Adrannau 23 a 24 – Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol a gweithgareddau yn ystod y cyfnod adrodd
96.Mae adran 23 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiynydd yn paratoi adroddiad sy’n rhoi manylion am y gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn gosod a chyflawni eu hamcanion llesiant mewn modd sy’n gydnaws â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
97.Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r adroddiad hwn cyn diwedd y cyfnod adrodd. Mae’r ‘cyfnod adrodd’ yn dechrau gyda’r diwrnod sy’n dilyn y diwrnod y cyhoeddir adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol Gweinidogion Cymru o dan adran 11o’r Ddeddf, ac yn dod i ben ar y dyddiad un flwyddyn ac un diwrnod cyn dyddiad arfaethedig etholiad cyffredinol arferol nesaf y Cynulliad. Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r diffiniad o’r cyfnod adrodd, drwy reoliadau.
98.Rhaid i’r adroddiad hwn gynnwys asesiad o sut y dylai cyrff cyhoeddus wella’r modd y diogelir gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, a rhoi gwell ystyriaeth i effaith hirdymor eu gweithgareddau. Rhaid i’r adroddiad hefyd ddarparu crynodeb o’r dystiolaeth a gasglwyd a’r gweithgareddau a ymgymerodd y Comisiynydd â hwy yn ystod y cyfnod adrodd, crynodeb o’r adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod adrodd, yn ogystal â’r camau gweithredu a gymerwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau.
99.Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o’r adroddiad at Weinidogion Cymru, a rhaid iddynt hwythau osod copi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
100.Rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â’r bobl hynny a restrir o dan adran 24(1), yn ogystal ag unrhyw un arall yr ystyria’n briodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn cael eu cynrychioli’n llawn, yn ystod y cyfnod adrodd a chyn cyhoeddi’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.
101.Wrth baratoi ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, rhaid i’r Comisiynydd ystyried y canlynol:
ymatebion y bobl y bu’n ymgynghori â hwy o dan adran 24(1);
yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol diweddaraf a baratowyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 11 o’r Ddeddf; ac
unrhyw adroddiadau perthnasol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.