Adran 22 – Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed
58.Mae adran 22 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â phlant 16 neu 17 oed i’r ddarpariaeth a wneir gan adran 20 mewn perthynas ag oedolion.
59.Yn gyffredinol, nid oes rhwymedigaeth ar yr awdurdod lleol i asesu anghenion plentyn 16 neu 17 oed os yw’r plentyn yn gwrthod yr asesiad. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gan blant hŷn yr un rheolaeth ag oedolion ynglŷn â chynnwys yr awdurdod lleol ai peidio mewn darparu neu drefnu gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth.
60.Nid oes rhwymedigaeth ychwaith ar awdurdod lleol i wneud asesiad os nad oes gan blentyn 16 neu 17 oed alluedd i benderfynu a wrthoda asesiad a bod person awdurdodedig yn gwneud y penderfyniad i wrthod yr asesiad ar ran y plentyn. Diffinnir ‘person awdurdodedig’ yn is-adran (5) fel person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion, neu a ofynna am un, ar ran y plentyn. Pan na fo person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn hwnnw, nid oes rhwymedigaeth ar yr awdurdod lleol fel arfer i wneud asesiad os yw person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gwrthod yr asesiad ar gyfer y plentyn.
61.Fodd bynnag, mae rhai achosion pan fydd yr awdurdod lleol o dan rwymedigaeth i gynnal asesiad, er gwaethaf gwrthodiad y plentyn o dan sylw ac er gwaethaf gwrthodiad person awdurdodedig neu berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
62.Pan fo’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio mewn modd arall, bydd yr awdurdod yn parhau o dan ddyletswydd i asesu anghenion y plentyn. Diffinnir “camdriniaeth” a “cam-drin”, “esgeulustod” a “niwed” yn adran 197(1). Pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan blentyn 16 neu 17 oed alluedd i wrthod asesiad, ni fydd gwrthodiad y plentyn yn rhyddhau’r awdurdod lleol o’i ddyletswydd i wneud yr asesiad. Fodd bynnag, caiff gwrthodiad a roddir gan berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ryddhau’r ddyletswydd honno, oni bai bod yr awdurdod lleol o’r farn na fyddai peidio â chael yr asesiad er lles pennaf y plentyn.
63.Pan fo’r ddyletswydd i asesu anghenion plentyn wedi ei rhyddhau drwy wrthodiad, ailymrwymir i’r ddyletswydd os yw’r plentyn yn gofyn wedyn am asesiad. Os nad oes gan y plentyn alluedd, ailymrwymir i’r ddyletswydd os yw person awdurdodedig (neu, os nad oes person awdurdodedig, berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn) yn gofyn wedyn am asesiad.
64.Gall newid yn anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu newid yn anghenion neu amgylchiadau person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, hefyd arwain at ailymrwymo i’r ddyletswydd i asesu.