Adran 41 – Datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebol
172.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y ffigurau terfynol ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru yn ystod cyfnod cyllidebol; defnyddir y ffigurau hyn i benderfynu a gyrhaeddwyd cyllideb garbon.
173.Mae is-adrannau (2) i (6) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu gwybodaeth ynghylch:
o dan is-adran (2), gyfanswm allyriadau Cymru, echdyniadau Cymru ac allyriadau net Cymru ar gyfer pob nwy tŷ gwydr (pob un o’r nwyon a gynhwysir yn y targed – gweler adran 36);
o dan is-adran (3), gyfanswm yr unedau carbon a gredydwyd i gyfrif allyriadau Cymru, neu a ddidynnwyd ohono, yn y cyfnod cyllidebol hwnnw, a manylion am nifer yr unedau hynny a’r mathau o unedau;
o dan is-adran (4), swm terfynol cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod cyllidebol;
o dan is-adran (5), a yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cronni swm sydd dros ben o’r gyllideb flaenorol neu fenthyca o’r gyllideb nesaf (gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 40) ac, os ydynt, y swm a gronnwyd neu a fenthycwyd;
o dan is-adran (6), swm terfynol y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod.
174.Mae is-adran (7) yn darparu bod rhaid i’r cwestiwn o ba un a gyrhaeddwyd y gyllideb i’w benderfynu drwy gyfeirio at y ffigurau yn y datganiad.
175.Mae is-adran (8) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu eglurhad ynghylch pam y maent yn ystyried bod y gyllideb garbon wedi ei chyrraedd, neu nad yw wedi ei chyrraedd.
176.Mae is-adran (9) yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad gynnwys asesiad Gweinidogion Cymru o’r graddau y mae eu cynigion a’u polisïau (gan gynnwys y rhai a nodir yn yr adroddiad o dan adran 39) wedi cyfrannu at y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw a sut y maent wedi eu gweithredu.
177.O dan is-adran (10) rhaid i asesiad ymdrin â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru. Mae hyn yn cyfateb i’r gofynion o dan adran 39(2) i gynnwys cynigion a pholisïau sy’n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru.
178.Mae is-adrannau (11) a (12) yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad ar gyfer pob cyfnod cyllidebol carbon gynnwys amcangyfrif o gyfanswm yr allyriadau, boed hwy yng Nghymru neu yn rhywle arall, sydd i’w priodoli i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru.