Chwilio Deddfwriaeth

Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014

CYFLWYNIAD

1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 03 Rhagfyr 2013 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ionawr 2014. Fe'u lluniwyd gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo'r sawl sy'n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â'r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

2.Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o'r Ddeddf. Pan fo adran neu ran o adran yn hunanesboniadol, ni roddir unrhyw esboniad na sylw pellach.

3.Mae'r pwerau i wneud y Ddeddf i'w cael yn Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 7 iddi. Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y cymhwysedd deddfwriaethol angenrheidiol i wneud darpariaeth ar gyfer y Ddeddf ac mewn cysylltiad â hi, yn rhinwedd Atodlen 7, paragraff 5 (Addysg a hyfforddiant).

Y CEFNDIR

4.Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i roi effaith i gynigion i gynyddu rhyddidau colegau, gan roi rhagor o reolaeth iddynt dros eu trefniadau llywodraethu a diddymu eu hunain. Nid yw’n newid prif bwerau colegau i ddarparu addysg bellach, addysg uwch ac (o fewn rhai terfynau) addysg uwchradd. Un o’r ystyriaethau allweddol sy’n llywio’r darpariaethau yw penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu SABau fel rhan o lywodraeth ganolog at ddiben Cyfrifon Gwladol.

5.Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn moderneiddio’r ffordd y caiff cyllid myfyrwyr ei ddarparu drwy wneud y broses yn fwy effeithlon. Bydd y Ddeddf yn cyfrannu at hyn drwy sefydlu sail gyfreithiol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyflenwi gwybodaeth i Weinidogion Cymru (ac eraill sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, neu sy'n arfer eu swyddogaethau) mewn cysylltiad â benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr.

6.Cyhoeddwyd Papur Gwyn yn nodi polisi Llywodraeth Cymru ar 2 Gorffennaf 2012 a chyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r Papur Gwyn ym mis Mawrth 2013.

RHESTR O’R TERMAU A’R BYRFODDAU A DDEFNYDDIR YN Y NODIADAU ESBONIADOL

7.Defnyddir y termau a'r byrfoddau a ganlyn yn y Nodiadau Esboniadol.

  • CAB – corfforaeth addysg bellach

  • ONS – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

  • SAB – sefydliad addysg bellach

SYLWEBAETH AR YR ADRANNAU A’R ATODLENNI

Adran 1 – Benthyca a buddsoddi gan gorfforaethau addysg bellach

8.Mae adran 19 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gwneud darpariaeth i CABau gael amryw bwerau atodol. Effaith y diwygiadau y mae'r adran hon yn eu gwneud i adran 19 yw dileu'r gofyniad i CABau yng Nghymru gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn iddynt arfer pwerau atodol penodol. Y pwerau o dan sylw yw eu pwerau i fenthyca arian, i ffurfio cwmni neu i fuddsoddi mewn cwmni, neu i ddod yn aelod o sefydliad elusennol corfforedig at ddibenion cynnal sefydliad addysgol.

Adran 2 – Offeryn ac erthyglau llywodraethu corfforaethau addysg bellach

9.Mae'r adran hon yn diwygio adran 20 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy'n ei gwneud yn ofynnol i offerynnau ac erthyglau llywodraethu CABau gydymffurfio â gofynion penodedig. Mae'n cyflwyno Atodlen 1 (sy'n disodli Atodlen 4 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) i wneud darpariaeth newydd, sy’n llai rhagnodol, ynghylch cynnwys offerynnau ac erthyglau llywodraethu CABau yng Nghymru.

10.Mae'r adran hefyd yn cyflwyno adran newydd yn lle’r adran 22 a 22ZA gyfredol o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Effaith hyn yw dileu pŵer Gweinidogion Cymru i addasu, dirymu neu ddisodli offerynnau ac erthyglau llywodraethu CABau yng Nghymru a rhoi'r pŵer i CABau yng Nghymru addasu neu ddisodli eu hofferynnau a'u herthyglau llywodraethu.

Atodlen 1 – Offeryn ac erthyglau llywodraethu

11.Mae Atodlen 1 yn disodli Atodlen 4 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Mae'r Atodlen 4 newydd yn nodi'r elfennau hanfodol y mae'n ofynnol i SABau eu cynnwys yn eu hofferynnau a'u herthyglau llywodraethu. Bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i SABau nodi, er enghraifft, rolau a chyfrifoldebau personél allweddol a sut y gall SAB newid ei offeryn a'i erthyglau llywodraethu. Bydd rhaid i gyrff llywodraethu SABau gynnwys staff a myfyrwyr fel llywodraethwyr ynghyd â chynrychiolwyr busnesau lleol neu gyflogwyr lleol. Bydd rhaid hefyd i SAB ymgynghori â phersonau yn ei ardal leol ynghylch yr addysg y mae’n ei darparu a’r modd y caiff ei gwricwlwm ei gynllunio.

Adran 3 – Diddymu corfforaethau addysg bellach

12.Mae'r adran hon yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â diddymu CABau drwy roi adrannau 27 i 27B newydd yn lle’r adrannau 27 i 27C presennol o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Effaith hyn yw dileu pŵer Gweinidogion Cymru i ddiddymu CABau a throsglwyddo eu heiddo, eu hawliau a'u rhwymedigaethau i ddarparwr addysg arall. Yn lle hynny, bydd gan CABau y pŵer i’w diddymu eu hunain, cyhyd â'u bod wedi cyhoeddi'r cynigion a chynnal ymgynghoriad llawn gan ystyried barn y rhai yr ymgynghorwyd â hwy, yn unol â rheoliadau. Mae hefyd yn rhoi'r gallu i CABau drosglwyddo eu heiddo, eu hawliau neu eu rhwymedigaethau i gorff arall at ddibenion addysgol, a chyda chydsyniad y corff hwnnw. Caiff y math o gorff ei bennu mewn rheoliadau.

Adran 4 – Sefydliadau dynodedig: offeryn ac erthyglau llywodraethu

13.Mae adrannau 29B a 29C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gwneud darpariaeth ynghylch offerynnau ac erthyglau sefydliadau dynodedig (ac eithrio'r rhai a gynhelir gan gwmni neu sy'n esempt o dan y gorchymyn dynodi). Mae'r adran hon yn rhoi adran 29B newydd yn lle’r adrannau 29B a 29C cyfredol. Effaith hyn yw dileu'r gofyniad i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i sefydliadau dynodedig allu addasu neu ddisodli eu hofferynnau a'u herthyglau llywodraethu a dileu pŵer Gweinidogion Cymru i addasu a disodli erthyglau ac offerynnau llywodraethu. Yn lle hynny, bydd gan sefydliadau dynodedig yng Nghymru y pŵer i addasu neu ddisodli eu hofferynnau a'u herthyglau llywodraethu eu hunain. Bydd gofynion yr Atodlen 4 newydd i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (fel y’i disodlwyd gan Atodlen 1 i'r Ddeddf hon) yn gymwys i'r offerynnau a'r erthyglau llywodraethu.

14.Mae'r adran hon hefyd yn diwygio adrannau 29A ac 31 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 fel nad oes rhaid mwyach i offerynnau ac erthyglau llywodraethu cyntaf sefydliadau dynodedig ar ôl eu dynodi gynnwys darpariaeth ynghylch aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru.

Adran 5 – Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â sefydliadau o fewn y sector addysg bellach

15.Mae'r adran hon yn diwygio adran 57 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i ymyrryd mewn SAB (drwy wneud newidiadau i'r corff llywodraethu neu drwy ddyroddi cyfarwyddiadau), os ydynt o’r farn bod y SAB yn cael ei gamreoli neu'n methu mewn rhyw ffordd arall. Mae'r diwygiad yn golygu y bydd Gweinidogion Cymru, wrth arfer eu pwerau ymyrryd, yn gallu cyfarwyddo corff llywodraethu CAB i ddefnyddio ei bwerau newydd i’w ddiddymu ei hun. Os bydd hyn yn digwydd, caiff y CAB ei thrin fel pe bai wedi dilyn y gweithdrefnau cyhoeddi ac ymgynghori a nodir yn adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (fel y’i hamnewidiwyd gan adran 3 o'r Ddeddf).

16.Mae'r adran hon hefyd yn diddymu adran 57A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Mae'r adran honno yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio, cyhoeddi ac adolygu datganiad polisi mewn cysylltiad ag arfer eu pwerau ymyrryd.

Adran 6 – Diddymu dyletswyddau sefydliadau addysg bellach i gydymffurfio â chyfarwyddiadau

17.Mae'r adran hon yn diwygio adrannau 33J a 33L o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 ac adrannau 116I a 116K o Ddeddf Addysg 2002. Mae'r darpariaethau hynny yn ymwneud â chynllunio a darparu cwricwla lleol yng Nghymru, sef cwricwla awdurdod lleol cyfan a sefydlir gan awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru. Effaith y diwygiadau yw dileu'r gofyniad i SABau gydymffurfio â chyfarwyddiadau a wneir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chynllunio cwricwla lleol a chydweithio i ddarparu cwricwla lleol. Fodd bynnag, rhaid i SABau barhau i roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â chynllunio a darparu cwricwla lleol.

Adran 7 – Diddymu pŵer i reoleiddio cyrsiau addysg uwch yn y sector addysg bellach

18.Mae'r adran hon yn diddymu adran 139 o Ddeddf Addysg 2002 fel na chaiff Gweinidogion Cymru bellach wneud rheoliadau sy'n gwahardd SABau rhag darparu cyrsiau addysg uwch heb eu cymeradwyaeth ac sy'n rheoleiddio niferoedd a chategorïau myfyrwyr ar gyrsiau o'r fath.

Adran 8 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

19.Mae'r adran hon yn cyflwyno Atodlen 2 sy'n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i amryw Ddeddfau a Gorchymyn a Mesur, o ganlyniad i adrannau eraill yn y Ddeddf hon.

Adran 9 – Cyflenwi gwybodaeth mewn cysylltiad â benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr

20.Mae Rhan 2 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch. Mae adran 24 o'r Ddeddf honno yn galluogi Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i roi gwybodaeth mewn perthynas â gweithrediad y cynllun benthyciadau i fyfyrwyr i'r Ysgrifennydd Gwladol ac Adran Addysg Gogledd Iwerddon (ac i'r rhai y maent wedi trosglwyddo neu ddirprwyo swyddogaethau penodol iddynt), ond nid i Weinidogion Cymru.

21.Mae Gweinidogion Cymru yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â chymorth i fyfyrwyr yng Nghymru a gallant ddirprwyo'r swyddogaethau hynny o dan adran 23 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (e.e. i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr).

22.Yn absenoldeb sail gyfreithiol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyflenwi gwybodaeth o'r fath i Weinidogion Cymru, rhaid i ymgeiswyr am gymorth i fyfyrwyr gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o incwm yr aelwyd wrth wneud cais am gymorth i fyfyrwyr. Nid yw'r trefniant cyfredol yn caniatáu i dystiolaeth o incwm yr aelwyd gael ei wirio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

23.Mae'r adran hon yn diwygio adran 24 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 er mwyn ychwanegu Gweinidogion Cymru a'r personau neu'r cyrff hynny sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru neu sy'n arfer swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr ar eu rhan, fel personau y gall Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyflenwi gwybodaeth iddynt. Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyflenwi gwybodaeth o dan y ddarpariaeth hon ar incwm yr aelwyd fel y bydd y rhai sy'n cael yr wybodaeth yn gallu gwirio ffigurau a ddarperir mewn ceisiadau am gymorth ariannol sy'n dibynnu ar brawf modd heb fod angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ddogfennol.

24.Mae'r adran hon hefyd yn estyn adran 24 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 fel bo pŵer Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i rannu gwybodaeth yn ymwneud â grantiau a wneir gan Weinidogion Cymru yn ogystal â benthyciadau.

Adran 10 – Adolygu gweithrediad y Ddeddf

25.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2016, adolygu gweithrediad y Ddeddf. Yn benodol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried effaith y Ddeddf ar ariannu addysg a ddarperir i’r rhai sy’n 16 i 18 oed mewn SABau yng Nghymru. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ystyried effaith y Ddeddf ar y ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg ac anghenion dysgu ychwanegol mewn SABau yng Nghymru. Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys meysydd eraill yn yr adolygiad hefyd.

Atodlen 1

26.Mae Atodlen 1 wedi ei chyflwyno drwy adran 2.

Atodlen 2

27.Mae Atodlen 2 wedi ei chyflwyno drwy adran 8.

COFNOD Y TRAFODION YNG NGHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

28.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar:

CyfnodDyddiad
Cyflwyno29 Ebrill 2013
Cyfnod 1 – Dadl24 Medi 2013
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau24 Hydref 2013
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau3 Rhagfyr 2013
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad3 Rhagfyr 2013
Y Cydsyniad Brenhinol27 Ionawr 2014

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill