Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003
Enw, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) (Diwygio) (Cymru) 2003 ac mae'n dod i rym ar 1 Ebrill 2003
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) o ran cwrs yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y mae person yn dechrau ar y cwrs hwnnw ac yn dod i ben ar y diwrnod (“y diwrnod olaf”) y mae'r person hwnnw yn ei gwblhau, yn rhoi'r gorau iddo, neu yn gorfod ei adael (mae'r cyfnod hwnnw yn cynnwys unrhyw gyfnod o wyliau rhwng tymhorau a chyn y diwrnod olaf);
ystyr “y Prif Orchymyn” (“the Principal Order”) yw Gorchymyn Treth Gyngor (Anwybyddiad Gostyngiad) 19922;
Hyfforddeion Hyfforddi Ieuenctid3.
(1)
At ddibenion paragraff 4 o Atodlen 1 i'r Ddeddf, ystyr “youth training trainee” yw person sydd, ar ddiwrnod penodol—
(a)
yn iau na 25 oed; a
(2)
Mae person ar gwrs, at ddibenion paragraff (1) uchod, ar ddiwrnod penodol os yw'r diwrnod yn dod o fewn y cyfnod perthnasol i'r cwrs hwnnw.
Dirymu4.
(1)
““youth training trainee” has the meaning given by paragraph 8 of and Schedule 1 to this Order”; a
(2)
Dileir Rhan IV (Hyfforddi Ieuenctid) o Atodlen 1 i'r Prif Orchymyn yn ei gyfanrwydd.
Mae Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) 1992 yn diffinio'r ymadrodd “youth training trainee” drwy gyfeirio at “approved training scheme” fel y'i diffinnir yn adran 28(6)(c) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.
Er hynny, cafodd adran 28(6)(c) o Ddeddf 1992 ei diddymu gan adran 41(5) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995 (“Deddf 1995”) ac Atodlen 3 iddi fel rhan o'r newid o'r gyfundrefn “Budd-dâl Diweithdra” i'r gyfundrefn “Lwfans Ceisio Gwaith” a wnaed gan Ddeddf 1995.
Yn sgil hynny, mae'r Gorchymyn hwn yn ailddiffinio'r ymadrodd “youth training scheme” yn ôl yr ymadrodd “training scheme” fel y'i diffinnir yn rheoliad 75(1)(b) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996.