Adran 4 – Sefydliadau dynodedig: offeryn ac erthyglau llywodraethu
13.Mae adrannau 29B a 29C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gwneud darpariaeth ynghylch offerynnau ac erthyglau sefydliadau dynodedig (ac eithrio'r rhai a gynhelir gan gwmni neu sy'n esempt o dan y gorchymyn dynodi). Mae'r adran hon yn rhoi adran 29B newydd yn lle’r adrannau 29B a 29C cyfredol. Effaith hyn yw dileu'r gofyniad i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i sefydliadau dynodedig allu addasu neu ddisodli eu hofferynnau a'u herthyglau llywodraethu a dileu pŵer Gweinidogion Cymru i addasu a disodli erthyglau ac offerynnau llywodraethu. Yn lle hynny, bydd gan sefydliadau dynodedig yng Nghymru y pŵer i addasu neu ddisodli eu hofferynnau a'u herthyglau llywodraethu eu hunain. Bydd gofynion yr Atodlen 4 newydd i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (fel y’i disodlwyd gan Atodlen 1 i'r Ddeddf hon) yn gymwys i'r offerynnau a'r erthyglau llywodraethu.
14.Mae'r adran hon hefyd yn diwygio adrannau 29A ac 31 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 fel nad oes rhaid mwyach i offerynnau ac erthyglau llywodraethu cyntaf sefydliadau dynodedig ar ôl eu dynodi gynnwys darpariaeth ynghylch aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru.