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003(19); ac
(c)Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio Rhif 2) 2003 (20).
(2) Bydd darpariaethau Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n ymwneud â nodi anifeiliaid ar y fferm eni yn parhau i fod yn gymwys o ran unrhyw anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.
(3) Bydd darpariaethau Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n ymwneud â nodi anifeiliaid sydd wedi eu mewnforio i ddaliad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod yn gymwys o ran unrhyw anifail a fewnforiwyd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(21).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Ebrill 2006
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys