- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.![]()
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026, Adran 30 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 13 Awst 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Rhagolygol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo trwydded llety ymwelwyr wedi ei rhoi i DLlY mewn cysylltiad â mangre yn unol â’r Rhan hon, a
(b)pan fo gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu—
(i)bod y DLlY wedi rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r drwydded, neu
(ii)bod amod yn y drwydded wedi ei dorri.
(2)Pan fo’r adran hon yn gymwys a bo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben dyfarnu a yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) wedi codi, caiff person awdurdodedig (yn ddarostyngedig i is-adran (3)) fynd i mewn i’r fangre ar unrhyw adeg resymol.
(3)O ran person awdurdodedig—
(a)rhaid iddo roi rhybudd rhesymol i’r DLlY o’i fwriad i fynd i mewn i’r fangre;
(b)ni chaiff fynd i mewn i’r fangre drwy rym o dan yr adran hon;
(c)cyn mynd i mewn i fangre o dan yr adran hon, rhaid iddo, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person gan Weinidogion Cymru;
(d)caiff gymryd gydag ef unrhyw bersonau eraill ac unrhyw offer y mae’r person awdurdodedig yn ystyried eu bod yn briodol;
(e)caiff edrych ar ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre, heblaw unrhyw ddogfennau sy’n eiddo i ymwelydd sy’n preswylio yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd ymaith.
(4)Yn is-adran (3)(e), mae cyfeiriadau—
(a)at ddogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;
(b)at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a
(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond y gellir cael mynediad atynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.
(5)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (3)(e) yn cynnwys pŵer—
(a)i osod gofynion o ran y ffurf y darperir dogfennau ynddi (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);
(b)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig arall y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni (heblaw dyfais sy’n eiddo i ymwelydd).
(6)Nid yw person awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth honni cyflawni swyddogaethau’r person o dan yr adran hon os yw’r llys wedi ei fodloni y cyflawnwyd y weithred yn ddidwyll a bod sail resymol dros ei chyflawni.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 30 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: