Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau ar gyfer Adfer y Stoc Penfreision) (Môr Iwerddon) (Cymru) 2000

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn:–

  • ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw y rhan honno o'r ardal a ddiffinnir yn Erthygl 1.1 o Reoliad y Comisiwn sydd o fewn y môr tiriogaethol sy'n agos at Gymru (1);

  • mae “cwch pysgota” (“fishing boat”) yn cynnwys cwch derbyn a chwch trydedd wlad, y naill a'r llall o fewn ystyr Rheoliad 2847/93;

  • ystyr “cwch pysgota Albanaidd” (“Scottish fishing boat”) yw llong bysgota a gofrestrwyd yn y gofrestr a gedwir o dan adran 8 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (2) ac y mae ei manylion yn y gofrestr yn pennu porthladd yn yr Alban fel y porthladd y dylid ei drin fel y porthladd y mae'r llong yn perthyn iddo;

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu a berchenogir yn gyfan gwbl gan bersonau sy'n gymwysedig i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig perthnasol” (“relevant British fishing boat”) yw cwch pysgota Prydeinig nad yw yn gwch pysgota Albanaidd;

  • mae “Cymru” (“Wales”) i'w ddehongli yn unol ag adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (3);

  • ystyr “y darpariaethau Cymunedol” (“the Community provisions”) yw:

    (a)

    y gwaharddiad sydd wedi'i gynnwys yn Erthygl 1.1 o Reoliad y Comisiwn, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 1.2 ac 1.3 o'r Rheoliad hwnnw, a

    (b)

    y gofyniad sydd wedi'i gynnwys yn Erthygl 4(4)(b) o Reoliad 850/98, fel y'i darllenir gydag erthyglau 4(5)(a) a 5 o'r Rheoliad hwnnw ac Atodiad I iddo, i'r graddau (yn unig) y mae effaith y gofyniad hwnnw wedi'i hymestyn yn rhinwedd Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn;

  • ystyr “pwyllgor pysgodfeydd lleol” (“local fisheries committee”) yw pwyllgor pysgodfeydd lleol a gyfansoddwyd gan orchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud, o dan adran 1 o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966 (4);

  • ystyr “Rheoliad 2847/93” (“Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93 a sefydlodd gyfundrefn reoli sy'n gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin(5);

  • ystyr “Rheoliad 850/98” (“Regulation 850/98”) yw Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 850/98 ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol i warchod ieuenctid organeddau morol (6);

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif –304/2000 a sefydlodd fesurau i adfer y stoc penfreision ym Môr Iwerddon (Rhaniad VIIa ICES)(7);

  • ystyr “tramgwydd perthnasol” (“relevant offence”) yw tramgwydd o dan:

    (a)

    erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu

    (b)

    unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wnaed er mwyn gweithredu darpariaethau y Gymuned, sydd yn ddarpariaeth, yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, y gellir cychwyn achos ynglyn â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

(2Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at ddogfen, coflyfr neu ddatganiad yn cynnwys, yn ogystal â dogfen, coflyfr neu ddatganiad ysgrifenedig –

(i)unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun;

(ii)unrhyw ffotograff;

(iii)unrhyw ddata, sut bynnag y'i hatgynhyrchir, a gyfathrebir trwy system monitro lloeren-cwch a sefydlwyd o dan erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93;

(iv)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall (heb fod yn ddelweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (gyda chymorth unrhyw gyfarpar arall, neu hebddo), a

(v)unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (fel y dywedwyd uchod).

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r offeryn hwnnw sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

(1)

Pennir y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987 (p.47) ac ag unrhyw ddarpariaethau a wneir, neu sydd ag effaith fel petaent wedi eu gwneud, o dan yr adran honno. Bydd y ffin rhwng y darnau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy sydd i'w trin fel môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r darnau nad ydynt i'w trin felly, i'w phennu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau)1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 3 iddo.

(4)

1996, p.38, diddymwyd adran 1 yn rhannol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), adran 272(1) ac Atodlen 30; a'i hamnewid yn rhannol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), adran 16 ac Atodlen 8. paragraff19.

(5)

OJ Rhif. L261, 20.10.93, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2846/98 (OJ Rhif. L358, 31.12.98, t.5).

(6)

OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (CE) Rhif L328, 22.12.99, t.9).

(7)

OJ Rhif L.35, 10.02.2000, t.10

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill