Cyflwyniad
1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 a basiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 3 Hydref 2012 ac a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 12 Tachwedd 2012. Fe'u paratowyd gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol i gynorthwyo'r sawl sy'n darllen y Ddeddf. Dylid eu darllen ochr yn ochr â'r Ddeddf, ond nid ydynt yn rhan ohoni.
2.Mae'r Ddeddf hon yn diwygio darpariaethau presennol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n nodi dyletswyddau cyffredinol y Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad mewn perthynas â'r defnydd o'r Gymraeg (adran 35(1) a pharagraff 8(3) o Atodlen 2).
3.Yn y Nodiadau Esboniadol hyn, cyfeirir at Ddeddfau Seneddol blaenorol fel a ganlyn:
ystyr "Deddf 1993" yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993;
ystyr "Deddf 1998" yw Deddf Llywodraeth Cymru 1998; ac
ystyr "Deddf 2006" yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
4.Roedd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud yr hyn a ganlyn:
“in the conduct of its business (to) give effect, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”
5.Roedd Deddf 2006 yn ailddatgan y ddyletswydd a roddwyd ar y Cynulliad Cenedlaethol gan Ddeddf 1998, er bod y cyfeiriad at "drafodion" y Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach na "busnes" y Cynulliad Cenedlaethol yn adlewyrchu'r ffaith mai corff seneddol yn unig yw Cynulliad Cenedlaethol bellach. O dan adran 35(1) o Ddeddf 2006 –
“(1)The Assembly must, in the conduct of Assembly proceedings, give effect, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”
6.Roedd hefyd yn gosod dyletswydd gyfochrog ar Gomisiwn newydd y Cynulliad (paragraff 8(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 2006) –
“(3)In the exercise of the functions of the Assembly Commission effect must be given, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”
7.Yn yr achosion hyn i gyd, cafodd y ddyletswydd ei geirio er mwyn adlewyrchu darpariaethau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau iaith Gymraeg ddangos sut y mae cyrff cyhoeddus yn cynnig gweithredu'r egwyddor a ganlyn:
“so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that in the conduct of public business and the administration of justice in Wales the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”
8.Bellach, mae'r gyfraith mewn perthynas â'r Gymraeg wedi symud ymlaen. Bydd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ("y Mesur"), a ddaeth yn gyfraith ar 9 Chwefror 2011, yn diddymu Deddf 1993 a chyfundrefn y cynlluniau iaith, ac yn ei lle yn cyflwyno "safonau" a gaiff eu gosod gan Weinidogion ac y gellir eu gorfodi yn y llysoedd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae'r Mesur wedi diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd.
9.Ni fydd naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun na Chomisiwn y Cynulliad yn ddarostyngedig i'r trefniadau newydd hyn o dan y Mesur, sy'n cael eu goruchwylio gan Weinidogion. Yn hytrach, maent yn parhau'n ddarostyngedig i'r dyletswyddau o dan Ddeddf 2006. Mae hyn yn adlewyrchu’r egwyddor gyfansoddiadol fod Gweinidogion Cymru yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac nid y gwrthwyneb i hynny.
10.Dim ond darpariaeth ar gyfer gwneud cynllun gan Gomisiwn y Cynulliad y mae'r Ddeddf yn ei wneud, ac nid oes ynddo unrhyw bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth.
11.Dim ond mewn cysylltiad â Chymru y bydd y Ddeddf hon yn gymwys.