Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Diwygio) (Cymru) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993, O.S. 1993/2007, (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1423, 1996/1451,1997/616 a 1999/1862) (Rheoliadau 1993). Maent yn dod i rym ar 29 Tachwedd 2001 ac yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae'r diwygiadau i Reoliadau 1993 yn peri bod Cyfarwyddebau canlynol y Cyngor, a ddiwygiodd gyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a'r catalog cyffredin o amrywiadau o rywogaethau planhigion amaethyddol, yn effeithiol yng Nghymru :—

(a)98/95/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.1) mewn perthynas â chyfuno'r farchnad fewnol, adnoddau planhigion a addaswyd yn enetig ac adnoddau genetig planhigion; a

(b)98/96/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.27) o ran archwiliadau maes answyddogol.

Mae'r cyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/95/EC a Chyfarwyddeb y Cyngor 98/96/EC yn cynnwys Cyfarwyddeb y Cyngor 69/208/EEC (OJ Rhif L169, 10.7.69, t.3) ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr.

Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn diwygio diffiniadau yn rheoliad 3 (o Reoliadau 1993), gan gynnwys y diffiniadau o “marketing” ac “official examination” (rheoliad 3);

(b)yn diwygio rheoliad 5 mewn perthynas â marchnata (gan gynnwys marchnata hadau planhigion olew a ffibr a addaswyd yn enetig) ac awdurdodiadau marchnata, profion a threialon, hadau fel y cânt eu tyfu, gwaith dethol a dibenion gwyddonol eraill; ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 4 (rheoliadau 4 a 5);

(c)yn diwygio rheoliad 9 i wneud darpariaeth mewn perthynas â dangos amrywiadau a addaswyd yn enetig yn glir (rheoliad 6);

(ch)yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 9A (rheoliad 7); ac

(d)yn diwygio Atodlen 6 i wneud darpariaeth ar gyfer rhoi gwybodaeth ynghylch hadau sydd wedi'u mewnforio ac i ddiwygio darpariaethau mewn perthynas â phecynnau bach (rheoliad 8).

Mae Rheoliadau tebyg wedi'u gwneud er mwyn diwygio Rheoliadau 1993 i'r graddau y maent yn gymwys i Loegr ac i'r Alban gan O.S. 2000/1789 ac O.S.A. 2000/249 yn y drefn honno. Mae Rheolau diwygio tebyg wedi cael eu gwneud gan yr awdurdod priodol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud mewn perthynas â Chymru ynglyn â'r canlynol:

  • hadau betys

  • hadau planhigion porthiant

  • hadau grawnfwydydd

  • tatws hadyd

  • hadau llysiau.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau hynny, cysylltwch â'r Is-adran Cefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill