- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n diwygio, mewn perthynas â Chymru, Rheoliadau Diogelu Dŵr Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996 (O.S. 1996/888), (“y Prif Reoliadau”), yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer gweithrediad Cyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC, sy'n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol.
Nodwyd rhai darnau o dir yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys dau barth (parthau Dyserth a Threlech) yng Nghymru, fel parthau perygl nitradau gan Reoliad 3 o'r Prif Reoliadau ac Atodlen 1 iddynt.
Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn dynodi ardaloedd ychwanegol yng Nghymru fel parthau perygl nitradau. Mae'r Rheoliad 3B ac Atodlen 1A newydd, sy'n cael eu mewnosod yn y Prif Reoliadau gan y Rheoliadau hyn, yn dynodi'r ardaloedd ychwanegol hynny fel parthau perygl nitradau, ynghyd â'r ardaloedd sydd eisioes o fewn parthau a ddynodwyd yng Nghymru. Mae'r rheoliad 3C ac Atodlen 1B newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) gyhoeddi hysbysiad o ddynodiad parthau perygl nitradau newydd yn y wasg ac i adneuo copi o'r map sy'n dangos y parthau hynny gyda'r awdurdod lleol perthnasol ac hefyd i roi copi i rai cyrff sy'n cynrychioli buddiannau a allai cael eu heffeithio gan y dynodiad. Mae'r rheoliad 3B(2) newydd yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu ac, os oes angen, diwygio neu ychwanegu at yr ardaloedd a ddynodir fel parthau perygl nitradau yng Nghymru, o leiaf pob pedair blynedd.
Mae'r Rheoliad 3D newydd yn galluogi unrhyw berson sydd â buddiant mewn tir a ddynodwyd o dan y Rheoliadau diwygiedig (a hwnnw heb fod yn dir a ddynodwyd eisioes) i hawlio bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud ail-asesiad gorfodol o gynhwysiad y tir hwnnw yn y parth.
Gwneir nifer o ddiwygiadau llai i'r Prif Reoliadau, mewn perthynas â Chymru.
Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn darparu na fydd y diwygiadau a wneir i'r Prif Reoliadau yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed o dan y Prif Reoliadau, neu gan ymddiried ynddynt, cyn i'r diwygiadau hynny gael effaith.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys