- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.![]()
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Rhagolygol
Ar ôl adran 6(6) o Ddeddf yr Amgylchedd, mewnosoder—
“(6A)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)pan fyddant yn paratoi eu cynllun o dan is-adran (6)—
(i)ymgynghori â Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, a
(ii)cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol,
(b)pan fyddant yn paratoi eu cynllun o dan is-adran (6), ymgynghori ag—
(i)unrhyw bersonau neu gyrff y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried yn rhesymol fod ganddynt fuddiant mewn materion sy’n ymwneud â bioamrywiaeth yng Nghymru, a
(ii)aelodau’r cyhoedd yng Nghymru, ac
(c)pan fyddant yn cyhoeddi’r cynllun hwnnw, gyhoeddi hefyd adroddiad sy’n crynhoi—
(i)yr ymgynghori a gynhaliwyd wrth baratoi’r cynllun, a
(ii)unrhyw sylwadau a gafwyd o ganlyniad i’r ymgynghori.
(6B)Rhaid i’r cynllun a baratoir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (6), yn benodol, nodi—
(a)pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i gyfrannu at wireddu gweledigaeth y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang sef, erbyn 2050, fod bioamrywiaeth yn cael ei werthfawrogi, ei gadw, ei adfer a’i ddefnyddio’n ddoeth, gan gadw gwasanaethau ecosystem, cynnal planed iach a chyflawni buddion sy’n hanfodol i’r holl bobl,
(b)cynigion sy’n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru,
(c)pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod y targedau a osodir mewn rheoliadau o dan adran 6B yn cael eu cyrraedd a phryd y maent yn bwriadu cymryd y camau hynny,
(d)sut y bydd y targedau, os cânt eu cyrraedd, yn cyfrannu at atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth neu at adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth,
(e)pan fo’r safon a bennir o dan adran 6B(4) mewn perthynas â tharged wedi ei chyflawni, sut y maent yn bwriadu cynnal y safon honno, a
(f)pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 8A i hybu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth.
(6C)Yn is-adran (6B)(a), ystyr y “Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yw Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal, a fabwysiadwyd o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol y cyfeirir ato yn is-adran (4)(a) ym mhymthegfed cyfarfod Cynhadledd y Partïon ym mis Rhagfyr 2022.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(f)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: