RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR
PENNOD 2TRWYDDEDU
Gorfodi
30Pŵer mynd i mewn ac archwilio at ddibenion gorfodi
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
pan fo trwydded llety ymwelwyr wedi ei rhoi i DLlY mewn cysylltiad â mangre yn unol â’r Rhan hon, a
(b)
pan fo gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu—
(i)
bod y DLlY wedi rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r drwydded, neu
(ii)
bod amod yn y drwydded wedi ei dorri.
(2)
Pan fo’r adran hon yn gymwys a bo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben dyfarnu a yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) wedi codi, caiff person awdurdodedig (yn ddarostyngedig i is-adran (3)) fynd i mewn i’r fangre ar unrhyw adeg resymol.
(3)
O ran person awdurdodedig—
(a)
rhaid iddo roi rhybudd rhesymol i’r DLlY o’i fwriad i fynd i mewn i’r fangre;
(b)
ni chaiff fynd i mewn i’r fangre drwy rym o dan yr adran hon;
(c)
cyn mynd i mewn i fangre o dan yr adran hon, rhaid iddo, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person gan Weinidogion Cymru;
(d)
caiff gymryd gydag ef unrhyw bersonau eraill ac unrhyw offer y mae’r person awdurdodedig yn ystyried eu bod yn briodol;
(e)
caiff edrych ar ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre, heblaw unrhyw ddogfennau sy’n eiddo i ymwelydd sy’n preswylio yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd ymaith.
(4)
Yn is-adran (3)(e), mae cyfeiriadau—
(a)
at ddogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;
(b)
at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
(i)
dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a
(ii)
dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond y gellir cael mynediad atynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.
(5)
Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (3)(e) yn cynnwys pŵer—
(a)
i osod gofynion o ran y ffurf y darperir dogfennau ynddi (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);
(b)
i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig arall y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni (heblaw dyfais sy’n eiddo i ymwelydd).
(6)
Nid yw person awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth honni cyflawni swyddogaethau’r person o dan yr adran hon os yw’r llys wedi ei fodloni y cyflawnwyd y weithred yn ddidwyll a bod sail resymol dros ei chyflawni.