RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU

PENNOD 1TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

Adolygiadau cymuned a statws fel trefi

51Adolygiadau cymuned a gweithredu

(1)

Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 22 (dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas ag ardal), yn lle is-adrannau (5) a (6) rhodder—

“(5)

Cyn 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn, rhaid i brif gyngor gyhoeddi adroddiad ar y modd y cyflawnodd ei swyddogaethau o dan y Rhan hon ac adran 76 o Ddeddf 1972 (newid enw cymuned) yn y flwyddyn flaenorol, i’r graddau y mae’r swyddogaethau yn ymwneud â’r canlynol—

(a)

enwau cymunedau,

(b)

newidiadau i ffiniau cymunedau,

(c)

newidiadau i gynghorau cymuned, a

(d)

trefniadau etholiadol cymunedau.

(6)

Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob adroddiad y mae’n ei gyhoeddi i’r Comisiwn ac at Weinidogion Cymru.

(7)

Yn is-adran (5), ystyr “blwyddyn yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill.”

(3)

Yn adran 31 (adolygu trefniadau etholiadol i gymuned gan brif gyngor)—

(a)

o flaen is-adran (1) mewnosoder—

“A1

Rhaid i brif gyngor gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob cymuned yn ei ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.

A2

Yn is-adran (A1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)

y cyfnod o 12 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw adran 51 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i rym, a

(b)

pob cyfnod dilynol o 12 mlynedd.

A3

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (A2).”;

(b)

yn is-adran (1), ar ôl “prif gyngor” mewnosoder “hefyd”.

(4)

Yn adran 33(3) (ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol cymuned)—

(a)

yn lle paragraff (b) rhodder—

“(b)

ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd ward gymunedol, ac”;

(b)

ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “(gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg)”.

(5)

Yn adran 71(2) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl adran (bb) (a fewnosodir gan adran 41(3) o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

“(bc)

rheoliadau o dan adran 31(A3),”.