- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, Adran 51.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 22 (dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas ag ardal), yn lle is-adrannau (5) a (6) rhodder—
“(5)Cyn 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn, rhaid i brif gyngor gyhoeddi adroddiad ar y modd y cyflawnodd ei swyddogaethau o dan y Rhan hon ac adran 76 o Ddeddf 1972 (newid enw cymuned) yn y flwyddyn flaenorol, i’r graddau y mae’r swyddogaethau yn ymwneud â’r canlynol—
(a)enwau cymunedau,
(b)newidiadau i ffiniau cymunedau,
(c)newidiadau i gynghorau cymuned, a
(d)trefniadau etholiadol cymunedau.
(6)Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob adroddiad y mae’n ei gyhoeddi i’r Comisiwn ac at Weinidogion Cymru.
(7)Yn is-adran (5), ystyr “blwyddyn yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill.”
(3)Yn adran 31 (adolygu trefniadau etholiadol i gymuned gan brif gyngor)—
(a)o flaen is-adran (1) mewnosoder—
“(A1)Rhaid i brif gyngor gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob cymuned yn ei ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.
(A2)Yn is-adran (A1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—
(a)y cyfnod o 12 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw adran 51 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i rym, a
(b)pob cyfnod dilynol o 12 mlynedd.
(A3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (A2).”;
(b)yn is-adran (1), ar ôl “prif gyngor” mewnosoder “hefyd”.
(4)Yn adran 33(3) (ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol cymuned)—
(a)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd ward gymunedol, ac”;
(b)ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “(gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg)”.
(5)Yn adran 71(2) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl adran (bb) (a fewnosodir gan adran 41(3) o’r Ddeddf hon) mewnosoder—
“(bc)rheoliadau o dan adran 31(A3),”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 51 mewn grym ar 9.11.2024, gweler a. 72(2)(a)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys