Adran 9 – Cyflenwi gwybodaeth mewn cysylltiad â benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr
20.Mae Rhan 2 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch. Mae adran 24 o'r Ddeddf honno yn galluogi Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i roi gwybodaeth mewn perthynas â gweithrediad y cynllun benthyciadau i fyfyrwyr i'r Ysgrifennydd Gwladol ac Adran Addysg Gogledd Iwerddon (ac i'r rhai y maent wedi trosglwyddo neu ddirprwyo swyddogaethau penodol iddynt), ond nid i Weinidogion Cymru.
21.Mae Gweinidogion Cymru yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â chymorth i fyfyrwyr yng Nghymru a gallant ddirprwyo'r swyddogaethau hynny o dan adran 23 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (e.e. i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr).
22.Yn absenoldeb sail gyfreithiol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyflenwi gwybodaeth o'r fath i Weinidogion Cymru, rhaid i ymgeiswyr am gymorth i fyfyrwyr gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o incwm yr aelwyd wrth wneud cais am gymorth i fyfyrwyr. Nid yw'r trefniant cyfredol yn caniatáu i dystiolaeth o incwm yr aelwyd gael ei wirio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
23.Mae'r adran hon yn diwygio adran 24 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 er mwyn ychwanegu Gweinidogion Cymru a'r personau neu'r cyrff hynny sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru neu sy'n arfer swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr ar eu rhan, fel personau y gall Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyflenwi gwybodaeth iddynt. Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyflenwi gwybodaeth o dan y ddarpariaeth hon ar incwm yr aelwyd fel y bydd y rhai sy'n cael yr wybodaeth yn gallu gwirio ffigurau a ddarperir mewn ceisiadau am gymorth ariannol sy'n dibynnu ar brawf modd heb fod angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ddogfennol.
24.Mae'r adran hon hefyd yn estyn adran 24 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 fel bo pŵer Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i rannu gwybodaeth yn ymwneud â grantiau a wneir gan Weinidogion Cymru yn ogystal â benthyciadau.