Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026

Newidiadau dros amser i: Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Legislation Crest

Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026

2026 dsc 4

Deddf gan Senedd Cymru i wneud darpariaeth ynghylch egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd; i sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru gyda phwerau i sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol; i wneud darpariaeth ar gyfer gosod targedau bioamrywiaeth; ac at ddibenion cysylltiedig.

[27 Ebrill 2026]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Rhagolygol

RHAN 1LL+CAMCAN AMGYLCHEDDOL AC EGWYDDORION AMGYLCHEDDOL

1Amcan amgylcheddolLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, yr “amcan amgylcheddol” yw cyrraedd lefel uchel o ran diogelu’r amgylchedd a gwelliant i’r amgylchedd, gyda golwg, yn benodol, ar—

(a)diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain a chyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2),

(b)cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r buddion y maent yn eu darparu,

(c)lliniaru newid hinsawdd ac ymaddasu iddo, a

(d)cyfrannu at atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

(2)At ddiben is-adran (1)(b), mae’r ffactorau sy’n berthnasol i wydnwch ecosystemau yn cynnwys, ymysg pethau eraill—

(a)amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi mewn iddynt;

(b)y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi mewn iddynt;

(c)graddfa ecosystemau;

(d)cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad);

(e)gallu ecosystemau i ymaddasu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(a)

2Egwyddorion amgylcheddolLL+C

Yn y Rhan hon, yr “egwyddorion amgylcheddol” yw—

(a)yr egwyddor ragofalus i’r graddau y mae’n ymwneud â’r amgylchedd;

(b)yr egwyddor y dylid cymryd camau ataliol i osgoi difrod amgylcheddol;

(c)yr egwyddor y dylid cywiro difrod amgylcheddol fel mater o flaenoriaeth yn y tarddle;

(d)yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(a)

3Dyletswyddau Gweinidogion Cymru wrth lunio polisiLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben cyfrannu at yr amcan amgylcheddol—

(a)rhoi sylw arbennig i’r egwyddorion amgylcheddol wrth lunio polisi o ran Cymru‍, a

(b)integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth lunio polisi o’r fath.

(2)Wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd neu ddatganiad diwygiedig a gyhoeddir o dan adran‍ 7.

(3)Yn yr adran hon—

(a)mae “polisi” yn cynnwys cynigion ar gyfer deddfwriaeth, ond nid yw’n cynnwys penderfyniad gweinyddol mewn perthynas â pherson penodol neu achos penodol;

(b)mae “llunio polisi” yn cynnwys datblygu, mabwysiadu neu ddiwygio polisïau;

(c)mae “Cymru” yn cynnwys, i’r graddau y mae polisi yn ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod, yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfyn atfor y môr tiriogaethol.

(4)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys pan fyddai’r polisi o dan sylw yn cael dim effaith neu effaith ddibwys ar yr amgylchedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 31.3.2027, gweler a. 46(3)

4Dyletswyddau Cyfoeth Naturiol Cymru wrth lunio polisiLL+C

(1)Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy. 230)) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl erthygl 4 mewnosoder—

4A Llunio polisi: egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd

(1)Rhaid i’r Corff—

(a)rhoi sylw arbennig i’r egwyddorion amgylcheddol wrth lunio polisi o ran Cymru, a

(b)integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth lunio polisi o’r fath.

(2)Wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd ym mharagraff (1), rhaid i’r Corff roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd neu ddatganiad diwygiedig a gyhoeddir o dan adran‍ 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026.

(3)Yn yr erthygl hon—

(a)mae i “egwyddorion amgylcheddol” yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026,

(b)mae i “diogelu’r amgylchedd” yr ystyr a roddir gan adran 44 o’r Ddeddf honno,

(c)mae “polisi” yn cynnwys cynigion ar gyfer deddfwriaeth, ond nid yw’n cynnwys penderfyniad gweinyddol mewn perthynas â pherson penodol neu achos penodol,

(d)mae “llunio polisi” yn cynnwys datblygu, mabwysiadu neu ddiwygio polisïau, ac

(e)mae “Cymru yn cynnwys, i’r graddau y mae polisi yn ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod, yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfyn atfor y môr tiriogaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym ar 31.3.2027, gweler a. 46(3)

5Asesiadau amgylcheddol: dyletswyddau awdurdodau cyhoeddusLL+C

(1)Rhaid i awdurdod cyhoeddus, at ddiben cyfrannu at yr amcan amgylcheddol—

(a)rhoi sylw i’r egwyddorion amgylcheddol wrth gyflawni swyddogaethau a bennir yn is-adran (2), a

(b)integreiddio diogelu’r amgylchedd wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny.

(2)Y swyddogaethau yw unrhyw swyddogaethau mewn cysylltiad ag asesu cynlluniau a rhaglenni sy’n ymwneud â Chymru yn unig neu ag unrhyw ran o Gymru yn unig o dan Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1656 (Cy. 170)) neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol sy’n disodli’r Rheoliadau hynny.

(3)Wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd neu ddatganiad diwygiedig a gyhoeddir o dan adran‍ 7.

(4)Yn yr adran hon ac yn adran 6, ystyr “awdurdod cyhoeddus” yw person, ac eithrio Gweinidogion Cymru neu Gyfoeth Naturiol Cymru—

(a)sy’n awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), neu

(b)a restrir ym mharagraff 9(2) neu (6) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym ar 31.3.2027, gweler a. 46(3)

6Datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylcheddLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru luni‍o dogfen (“datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd”) sy’n egluro—

(a)sut y maent yn ystyried y dylid dehongli’r egwyddorion amgylcheddol;

(b)sut y maent yn cynnig cydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 3(1);

(c)sut y maent yn cynnig penderfynu, at ddiben adran 3(4), a fyddai polisi yn cael dim effaith neu effaith ddibwys ar yr amgylchedd;

(d)sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol yn ymwneud â’i gilydd ac â’r ddyletswydd yn adran 3(1)(b);

(e)sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol a’r ddyletswydd yn adran 3(1)(b) yn ymwneud â’r amcan amgylcheddol;

(f)sut y mae’r dyletswyddau yn adran 3(1), adran 5(1) ac erthygl 4A(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn ymwneud â’i gilydd;

(g)sut y mae’r ddyletswydd yn adran 3(1) yn ymwneud â phwerau a dyletswyddau eraill;

(h)sut y maent yn cynnig dangos y cydymffurfiwyd â’r ddyletswydd yn adran 3(1).

(2)Rhaid i’r datganiad gynnwys canllawiau i Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch—

(a)sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn erthygl 4A(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 a sut i wneud hynny mewn ffordd sy’n rhoi effaith i’w ddiben cyffredinol yn erthygl 4 o’r Gorchymyn hwnnw;

(b)sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol yn ymwneud â’i gilydd ac â’r ddyletswydd yn erthygl 4A(1)(b) o’r Gorchymyn;

(c)sut y mae’r ddyletswydd yn erthygl 4A(1) o’r Gorchymyn yn ymwneud â phwerau a dyletswyddau eraill.

(3)Rhaid i’r datganiad hefyd gynnwys canllawiau i awdurdodau cyhoeddus ynghylch—

(a)sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 5(1);

(b)sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol yn ymwneud â’i gilydd ac â’r ddyletswydd yn adran 5(1)(b);

(c)sut y mae’r egwyddorion amgylcheddol a’r ddyletswydd yn adran 5(1)(b) yn ymwneud â’r amcan amgylcheddol;

(d)sut y mae’r ddyletswydd yn adran 5(1) yn ymwneud â phwerau a dyletswyddau eraill.

(4)Caiff y datganiad hefyd gynnwys unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(b)

7Datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd: gofynion gweithdrefnolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol pan fyddant yn llunio drafft o’r datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd—

(a)Cyfoeth Naturiol Cymru;

(b)Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru;

(c)SLlAC;

(d)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru—

(a)copi o’r datganiad drafft o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd‍, ynghyd â

(b)dogfen sy’n rhoi manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (1) ac yn crynhoi’r sylwadau a gafwyd ac ymateb Gweinidogion Cymru iddynt.

(3)Os yw Senedd Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod, yn gwneud argymhellion mewn perthynas â’r drafft, rhaid i Weinidogion Cymru osod eu hymateb i’r argymhellion gerbron Senedd Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio datganiad terfynol o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd a’i osod gerbron Senedd Cymru.

(5)Ni chaniateir gosod y datganiad terfynol cyn—

(a)os yw is-adran (3) yn gymwys, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn gosod eu hymateb, neu

(b)fel arall, diwedd y cyfnod o 40 niwrnod.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r datganiad terfynol pan y’i gosodir gerbron Senedd Cymru.

(7)Rhaid i’r datganiad terfynol gael ei osod gerbron Senedd Cymru yn ddim hwyrach na 31 Mawrth 2027.

(8)Mewn perthynas â’r “cyfnod o 40 niwrnod”—

(a)mae’n dechrau â’r diwrnod y gosodir y drafft gerbron Senedd Cymru o dan is-adran (2), a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw gyfnod pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(9)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd ar ôl pob etholiad cyffredinol a chânt ei adolygu ar unrhyw adeg arall.

(10)Yn is-adran (9), ystyr “etholiad cyffredinol” yw etholiad cyffredinol cyffredin neu etholiad cyffredinol eithriadol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(11)Ar ôl adolygu’r datganiad, caiff Gweinidogion Cymru lunio datganiad diwygiedig o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd; ac mae is-adrannau (1) i (6) ac (8) i (10) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad diwygiedig.

(12)Caniateir bodloni’r gofyniad yn is-adran (1) drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7(1)(a)(b)(d)(2)-(12) mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(b)

I8A. 7(1)(c) mewn grym ar 27.4.2028 , gweler a. 46(2)(b)(4)-(6)(a)

Rhagolygol

RHAN 2LL+CSWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol CymruLL+C

8Sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol CymruLL+C

(1)Mae Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru (“SLlAC”) wedi ei sefydlu fel corff corfforedig.

(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch SLlAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 8 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

9Annibyniaeth SLlACLL+C

Wrth arfer eu swyddogaethau mewn cysylltiad â SLlAC, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r angen i ddiogelu annibyniaeth SLlAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 46(4)

10Diben cyffredinol etc.LL+C

Rhaid i SLlAC arfer ei swyddogaethau—

(a)at y diben cyffredinol o—

(i)cyfrannu at‍ gyrraedd lefel uchel o ran diogelu’r amgylchedd a gwelliant i’r amgylchedd, a

(ii)sicrhau bod cyfraith amgylcheddol yn effeithiol ac y cydymffurfir â hi, y’i gweithredir ac y’i cymhwysir;

(b)yn ddiduedd, yn wrthrychol, yn gymesur ac yn dryloyw.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 10 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

11Dyletswydd i lunio a chyhoeddi strategaethLL+C

(1)Rhaid i SLlAC lunio a chyhoeddi strategaeth.

(2)Rhaid i’r strategaeth nodi sut y mae SLlAC yn bwriadu arfer ei swyddogaethau.

(3)Rhaid i SLlAC arfer ei swyddogaethau yn unol â’r strategaeth.

(4)Mae Atodlen 2 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch—

(a)beth yn benodol y mae rhaid i’r strategaeth ei gynnwys, a

(b)gofynion gweithdrefnol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 11 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

Swyddogaethau monitro, adrodd a chynghoriLL+C

12Monitro ac adroddLL+C

(1)Rhaid i SLlAC fonitro—

(a)cydymffurfedd awdurdodau cyhoeddus â chyfraith amgylcheddol, a

(b)gweithredu a chymhwyso cyfraith amgylcheddol.

(2)Caiff SLlAC adrodd ar—

(a)unrhyw fater y mae’n ofynnol iddi ei fonitro o dan is-adran (1), neu

(b)unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwneud cyfraith amgylcheddol neu ei heffeithiolrwydd.

(3)Rhaid i SLlAC—

(a)cyhoeddi ei hadroddiadau o dan is-adran (2), a

(b)gosod copïau o’r adroddiadau gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 12 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

13Cynghori Gweinidogion CymruLL+C

(1)Caiff SLlAC roi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch—

(a)cynnig i wneud cyfraith amgylcheddol newydd neu ddeddfiad newydd arall sy’n ymwneud â’r amgylchedd yng Nghymru,

(b)newid arfaethedig i gyfraith amgylcheddol neu ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r amgylchedd yng Nghymru, neu

(c)unrhyw fater arall sy’n ymwneud â chyfraith amgylcheddol.

(2)Caniateir rhoi cyngor o dan yr adran hon ar gymhelliad SLlAC ei hun neu ar gais gan Weinidogion Cymru.

(3)Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru yn gwneud cais am gyngor SLlAC o dan is-adran (1), ond

(b)bo SLlAC yn penderfynu peidio â rhoi’r cyngor y gwneir cais amdano,

rhaid i SLlAC roi datganiad o’i rhesymau dros benderfynu hynny i Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i SLlAC gyhoeddi unrhyw gyngor y mae’n ei roi i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i gyngor a roddir gan SLlAC o dan yr adran hon.

(6)Yn is-adran (1), mae “Cymru” yn cynnwys, i’r graddau y mae’r cynnig neu’r newid arfaethedig yn ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod, yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfyn atfor y môr tiriogaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 13 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

14Cyngor, canllawiau a chymorth ar gyfraith amgylcheddolLL+C

(1)Caiff SLlAC—

(a)dyroddi canllawiau (pa un a ydynt yn gyffredinol neu’n benodol), neu

(b)rhoi cyngor neu gymorth arall i unrhyw berson,

ar unrhyw fater sy’n ymwneud â chyfraith amgylcheddol.

(2)Pan fo cyngor SLlAC i awdurdod cyhoeddus o dan yr adran hon yn cynnwys argymhellion sy’n ymwneud â chymhwyso neu weithredu cyfraith amgylcheddol gan yr awdurdod, caiff SLlAC ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ymateb i’r argymhellion o fewn cyfnod a bennir gan SLlAC.

(3)Rhaid i SLlAC gyhoeddi unrhyw ganllawiau y mae’n eu dyroddi o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 14 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

Hysbysiadau gwybodaethLL+C

15Hysbysiadau gwybodaethLL+C

(1)Caiff SLlAC gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i awdurdod cyhoeddus.

(2)Hysbysiad yw hysbysiad gwybodaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus roi gwybodaeth i SLlAC sy’n rhesymol ofynnol ganddi at ddibenion arfer ei swyddogaethau.

(3)Rhaid i hysbysiad gwybodaeth bennu—

(a)yr wybodaeth, neu natur yr wybodaeth, sydd i’w rhoi,

(b)at ba ddibenion y mae’r wybodaeth yn ofynnol,

(c)sut y mae’r wybodaeth i’w rhoi, a

(d)o fewn pa gyfnod y mae’r wybodaeth i’w rhoi.

(4)Rhaid i’r cyfnod a bennir at ddibenion is-adran (3)(d) fod o leiaf 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.

(5)Caiff SLlAC, drwy roi hysbysiad i’r awdurdod cyhoeddus y cyflwynwyd hysbysiad gwybodaeth iddo—

(a)tynnu’r hysbysiad gwybodaeth yn ôl;

(b)amrywio’r hysbysiad gwybodaeth (gan gynnwys drwy estyn y cyfnod y mae’n ofynnol rhoi’r wybodaeth o’i fewn).

(6)Mae is-adran (7) yn gymwys pan fo awdurdod cyhoeddus yn cyflwyno sylw i SLlAC ynghylch hysbysiad gwybodaeth cyn diwedd y cyfnod y mae’n ofynnol rhoi’r wybodaeth o’i fewn.

(7)Wrth gyfrifo’r dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus roi’r wybodaeth i SLlAC, nid yw’r amser y mae SLlAC yn ei gymryd i ystyried y sylw yn cyfrif fel rhan o’r cyfnod y mae’n ofynnol rhoi’r wybodaeth o’i fewn.

(8)At ddibenion is-adran (7), mae’r amser y mae SLlAC yn ei gymryd i ystyried y sylw yn dechrau â’r diwrnod y cyflwynir y sylw ac yn gorffen â’r diwrnod—

(a)y mae SLlAC yn rhoi hysbysiad i’r awdurdod cyhoeddus o dan is-adran (5) fod yr hysbysiad gwybodaeth yn cael ei dynnu’n ôl neu ei amrywio mewn ymateb i’r sylw, neu

(b)y mae SLlAC yn rhoi hysbysiad i’r awdurdod cyhoeddus nad yw’n tynnu’n ôl neu’n amrywio’r hysbysiad gwybodaeth mewn ymateb i’r sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 15 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

SylwadauLL+C

16SylwadauLL+C

(1)Caiff person gyflwyno sylwadau i SLlAC ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud ag—

(a)cydymffurfedd awdurdodau cyhoeddus â chyfraith amgylcheddol,

(b)sut y mae cyfraith amgylcheddol yn cael ei gweithredu a’i chymhwyso, ac

(c)effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol.

(2)Rhaid i SLlAC lunio a chyhoeddi dogfen sy’n nodi’r weithdrefn y caniateir cyflwyno’r sylwadau i SLlAC drwyddi.

(3)Rhaid i’r ddogfen hefyd nodi polisi SLlAC ynghylch hysbysu personau am ei hymateb i’w sylwadau ac unrhyw gamau gweithredu y mae’n eu cymryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 16 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

YmchwiliadauLL+C

17YmchwiliadauLL+C

(1)Caiff SLlAC ymchwilio i unrhyw fater sy’n ymwneud ag—

(a)a yw awdurdod cyhoeddus yn methu, neu wedi methu ar unrhyw adeg (pa un ai cyn neu ar ôl i’r Ddeddf hon gael y Cydsyniad Brenhinol), â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol,

(b)sut y mae cyfraith amgylcheddol yn cael ei gweithredu a’i chymhwyso, neu

(c)effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol.

(2)Caniateir cynnal ymchwiliadau o dan is-adran (1) ar gymhelliad SLlAC ei hun neu mewn ymateb i unrhyw sylwadau a gyflwynir iddi gan unrhyw berson.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 17 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

18Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Caiff SLlAC gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i awdurdod cyhoeddus os yw’n ystyried bod yr awdurdod cyhoeddus—

(a)yn methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, neu

(b)wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth.

(2)Rhaid i hysbysiad cydymffurfio a gyflwynir o dan is-adran (1)(a) bennu—

(a)y gyfraith amgylcheddol y mae’r methiant honedig yn ymwneud â hi,

(b)yr ymddygiad sydd wedi peri i SLlAC ystyried bod yr awdurdod cyhoeddus yn methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol,

(c)un neu ragor o gamau gweithredu y mae SLlAC yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod eu cymryd er mwyn ymdrin â’r methiant (a gaiff gynnwys camau gweithredu y bwriedir iddynt unioni neu liniaru’r methiant neu ei atal rhag digwydd eto), a

(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid cymryd pob cam gweithredu.

(3)Rhaid i’r cyfnod a bennir ar gyfer pob cam gweithredu at ddibenion is-adran (2)(d) fod o leiaf 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad (ond gweler hefyd adran 19(2) (hyd y cyfnod penodedig mewn hysbysiadau cydymffurfio brys)).

(4)Rhaid i hysbysiad cydymffurfio a gyflwynir o dan is-adran (1)(b) bennu—

(a)pam y mae SLlAC yn ystyried bod yr awdurdod cyhoeddus wedi methu â chydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth,

(b)y cam gweithredu y mae SLlAC yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ei gymryd er mwyn ymdrin â’r methiant, ac

(c)o fewn pa gyfnod y mae rhaid cymryd y cam gweithredu.

(5)Rhaid i hysbysiad cydymffurfio hefyd gynnwys—

(a)gwybodaeth am yr hawl i wneud cais am adolygiad o hysbysiad cydymffurfio, gan gynnwys y cyfnod y mae rhaid gwneud y cais o’i fewn, a

(b)eglurhad o ganlyniadau methu â chymryd y cam neu’r camau gweithredu a bennir yn yr hysbysiad.

(6)Caiff SLlAC, drwy roi hysbysiad i’r awdurdod cyhoeddus y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo—

(a)tynnu’r hysbysiad cydymffurfio yn ôl;

(b)amrywio’r hysbysiad cydymffurfio.

(7)Ni chaiff hysbysiad cydymffurfio o dan is-adran (1)(a) ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gam gweithredu mewn cysylltiad â phenderfyniad gweinyddol a wnaed gan awdurdod cyhoeddus mewn perthynas â pherson penodol neu achos penodol (er enghraifft, penderfyniad ar gais am ganiatâd cynllunio, cyllid neu drwydded, neu benderfyniad ar orfodi rheoleiddiol mewn achos penodol).

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 18 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

19Hysbysiadau cydymffurfio brysLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo SLlAC yn ystyried bod angen i bob cam gweithredu a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio sydd i’w gyflwyno o dan adran 18(1)(a) gael ei gymryd ar frys er mwyn atal neu liniaru risg bod niwed difrifol ar fin digwydd i’r amgylchedd neu i iechyd pobl.

(2)Caiff yr hysbysiad, mewn perthynas â phob cam gweithredu a bennir ynddo, bennu cyfnod o lai na 30 o ddiwrnodau, ond o 7 niwrnod o leiaf, sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, fel y cyfnod y mae rhaid cymryd y cam gweithredu o’i fewn (yn hytrach na chyfnod o 30 o ddiwrnodau o leiaf yn unol ag adran 18(3)).

(3)Rhaid i hysbysiad cydymffurfio sy’n pennu cyfnod o lai na 30 o ddiwrnodau ar gyfer pob cam gweithredu yn unol ag is-adran (2) nodi ei fod yn hysbysiad cydymffurfio brys.

(4)Cyfeirir at hysbysiad o’r fath yn y Rhan hon fel hysbysiad cydymffurfio brys.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 19 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

20Adolygiad SLlAC o hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Rhaid i SLlAC adolygu hysbysiad cydymffurfio os yw’r awdurdod cyhoeddus y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn gwneud cais iddi i wneud hynny.

(2)Rhaid i gais o dan is-adran (1) gael ei wneud drwy roi hysbysiad i SLlAC.

(3)Rhaid gwneud cais am adolygiad o hysbysiad cydymffurfio nad yw’n hysbysiad cydymffurfio brys cyn diwedd 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad cydymffurfio.

(4)Rhaid gwneud cais am adolygiad o hysbysiad cydymffurfio brys cyn diwedd 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad cydymffurfio.

(5)Rhaid i adolygiad o dan yr adran hon gael ei gynnal—

(a)gan bwyllgor adolygu SLlAC (gweler paragraff 10 o Atodlen 1);

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r hysbysiad gael ei roi i SLlAC o dan is-adran (2).

(6)Pan fo’r seiliau dros wneud cais am adolygiad yn cynnwys methiant i gydymffurfio ag adran 18(2), (4) neu (5), neu ryw ddiffyg neu wall arall mewn hysbysiad cydymffurfio, neu mewn cysylltiad ag ef, rhaid i’r pwyllgor adolygu anwybyddu unrhyw fethiant, unrhyw ddiffyg neu unrhyw wall o’r fath os yw’r pwyllgor yn ystyried nad yw’n un sylweddol.

(7)Ar adolygiad o dan yr adran hon, caiff y pwyllgor adolygu—

(a)cadarnhau’r hysbysiad cydymffurfio,

(b)tynnu’r hysbysiad cydymffurfio yn ôl, neu

(c)amrywio’r hysbysiad cydymffurfio.

(8)Rhaid i’r pwyllgor adolygu roi hysbysiad o’i benderfyniad ar adolygiad i’r awdurdod cyhoeddus a wnaeth gais am yr adolygiad.

(9)Mae penderfyniad y pwyllgor adolygu ar adolygiad o hysbysiad cydymffurfio yn derfynol (ac ni chaniateir gwneud unrhyw geisiadau pellach am adolygiad mewn perthynas â’r un hysbysiad cydymffurfio).

(10)Rhaid i awdurdod cyhoeddus ddarparu unrhyw wybodaeth bellach i’r pwyllgor adolygu sy’n rhesymol ofynnol gan y pwyllgor at ddibenion cynnal adolygiad o dan yr adran hon.

(11)Mae is-adran (12) yn gymwys pan fo awdurdod cyhoeddus yn gwneud cais am adolygiad o hysbysiad cydymffurfio o dan yr adran hon.

(12)Wrth gyfrifo’r dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus gymryd cam gweithredu a bennir yn yr hysbysiad, nid yw’r amser y mae’r pwyllgor adolygu yn ei gymryd i gynnal yr adolygiad yn cyfrif fel rhan o’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad fel y cyfnod y mae’n ofynnol i’r awdurdod gymryd y cam gweithredu o’i fewn.

(13)At ddibenion is-adran (12) mae’r amser y mae’r pwyllgor adolygu yn ei gymryd i gynnal yr adolygiad yn dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod cyhoeddus yn gwneud cais am yr adolygiad ac yn dod i ben â’r diwrnod y mae’r pwyllgor adolygu yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (8).

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 20 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

21Adolygiad yr Uchel Lys ar ôl methiant i gymryd cam gweithredu penodedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo SLlAC yn ystyried bod awdurdod cyhoeddus wedi methu â chymryd cam gweithredu a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio yn y cyfnod y mae’n ofynnol cymryd y cam gweithredu o’i fewn.

(2)Caiff SLlAC wneud cais i’r Uchel Lys am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus—

(a)cymryd y cam gweithredu fel y’i pennir yn yr hysbysiad cydymffurfio, neu

(b)cymryd y cam gweithredu hwnnw fel y’i hamrywir gan y Llys fel y mae’n ystyried ei fod yn briodol.

(3)Ni chaniateir gwneud cais mewn perthynas â cham gweithredu a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio nad yw’n hysbysiad cydymffurfio brys cyn y diweddaraf o—

(a)diwedd y cyfnod y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus gymryd y cam gweithredu o’i fewn, a

(b)unrhyw derfyn amser sy’n gymwys i gychwyn adolygiad barnwrol er mwyn cwestiynu’r ymddygiad honedig y cyflwynwyd yr hysbysiad cydymffurfio mewn cysylltiad ag ef.

(4)Ni chaniateir gwneud cais mewn perthynas â cham gweithredu a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio brys cyn diwedd y cyfnod y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus gymryd y cam gweithredu o’i fewn.

(5)Rhaid i orchymyn a roddir ar gais o dan is-adran (2) bennu’r cyfnod y mae’n ofynnol cymryd y cam gweithredu o’i fewn.

(6)Os yw’r Llys, wrth benderfynu cais o dan is-adran (2), yn ystyried bod hysbysiad cydymffurfio neu ran o hysbysiad cydymffurfio yn afresymol neu na ddylai, am unrhyw reswm arall, yr hysbysiad fod wedi ei gyflwyno neu’r rhan fod wedi ei chynnwys, rhaid i’r Llys drwy orchymyn ei gwneud yn ofynnol i SLlAC dynnu’r hysbysiad neu (yn ôl y digwydd) y rhan o’r hysbysiad yn ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 21 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

Adroddiadau gwella a chynlluniau gwellaLL+C

22Adroddiadau gwellaLL+C

(1)Caiff SLlAC gyhoeddi adroddiad gwella os yw’n ystyried bod awdurdod cyhoeddus yn methu neu wedi methu ar unrhyw adeg (pa un ai cyn neu ar ôl i’r Ddeddf hon gael y Cydsyniad Brenhinol) ag—

(a)cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, neu

(b)gweithredu neu gymhwyso cyfraith amgylcheddol yn effeithiol.

(2)Caiff SLlAC hefyd gyhoeddi adroddiad gwella os yw’n ystyried bod Gweinidogion Cymru neu awdurdod cyhoeddus arall wedi methu â gwneud cyfraith amgylcheddol effeithiol.

(3)Caiff un adroddiad gwella o dan is-adran (1) ymwneud â methiant gan ddau neu ragor o awdurdodau cyhoeddus ond dim ond os yw SLlAC wedi ei bodloni bod yr holl awdurdodau o dan sylw yn arfer neu wedi arfer eu swyddogaethau mewn ffordd sydd wedi arwain at yr un methiant honedig neu fethiant honedig tebyg.

(4)Pan fo SLlAC yn cyhoeddi adroddiad gwella, rhaid iddi—

(a)anfon copi o’r adroddiad—

(i)i’r awdurdod cyhoeddus y cyhoeddir yr adroddiad mewn perthynas â’i fethiant honedig, a

(ii)os nad Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cyhoeddus y cyhoeddir yr adroddiad mewn perthynas â’i fethiant honedig, at Weinidogion Cymru, a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 22 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

23Adroddiadau gwella: cynnwysLL+C

(1)Rhaid i adroddiad gwella—

(a)nodi manylion y methiant honedig i—

(i)cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol,

(ii)gweithredu neu gymhwyso cyfraith amgylcheddol yn effeithiol, neu

(iii)gwneud cyfraith amgylcheddol effeithiol;

(b)egluro rhesymau SLlAC dros ystyried bod methiant o’r fath wedi bod;

(c)nodi effaith neu effaith bosibl y methiant;

(d)argymell camau gweithredu i Weinidogion Cymru eu cymryd mewn ymateb i’r methiant;

(e)cynnig amserlenni ar gyfer cymryd y camau gweithredu hynny.

(2)Ni chaiff y camau gweithredu a argymhellir ar gyfer Gweinidogion Cymru o dan is-adran (1)(d) gynnwys—

(a)dirymu neu amrywio penderfyniad gweinyddol a wnaed gan awdurdod cyhoeddus mewn perthynas â pherson neu achos penodol, na

(b)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus arall ddirymu neu amrywio penderfyniad o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 23 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

24Cynlluniau gwellaLL+C

(1)Pan fo SLlAC yn cyhoeddi adroddiad gwella, rhaid i Weinidogion Cymru ymateb drwy gyhoeddi cynllun gwella.

(2)Rhaid i gynllun gwella nodi—

(a)yr hyn y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig ei wneud mewn ymateb i’r argymhellion yn yr adroddiad gwella, gan gynnwys yn benodol—

(i)y camau gweithredu y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig eu cymryd i weithredu’r argymhellion (yn llawn neu’n rhannol),

(ii)yr amserlenni arfaethedig ar gyfer gweithredu’r argymhellion,

(iii)y trefniadau ar gyfer adolygu cynnydd wrth weithredu’r argymhellion, ac adrodd arno, a

(b)os nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu gweithredu’r argymhellion (yn llawn neu’n rhannol), y rhesymau dros hynny.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynllun gwella—

(a)cyn diwedd 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yr anfonwyd adroddiad gwella atynt o dan adran 22(4)(a), neu

(b)os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ymgynghori ag unrhyw berson ynghylch y cynllun, cyn diwedd 9 mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cynllun gwella, rhaid iddynt osod copi ohono gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 24 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

Dyletswyddau cydweithreduLL+C

25Dyletswyddau cydweithreduLL+C

(1)Rhaid i awdurdod cyhoeddus gydweithredu â SLlAC, a rhoi iddi unrhyw gymorth rhesymol y mae’n gwneud cais amdano (gan gynnwys darparu gwybodaeth), mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau SLlAC.

(2)Rhaid i awdurdod cyhoeddus hefyd wneud pob ymdrech resymol i—

(a)datrys yn gyflym unrhyw fater y mae SLlAC yn ei godi ynghylch methiant yr awdurdod i gydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, i weithredu neu gymhwyso cyfraith amgylcheddol yn effeithiol, neu i wneud cyfraith amgylcheddol effeithiol, a

(b)dod i gytundeb â SLlAC ynghylch unrhyw gam neu gamau gweithredu unioni y dylai’r awdurdod ei gymryd neu eu cymryd at ddibenion diogelu’r amgylchedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 25 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

Datgelu gwybodaeth a chyfrinacheddLL+C

26Datgelu gwybodaeth i SLlACLL+C

(1)Nid yw datgelu gwybodaeth i SLlAC gan awdurdod cyhoeddus yn unol â darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (3) yn torri—

(a)unrhyw rwymedigaeth cyfrinachedd sy’n ddyledus gan yr awdurdod, na

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y’i gosodir).

(2)Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) (diogelu gofynion ar gyfer prosesu data personol).

(3)Y darpariaethau yw—

(a)adran 15(1) (hysbysiadau gwybodaeth);

(b)adran 20(10) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan SLlAC at ddibenion adolygiad o hysbysiad cydymffurfio);

(c)adran 25(1) (dyletswydd awdurdod cyhoeddus i gydweithredu â SLlAC).

(4)Nid yw unrhyw beth yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i SLlAC—

(a)y byddai gan yr awdurdod hawlogaeth i wrthod ei darparu mewn achos sifil ar sail braint broffesiynol gyfreithiol, neu

(b)y byddai gan yr awdurdod hawlogaeth i wrthod ei darparu, neu y byddai unrhyw reol gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol iddo wrthod ei darparu, mewn achos sifil ar sail imiwnedd budd y cyhoed‍d.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 26 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

27Gofynion cyfrinachedd: SLlACLL+C

(1)Ni chaiff SLlAC ddatgelu—

(a)gwybodaeth a gafwyd yn rhinwedd darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (2),

(b)gohebiaeth rhwng SLlAC ac awdurdod cyhoeddus sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth penodol neu hysbysiad cydymffurfio penodol, neu â llunio adroddiad gwella penodol, nac

(c)gohebiaeth rhwng SLlAC ac awdurdod cyhoeddus sy’n hysbysiad gwybodaeth, yn hysbysiad cydymffurfio neu’n ddrafft heb ei gyhoeddi o adroddiad gwella, neu sy’n cynnwys hysbysiad gwybodaeth, hysbysiad cydymffurfio neu ddrafft heb ei gyhoeddi o adroddiad gwella.

(2)Y darpariaethau yw—

(a)adran 15(1) (hysbysiadau gwybodaeth);

(b)adran 20(10) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan SLlAC at ddibenion adolygiad o hysbysiad cydymffurfio);

(c)adran 25(1) (dyletswydd awdurdod cyhoeddus i gydweithredu â SLlAC).

(3)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—

(a)datgeliad a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (b) a wneir gyda chydsyniad yr awdurdod cyhoeddus a ddarparodd yr wybodaeth neu’r ohebiaeth;

(b)datgeliad a wneir at ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau SLlAC;

(c)datgeliad sy’n ymwneud yn unig â mater nad yw SLlAC yn bwriadu cymryd unrhyw gam gweithredu pellach o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef;

(d)datgeliad a wneir at ddibenion achos sifil;

(e)datgeliad a wneir at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol neu at ddibenion atal neu ganfod trosedd;

(f)datgeliad a wneir yn unol â gorchymyn llys neu dribiwnlys;

(g)datgeliad a wneir yn unol â deddfiad sy’n gwneud y datgeliad yn ofynnol neu’n ei ganiatáu.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 27 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

28Gofynion cyfrinachedd: awdurdodau cyhoeddusLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod cyhoeddus ddatgelu gohebiaeth rhwng SLlAC a’r awdurdod cyhoeddus hwnnw neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall—

(a)sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth penodol neu hysbysiad cydymffurfio penodol, neu â llunio adroddiad gwella penodol, neu

(b)sy’n hysbysiad o’r fath neu’n ddrafft heb ei gyhoeddi o adroddiad o‘r fath, neu sy’n cynnwys hysbysiad o’r fath neu ddrafft heb ei gyhoeddi o adroddiad o’r fath.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—

(a)datgeliad a grybwyllir yn is-adran (1)(a) a wneir gyda chydsyniad SLlAC a’r awdurdod cyhoeddus yr oedd SLlAC yn gohebu ag ef (os nad yr awdurdod cyhoeddus sy’n gwneud y datgeliad ydyw);

(b)datgeliad a grybwyllir yn is-adran (1)(b) a wneir gyda chydsyniad SLlAC;

(c)datgeliad a wneir at ddibenion sy’n gysylltiedig â chydweithredu ag ymchwiliad o dan adran 17;

(d)datgeliad a wneir at ddibenion sy’n gysylltiedig â hysbysiad gwybodaeth neu hysbysiad cydymffurfio;

(e)datgeliad a wneir at ddibenion sy’n gysylltiedig ag adolygiad yr Uchel Lys o dan adran 21, adolygiad statudol neu achos sifil;

(f)datgeliad a wneir at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol neu at ddibenion atal neu ganfod trosedd;

(g)datgeliad a wneir yn unol â gorchymyn llys neu dribiwnlys;

(h)datgeliad a wneir yn unol â deddfiad sy’n gwneud y datgeliad yn ofynnol neu’n ei ganiatáu.

(3)Ni chaiff SLlAC gydsynio i ddatgelu hysbysiad neu ddrafft heb ei gyhoeddi o adroddiad yn unol ag is-adran (2)(b) oni bai bod yr hysbysiad neu’r adroddiad drafft yn ymwneud yn unig â mater nad yw SLlAC yn bwriadu cymryd unrhyw gam gweithredu pellach o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef.

(4)Os yw cais awdurdod cyhoeddus am gydsyniad yn unol ag is-adran (2)(a) neu (b) yn ymwneud yn unig â mater nad yw SLlAC yn bwriadu cymryd unrhyw gam gweithredu pellach o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, ni chaiff SLlAC atal ei chydsyniad.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “adolygiad statudol” yw hawliad am adolygiad statudol o dan—

(a)adran 287 neu 288 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8),

(b)adran 22 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10),

(c)adran 113 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), neu

(d)adran 183 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3).

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 28 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

29Cymhwyso Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004LL+C

Os yw gwybodaeth neu ohebiaeth a grybwyllir yn adran 27(1) ac a ddelir gan SLlAC, neu a grybwyllir yn adran 28(1) ac a ddelir gan awdurdod cyhoeddus, yn wybodaeth amgylcheddol at ddibenion Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (O.S. 2004/3391), fe’i delir gan SLlAC neu (yn ôl y digwydd) yr awdurdod cyhoeddus, at ddibenion cymhwyso’r Rheoliadau hynny i’r wybodaeth honno, mewn cysylltiad ag achos cyfrinachol.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 29 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

Cynlluniau trosglwyddo staffLL+C

30Cynlluniau trosglwyddo staffLL+C

Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff o Lywodraeth Cymru i SLlAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 30 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(d)

DehongliLL+C

31Ystyr “cyfraith amgylcheddol”LL+C

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “cyfraith amgylcheddol” yw unrhyw ddarpariaeth ddatganoledig i’r graddau—

(a)ei bod yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â diogelu’r amgylchedd, a

(b)nad yw’n ymwneud â—

(i)datgelu gwybodaeth neu fynediad ati;

(ii)trethiant, cyllid neu gyllidebau.

(2)Nid yw is-adran (1)(b)(i) yn eithrio o ystyr “cyfraith amgylcheddol” ddarpariaethau yn y Rhan hon sy’n ymwneud â datgelu gwybodaeth.

(3)Yn is-adran (1), ystyr “darpariaeth ddatganoledig” yw—

(a)darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru, neu mewn offeryn a wneir odano neu odani, a

(b)darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw ddeddfiad arall a fyddai, pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd (gan anwybyddu unrhyw ofyniad am gydsyniad un o Weinidogion y Goron a osodir o dan Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu bod, neu nad yw, darpariaeth ddatganoledig a bennir yn y rheoliadau o fewn y diffiniad o “cyfraith amgylcheddol” yn is-adran (1) (ac mae’r Rhan hon yn gymwys yn unol â hynny).

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (4) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)SLlAC, a

(b)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 31 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(e)

32Ystyr “awdurdod cyhoeddus”LL+C

Yn y Rhan hon, ystyr “awdurdod cyhoeddus” yw person ac eithrio SLlAC—

(a)sy’n awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), neu

(b)a restrir ym mharagraff 9(2) neu (6) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 32 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(e)

33Ystyr “effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol”LL+C

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol yn gyfeiriadau at ei heffeithiolrwydd o ran cyfrannu at ddiogelu’r amgylchedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 33 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(e)

34Ystyr “methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol”LL+C

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at awdurdod cyhoeddus yn methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol yn gyfeiriadau at yr awdurdod—

(a)yn arfer ei swyddogaethau mewn ffordd sy’n groes i gyfraith amgylcheddol, neu

(b)yn methu ag arfer ei swyddogaethau pan fo’r methiant yn groes i gyfraith amgylcheddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 34 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(e)

Rhagolygol

RHAN 3LL+CTARGEDAU BIOAMRYWIAETH, ETC.

35Targedau bioamrywiaethLL+C

(1)Ar ôl adran 6A o Ddeddf yr Amgylchedd (fel y’i mewnosodir gan adran 39 o’r Ddeddf hon), mewnosoder—

Targedau bioamrywiaethLL+C

6BTargedau bioamrywiaeth: cyffredinol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod targedau mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud â bioamrywiaeth yng Nghymru.

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru osod targed yn y rheoliadau onid ydynt wedi eu bodloni y byddai ei gyrraedd yn cyfrannu at atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth neu at adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth, yn benodol drwy un neu ragor o’r canlynol—

(a)cynyddu toreithrwydd rhywogaethau brodorol;

(b)gwella cydnerthedd ecosystemau (yn benodol yr agweddau a bennir yn adran 6(2)(a) i (e));

(c)cynyddu amrywiaeth enetig.

(3)Wrth ystyried a fyddai targed yn cyfrannu at‍ y materion a bennir yn is-adran (2)(a), (b) neu (c), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r rhestr a gyhoeddir o dan adran 7.

(4)Rhaid i’r rheoliadau, mewn perthynas â phob targed—

(a)pennu safon i’w chyflawni, y mae rhaid gallu ei mesur yn wrthrychol, a

(b)pennu dyddiad erbyn pryd y mae’r safon i’w chyflawni.

(5)Rhaid i’r rheoliadau—

(a)cynnwys darpariaeth ynghylch sut i fesur—

(i)cynnydd tuag at gyflawni pob safon a bennir o dan is-adran (4), a

(ii)a yw’r safon wedi ei chyflawni, a

(b)pennu dangosyddion fel modd o fesur y pethau hynny.

(6)Gosodir targed o dan yr adran hon pan fydd y rheoliadau sy’n ei osod yn dod i rym.

(7)Yn yr adran hon—

(a)

ystyr “rhywogaethau brodorol” yw rhywogaethau sy’n bresennol yn naturiol yng Nghymru neu a oedd yn bresennol yn naturiol yn y gorffennol yno, gan gynnwys—

(i)

rhywogaethau mudol sy’n bresennol yn rheolaidd (rhywogaethau sy’n bridio a’r rhai nad ydynt yn bridio) a choloneiddwyr naturiol, a

(ii)

rhywogaethau sydd wedi eu hailgyflwyno yng Nghymru wedi iddynt ddiflannu yn y gorffennol;

(b)

ystyr “coloneiddwyr naturiol” yw rhywogaethau a gyrhaeddodd Gymru ohonynt eu hunain ac sydd wedi ymsefydlu, gan gynnwys y rheini sy’n dod yn rhywogaethau mudol.

(8)Yn adrannau 6C, 6D, 6G, 6H a 6I, ystyr “safon benodedig” a “dyddiad penodedig”, mewn perthynas â tharged a osodir o dan yr adran hon, yw’r safon a’r dyddiad a bennir o dan is-adran (4).

6CDyletswydd i wneud rheoliadau sy’n gosod targedau: meysydd blaenoriaeth

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru arfer y pŵer yn adran 6B i‍ —

(a)gosod targed hirdymor mewn cysylltiad ag o leiaf un mater o fewn pob un o’r meysydd blaenoriaeth yn is-adran (2)(a) a (b),

(b)gosod targed tymor byr mewn cysylltiad ag o leiaf un mater o fewn pob un o’r meysydd blaenoriaeth yn is-adran (2)(a) a (b), ac

(c)gosod targed mewn cysylltiad ag o leiaf un mater o fewn pob un o’r meysydd blaenoriaeth yn is-adran (2)(c) a (d).

(2)Y meysydd blaenoriaeth yw—

(a)lleihau’r risg o ddiflaniad rhywogaethau brodorol;

(b)rheoli ecosystemau yn effeithiol;

(c)lleihau llygredd;

(d)ansawdd y dystiolaeth er mwyn llywio penderfyniadau sy’n ymwneud â bioamrywiaeth, mynediad at y dystiolaeth honno a’i defnyddio a’i chymhwyso.

(3)Mae targed yn “targed hirdymor” os yw’r dyddiad penodedig o leiaf 15 mlynedd ar ôl y dyddiad y gosodir y targed.

(4)Mae targed yn “targed tymor byr” os yw’r dyddiad penodedig lai na 15 mlynedd ar ôl y dyddiad y gosodir y targed.

(5)Ni chaniateir gosod targedau mewn cysylltiad â mater o fewn y maes blaenoriaeth yn is-adran (2)(c) os caniateir gosod targed mewn cysylltiad â’r mater hwnnw o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (dsc 2).

(6)Yn is-adran (2)(a), mae i “rhywogaethau brodorol” yr ystyr a roddir gan adran 6B(7).

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys y rheoliadau sy’n ofynnol gan yr adran hon gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o‍ 2 flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 (dsc xx) y Cydsyniad Brenhinol.

6DY broses o osod targedau

(1)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 6B, rhaid i Weinidogion Cymru geisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi crynodeb o unrhyw gyngor o’r fath y maent yn ei gael.

(3)Wrth wneud rheoliadau o dan adran 6B, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 6B, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi—

(a)yr ymgynghori a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r rheoliadau, a

(b)unrhyw sylwadau a gafwyd o ganlyniad i’r ymgynghori.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 6B sy’n gosod neu’n diwygio targed, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni y gellir cyrraedd y targed neu’r targed diwygiedig.

(6)At ddibenion y Rhan hon, mae targed wedi ei gyrraedd os yw’r safon benodedig wedi ei chyflawni erbyn y dyddiad penodedig.

(7)Nid yw is-adrannau (1) i‍ (4) yn gymwys i ddarpariaethau mewn rheoliadau o dan adran 6B sy’n dirymu targed sydd wedi ei gyrraedd.

6EDyletswydd i gyrraedd targedau

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod targedau a osodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 6B yn cael eu cyrraedd.

6FDynodi awdurdodau cyhoeddus at ddiben adran 6(2A)

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddynodi awdurdod cyhoeddus o fewn adran 6(11) mewn perthynas â tharged a osodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 6B.

(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)yr awdurdod cyhoeddus y maent yn bwriadu ei ddynodi, a

(b)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

6GAdolygu targedau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, o bryd i’w gilydd, adolygu targed a osodwyd mewn rheoliadau o dan adran 6B.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu targed a osodwyd mewn rheoliadau o dan adran 6B os ymddengys iddynt—

(a)ei bod yn bosibl na fydd y targed yn cael ei gyrraedd, neu

(b)ei bod yn bosibl nad yw’r targed yn briodol mwyach.‍

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, o bryd i’w gilydd, adolygu effeithiolrwydd yr holl dargedau cyfredol at ddiben penderfynu a fyddai gosod targedau pellach mewn rheoliadau o dan adran 6B yn fwy effeithiol o ran cyfrannu at atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth neu at adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd yr holl dargedau cyfredol at y diben a grybwyllir yn is-adran (3)—

(a)os nad yw targed a osodwyd mewn rheoliadau o dan adran 6B wedi ei gyrraedd erbyn y dyddiad penodedig mewn perthynas â’r targed hwnnw;

(b)os oes 10 mlynedd wedi mynd heibio ers yr adolygiad a gwblhawyd yn fwyaf diweddar o dan unrhyw un o is-adran (3), yr is-adran hon neu is-adran (5).

(5)Os nad oes unrhyw adolygiad o dan is-adran (3) neu (4) wedi ei gwblhau cyn diwedd 2041, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd yr holl dargedau cyfredol at y diben a grybwyllir yn is-adran (3).

(6)Mae targed yn gyfredol at ddiben is-adrannau (3) i (5) os—

(a)yw wedi ei osod mewn rheoliadau o dan adran 6B sydd mewn grym ar adeg yr adolygiad, a

(b)nad yw wedi ei gyrraedd ar yr adeg honno.

(7)Wrth gynnal adolygiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru geisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi crynodeb o unrhyw gyngor o’r fath y maent yn ei gael.

(9)Ar ôl cynnal adolygiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Senedd Cymru sy’n nodi ei gasgliadau, a’i gyhoeddi.

(10)Os‍ daw adolygiad o dan is-adran (1) neu (2) i’r casgliad na fydd targed yn cael ei gyrraedd neu nad yw’n briodol mwyach, rhaid i’r datganiad nodi’r rhesymau dros y casgliad hwnnw a’r camau, os oes rhai, y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas â’r targed o ganlyniad i’r adolygiad.

(11)Os daw adolygiad o dan is-adran (3), (4) neu (5) i’r casgliad y dylid gosod targedau pellach mewn rheoliadau o dan adran 6B, rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys y rheoliadau hynny gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr adolygiad.

(12)Cwblheir adolygiad at ddiben is-adrannau (4)(b), (5) a (11) pan gyhoeddir y datganiad sy’n ofynnol gan is-adran (9).

6HDirymu neu ostwng targedau

(1)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 6B sy’n dirymu neu’n gostwng targed (y “targed presennol”) onid ydynt wedi eu bodloni—

(a)oherwydd newidiadau i’r dystiolaeth yr oeddent wedi rhoi sylw iddi wrth osod y targed presennol, na fyddai ei gyrraedd yn cyfrannu at atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth nac at adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth,

(b)na fyddai cyrraedd y targed presennol o unrhyw fudd sylweddol o gymharu â pheidio â’i gyrraedd neu gyrraedd targed is,

(c)oherwydd newidiadau mewn amgylchiadau ers i’r targed presennol gael ei osod, y byddai costau amgylcheddol, costau cymdeithasol, costau economaidd neu gostau eraill cyrraedd y targed yn anghymesur â’r buddion, neu

(d)nad oes modd cyrraedd y targed presennol mwyach—

(i)oherwydd newidiadau mewn amgylchiadau ers i’r targed presennol gael ei osod, neu

(ii)oherwydd newidiadau i’r dystiolaeth yr oedd Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw iddi wrth osod y targed presennol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)y byddai costau cyrraedd y targed presennol yn anghymesur â’r buddion fel y crybwyllir yn is-adran (1)(c), neu

(b)nad oes modd cyrraedd y targed presennol mwyach fel y crybwyllir yn is-adran (1)(d),

rhaid iddynt, cyn gwneud rheoliadau o dan adran 6B sy’n dirymu’r targed, ystyried a ddylid gwneud rheoliadau sy’n gostwng y targed.

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 6B sy’n dirymu neu’n gostwng targed, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Senedd Cymru sy’n egluro pam y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel y crybwyllir yn is-adran (1), a’i gyhoeddi.

(4)Mae rheoliadau yn gostwng targed os ydynt, i unrhyw raddau—

(a)yn rhoi safon is yn lle’r safon benodedig, neu

(b)yn rhoi dyddiad diweddarach yn lle’r dyddiad penodedig.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i ddarpariaethau mewn rheoliadau o dan adran 6B sy’n dirymu targed sydd wedi ei gyrraedd.

6IDatganiad ynghylch targedau

(1)Ar y dyddiad penodedig mewn perthynas â phob targed a osodir o dan reoliadau o dan adran 6B, neu cyn hynny, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol gerbron Senedd Cymru, a’i gyhoeddi.

(2)Yr wybodaeth ofynnol yw (fel y bo’n briodol)—

(a)bod y targed wedi ei gyrraedd,

(b)nad yw’r targed wedi ei gyrraedd, neu

(c)nad yw Gweinidogion Cymru ar hyn o bryd yn gallu canfod a yw’r targed wedi ei gyrraedd, y rhesymau dros hynny a’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd er mwyn canfod a yw’r targed wedi ei gyrraedd.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad nad yw targed wedi ei gyrraedd, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd‍ 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir y datganiad, osod adroddiad gerbron Senedd Cymru, a’i gyhoeddi.

(4)Rhaid i’r adroddiad—

(a)egluro pam nad yw’r targed wedi ei gyrraedd, a

(b)nodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu y maent yn bwriadu eu cymryd, i sicrhau y cyrhaeddir y targed cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Cyn penderfynu ar y camau y cyfeirir atynt yn is-adran (4)(b), rhaid i Weinidogion Cymru geisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi crynodeb o unrhyw gyngor o’r fath y maent yn ei gael.

(7)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu canfod a yw targed wedi ei gyrraedd, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir y datganiad, osod datganiad pellach gerbron Senedd Cymru sy’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol, a’i gyhoeddi.

(8)Mae is-adrannau (2) i (7) yn gymwys i ddatganiadau pellach o dan is-adran (7) fel y maent yn gymwys i ddatganiad o dan is-adran (1).

(2)O flaen adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd mewnosoder—

Rhestrau bioamrywiaeth.

(3)Yn adran 25(4) o Ddeddf yr Amgylchedd, ar ôl “a hynny’n unig,” mewnosoder “neu o ddirymu targed sydd wedi ei osod mewn rheoliadau o dan adran 6B ac sydd wedi ei gyrraedd, a hynny’n unig,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 35 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(f)

36Dyletswyddau awdurdodau cyhoeddusLL+C

(1)Ar ôl adran 6(2) o Ddeddf yr Amgylchedd, mewnosoder—

(2A)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus o fewn is-adran (11) sydd wedi ei ddynodi mewn rheoliadau o dan adran 6F gymryd camau i gyfrannu at gyrraedd y targed y mae wedi ei ddynodi mewn perthynas ag ef.

(2)Yn adran 6(5)(d) o Ddeddf yr Amgylchedd, ar y dechrau, mewnosoder “pan fo’r awdurdod cyhoeddus yn un o fewn is-adran (11),”.

(3)Yn adran 6(9) o Ddeddf yr Amgylchedd, yn y diffiniad o “awdurdod cyhoeddus”, ar ddiwedd paragraff (e) mewnosoder “, ond nid Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru”.

(4)Ar ôl adran 6(10) o Ddeddf yr Amgylchedd, mewnosoder—

(11)Mae awdurdod cyhoeddus o fewn yr is-adran hon os yw—

(a)yn awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), neu

(b)wedi ei restru ym mharagraff 9(2) neu (6) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 36 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(f)

37Cynlluniau Gweinidogion Cymru o dan adran 6 o Ddeddf yr AmgylcheddLL+C

Ar ôl adran 6(6) o Ddeddf yr Amgylchedd, mewnosoder—

(6A)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)pan fyddant yn paratoi eu cynllun o dan is-adran (6)—

(i)ymgynghori â Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, a

(ii)cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol,

(b)pan fyddant yn paratoi eu cynllun o dan is-adran (6), ymgynghori ag—

(i)unrhyw bersonau neu gyrff y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried yn rhesymol fod ganddynt fuddiant mewn materion sy’n ymwneud â bioamrywiaeth yng Nghymru, a

(ii)aelodau’r cyhoedd yng Nghymru, ac

(c)pan fyddant yn cyhoeddi’r cynllun hwnnw, gyhoeddi hefyd adroddiad sy’n crynhoi—

(i)yr ymgynghori a gynhaliwyd wrth baratoi’r cynllun, a

(ii)unrhyw sylwadau a gafwyd o ganlyniad i’r ymgynghori.

(6B)Rhaid i’r cynllun a baratoir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (6), yn benodol, nodi—

(a)pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i gyfrannu at wireddu gweledigaeth y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang sef, erbyn 2050, fod bioamrywiaeth yn cael ei werthfawrogi, ei gadw, ei adfer a’i ddefnyddio’n ddoeth, gan gadw gwasanaethau ecosystem, cynnal planed iach a chyflawni buddion sy’n hanfodol i’r holl bobl,

(b)cynigion sy’n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru,

(c)pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod y targedau a osodir mewn rheoliadau o dan adran 6B yn cael eu cyrraedd a phryd y maent yn bwriadu cymryd y camau hynny,

(d)sut y bydd y targedau, os cânt eu cyrraedd, yn cyfrannu at atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth neu at adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth,

(e)pan fo’r safon a bennir o dan adran 6B(4) mewn perthynas â tharged wedi ei chyflawni, sut y maent yn bwriadu cynnal y safon honno, a

(f)pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 8A i hybu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth.

(6C)Yn is-adran (6B)(a), ystyr y “Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yw Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal, a fabwysiadwyd o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol y cyfeirir ato yn is-adran (4)(a) ym mhymthegfed cyfarfod Cynhadledd y Partïon ym mis Rhagfyr 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 37 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(f)

38Adroddiadau o dan adran 6 o Ddeddf yr AmgylcheddLL+C

(1)Yn adran 6(7) o Ddeddf yr Amgylchedd, yn lle “i gydymffurfio ag is-adran (1)” rhodder

(a)i gydymffurfio ag is-adran (1), a

(b)pan fo is-adran (2A) yn gymwys, i gyfrannu at gyrraedd y targed y mae wedi ei ddynodi mewn perthynas ag ef.

(2)Ar ôl adran 6(7) o Ddeddf yr Amgylchedd, mewnosoder—

(7A)Rhaid i’r adroddiad a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (7), yn benodol, adrodd ar y cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at gyrraedd y targedau a osodir mewn rheoliadau o dan adran 6B ac a ydynt yn debygol o gael eu cyrraedd.

(7B)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi eu hadroddiad o dan is-adran (7), rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi ohono i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru.

(7C)Mae anfon copi o’r adroddiad o dan is-adran (7B) i’w drin fel cais gan Weinidogion Cymru i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru am gyngor o dan adran 13 o Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 (dsc xx).

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 38 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(f)

39Adroddiad gwerthusoLL+C

(1)Ar ôl adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd, mewnosoder—

6AGwerthusiad o gamau i gynnal a gwella bioamrywiaeth

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi adroddiad o dan yr adran hon (“adroddiad gwerthuso”).

(2)Rhaid i’r adroddiad gwerthuso nodi asesiad Gweinidogion Cymru o effaith ac effeithiolrwydd y cynigion a nodir yn unol ag adran 6(6) a (6B) yn y cynllun a gyhoeddwyd ganddynt yn fwyaf diweddar a chamau a gymerwyd yn unol â’r cynigion hynny.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad gwerthuso cyntaf cyn diwedd 2031, ac, wedi hynny, cyn diwedd pob trydedd flwyddyn ar ôl 2031.

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi adroddiad gwerthuso, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi ohono i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru.

(5)Mae anfon copi o’r adroddiad o dan is-adran (4) i’w drin fel cais gan Weinidogion Cymru i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru am gyngor o dan adran 13 o Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 (dsc xx).

(2)Yn adran 24 o Ddeddf yr Amgylchedd—

(a)yn is-adran (1), o flaen paragraff (a), mewnosoder—

(za)adroddiad gwerthuso a baratowyd o dan adran 6A;;

(b)yn is-adran (3), ar ôl “is-adran (1)”, mewnosoder “mewn perthynas â’r dogfennau a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (b),”.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 39 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(f)

40Hybu ymwybyddiaeth o fioamrywiaethLL+C

(1)Yn lle’r croesbennawd italig o flaen adran 9 o Ddeddf yr Amgylchedd, rhodder—

Dyletswyddau ar Weinidogion Cymru.

(2)Ar ôl y croesbennawd italig hwnnw, mewnosoder—

8ADyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth

Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth yng Nghymru o bwysigrwydd bioamrywiaeth a’r bygythiadau i fioamrywiaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 40 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(f)

RHAN 4LL+CCYFFREDINOL

41Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad ac eithrio’r Ddeddf hon.

(3)Yn is-adran (2) mae “addasu” yn cynnwys diwygio, dirymu a diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 41 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 46(1)

42RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol Cymreig.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys—

(a)pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)pŵer i wneud—

(i)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(ii)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Mae rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd—

(a)adran 31(4);

(b)adran 46(8);

(c)paragraff 2(3) o Atodlen 1;

(d)paragraff 3(1)(i) o Atodlen 1.

(4)Mae rheoliadau a wneir o dan adran 41(1) hefyd yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd os ydynt yn addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(5)Mae unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 41(1) yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur Cynulliad;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 42 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 46(1)

43Cyflwyno hysbysiadau a dogfennau eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad, cyfarwyddyd neu ddogfen arall i berson (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “rhoi”, “cyflwyno”, “anfon” neu unrhyw ymadrodd arall).

(2)Caniateir rhoi’r ddogfen drwy unrhyw un o’r ffyrdd a ganlyn—

(a)drwy ei rhoi â llaw i’r person neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, ei rhoi â llaw i ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;

(b)drwy ei gadael ym man preswylio arferol neu fan preswylio hysbys diwethaf y person neu, os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, yn y cyfeiriad hwnnw;

(c)drwy ei hanfon drwy’r post mewn llythyr rhagdaledig—

(i)wedi ei gyfeirio at y person ym man preswylio arferol neu fan preswylio hysbys diwethaf y person neu, yn achos person sy’n gorff corfforedig, wedi ei gyfeirio at ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu

(ii)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, wedi ei gyfeirio at y person yn y cyfeiriad hwnnw;

(d)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig, drwy ei hanfon at y person yn y cyfeiriad hwnnw gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig sy’n cydymffurfio â’r amodau yn is-adran (3).

(3)Yr amodau yw—

(a)bod modd i’r person yr anfonir y ddogfen ato gael gafael arni,

(b)bod y ddogfen yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac

(c)bod modd defnyddio’r ddogfen i gyfeirio ati yn nes ymlaen.

(4)Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy ei gadael mewn cyfeiriad yn unol ag is-adran (2)(b), bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod y gadewir y ddogfen yn y cyfeiriad hwnnw.

(5)Pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno dogfen i berson yn unol ag is-adran (2)(d) a bod y ddogfen yn dod i law’r person y tu allan i oriau busnes arferol y person, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno ar y diwrnod gwaith nesaf.

(6)Nid yw adrannau 231 a 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) yn gymwys i ddogfennau sydd i’w rhoi o dan y Ddeddf hon i gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned na chyd-bwyllgor corfforedig, nac i’w rhoi ganddynt o dan y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 43 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 46(1)

44Dehongli cyffredinolLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “adroddiad gwella” (“improvement report”) yw adroddiad a gyhoeddir o dan adran 22;

  • mae i “amcan amgylcheddol” (“environmental objective”) yr ystyr a roddir gan adran 1;

  • ystyr “amgylchedd” (“environment”) yw—

    (a)

    aer, dŵr a thir (gan gynnwys cramen y ddaear),

    (b)

    planhigion, anifeiliaid gwyllt ac organeddau byw eraill a’u cynefinoedd, ac

    (c)

    y systemau naturiol, y cylchoedd naturiol a’r prosesau naturiol y mae’r pethau ym mharagraffau (a) a (b) yn rhyngweithio drwyddynt;

  • mae i “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yr ystyr a roddir—

    (a)

    mewn perthynas ag adrannau 5 a 6, gan adran 5(4);

    (b)

    mewn perthynas â Rhan 2, gan adran 32;

  • mae i “cyfraith amgylcheddol” (“environmental law”) yr ystyr a roddir gan adran 31;

  • ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw cynllun a gyhoeddir o dan adran 24;

  • ystyr “datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd” (“environmental principles and integrating environmental protection statement”) yw datganiad a lunnir ac a gyhoeddir o dan adran‍ 7;

  • ystyr “Deddf yr Amgylchedd” (“the Environment Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3);

  • ystyr “diogelu’r amgylchedd” (“environmental protection”) yw—

    (a)

    diogelu’r amgylchedd rhag effeithiau gweithgarwch dynol;

    (b)

    cynnal, adfer neu wella’r amgylchedd;

    (c)

    diogelu pobl, a’u hiechyd yn benodol, rhag effeithiau gweithgarwch dynol ar yr amgylchedd;

    (d)

    monitro, asesu neu ystyried unrhyw beth ym mharagraffau (a) i (c) neu gynghori neu adrodd arno;

  • mae i “effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol” (“effectiveness of environmental law”) yr ystyr a roddir gan adran 33;

  • mae i “egwyddorion amgylcheddol” (“environmental principles”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • ystyr “hysbysiad cydymffurfio” (“compliance notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan adran 18;

  • mae i “hysbysiad cydymffurfio brys” (“urgent compliance notice”) yr ystyr a roddir gan adran 19(4);

  • ystyr “hysbysiad gwybodaeth” (“information notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan adran 15;

  • mae i “methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol” (“failing to comply with environmental law”) yr ystyr a roddir gan adran 34;

  • ystyr “SLlAC” (“the OEGW”) yw Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru sydd wedi ei sefydlu o dan adran 8(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 44 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 46(1)

Rhagolygol

45Diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth o ganlyniad i’r Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 45 mewn grym ar 27.6.2026 at ddibenion penodedig, gweler a. 46(2)(g)

I47A. 45 mewn grym ar 27.4.2028 (conditional on an earlier day not being appointed by Welsh Ministers), gweler a. 46(4)(5)(6)(d)

46Dod i rymLL+C

(1)Daw’r Rhan hon, ar wahân i adran 45, i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adrannau 1 a 2;

(b)adran 6 ac adran 7, ac eithrio is-adran (1)(c);

(c)adrannau 8 a 10 ac Atodlen 1, ac eithrio paragraffau 10 ac 21;

(d)adran 30 ac Atodlen 3;

(e)adrannau 31 i 34;

(f)Rhan 3;

(g)paragraffau 1‍ i 4 o Atodlen 4 (ac adran 45 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny).

(3)Daw adrannau 3 i‍ 5 i rym ar 31 Mawrth 2027.

(4)Ac eithrio fel a ddarperir gan is-adrannau (1) i (3), ac yn ddarostyngedig i is-adran (5), daw darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.

(5)Os nad yw’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (6) wedi dod i rym erbyn diwedd y cyfnod o 24 o fisoedd sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol, maent yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(6)Y darpariaethau yw—

(a)adran 7(1)(c);

(b)paragraffau 10 ac 21 o Atodlen 1;

(c)adrannau 11 i 29 ac Atodlen 2;

(d)paragraff 5 o Atodlen 4 (ac adran 45 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraff hwnnw).

(7)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;

(b)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

(8)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (5) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir am y tro yn yr is-adran honno.

(9)Ni chaiff y cyfnod a amnewidir yn unol ag is-adran (8) fod yn hwy na 48 o fisoedd sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 46 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 46(1)

47Enw byrLL+C

Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—

(a)Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026, neu

(b)the Environment (Principles, Governance and Biodiversity Targets) (Wales) Act 2026.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 47 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 46(1)

Rhagolygol

(a gyflwynir gan adran 8)

ATODLEN 1LL+CSWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

RHAN 1LL+CSTATWS

StatwsLL+C

1(1)Nid yw SLlAC i’w hystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, unrhyw imiwnedd nac unrhyw fraint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo SLlAC i’w ystyried yn eiddo i’r Goron nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

RHAN 2LL+CAELODAETH

AelodauLL+C

2(1)Aelodau SLlAC yw—

(a)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn gadeirydd arni,

(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn ddirprwy gadeirydd arni,

(c)o leiaf 3 a dim mwy na 5 person arall a benodir gan Weinidogion Cymru, a

(d)ei phrif weithredwr (gweler paragraff 6).

(2)Yn yr Atodlen hon, cyfeirir at y cadeirydd, y dirprwy gadeirydd ac aelodau SLlAC a benodir o dan is-baragraff (1)(c) ar y cyd fel “aelodau anweithredol”.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-baragraff (1)(c) i roi rhif gwahanol yn lle’r naill neu’r llall o’r rhifau neu’r ddau rif a bennir am y tro yn yr is-baragraff hwnnw.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)pwyllgor yn Senedd Cymru y mae diogelu’r amgylchedd am y tro wedi ei gynnwys o fewn ei gylch gwaith,

(b)SLlAC, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

AnghymwysoLL+C

3(1)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o SLlAC os yw’r person—

(a)yn aelod o—

(i)Senedd Cymru;

(ii)Tŷ’r Cyffredin;

(iii)Tŷ’r Arglwyddi;

(iv)Senedd yr Alban;

(v)Cynulliad Gogledd Iwerddon;

(b)yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(c)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(d)yn aelod o Gyfoeth Naturiol Cymru;

(e)yn aelod o Lywodraeth Cymru;

(f)yn un o Weinidogion y Goron;

(g)yn aelod o Lywodraeth yr Alban;

(h)yn un o Weinidogion Gogledd Iwerddon;

(i)yn ddeiliad swydd, neu’n aelod o gorff neu’n aelod o staff corff, a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(2)Mae person hefyd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod anweithredol os yw’r person yn aelod o staff SLlAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

Telerau aelodau anweithredolLL+C

4(1)Mae aelod anweithredol o SLlAC yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) a pharagraff 5.

(2)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 4 blynedd.

(3)Ni chaniateir penodi person yn aelod anweithredol am fwy na 2 gyfnod yn y swydd (ac mae is-baragraff (2) yn gymwys i bob cyfnod yn y swydd).

(4)At ddibenion is-baragraff (3), nid yw’r canlynol yn cyfrif fel penodiadau am gyfnod yn y swydd—

(a)penodiad person yn gadeirydd neu’n ddirprwy gadeirydd am gyfnod o 12 mis neu lai o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 9(2), neu

(b)penodiad person yn aelod anweithredol ac eithrio yn gadeirydd neu’n ddirprwy gadeirydd am gyfnod o 12 mis neu lai o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 9(4).

(5)Caiff SLlAC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, dalu unrhyw dâl, unrhyw dreuliau ac unrhyw lwfansau i’w haelodau anweithredol y mae SLlAC yn penderfynu arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

Diswyddo etc. aelodau anweithredolLL+C

5(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad i berson sy’n aelod anweithredol, ddiswyddo’r person os ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod y person yn anaddas i barhau i fod yn aelod, neu

(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu nad yw’n fodlon gwneud hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad i berson sy’n aelod anweithredol, atal dros dro y person o’i swydd os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3)Mae ataliad dros dro o dan is-baragraff (2) yn cael effaith—

(a)am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)os na phennir cyfnod yn yr hysbysiad, hyd nes y bo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad pellach i’r person sydd wedi ei atal dros dro.

(4)Cyn diswyddo aelod anweithredol o dan is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyflwyno hysbysiad i’r aelod sy’n—

(i)hysbysu’r aelod am y diswyddiad arfaethedig,

(ii)nodi’r rhesymau dros y diswyddiad arfaethedig, a

(iii)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw sylwadau am y diswyddiad arfaethedig gael eu cyflwyno o fewn 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad;

(b)ymgynghori â chadeirydd a dirprwy gadeirydd SLlAC.

(5)Nid yw is-baragraff (4) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen i’r diswyddiad gymryd effaith ar frys.

(6)Nid yw is-baragraff (4)(b)—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cadeirydd neu’r dirprwy gadeirydd—

(i)pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw o dan is-baragraff (4)(a), na

(ii)pan nad yw’r person hwnnw’n gallu gweithredu am y tro, na

(b)yn gymwys pan fo swydd y cadeirydd neu (yn ôl y digwydd) y dirprwy gadeirydd yn wag am y tro.

(7)Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi o leiaf 3 mis o rybudd i Weinidogion Cymru a SLlAC.

(8)Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol o SLlAC os yw’r person hwnnw’n dod yn anghymwys (gweler paragraff 3).

(9)Ni chaiff person sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd o dan is-baragraff (2) gymryd rhan yn nhrafodion SLlAC, na thrafodion ei phwyllgorau neu ei his-bwyllgorau neu gyd-bwyllgor, yn ystod y cyfnod y mae’r ataliad dros dro yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

RHAN 3LL+CSTAFF

Prif weithredwrLL+C

6(1)Rhaid i SLlAC gael prif weithredwr.

(2)Mae prif weithredwr cyntaf SLlAC i’w benodi gan Weinidogion Cymru ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau a phensiwn) y maent yn penderfynu arnynt.

(3)Mae penodiadau dilynol i’w gwneud gan aelodau anweithredol SLlAC ar unrhyw delerau ac amodau y maent yn penderfynu arnynt.

(4)Ond ni chaiff aelodau anweithredol SLlAC benderfynu ar delerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau neu bensiwn heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(5)Mae’r prif weithredwr yn aelod o staff SLlAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

Staff eraillLL+C

7(1)Caiff SLlAC benodi aelodau eraill o staff.

(2)Penodir aelod o staff a benodir o dan y paragraff hwn ar unrhyw delerau ac amodau y mae SLlAC yn penderfynu arnynt.

(3)Ond ni chaiff SLlAC benderfynu ar delerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau neu bensiwn heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

RHAN 4LL+CGOFYNION PENODI

Gofynion penodiLL+C

8(1)Wrth benodi person yn aelod anweithredol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb bod aelodau SLlAC (rhyngddynt) yn meddu ar brofiad o’r canlynol, a’u bod wedi dangos galluedd ynddynt—

(a)cyfraith amgylcheddol a pholisi amgylcheddol;

(b)gwyddor amgylcheddol;

(c)achosion ymchwilio a gorfodi.

(2)Cyn penodi neu ailbenodi person yn gadeirydd neu’n ddirprwy gadeirydd SLlAC, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y penodiad arfaethedig â phwyllgor yn Senedd Cymru y mae diogelu’r amgylchedd am y tro wedi ei gynnwys o fewn ei gylch gwaith.

(3)Cyn penodi person yn aelod anweithredol neu’n brif weithredwr yn unol â pharagraff 6(2), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)sefydlu panel i wneud argymhellion i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ymgeiswyr ar gyfer penodiad o’r fath, a

(b)rhoi sylw i argymhellion y panel.

(4)Rhaid i’r panel fod wedi ei gyfansoddi o—

(a)1 aelod o Senedd Cymru sydd wedi ei enwebu gan bwyllgor yn Senedd Cymru y mae diogelu’r amgylchedd am y tro wedi ei gynnwys o fewn ei gylch gwaith,

(b)1 aelod o staff Llywodraeth Cymru, a

(c)2 aelod annibynnol.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni—

(a)bod pob aelod o’r panel, ac eithrio’r aelod o Senedd Cymru a benodir i’r panel yn unol ag is-baragraff (4)(a), yn meddu ar brofiad o un o leiaf o’r materion a restrir yn is-baragraff (1)(a) i (c), a

(b)bod aelodau’r panel (rhyngddynt) yn meddu ar brofiad o’r holl faterion hynny.

(6)Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â phenodiad person am ail gyfnod yn y swydd pan fyddai’n dilyn yn union ar ôl y cyntaf.

(7)Nid yw is-baragraff (4)(a) yn gymwys pan fo’r pwyllgor a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw yn gwrthod gwneud enwebiad neu’n methu â gwneud hynny o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud cais am yr enwebiad.

(8)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (7), nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw adeg pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

Datgymhwyso gofynion penodi: aelodau interimLL+C

9(1)Nid yw paragraff 8(2) a (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi person yn gadeirydd neu’n ddirprwy gadeirydd SLlAC am gyfnod o 12 mis neu lai o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-baragraff (2).

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cadeirydd neu (yn ôl y digwydd) ddirprwy gadeirydd SLlAC—

(i)wedi peidio â bod yn aelod o SLlAC cyn diwedd cyfnod y swydd a bennir yn ei delerau penodi (oherwydd marwolaeth, ymddiswyddo, anghymhwyso neu ddiswyddo), neu

(ii)wedi ei atal dros dro o’i swydd o dan baragraff 5(2), a

(b)o ganlyniad, na ellir bodloni cworwm SLlAC a bennir yn y rheolau a wneir o dan baragraff 14.

(3)Nid yw paragraff 8(3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi person yn aelod anweithredol ac eithrio cadeirydd neu ddirprwy gadeirydd am gyfnod o 12 mis neu lai o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-baragraff (4).

(4)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod un neu ragor o bersonau—

(i)wedi peidio â bod yn aelod neu’n aelodau o SLlAC cyn diwedd cyfnod y swydd a bennir yn ei delerau penodi neu eu telerau penodi (oherwydd marwolaeth, ymddiswyddo, anghymhwyso neu ddiswyddo), neu

(ii)wedi ei atal dros dro o’i swydd neu eu hatal dros dro o’u swyddi o dan baragraff 5(2), a

(b)o ganlyniad, na ellir bodloni cworwm SLlAC a bennir yn y rheolau a wneir o dan baragraff 14.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

RHAN 5LL+CPWYLLGORAU A DIRPRWYO

Pwyllgor adolyguLL+C

10(1)Rhaid i SLlAC sefydlu pwyllgor (“y pwyllgor adolygu”) i gynnal adolygiadau y gwneir cais amdanynt o dan adran 20(1).

(2)Caiff SLlAC gynnwys fel aelodau o’r pwyllgor adolygu unrhyw un neu ragor o aelodau SLlAC neu unrhyw aelodau o staff.

(3)Rhaid i SLlAC hefyd‍ benodi i’r pwyllgor adolygu 1 neu ragor o bersonau nad ydynt yn aelodau o SLlAC nac yn aelodau o’i staff (“aelodau cyfetholedig”).

(4)Ni chaiff SLlAC benodi person yn aelod cyfetholedig oni bai bod enw’r person wedi ei gynnwys ar restr a gynhelir ac a gyhoeddir gan‍ SLIAC o bersonau y caniateir eu penodi yn aelodau cyfetholedig.

(5)Ni chaiff‍ SLIAC gynnwys personau ar y rhestr oni bai‍ ei bod yn ystyried eu bod yn meddu ar brofiad o un neu ragor o’r canlynol, a galluedd ynddynt—

(a)cyfraith amgylcheddol a pholisi amgylcheddol;

(b)gwyddor amgylcheddol;

(c)achosion ymchwilio a gorfodi.

(6)Rhaid i reolau a wneir o dan baragraff 14(3) neu (yn ôl y digwydd) benderfyniad a wneir o dan baragraff 14(4) ddarparu—

(a)ar gyfer y weithdrefn sydd i’w defnyddio gan y pwyllgor adolygu i benodi un o’i aelodau yn gadeirydd arno,

(b)bod gan aelodau cyfetholedig hawlogaeth i bleidleisio yng nghyfarfodydd y pwyllgor adolygu, ac

(c)na chaiff aelod o’r pwyllgor adolygu gymryd rhan na phleidleisio yn y pwyllgor os yw’n cynnal adolygiad o hysbysiad cydymffurfio y bu’r aelod yn ymwneud ag ef.

(7)Caiff SLlAC dalu unrhyw dâl, unrhyw dreuliau ac unrhyw lwfansau y mae’n penderfynu arnynt i aelodau cyfetholedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(b)

Pwyllgorau ac is-bwyllgorau eraillLL+C

11(1)Caiff SLlAC sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau (yn ogystal â’r pwyllgor adolygu y mae’n ofynnol iddi ei sefydlu o dan baragraff 10).

(2)Caiff pwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn sefydlu is-bwyllgorau.

(3)Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o SLlAC nac yn aelodau o’i staff (“aelodau cyfetholedig”).

(4)Nid oes gan aelod cyfetholedig hawlogaeth i bleidleisio mewn pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn oni bai ei fod wedi ei awdurdodi gan reolau a wneir o dan baragraff 14(3) neu benderfyniad a wneir o dan baragraff 14(4).

(5)Caiff SLlAC dalu unrhyw dâl, unrhyw dreuliau ac unrhyw lwfansau y mae’n penderfynu arnynt i aelodau cyfetholedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

Cyd-bwyllgorauLL+C

12(1)Caiff SLlAC, mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, sefydlu pwyllgor ar y cyd ag unrhyw berson.

(2)Yn yr Atodlen hon, cyfeirir at bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn fel “cyd-bwyllgor”.

(3)Caiff SLlAC dalu tâl a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o gyd-bwyllgor, ond

(b)nad yw’n aelod o SLlAC nac yn aelod o’i staff.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

DirprwyoLL+C

13(1)Caiff SLlAC ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i unrhyw un neu ragor—

(a)o’i phwyllgorau,

(b)o’i his-bwyllgorau (pa un ai y’u sefydlir o dan baragraff 11(1) neu (2)),

(c)o’i haelodau, neu

(d)o’i haelodau o staff.

(2)Caiff pwyllgor o SLlAC ddirprwyo unrhyw swyddogaeth sy’n arferadwy ganddo i—

(a)is-bwyllgor o SLlAC (pa un ai y’i sefydlir o dan baragraff 11(1) neu (2)),

(b)aelod o SLlAC, neu

(c)aelod o staff SLlAC.

(3)Caiff is-bwyllgor o SLlAC (pa un ai y’i sefydlir o dan baragraff 11(1) neu (2)) ddirprwyo unrhyw swyddogaeth sy’n arferadwy ganddo i—

(a)aelod o SLlAC, neu

(b)aelod o staff SLlAC.

(4)Caiff SLlAC—

(a)penderfynu na chaiff pwyllgor neu is-bwyllgor o SLlAC ddirprwyo swyddogaeth a bennir yn y penderfyniad;

(b)amrywio neu ddirymu dirprwyad a wnaed gan bwyllgor neu is-bwyllgor o SLlAC;

(c)amrywio penderfyniad, amrywiad neu ddirymiad a wnaed gan bwyllgor o dan is-baragraff (5).

(5)Caiff pwyllgor o SLlAC sydd wedi dirprwyo swyddogaeth i is-bwyllgor—

(a)penderfynu na chaiff yr is-bwyllgor ddirprwyo’r swyddogaeth;

(b)amrywio neu ddirymu unrhyw ddirprwyad o’r swyddogaeth honno a wnaed gan yr is-bwyllgor hwnnw.

(6)Dirprwyir swyddogaeth o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau a bennir gan y person sy’n gwneud y dirprwyad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (4) a (5).

(7)Nid yw dirprwyo swyddogaeth o dan y paragraff hwn yn atal SLlAC (neu’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor yn ôl y digwydd) rhag arfer y swyddogaeth.

(8)Nid yw dirprwyo swyddogaeth o dan y paragraff hwn yn effeithio ar gyfrifoldeb SLlAC dros arfer y swyddogaeth.

(9)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i swyddogaethau SLlAC na’i phwyllgor adolygu o dan adran 20 na pharagraff 10 o’r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

RHAN 6LL+CGWEITHDREFN ETC.

GweithdrefnLL+C

14(1)Rhaid i SLlAC wneud rheolau i reoleiddio ei gweithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm).

(2)Ni chaiff y nifer a bennir yn y rheolau fel cworwm SLlAC fod yn is na 4.

(3)Rhaid i SLlAC wneud rheolau i reoleiddio gweithdrefn ei phwyllgorau a’i his-bwyllgorau (gan gynnwys cworwm).

(4)Caiff rheolau a wneir gan SLlAC o dan is-baragraff (3) awdurdodi ei phwyllgorau a’i his-bwyllgorau i benderfynu ar eu gweithdrefn eu hunain (gan gynnwys cworwm).

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

Dilysrwydd trafodion a gweithredoeddLL+C

15Nid yw’r canlynol yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion a gweithredoedd SLlAC (na’i phwyllgorau a’i his-bwyllgorau, na chyd-bwyllgor)—

(a)swydd wag ymhlith aelodaeth SLlAC, na

(b)unrhyw ddiffyg o ran penodi aelod.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

RHAN 7LL+CMATERION ARIANNOL

CyllidLL+C

16(1)Rhaid i Weinidogion Cymru dalu i SLlAC unrhyw symiau y maent yn ystyried eu bod yn ddigonol i’w galluogi i gyflawni ei swyddogaethau.

(2)Caniateir i daliadau Gweinidogion Cymru i SLlAC gael eu gwneud ar unrhyw adegau ac yn unol ag unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

Swyddog cyfrifydduLL+C

17(1)Prif weithredwr SLlAC yw ei swyddog cyfrifyddu.

(2)Os nad yw’r prif weithredwr yn gallu cyflawni cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, rhaid i SLlAC enwebu aelod arall o’i staff i fod y swyddog cyfrifyddu am gyhyd ag y bo’r prif weithredwr yn analluog i gyflawni’r cyfrifoldebau.

(3)Os yw swydd y prif weithredwr yn wag, rhaid i SLlAC enwebu aelod o’i staff i fod y swyddog cyfrifyddu am gyhyd ag y bo swydd y prif weithredwr yn parhau i fod yn wag.

(4)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid SLlAC, y cyfrifoldebau a bennir am y tro gan Weinidogion Cymru.

(5)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys (ymhlith pethau eraill)—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi’r cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid SLlAC;

(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran sut y mae SLlAC yn defnyddio ei hadnoddau;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Senedd Cymru neu ei Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

CyfrifonLL+C

18(1)Rhaid i SLlAC, ar gyfer pob blwyddyn ariannol—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â’r cyfrifon hynny, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon.

(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,

(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno,

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy, a

(d)gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r datganiad.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i SLlAC gyflwyno ei datganiad o gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol honno i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(4)Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn ariannol” yw—

(a)y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym ac sy’n dod i ben â’r ail 31 Mawrth yn dilyn y diwrnod hwnnw, a

(b)wedi hynny, pob cyfnod olynol o 12 mis.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

ArchwilioLL+C

19(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob datganiad o gyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru gan SLlAC o dan baragraff 18(3).

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno;

(b)darparu copi o’r datganiad ardystiedig o gyfrifon a’r adroddiad i SLlAC.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod pan gyflwynir y datganiad o gyfrifon (“y cyfnod o 4 mis”), osod gerbron Senedd Cymru—

(a)copi o’r datganiad ardystiedig o gyfrifon a’r adroddiad, neu

(b)os nad yw’n rhesymol ymarferol cydymffurfio â pharagraff (a), ddatganiad i’r perwyl hwnnw, y mae rhaid iddo gynnwys rhesymau o ran pam hynny.

(4)Pan fo datganiad wedi ei osod o dan is-baragraff (3)(b), rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru osod copi o’r datganiad ardystiedig o gyfrifon a’r adroddiad gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 4 mis.

(5)Wrth gydymffurfio ag is-baragraff (2), rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio a aed, ym marn Archwilydd Cyffredinol Cymru, i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sy’n llywodraethu’r gwariant, ac adrodd ar hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

Archwilio’r defnydd o adnoddauLL+C

20(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran sut y mae adnoddau wedi eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau SLlAC.

(2)Ond nid yw hynny’n rhoi hawlogaeth i Archwilydd Cyffredinol Cymru i gwestiynu rhinweddau amcanion polisi SLlAC.

(3)Cyn cynnal archwiliad, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)ymgynghori â Senedd Cymru, a

(b)ystyried barn Senedd Cymru ynghylch pa un a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)cyn gynted ag y bo‘n rhesymol ymarferol, gyhoeddi adroddiad o ganlyniadau archwiliad a gynhaliwyd o dan y paragraff hwn, a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

RHAN 8LL+CGOFYNION ADRODD

Adroddiad blynyddolLL+C

21(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i SLlAC—

(a)llunio a chyhoeddi adroddiad ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol honno, a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Senedd Cymru.

(2)Os yw adroddiad yn nodi bod SLlAC yn ystyried na wnaeth Gweinidogion Cymru ddarparu symiau digonol iddi i gyflawni ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi, rhaid i SLlAC gyflwyno’r adroddiad i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(b)

RHAN 9LL+CDARPARIAETHAU ATODOL

Cofrestr buddiannauLL+C

22(1)Rhaid i SLlAC sefydlu a chynnal cofrestr o fuddiannau ei haelodau.

(2)Rhaid i SLlAC gyhoeddi’r cofnodion a gofnodir yn y gofrestr o fuddiannau’r aelodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

Pwerau atodolLL+C

23(1)Caiff SLlAC wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod—

(a)yn briodol at ddibenion ei swyddogaethau, neu mewn cysylltiad â’i swyddogaethau, neu

(b)yn ddeilliadol neu’n ffafriol i arfer y swyddogaethau hynny.

(2)Ond ni chaiff SLlAC—

(a)codi ffioedd;

(b)cael benthyg arian;

(c)buddsoddi arian;

(d)rhoi grantiau, rhoi benthyg arian na rhoi cymorth ariannol arall;

(e)derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(c)

(a gyflwynir gan adran 11)

ATODLEN 2LL+CSWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU: STRATEGAETH

CynnwysLL+C

1(1)Rhaid i’r strategaeth a lunnir ac a gyhoeddir o dan adran 11(1) nodi sut y mae SLlAC yn bwriadu—

(a)cydymffurfio ag—

(i)ei dyletswydd i arfer ei swyddogaethau at y diben cyffredinol‍ a nodir yn adran 10(a), a

(ii)ei dyletswyddau o dan ddeddfiadau eraill, gan gynnwys y ddyletswydd i ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan Ran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2);

(b)gweithredu’n ddiduedd, yn wrthrychol, yn gymesur ac yn dryloyw;

(c)monitro datblygiadau o ran effeithiolrwydd deddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelu’r amgylchedd sy’n gymwys ac eithrio yng Nghymru neu a wneir gan sefydliadau rhyngwladol;

(d)cydlafurio â phersonau eraill at ddiben arfer ei swyddogaethau;

(e)arfer ei swyddogaethau mewn ffordd sy’n ceisio osgoi gorgyffwrdd ag arfer swyddogaethau gan—

  • Archwilydd Cyffredinol Cymru,

  • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol,

  • y Comisiynydd Gwybodaeth,

  • Cyfoeth Naturiol Cymru,

  • Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

  • y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 32 o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 (p. 27)), ac

  • unrhyw berson arall yr ymddengys i SLlAC y gallai ei swyddogaethau orgyffwrdd â swyddogaethau SLlAC.

(2)Rhaid i’r strategaeth hefyd nodi sut y mae SLlAC yn bwriadu—

(a)wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 12(1), fonitro unrhyw dargedau sy’n ymwneud â’r amgylchedd a osodir gan gyfraith amgylcheddol neu odani;‍

(b)rheoli sylwadau y mae’n eu cael yn unol â’r ddogfen a gyhoeddir o dan adran 16, gan gynnwys ei pholisi ar—

(i)cyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â’r sylwadau, a

(ii)blaenoriaethu ei hystyriaeth o’r sylwadau;‍

(c)galluogi awdurdod cyhoeddus i gyflwyno sylwadau iddi ynghylch hysbysiad gwybodaeth a gyflwynwyd i’r awdurdod.

(3)Rhaid i’r strategaeth hefyd gynnwys polisi ymchwilio SLlAC, gan nodi yn benodol—

(a)sut y mae SLlAC yn bwriadu ystyried gwahanol fathau o wybodaeth wrth benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad;

(b)amgylchiadau pan fo’n bosibl y bydd SLlAC yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad;

(c)sut y mae SLlAC yn bwriadu blaenoriaethu ymchwiliadau;

(d)sut y mae SLlAC yn bwriadu ymgysylltu ag awdurdod cyhoeddus y mae SLlAC yn cynnal, neu’n ystyried cynnal, ymchwiliad mewn perthynas ag ef;

(e)sut y mae SLlAC yn bwriadu cyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â’i hymchwiliadau.

(4)Rhaid i’r strategaeth hefyd gynnwys polisi gorfodi SLlAC, gan nodi yn benodol—

(a)amgylchiadau pan fo’n bosibl y bydd SLlAC yn penderfynu—

(i)cyflwyno hysbysiad cydymffurfio,

(ii)cyhoeddi adroddiad gwella yn lle cyflwyno hysbysiad cydymffurfio, neu

(iii)peidio â chyflwyno hysbysiad cydymffurfio na chyhoeddi adroddiad gwella;

(b)sut y mae SLlAC yn bwriadu blaenoriaethu achosion y mae’n ystyried ei bod yn briodol cyflwyno hysbysiad cydymffurfio ynddynt;

(c)sut y mae SLlAC yn bwriadu ymgysylltu ag awdurdod cyhoeddus y mae’n bosibl y bydd SLlAC yn cyflwyno hysbysiad cydymffurfio neu gyhoeddi adroddiad gwella, neu y bydd yn cyflwyno hysbysiad cydymffurfio neu gyhoeddi adroddiad gwella, mewn perthynas ag ef;

(d)sut y mae SLlAC yn bwriadu penderfynu—

(i)at ddibenion adran 19(1), a yw’n ofynnol cymryd camau a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio ar frys er mwyn atal neu liniaru risg bod niwed difrifol ar fin digwydd i’r amgylchedd neu i iechyd pobl, neu

(ii)a ddylid gwneud cais i’r Uchel Lys am adolygiad o dan adran 21(1);

(e)sut y mae SLlAC yn bwriadu cyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â hysbysiadau cydymffurfio, adolygiadau o hysbysiadau cydymffurfio, ac adroddiadau gwella.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

Gofynion gweithdrefnolLL+C

2(1)Wrth lunio’r strategaeth, rhaid i SLlAC ymgynghori ag—

(a)pwyllgor yn Senedd Cymru y mae diogelu’r amgylchedd am y tro wedi ei gynnwys o fewn ei gylch gwaith, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(2)Rhaid i SLlAC adolygu ei strategaeth—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf, a

(b)yn dilyn hynny cyn diwedd pob cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr adolygiad blaenorol.

(3)Caiff SLlAC ddiwygio ei strategaeth yn dilyn adolygiad o dan is-baragraff (2).

(4)Mae is-baragraff (1) yn gymwys i ddiwygio strategaeth SLlAC o dan is-baragraff (3) fel y mae’n gymwys i lunio’r strategaeth yn wreiddiol.

(5)Os yw SLlAC yn diwygio ei strategaeth o dan is-baragraff (3), rhaid iddi gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Rhaid i SLlAC, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi’r strategaeth neu strategaeth ddiwygiedig, osod copi o’r strategaeth neu’r strategaeth ddiwygiedig gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)

(a gyflwynir gan adran 30)

ATODLEN 3LL+CCYNLLUNIAU TROSGLWYDDO STAFF

Pŵer i wneud cynlluniau trosglwyddo staffLL+C

1(1)Caiff Gweinidogion Cymru lunio un neu ragor o gynlluniau sy’n darparu i aelodau o staff Llywodraeth Cymru ddod yn aelodau o staff SLlAC (“cynllun trosglwyddo staff”).

(2)Caiff cynllun trosglwyddo staff (ymhlith pethau eraill)—

(a)darparu ar gyfer trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau;

(b)darparu bod unrhyw beth sydd wedi ei wneud (neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud) gan Lywodraeth Cymru neu mewn perthynas â hi i gael ei drin fel pe bai wedi ei wneud gan SLlAC neu mewn perthynas â hi;

(c)gwneud unrhyw ddarpariaeth arall sydd yr un fath â darpariaeth neu sy’n debyg i ddarpariaeth a wneir gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246) mewn achos pan nad yw’r Rheoliadau hynny’n gymwys;

(d)darparu ar gyfer parhad a dilysrwydd unrhyw beth a wnaed gan Lywodraeth Cymru neu mewn perthynas â hi cyn y trosglwyddiad;

(e)darparu bod cyfeiriadau at Lywodraeth Cymru mewn offeryn neu ddogfen arall i’w trin fel cyfeiriadau at SLlAC;

(f)gwneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth drosiannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(d)

Addasu cynlluniau trosglwyddo staffLL+C

2(1)Caiff Gweinidogion Cymru addasu cynllun trosglwyddo staff.

(2)Ond os yw trosglwyddiad staff o dan y cynllun wedi cymryd effaith, ni chaniateir gwneud unrhyw addasiad sy’n ymwneud â’r trosglwyddiad ond gyda chytundeb y person y mae’r addasiad yn effeithio arno (neu’r personau y mae’r addasiad yn effeithio arnynt).

(3)Mae addasiad yn dod i rym o’r dyddiad y daeth y cynllun gwreiddiol i rym neu ba bynnag ddyddiad diweddarach a bennir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(d)

Dyletswydd i osod cynlluniau trosglwyddo staff gerbron Senedd CymruLL+C

3Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o gynllun trosglwyddo staff gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(d)

DehongliLL+C

4(1)At ddibenion yr Atodlen hon—

(a)mae unigolyn sydd â chyflogaeth yn y gwasanaeth sifil i’w drin fel pe bai wedi ei gyflogi yn rhinwedd contract cyflogaeth, a

(b)mae telerau cyflogaeth yr unigolyn yn y gwasanaeth sifil i’w hystyried fel pe baent yn ffurfio telerau’r contract cyflogaeth.

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “gwasanaeth sifil” yw gwasanaeth sifil y Wladwriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(d)

(a gyflwynir gan adran 45)

ATODLEN 4LL+CDIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25)LL+C

1(1)Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 81B (swyddogaethau awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol etc.), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Regulations under subsection (3) may not designate the Office of Environmental Governance Wales as a relevant Welsh public authority.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(g)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)LL+C

2Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ystyr “Welsh public records”), ar ôl is-adran (2)(ka) mewnosoder—

(kb)the Office of Environmental Governance Wales,.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(g)

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)LL+C

3Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (personau sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau: cyrff cyhoeddus etc.), yn y tabl, o dan y pennawd “Cyffredinol”, ar ôl y cofnod ar gyfer y Swyddfa Gyfathrebiadau mewnosoder—

Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru (The Office of Environmental Governance Wales) Safonau cyflenwi gwasanaethauSafonau llunio polisiSafonau gweithreduSafonau cadw cofnodion

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(g)

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (dccc 7)LL+C

4(1)Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 10B (awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill yn hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (3) bennu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 27.6.2026, gweler a. 46(2)(g)

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)LL+C

5(1)Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 6(1) (ystyr “corff cyhoeddus”), ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

(fa)Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru;.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(d)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources