Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 989 (Cy.138)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

2 Ebrill 2003

Yn dod I rym

1 Mai 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, ac wedi cyflawni'r ymgynghoriad sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelu Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod y gweithdrefnau ar faterion diogelu bwyd(3), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mai 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gynwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001

2.  Diwygir Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2001(4)) yn unol â rheoliadau 3 i 6.

3.  In rheoliad 2 (dehongli), ar ôl y diffiniad “y Gyfarwyddeb Deunyddiau Porthiant” ym mharagraff (1) mewnosoder y diffiniad canlynol —

ystyr “y Gyfarwyddeb Orfodi” (“the Enforcement Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n sefydlu'r egwyddorion sy'n llywodraethu trefn archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid(5) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/20/EC(6), Cyfarwyddeb 2000/77/EC o Senedd Ewrop a'r Cyngor(7) a Chyfarwyddeb 2001/46/EC o Senedd Ewrop a'r Cyngor(8));”.

4.  Yn y ddau reoliad 7(1) a 24(1), yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003.”.

5.  Yn rheoliad 12 ( rheoli porthiant a deunyddiau porthiant sy'n cynnwys deunyddiau annymunol), yn lle paragraff (9) rhodder y paragraff canlynol —

(9) Os oes gan berson y mae paragraff cyntaf Erthygl 16a o'r Gyfarwyddeb Orfodi yn gymwys iddo dystiolaeth bod unrhyw ddeunydd porthiant a bennir yng ngholofn 2 o Bennod A o Ran II o Atodlen 7, y mae wedi ei ddwyn i Gymru o drydydd gwlad neu wedi ei gylchredeg ac y mae ef yn ei ddal neu'n berchen arno, yn cynnwys unrhyw sylwedd a bennir yng ngholofn 1 o'r Bennod honno yn fwy na'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 o'r Bennod honno, rhaid iddo —

(a)hysbysu'r Asiantaeth a'r awdurdod y mae dyletswydd ganddynt, yn rhinwedd adran 67(1A), orfodi Rhan IV o'r Ddeddf mewn perthynas â'r deunydd porthiant o dan sylw; a

(b)rhoi iddynt yr wybodaeth a bennir yn ail baragraff Erthygl 16a o'r Gyfarwyddeb Orfodi..

6.  Yn Atodlen 3 (ychwanegion a ganiateir a darpariaethau ynghylch eu defnyddio) —

(a)yn lle'r troednodyn i Ran VII o'r Tabl (cyffeithyddion a ganiateir) rhodder y troednodyn canlynol —

(1) Note also that (as referred to in Part IX of this Table) one preservative is permitted by virtue of Commission Regulation (EC) No. 1594/1999(9) and one by Commission Regulation (EC) No. 1252/2002(10)).; a

(b)yn lle'r darpariaethau yn Rhan IX o'r Tabl (Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd y rheolir ychwanegion drwyddynt) rhodder y darpariaethau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999

7.—(1I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, caiff Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999(11) eu diwygio yn unol â pharagraffau 2 a 3 o'r rheoliad hwn.

(2Ym mhob un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff 3, yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003”.

(3Dyma'r darpariaethau: rheoliadau 7(2) a (4), testun is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(12) fel y'i haddaswyd gan reoliad 9 a thestun is-adran (17) o adran 76 o'r Ddeddf honno fel y'i haddaswyd gan reoliad 10.

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999

8.—(1I'r graddau y maent yn gynwys i Gymru, caiff Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999(13) eu diwygio yn unol â'r paragraff 2 yn y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff (2) o reoliad 2 (diffiniad “porthiant” a diffiniadau perthnasol a dehongli cyffredinol), ar ddiwedd y diffiniad “Directive 95/53” ychwaneger y geiriau “, Directive 2000/77/EC of the European Parliament and of the Council and Directive 2001/46/EC of the European Parliament and of the Council”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(14))

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Ebrill 2003

Rheoliad 5(b)

ATODLENDARPARIAETHAU A RODDIR YN LLE RHAN IX O'R TABL I ATODLEN 3 I REOLIADAU PORTHIANT (CYMRU) 2001

PART IXEUROPEAN COMMUNITY REGULATIONS BY WHICH ADDITIVES ARE CONTROLLED1

1

Certain of the above Regulations relate to additive categories which include additives controlled by the Additives Directive, and which are listed in the relevant Part(s) of Parts I to VIII of the Table to this Schedule (e.g. the preservative formic acid is covered by Regulation (EC) No. 1594/1999, but certain other preservatives are covered by Part VII of the Table).

2

OJ No. L289, 28.10.98, p.4.

3

OJ No. L188, 21.7.1999, p.35.

4

OJ No. L297, 18.11.1999, p.8. The Annex to this Regulation is now replaced by the Annex to Regulation (EC) No. 739/2000 (OJ No. L87, 8.4.2000, p.14).

5

OJ No. L155, 28.6.2000, p.15.

6

OJ No. L280, 4.11.2000, p.28.

7

OJ No. L272, 13.10.2001, p.24.

8

OJ No. L299, 15.11.2001, p.1.

9

OJ No. L41, 13.2.2002, p.6.

10

OJ No. 183, 12.7.2002, p.10.

11

OJ No. L284, 22.10.2002, p.7.

12

OJ No. L333, 10.12.2002, p.5.

Commission Regulation (EC) No. 2316/98 concerning authorisation of new additives and amending the conditions for authorisation of a number of additives already authorised in feedingstuffs2.
Commission Regulation (EC) No. 1594/1999 amending the conditions for the authorisation of an additive in feedingstuffs3.
Commission Regulation (EC) No. 2439/1999 on the conditions for authorisation of additives belonging to the group “binders, anti-caking agents and coagulants” in feedingstuffs4.
Commission Regulation (EC) No. 1353/2000 concerning the permanent authorisation of an additive and the provisional authorisation of new additives, new additive uses and new preparations in feedingstuffs5.
Commission Regulation (EC) No. 2437/2000 concerning the permanent authorisation of an additive and the provisional authorisation of new additives in feedingstuffs6.
Commission Regulation (EC) No. 2013/2001 concerning the provisional authorisation of a new additive use and the permanent authorisation of an additive in feedingstuffs7.
Commission Regulation (EC) No. 2200/2001 concerning provisional authorisation of additives in feedingstuffs8.
Commission Regulation (EC) No. 256/2002 concerning the provisional authorisation of new additives, the prolongation of provisional authorisation of an additive and the permanent authorisation of an additive in feedingstuffs9.
Commission Regulation (EC) No. 1252/2002 concerning the provisional authorisation of a new additive in feedingstuffs10.
Commission Regulation (EC) No.1876/2002 concerning the provisional authorisation of a new use of an additive in feedingstuffs11.
Commission Regulation (EC) No. 2188/2002 concerning the provisional authorisation of new uses of additives in feedingstuffs12.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Porthiant 2000 (O.S. 2000/2481, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, a Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 (S.I. 1999/1872, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu —

(a)ail is-baragraff Erthygl 8.2 of Gyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n pennu'r egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid (OJ Rhif L265, 8.11.95, t.17); a

(b)Cyfarwyddeb 2001/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n pennu'r egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid a Chyfarwyddebau 70/524/EC, 96/25/EC a 1999/29/EC ar faeth anifeiliaid (OJ Rhif L234, 1.9.2001, t.55).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau'r Gymuned a ganlyn —

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1252/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ychwanegyn newydd mewn porthiant (OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.10);

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1876/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ddefnydd newydd o ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif .L284, 22.10.2002, t.7); ac

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2188/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ddefnyddiau newydd o ychwanegion mewn porthiant (OJ Rhif L333, 10.12.2002, t.5).

4.  Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 drwy —

(i)mewnosod i reoliad 2 ddiffiniad o'r term “y Gyfarwyddeb Orfodi” (rheoliad 3),

(ii)gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 7(1) a 24(1) (rheoliad 4),

(iii)gosod rhwymedigaeth ar y sawl sy'n gyfrifol am sefydliadau sy'n cynhyrchu cynhyrchion ar gyfer maeth anifeiliaid i hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod lleol perthnasol a rhoi iddynt wybodaeth benodedig, os oes ganddynt dystiolaeth bod porthiant y maent wedi ei fewnforio neu beri ei gylchredeg yn cynnwys sylweddau annymunol penodol ar lefelau sy'n uwch na'r uchafswm a ragnodir (rheoliad 5), a

(iv)ychwanegu tri rheoliad newydd y Comisiwn i'r rhestr o Reoliadau'r Comisiwn yr awdurdodwyd marchnata ychwanegion porthiant odani ac a gynhwysir yn Rhan IX o'r Tabl i Atodlen 3, ac sy'n gwneud diwygiad canlyniadol i'r troednodyn i Ran VII o'r Tabl hwnnw (rheoliad 6 a'r Atodlen); a

(b)diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 drwy wneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau penodol (rheoliad 7), a

(c)gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 (rheoliad 8).

5.  Paratowyd asesiad o effaith y Rheoliadau hyn ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae copïau ar gael oddi wrth Uned Bwydydd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 of Reoliad (EC) Rhif 178/2002 (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1) mae'r ymadrodd “food law” yn ymestyn i fwyd a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt.

(5)

OJ Rhif L265, 8.11.95, t.17.

(6)

OJ Rhif L80, 25.3.99, t.20.

(7)

OJ Rhif L333, 29.12.2000, t.81.

(8)

OJ Rhif L234, 1.9.2001, t.55.

(9)

OJ Rhif L188, 21.7.1999, t.35.

(10)

OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.10.

(12)

1970 p.40.

(14)

1998 p.38.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill