Dehongli2.

(1)

Yn y Gorchymyn hwn:–

  • ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw y rhan honno o'r ardal a ddiffinnir yn Erthygl 1.1 o Reoliad y Comisiwn sydd o fewn y môr tiriogaethol sy'n agos at Gymru 3;
  • mae “cwch pysgota” (“fishing boat”) yn cynnwys cwch derbyn a chwch trydedd wlad, y naill a'r llall o fewn ystyr Rheoliad 2847/93;

  • ystyr “cwch pysgota Albanaidd” (“Scottish fishing boat”) yw llong bysgota a gofrestrwyd yn y gofrestr a gedwir o dan adran 8 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 4 ac y mae ei manylion yn y gofrestr yn pennu porthladd yn yr Alban fel y porthladd y dylid ei drin fel y porthladd y mae'r llong yn perthyn iddo;
  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu a berchenogir yn gyfan gwbl gan bersonau sy'n gymwysedig i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig perthnasol” (“relevant British fishing boat”) yw cwch pysgota Prydeinig nad yw yn gwch pysgota Albanaidd;

  • mae “Cymru” (“Wales”) i'w ddehongli yn unol ag adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 5;
  • ystyr “y darpariaethau Cymunedol” (“the Community provisions”) yw:

    1. (a)

      y gwaharddiad sydd wedi'i gynnwys yn Erthygl 1.1 o Reoliad y Comisiwn, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 1.2 ac 1.3 o'r Rheoliad hwnnw, a

    2. (b)

      y gofyniad sydd wedi'i gynnwys yn Erthygl 4(4)(b) o Reoliad 850/98, fel y'i darllenir gydag erthyglau 4(5)(a) a 5 o'r Rheoliad hwnnw ac Atodiad I iddo, i'r graddau (yn unig) y mae effaith y gofyniad hwnnw wedi'i hymestyn yn rhinwedd Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn;

  • ystyr “pwyllgor pysgodfeydd lleol” (“local fisheries committee”) yw pwyllgor pysgodfeydd lleol a gyfansoddwyd gan orchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud, o dan adran 1 o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966 6;
  • ystyr “Rheoliad 2847/93” (“Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93 a sefydlodd gyfundrefn reoli sy'n gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin7;
  • ystyr “Rheoliad 850/98” (“Regulation 850/98”) yw Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 850/98 ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol i warchod ieuenctid organeddau morol 8;
  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif –304/2000 a sefydlodd fesurau i adfer y stoc penfreision ym Môr Iwerddon (Rhaniad VIIa ICES)9;
  • ystyr “tramgwydd perthnasol” (“relevant offence”) yw tramgwydd o dan:

    1. (a)

      erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu

    2. (b)

      unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wnaed er mwyn gweithredu darpariaethau y Gymuned, sydd yn ddarpariaeth, yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, y gellir cychwyn achos ynglyn â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at ddogfen, coflyfr neu ddatganiad yn cynnwys, yn ogystal â dogfen, coflyfr neu ddatganiad ysgrifenedig –

(i)

unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun;

(ii)

unrhyw ffotograff;

(iii)

unrhyw ddata, sut bynnag y'i hatgynhyrchir, a gyfathrebir trwy system monitro lloeren-cwch a sefydlwyd o dan erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93;

(iv)

unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall (heb fod yn ddelweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (gyda chymorth unrhyw gyfarpar arall, neu hebddo), a

(v)

unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (fel y dywedwyd uchod).

(3)

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r offeryn hwnnw sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.