Adran 1 - Diwygio adran 35 y Ddeddf (Trin yn gyfartal)
12.Mae'r adran hon yn disodli adran 35(1) o Ddeddf 2006 ac yn cyflwyno pum is-adran newydd.
13.Mae is-adran (1) newydd yn cynnwys datganiad clir, syml mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol.
14.Mae is-adran (1A) yn ailddatgan, mewn ffurf newydd, yr egwyddor a gaiff ei chynnwys yn adran 35(1) ar hyn o bryd. Mae'r newid yn y ffordd y mynegir y ddyletswydd, sy'n cyfeirio‘n syml at ddyletswydd i drin yr ieithoedd "ar y sail eu bod yn gyfartal", yn adlewyrchu newid cymesur a wnaed gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (gweler adran 1(3) (a) "deddfiadau sy'n ... ei gwneud yn ofynnol i'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal yn nhrafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru".)
15.Mae is-adran (1B) eto yn adlewyrchu arfer deddfwrfeydd dwyieithog eraill o roi'r hawl i ddefnyddio'r ddwy iaith yn glir ar wyneb y ddeddfwriaeth lywodraethu. Mae'r is-adran yn ei gwneud yn glir hefyd nad Aelodau'r Cynulliad yn unig sydd â'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg, ond hefyd pobl eraill sy'n cymryd rhan yn y trafodion, ee tystion sy'n rhoi tystiolaeth mewn pwyllgorau (mae hyn yn unol ag arferion presennol ond ni chaiff ei nodi‘n benodol mewn deddfwriaeth.)
16.Mae is-adran (1C) yn ei gwneud yn ofynnol bod y cofnod o drafodion y Cynulliad Cenedlaethol, fel y'i diffinnir yn adran 1(5)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (trafodion y Cynulliad cyfan, hynny yw, yn y Cyfarfod Llawn) yn gwbl ddwyieithog. Mae hyn yn golygu nid yn unig cofnod llawn o'r hyn a ddywedwyd yn yr iaith a siaradwyd, ond hefyd cyfieithiad llawn i'r iaith swyddogol arall. Felly, mae'n ymgorffori arferion presennol y Cynulliad mewn statud.
17.Ar yr amod bod Comisiwn y Cynulliad yn darparu staff a chyfleusterau eraill i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud ei waith, gall y Cynulliad gydymffurfio â'r dyletswyddau o dan is-adrannau (1A) hyd at (1C). Mae is-adran (1D) yn cyfeirio at baragraff 8 o Atodlen 2, sy'n cynnwys y dyletswyddau perthnasol o ran Comisiwn y Cynulliad.