Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 673 (Cy.83)

TRETH GYNGOR, CYMRU

Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

11 Mawrth 2003

Yn dod i rym

1 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 4(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a'r holl bwerau eraill sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol—

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003 ac mae'n dod i rym ar 1 Ebrill 2003

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) o ran cwrs yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y mae person yn dechrau ar y cwrs hwnnw ac yn dod i ben ar y diwrnod (“y diwrnod olaf”) y mae'r person hwnnw yn ei gwblhau, yn rhoi'r gorau iddo, neu yn gorfod ei adael (mae'r cyfnod hwnnw yn cynnwys unrhyw gyfnod o wyliau rhwng tymhorau a chyn y diwrnod olaf);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(2);

ystyr “y Prif Orchymyn” (“the Principal Order”) yw Gorchymyn Treth Gyngor (Anwybyddiad Gostyngiad) 1992(2);

Hyfforddeion Hyfforddi Ieuenctid

3.—(1At ddibenion paragraff 4 o Atodlen 1 i'r Ddeddf, ystyr “youth training trainee” yw person sydd, ar ddiwrnod penodol—

(a)yn iau na 25 oed; a

(b)ar gwrs hyfforddi a hynny'n cydymffurfio â chynllun hyfforddi personol yn unol â threfniadau—

(i)a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(3); a

(ii)sy'n cyfrif fel cynllun hyfforddi fel y'i diffinnir yn rheoliad 75(1)(b) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(4).

(2Mae person ar gwrs, at ddibenion paragraff (1) uchod, ar ddiwrnod penodol os yw'r diwrnod yn dod o fewn y cyfnod perthnasol i'r cwrs hwnnw.

Dirymu

4.—(1Yn Erthygl 4 o'r Prif Orchymyn dileir y geiriau

“youth training trainee” has the meaning given by paragraph 8 of and Schedule 1 to this Order; a

(2Dileir Rhan IV (Hyfforddi Ieuenctid) o Atodlen 1 i'r Prif Orchymyn yn ei gyfanrwydd.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) 1992 yn diffinio'r ymadrodd “youth training trainee” drwy gyfeirio at “approved training scheme” fel y'i diffinnir yn adran 28(6)(c) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Er hynny, cafodd adran 28(6)(c) o Ddeddf 1992 ei diddymu gan adran 41(5) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995 (“Deddf 1995”) ac Atodlen 3 iddi fel rhan o'r newid o'r gyfundrefn “Budd-dâl Diweithdra” i'r gyfundrefn “Lwfans Ceisio Gwaith” a wnaed gan Ddeddf 1995.

Yn sgil hynny, mae'r Gorchymyn hwn yn ailddiffinio'r ymadrodd “youth training scheme” yn ôl yr ymadrodd “training scheme” fel y'i diffinnir yn rheoliad 75(1)(b) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996.

(1)

1992 p.14. Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer y pŵer o dan yr adran hon mewn perthynas â Chymru: gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.

(3)

1973 p.50 fel y'i diwygiwyd gan adran 25(1) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19) ac adran 29(4) a Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill