RHAN 3TARGEDAU BIOAMRYWIAETH, ETC.
37Cynlluniau Gweinidogion Cymru o dan adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd
“(6A)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
pan fyddant yn paratoi eu cynllun o dan is-adran (6)—
(i)
ymgynghori â Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, a
(ii)
cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol,
(b)
pan fyddant yn paratoi eu cynllun o dan is-adran (6), ymgynghori ag—
(i)
unrhyw bersonau neu gyrff y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried yn rhesymol fod ganddynt fuddiant mewn materion sy’n ymwneud â bioamrywiaeth yng Nghymru, a
(ii)
aelodau’r cyhoedd yng Nghymru, ac
(c)
pan fyddant yn cyhoeddi’r cynllun hwnnw, gyhoeddi hefyd adroddiad sy’n crynhoi—
(i)
yr ymgynghori a gynhaliwyd wrth baratoi’r cynllun, a
(ii)
unrhyw sylwadau a gafwyd o ganlyniad i’r ymgynghori.
(6B)
Rhaid i’r cynllun a baratoir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (6), yn benodol, nodi—
(a)
pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i gyfrannu at wireddu gweledigaeth y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang sef, erbyn 2050, fod bioamrywiaeth yn cael ei werthfawrogi, ei gadw, ei adfer a’i ddefnyddio’n ddoeth, gan gadw gwasanaethau ecosystem, cynnal planed iach a chyflawni buddion sy’n hanfodol i’r holl bobl,
(b)
cynigion sy’n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru,
(c)
pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod y targedau a osodir mewn rheoliadau o dan adran 6B yn cael eu cyrraedd a phryd y maent yn bwriadu cymryd y camau hynny,
(d)
sut y bydd y targedau, os cânt eu cyrraedd, yn cyfrannu at atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth neu at adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth,
(e)
pan fo’r safon a bennir o dan adran 6B(4) mewn perthynas â tharged wedi ei chyflawni, sut y maent yn bwriadu cynnal y safon honno, a
(f)
pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 8A i hybu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth.
(6C)
Yn is-adran (6B)(a), ystyr y “Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yw Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal, a fabwysiadwyd o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol y cyfeirir ato yn is-adran (4)(a) ym mhymthegfed cyfarfod Cynhadledd y Partïon ym mis Rhagfyr 2022.”