(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993, O.S. 1993/2007, (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1423, 1996/1451,1997/616 a 1999/1862) (Rheoliadau 1993). Maent yn dod i rym ar 29 Tachwedd 2001 ac yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae'r diwygiadau i Reoliadau 1993 yn peri bod Cyfarwyddebau canlynol y Cyngor, a ddiwygiodd gyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a'r catalog cyffredin o amrywiadau o rywogaethau planhigion amaethyddol, yn effeithiol yng Nghymru :—

(a)

98/95/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.1) mewn perthynas â chyfuno'r farchnad fewnol, adnoddau planhigion a addaswyd yn enetig ac adnoddau genetig planhigion; a

(b)

98/96/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.27) o ran archwiliadau maes answyddogol.

Mae'r cyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/95/EC a Chyfarwyddeb y Cyngor 98/96/EC yn cynnwys Cyfarwyddeb y Cyngor 69/208/EEC (OJ Rhif L169, 10.7.69, t.3) ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr.

Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)

yn diwygio diffiniadau yn rheoliad 3 (o Reoliadau 1993), gan gynnwys y diffiniadau o “marketing” ac “official examination” (rheoliad 3);

(b)

yn diwygio rheoliad 5 mewn perthynas â marchnata (gan gynnwys marchnata hadau planhigion olew a ffibr a addaswyd yn enetig) ac awdurdodiadau marchnata, profion a threialon, hadau fel y cânt eu tyfu, gwaith dethol a dibenion gwyddonol eraill; ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 4 (rheoliadau 4 a 5);

(c)

yn diwygio rheoliad 9 i wneud darpariaeth mewn perthynas â dangos amrywiadau a addaswyd yn enetig yn glir (rheoliad 6);

(ch)

yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 9A (rheoliad 7); ac

(d)

yn diwygio Atodlen 6 i wneud darpariaeth ar gyfer rhoi gwybodaeth ynghylch hadau sydd wedi'u mewnforio ac i ddiwygio darpariaethau mewn perthynas â phecynnau bach (rheoliad 8).

Mae Rheoliadau tebyg wedi'u gwneud er mwyn diwygio Rheoliadau 1993 i'r graddau y maent yn gymwys i Loegr ac i'r Alban gan O.S. 2000/1789 ac O.S.A. 2000/249 yn y drefn honno. Mae Rheolau diwygio tebyg wedi cael eu gwneud gan yr awdurdod priodol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud mewn perthynas â Chymru ynglyn â'r canlynol:

  • hadau betys

  • hadau planhigion porthiant

  • hadau grawnfwydydd

  • tatws hadyd

  • hadau llysiau.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau hynny, cysylltwch â'r Is-adran Cefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.