- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
27 Mawrth 2002
Yn dod i rym
1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(2), 6(3), 7(6) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw cynllun perfformiad gwerth gorau o fewn yr ystyr a briodolir i “best value performance plan” yn adran 6(1) o'r Ddeddf;
ystyr “dadansoddiad awdurdod cyfan” (“whole authority analysis”) yw adolygiad gwerth gorau o holl swyddogaethau awdurdod gwerth gorau o fewn yr ystyr a briodolir i “best value reviews” yn adran 5 o'r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1999.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r awdurdodau hynny a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf.
2. Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gynnal dadansoddiad awdurdod cyfan erbyn 30 Mehefin 2003 a rhaid iddynt gynnal dadansoddiad awdurdod cyfan pellach cyn diwedd pob cyfnod o bum mlynedd wedi hynny.
3. Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynllun gwella ar gyfer blwyddyn ariannol benodol erbyn 30 Mehefin yn ystod y flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
4. Yn unol ag adran 7(5) o'r Ddeddf, rhaid anfon copïau o adroddiad archwilydd ynglyn â chynllun gwella erbyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
5. Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000(2) drwy hyn yn cael ei ddiddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswydd i awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau a llunio cynllun perfformiad gwerth gorau (yn y Gorchymyn hwn fe'u gelwir yn “gynlluniau gwella”) ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Rhaid i awdurdodau yng Nghymru (ac eithrio awdurdod a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf) adolygu eu holl swyddogaethau (yn y Gorchymyn hwn fe elwir adolygiad o'r fath yn “ddadansoddiad awdurdod cyfan”) o fewn cyfnod penodol sydd i'w bennu mewn Gorchymyn sydd i'w wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhaid i awdurdodau gyhoeddi eu cynlluniau gwella ar gyfer blynyddoedd ariannol penodol cyn y dyddiad a gaiff ei bennu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn. Rhaid i archwilwyr anfon copïau o'u hadroddiadau sy'n ymwneud â chynlluniau gwella o'r fath at yr awdurdodau perthnasol, y Comisiwn Archwilio ac, os yw'n ofynnol, at Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn y dyddiad a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r cyfnod ar gyfer cynnal adolygiadau. Mae'r Gorchymyn hefyd yn pennu dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyhoeddi cynlluniau awdurdodau ar gyfer blynyddoedd ariannol penodol a'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon copïau o adroddiadau archwilwyr. Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000, sy'n cael ei ddiddymu, a dylid darllen y Gorchymyn hwn ar y cyd â'r canllawiau a elwir “Wales Programme for Improvement: Guidance for Local Authorities” a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys