Search Legislation

Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026

Newidiadau dros amser i: Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 10 Awst 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Legislation Crest

Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026

2026 dsc 10

Deddf gan Senedd Cymru i hybu datblygiad twristiaeth, rheoleiddio darpariaeth llety ymwelwyr, a sefydlu cyfeiriadur o fangreoedd llety ymwelwyr.

[27 Ebrill 2026]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Rhagolygol

RHAN 1LL+CCYFLWYNIAD

1TrosolwgLL+C

(1)Mae’r Ddeddf hon yn ffurfio rhan o god o gyfraith Cymru sy’n ymwneud â thwristiaeth.

(2)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran hybu datblygiad twristiaeth.

(3)Mae Rhan 3 yn rheoleiddio darparu disgrifiadau penodedig o lety ymwelwyr mewn mangreoedd yng Nghymru (y cyfeirir ato fel “llety ymwelwyr rheoleiddiedig”) at ddiben gwella a hybu safon y llety hwnnw.

(4)Mae Pennod 1 o Ran 3 yn gwneud darpariaeth sy’n cyflwyno cysyniadau allweddol, gan gynnwys y diffiniad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig, ac ystyr mangre yn bod yn ffit i fod yn llety ymwelwyr.

(5)Mae Pennod 2 o Ran 3 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i fangre lle y darperir llety ymwelwyr rheoleiddiedig fod wedi ei thrwyddedu gan Weinidogion Cymru ac sy’n gosod amodau trwydded, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i fangre fod yn ffit i fod yn llety ymwelwyr.

(6)Mae Pennod 3 o Ran 3 yn gwneud ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr yn rhwymedigaeth gontractiol sy’n orfodadwy gan ymwelwyr y darperir llety ymwelwyr rheoleiddiedig iddynt.

(7)Mae Rhan 4—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru (sy’n cynnal cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr a sefydlwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5)) a Gweinidogion Cymru roi gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd ar ffurf cyfeiriadur o lety ymwelwyr mewn mangreoedd yng Nghymru;

(b)yn creu troseddau sy’n ymwneud â hysbysebu a marchnata‍ etc. llety ymwelwyr.

(8)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth amrywiol a chyffredinol ynghylch gweithredu’r Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Rhagolygol

RHAN 2LL+CDATBLYGU TWRISTIAETH

2Swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran datblygu twristiaethLL+C

(1)Mae gan Weinidogion Cymru y swyddogaethau a ganlyn mewn perthynas â hybu datblygiad twristiaeth yng Nghymru—

(a)annog pobl i ymweld â Chymru,

(b)annog pobl sy’n byw yng Nghymru i ymweld â lleoedd eraill yng Nghymru,

(c)darparu neu wella, neu hwyluso darparu neu wella, amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau i dwristiaid yng Nghymru, a

(d)darparu neu wella, neu hwyluso darparu neu wella, seilwaith yng Nghymru i’w ddefnyddio gan dwristiaid (pa un a yw hwn i’w ddefnyddio gan bobl leol hefyd ai peidio).

(2)Ond wrth arfer y swyddogaethau hynny rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i bwysigrwydd—

(a)lliniaru’r effaith gymdeithasol ac amgylcheddol y mae twristiaid yn ei chael, a

(b)cynnal a hybu defnydd o’r Gymraeg.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ystyried ei fod yn briodol, o fewn Cymru neu’r tu allan iddi, at ddiben cyflawni eu swyddogaethau o dan is-adran (1), gan gynnwys cyflawni, neu hwyluso, y gweithgareddau a ganlyn—

(a)marchnata Cymru fel cyrchfan i dwristiaid;

(b)darparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth ynghylch twristiaeth yng Nghymru;

(c)cynnal ymchwil ynghylch twristiaeth yng Nghymru;

(d)darparu cymorth ariannol (ar y telerau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol).

(4)Yn is-adran (1)(c) ac yn adran 3, ystyr “amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau i dwristiaid yng Nghymru” yw amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau i bobl sy’n ymweld â Chymru ac i bobl sy’n teithio o fewn Cymru ar gyfer busnes neu ar gyfer pleser.

(5)Gweler hefyd adran 3 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969 (p. 51), sy’n darparu y caiff Awdurdod Twristiaeth Prydain lunio cynllun er mwyn i gymorth ariannol gael ei roi gan Weinidogion Cymru (yn ogystal â chan Fwrdd Twristiaeth Lloegr a chan VisitScotland) ar gyfer cyflawni prosiectau i ddarparu neu wella cyfleusterau neu amwynderau twristiaeth ym Mhrydain Fawr.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

3Cod ymarfer ar dwristiaethLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer sy’n darparu canllawiau ynghylch arferion gorau o ran darparu—

(a)llety ymwelwyr, a

(b)amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau eraill i dwristiaid yng Nghymru.

(2)Caiff y cod ymarfer o dan is-adran (1), yn benodol, roi canllawiau ynghylch—

(a)ansawdd mangreoedd a ddefnyddir i ddarparu llety ymwelwyr;

(b)gwasanaeth i gwsmeriaid;

(c)hysbysebu a marchnata;

(d)hygyrchedd mangreoedd;

(e)cynaliadwyedd ac ystyriaethau amgylcheddol eraill;

(f)hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru;

(g)unrhyw fater arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)ddiwygio’r cod a rhaid iddynt gyhoeddi cod diwygiedig, neu

(b)tynnu’r cod yn ôl os ydynt, wedi ymgynghori â sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau sy’n gweithio ym maes twristiaeth neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yng Nghymru, yn ystyried nad yw’r cod o ddefnyddioldeb ymarferol mwyach.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

4Diwygio deddfiadau ar dwristiaethLL+C

(1)Yn adran 1 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5), o flaen is-adran (1) mewnosoder—

(A1)Mae’r Ddeddf hon yn ffurfio rhan o god o gyfraith Cymru sy’n ymwneud â thwristiaeth.

(2)Mae Atodlen 1 yn diwygio Deddf Datblygu Twristiaeth 1969 (p. 51).

(3)Mae Deddf Twristiaeth (Hybu Dramor) (Cymru) 1992 (p. 26) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Rhagolygol

RHAN 3LL+CRHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR

PENNOD 1LL+CCYSYNIADAU ALLWEDDOL

Llety ymwelwyr rheoleiddiedigLL+C

5Ystyr llety ymwelwyr rheoleiddiedigLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “llety ymwelwyr rheoleiddiedig” yw llety ymwelwyr o’r disgrifiadau a ganlyn—

(a)llety hunanddarpar sy’n hunangynhwysol, ac sydd mewn—

(i)adeilad, neu

(ii)cartref symudol, llestr neu gerbyd arall;

(b)unrhyw ddisgrifiad arall o lety ymwelwyr a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.

(2)Ond at ddibenion is-adran (1)(a), nid yw llety hunanddarpar sy’n hunangynhwysol yn llety ymwelwyr rheoleiddiedig—

(a)os yw’n cael ei ddarparu mewn—

(i)gwesty (gan gynnwys gwesty fflatiau), tŷ llety neu lety gwely a brecwast,

(ii)hostel ieuenctid, byncws neu ysgubor gwersylla,

(iii)safle gwersylla y mae adran 269 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p. 49) yn gymwys mewn cysylltiad ag ef, neu

(iv)safle carafannau y mae Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62) yn gymwys mewn cysylltiad ag ef;

(b)os yw’n cael ei ddarparu heblaw—

(i)ar sail tymor byr, a

(ii)at ddibenion teithio ar gyfer busnes neu hamdden neu ar gyfer tripiau addysgol;

(c)yn achos llety mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall, os nad yw wedi ei leoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle.

(3)At ddibenion is-adrannau (1) a (2), mae llety hunanddarpar yn “hunangynhwysol”—

(a)os yw’n cynnwys—

(i)un neu ragor o welyau ar gyfer cysgu,

(ii)toiled, sinc, a bath neu gawod, a

(iii)cegin neu ardal gegin, a

(b)os, yn ystod unrhyw gyfnod pryd y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y llety, darperir y cyfleusterau a ddisgrifir ym mharagraff (a) at ddefnydd yr ymwelydd a neb arall.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(b) bennu disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig, drwy gyfeiriad at—

(a)

(b)

(i)y llety;

(ii)y fangre lle y darperir y llety;

(iii)y darparwr llety ymwelwyr (“DLlY”);

(iv)unrhyw ymwelydd y darperir y llety iddo;

(c)unrhyw fater arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(b) ddiwygio’r Ddeddf hon neu Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5) (ac mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(b) at “a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau” yn cynnwys cyfeiriad at ddiwygiad a wneir gan y rheoliadau hynny).

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol a rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i ymateb.

(7)Yn y Ddeddf hon mae i’r termau a ganlyn yr ystyr a roddir yn y darpariaethau yn Neddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5) a bennir isod, neu maent i’w darllen drwy gyfeirio at y darpariaethau hynny—

(a)ystyr “llety ymwelwyr”—

(i)yw llety, yng Nghymru, o ddisgrifiad a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno, ond

(ii)nid yw’n cynnwys llety‍ i’r graddau y mae’n dod o fewn adran 29(2)(b) o’r Ddeddf honno (llety a ddarperir o dan amgylchiadau penodol gan gyrff cyhoeddus);

(b)ystyr “darparwr llety ymwelwyr” (neu “DLlY”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno (cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr);

(c)mae cyfeiriadau at “darparu” neu at “yn cynnig darparu” llety ymwelwyr i’w darllen yn unol ag adran 3(3) a (5)(a) o’r Ddeddf honno;

(d)mae “mangre” i’w ddarllen yn unol ag adran 4(7)(b) o’r Ddeddf honno ond caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch ystyr y term o ran ei gymhwyso i’r Ddeddf hon, gan gynnwys i ddiwygio adran 6(4) neu unrhyw ddarpariaeth arall o’r Ddeddf hon;

(e)mae “ar sail tymor byr” i’w ddarllen yn unol ag adran 2(3) o’r Ddeddf honno;

(f)mewn perthynas â llety ymwelwyr, mae cyfeiriad at “ymwelydd” yn gyfeiriad at unigolyn sydd â hawlogaeth i breswylio yn y llety ymwelwyr am un neu ragor o nosweithiau, o dan gontract a ddisgrifir yn adran 3(3) o’r Ddeddf honno neu o ganlyniad i gontract o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Ffitrwydd mangre llety ymwelwyrLL+C

6Ystyr ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyrLL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae mangre lle y darperir (neu y cynigir) llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn ffit i fod yn llety ymwelwyr oni bai—

(a)bod y safon gyffredinol o ran ffitrwydd a ddisgrifir yn adran 7 heb ei chyrraedd a bod y risg o niwed neu o golli amwynder oherwydd ei bod heb ei chyrraedd yn golygu nad yw’r fangre yn rhesymol addas i ymwelydd breswylio ynddi, neu

(b)i’r graddau y maent yn gymwys mewn cysylltiad â’r fangre, bod unrhyw un neu ragor o’r safonau ffitrwydd penodol y cyfeirir atynt yn adran 8 heb ei chyrraedd neu heb eu cyrraedd.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio’r safon gyffredinol o ran ffitrwydd a ddisgrifir yn adran 7, a

(b)diwygio, ychwanegu at neu hepgor unrhyw un neu ragor o’r safonau ffitrwydd penodol a restrir yn adran 8.

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)At ddibenion yr adran ho‍n, adrannau 7 i 13 a Phennod 3, mae cyfeiriad at “y fangre”—

(a)mewn perthynas â llety ymwelwyr rheoleiddiedig a ddarperir mewn rhan o’r fangre, yn gyfeiriad at y rhan honno o’r fangre lle y darperir y llety hwnnw;

(b)yn achos llety o ddisgrifiad a roddir yn adran 5(1)(a) (llety hunanddarpar rheoleiddiedig), yn cynnwys unrhyw ardal yn yr awyr agored, unrhyw garej neu unrhyw adeilad arall a ddarperir at ddefnydd yr ymwelydd a neb arall yn ystod y cyfnod pryd y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y llety.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

7Ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: y safon gyffredinolLL+C

Y safon gyffredinol o ran ffitrwydd yw bod y gofynion a ganlyn, i’r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â’r fangre, wedi eu bodloni—

(a)mewn perthynas â’r risg o niwed i ymwelwyr—

(i)bod y fangre yn strwythurol sefydlog,

(ii)bod dyluniad, cynllun‍ ac adeiladwaith y fangre yn briodol,

(iii)bod y fangre ac unrhyw eitemau gosod yn cael eu cynnal a’u cadw yn ddigonol a’u bod mewn cyflwr da,

(iv)bod unrhyw osodiadau ar gyfer cyflenwi nwy, trydan neu ddŵr yn gweithio’n iawn ac, yn achos dŵr, nad ydynt wedi eu halogi,

(v)bod y fangre yn rhydd rhag carbon monocsid, tân afreolus a’r mwg sy’n gysylltiedig ag ef, a sylweddau peryglus eraill,

(vi)bod y fangre yn hylan, a

(vii)bod y fangre yn ddiogel;

(b)mewn perthynas â’r amwynder i ymwelwyr—

(i)bod gan y fangre ddarpariaeth ddigonol o ddulliau goleuo, gwresogi ac awyru,

(ii)bod gan y fangre system ddraenio ddigonol,

(iii)bod gan y fangre le priodol ar gyfer cysgu,

(iv)yn achos llety hunanddarpar, fod gan y fangre gyfleusterau priodol ar gyfer paratoi, storio a choginio bwyd, a

(v)bod gan y fangre gyfleusterau glanweithdra digonol a phriodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

8Ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: y safonau penodolLL+C

Y safonau ffitrwydd penodol yw’r rhai a nodir yn yr adrannau a ganlyn—

(a)adran 9 ‍(diogelwch tân),

(b)adran 10 (cynnal a chadw trydanol),

(c)adran 11 (cynnal a chadw o ran nwy),

(d)adran 12 (risg carbon monocsid), ac

(e)adran 13 (yswiriant).

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

9Ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: diogelwch tânLL+C

(1)Y safon‍ diogelwch tân, mewn perthynas ag unrhyw fangre lle y darperir (neu y cynigir) llety ymwelwyr rheoleiddiedig, yw bod y DLlY yn cynnal—

(a)asesiad ysgrifenedig o’r risgiau y mae personau yn y fangre yn agored iddynt at ddiben nodi’r rhagofalon tân cyffredinol y mae angen i’r DLlY eu cymryd er mwyn sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, ddiogelwch y personau hynny, a

(b)cofnod o’r rhagofalon tân cyffredinol a nodwyd ac a gymerwyd yn unol â’r asesiad hwnnw.

(2)At ddibenion is-adran (1)—

(a)mae i “rhagofalon tân cyffredinol” yr un ystyr ag a roddir i “general fire precautions” yn erthygl 4 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (O.S. 2005/1541);

(b)rhaid i’r DLlY gadw’r asesiad o dan adolygiad, a’i ddiweddaru fel y bo’n briodol, a rhaid i’r DLlY ddiweddaru’r asesiad—

(i)pan fo newid sylweddol wedi bod yn unrhyw un neu ragor o’r materion y mae’n ymwneud â hwy, neu

(ii)pan fo’r DLlY yn ymwybodol, neu y dylai fod yn ymwybodol, fod unrhyw reswm arall i ddiweddaru’r asesiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

10Ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: cynnal a chadw trydanolLL+C

(1)Y safon cynnal a chadw trydanol yw, yn achos llety ymwelwyr rheoleiddiedig mewn adeilad neu mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall, fod y DLlY yn meddu ar adroddiad dilys (“adroddiad ar gyflwr trydanol”) sy’n nodi canlyniadau archwiliad o bob gosodiad gwasanaeth trydanol yn y fangre, a phrofion arnynt, a gynhaliwyd gan berson cymwysedig, a naill ai–

(a)bod yr adroddiad yn cofnodi nad yw’n ofynnol gwneud unrhyw waith ymchwilio nac atgyweirio er mwyn sicrhau bod y safonau diogelwch trydanol wedi eu cyrraedd, neu

(b)pan fo’r adroddiad yn nodi ei bod yn ofynnol gwneud gwaith ymchwilio neu atgyweirio er mwyn sicrhau bod y safonau diogelwch trydanol wedi eu cyrraedd, fod cofnod ysgrifenedig bod y gwaith wedi ei gyflawni.

(2)Mae adroddiad ar gyflwr trydanol yn ddilys—

(a)hyd at ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cynhaliwyd yr archwiliad diogelwch trydanol y mae’n ymwneud ag ef, neu

(b)hyd at y diwrnod y mae’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn datgan y dylid cynnal yr archwiliad diogelwch trydanol nesaf (os yw’n gynt).

(3)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “safonau diogelwch trydanol” yw’r safonau ar gyfer gosodiadau gwasanaeth trydanol a nodir yn yr argraffiad o’r Rheoliadau Gosod Gwifrau sef y “Wiring Regulations”, a gyhoeddir gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a’r Sefydliad Safonau Prydeinig, sy’n gymwys ar adeg yr archwiliad;

(b)ystyr “gosodiad gwasanaeth trydanol” yw gosodiad ar gyfer cyflenwi trydan; ac mae’r cyfeiriad at osodiad gwasanaeth trydanol “yn y fangre” yn cynnwys, pan fo’r fangre yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, osodiad gwasanaeth trydanol sy’n gwasanaethu’r fangre yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac sydd wedi ei osod mewn unrhyw ran o’r adeilad y mae’r DLlY yn feddiannydd arno;

(c)ystyr “person cymwysedig” yw person sy’n gymwys i wneud y gwaith archwilio a phrofi ar osodiad gwasanaeth trydanol, ac unrhyw waith archwilio neu waith atgyweirio pellach, yn unol â’r safonau diogelwch trydanol;

(d)ystyr “cofnod ysgrifenedig o’r gwaith”, mewn perthynas â gwaith ymchwilio neu atgyweirio, yw cofnod ysgrifenedig a luniwyd gan berson—

(i)sydd yn berson cymwysedig, a

(ii)a gyflawnodd y gwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

11Ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: cynnal a chadw o ran nwyLL+C

(1)Y safon cynnal a chadw o ran nwy yw, yn achos llety ymwelwyr rheoleiddiedig mewn adeilad neu mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall, fod cofnod cynnal a chadw o ran nwy mewn perthynas â’r canlynol—

(a)unrhyw gyfarpar nwy neu unrhyw bibellau gosodiadau sydd wedi ei osod neu wedi eu gosod yn y fangre,

(b)pan fo’r llety mewn adeilad, ac eithrio pan na fo’r cyfarpar nwy neu’r pibellau gosodiadau o dan sylw ond yn cael ei ddefnyddio neu eu defnyddio mewn rhan o fangre a feddiennir at ddibenion amhreswyl, unrhyw gyfarpar nwy neu unrhyw bibellau i osodiad sydd, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn gwasanaethu’r fangre ac sydd wedi ei osod neu wedi eu gosod mewn unrhyw ran o’r adeilad y mae’r DLlY yn feddiannydd arno, ac

(c)unrhyw ffliw sy’n gwasanaethu cyfarpar nwy neu bibellau i osodiad y cyfeirir ato neu atynt ym mharagraff (a) neu (b).

(2)Yn is-adran (1)—

(a)mae i “ffliw” a “pibellau gosodiadau” yr un ystyr ag a roddir i “flue” ac “installation pipework” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998 (O.S. 1998/2451);

(b)mae i “cyfarpar nwy” yr un ystyr ag a roddir i “gas appliance” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998, gan gynnwys y rhan honno o’r diffiniad sy’n gymwys at ddibenion rheoliadau 3, 35 ac 36 o’r Rheoliadau hynny;

(c)ystyr “cofnod cynnal a chadw o ran nwy” yw’r cofnod cynnal a chadw o dan reoliad 36(3)(c) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998—

(i)y mae rhaid i’r DLlY ei gadw yn unol â’r rheoliad hwnnw, os yw’r rheoliad yn gymwys i’r DLlY, neu

(ii)y byddai angen i’r DLlY ei gadw pe bai’r rheoliad hwnnw yn gymwys i’r DLlY, os nad yw’r rheoliad yn gymwys i’r DLlY.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

12Ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: risg carbon monocsidLL+C

(1)Y safon risg carbon monocsid yw, yn achos llety ymwelwyr rheoleiddiedig mewn adeilad neu mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall, fod larwm carbon monocsid gweithredol mewn unrhyw ystafell yn y fangre y mae ynddi—

(a)cyfarpar nwy,

(b)cyfarpar hylosgi sy’n cael ei danio ag olew, neu

(c)cyfarpar hylosgi sy’n llosgi tanwydd solet.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)mae i “cyfarpar nwy” yr un ystyr ag a roddir i “gas appliance” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998, gan gynnwys y rhan honno o’r diffiniad sy’n gymwys at ddibenion rheoliadau 3, 35 ac 36 o’r Rheoliadau hynny;

(b)mae “ystafell” yn cynnwys—

(i)cyntedd, pen grisiau neu goridor neu ardal debyg arall;

(ii)(mewn perthynas â chartref symudol, llestr neu gerbyd arall) caban neu ardal debyg arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

13Ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: yswiriantLL+C

(1)Y safon yswiriant yw bod polisi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn ei le mewn perthynas ag atebolrwyddau i drydydd partïon sy’n deillio o ddarparu llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn y fangre neu sy’n gysylltiedig â darparu llety o’r fath.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y materion neu’r amgylchiadau y mae rhaid i’r yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ddarparu sicrwydd mewn perthynas â hwy, a

(b)cwmpas y sicrwydd hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

PENNOD 2LL+CTRWYDDEDU

Trwyddedau ac amodau trwyddedLL+C

14Trwyddedau llety ymwelwyr‍LL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)ystyr “trwydded llety ymwelwyr” yw trwydded a roddir gan Weinidogion Cymru, o dan adran 20, mewn cysylltiad â mangre lle y mae darparwr llety ymwelwyr (“DLlY”) yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr rheoleiddiedig, a

(b)mae trwydded llety ymwelwyr yn cynnwys trwydded a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 27 (trwyddedau dros dro) ac eithrio i’r graddau—

(i)y mae darpariaeth ddatganedig wedi ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(ii)y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2)Nid oes dim yn y Bennod hon yn atal dwy neu ragor o drwyddedau llety ymwelwyr rhag cael effaith yn gydredol mewn cysylltiad â’r fangre gyfan neu â rhan o’r un fangre.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5) mewn cysylltiad â’r Bennod hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

15Amodau trwydded: cyffredinolLL+C

(1)O ran trwydded llety ymwelwyr rhaid iddi gael ei rhoi yn ddarostyngedig i—

(a)yr amodau trwydded a nodir yn is-adran (3);

(b)unrhyw amodau trwydded pellach a ragnodir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 17 (i’r graddau y mae’n gymwys).

(2)Ond gweler hefyd adran 27 mewn perthynas â’r amodau trwydded y mae rhaid rhoi trwyddedau llety ymwelwyr dros dro yn ddarostyngedig iddynt.

(3)Yr amodau yw—

(a)bod—

(i)y darparwr llety ymwelwyr (“DLlY”) y rhoddir y drwydded iddo wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r fangre y mae’r drwydded yn ymwneud â hi, a

(ii)y cofrestriad hwnnw mewn perthynas â’r llety ymwelwyr rheoleiddiedig y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef;

(b)bod y DLlY‍ wedi cwblhau’r hyfforddiant cymwys ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr (gweler adran 16);

(c)bod—

(i)y safonau ffitrwydd penodol (gweler adran 8) wedi eu cyrraedd, i’r graddau y maent yn gymwys mewn cysylltiad â’r fangre, a

(ii)bod y safon gyffredinol o ran ffitrwydd (gweler adran 7) wedi ei chyrraedd mewn cysylltiad â’r fangre yn ystod unrhyw gyfnod pryd y mae gan ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y llety;

(d)bod y DLlY yn cymryd pob cam rhesymol, mewn perthynas â darparu llety ymwelwyr yn y fangre—

(i)i atal ymddygiad a allai beri niwsans neu annifyrrwch i berson sydd â hawl (o ba bynnag ddisgrifiad) i breswylio yng nghyffiniau’r fangre, a

(ii)i atal ymddygiad o’r fath, pan fo’n digwydd, rhag peri’r niwsans neu’r annifyrrwch;

(e)bod y DLlY yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau y darperir i ymwelydd, cyn unrhyw gyfnod pryd y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y llety—

(i)copi o dystysgrif y drwydded, a

(ii)y datganiad o wybodaeth (gweler adran 22);

(f)bod y DLlY yn sicrhau bod copi o dystysgrif y drwydded yn hygyrch yn y fangre ar ffurf papur neu’n electronig ar unrhyw adeg pryd y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y llety.

(4)At ddibenion is-adran (3)—

(a)mae‍ i gyfeiriadau at “y fangre” yr un ystyr ag yn adran 6(4);

(b)nid yw’r amod yn is-adran (3)(d) yn gymwys ond mewn perthynas â darparu llety ymwelwyr rheoleiddiedig o’r disgrifiad y cyfeirir ato yn adran 5(1)(a);

(c)mae’r cyfeiriad yn is-adran (3)(d) at atal ymddygiad a allai beri niwsans neu annifyrrwch wedi ei gyfyngu i atal ymddygiad—

(i)y mae modd i’r DLlY ei rag-weld neu y dylai bod modd i’r DLlY ei rag-weld, a

(ii)sy’n ymarferol i’w atal.

(5)At ddibenion y Bennod hon, nid yw erthygl 43 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (O.S. 2005/1541) (atal dros dro delerau ac amodau trwydded) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amod nac unrhyw ofyniad cymeradwyo (gweler adran 19) a osodir mewn perthynas â thrwydded llety ymwelwyr‍.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 15 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

16Amodau trwydded: hyfforddiant ar gyfer darparwyr llety ymwelwyrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch yr hyfforddiant ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr sy’n gymwys at ddibenion—

(a)yr amod y cyfeirir ato yn adran 15(3)(b), a

(b)y gofyniad cymeradwyo y cyfeirir ato yn adran 19(2)(b).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi’r hyfforddiant y mae rhaid i DLlY ei gwblhau mewn perthynas ag—

(a)yr amodau trwydded y cyfeirir atynt yn adran‍ 15(1);

(b)cynnwys‍ unrhyw god ymarfer a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 3;

(c)unrhyw faterion eraill sy’n gysylltiedig â rheoleiddio llety ymwelwyr o dan‍ Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon (neu drwy reoliadau a wneir o dan y Rhannau hynny) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)—

(a)gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â darparu disgrifiadau gwahanol o lety ymwelwyr rheoleiddiedig neu â disgrifiadau gwahanol o fangre;

(b)gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o DLlY (gan gynnwys mewn perthynas ag endidau corfforaethol ac endidau anghorfforaethol);

(c)darparu ar gyfer amgylchiadau pryd nad yw’n ofynnol cwblhau hyfforddiant.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) hefyd wneud darpariaeth—

(a)mewn cysylltiad â hyfforddiant yn cael ei ddarparu dim ond—

(i)gan Weinidogion Cymru, neu

(ii)gan bersonau sydd wedi eu hawdurdodi gan Weinidogion Cymru;

(b)sy’n pennu’r ffioedd y caniateir eu codi neu ddull ar gyfer penderfynu’r ffioedd y caniateir eu codi—

(i)gan Weinidogion Cymru, neu bersonau sydd wedi eu hawdurdodi gan Weinidogion Cymru, am ddarparu hyfforddiant;

(ii)gan Weinidogion Cymru am awdurdodi person i ddarparu hyfforddiant.

(5)Cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 16 mewn grym ar 5.3.2029, gweler a. 61(2)(a)

17Amodau trwydded: amodau pellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru yn unol ag is-adrannau (2) a (3) wneud rheoliadau sy’n rhagnodi amodau pellach sydd i fod yn gymwys i drwydded llety ymwelwyr.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ragnodi unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddibenion—

(a)cynnal neu wella safon llety ymwelwyr yng Nghymru;

(b)cynnal neu wella amwynder mangre lle y darperir llety ymwelwyr neu amwynder y tir y mae’r fangre honno arno;

(c)hybu twristiaeth yng Nghymru.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ragnodi amod drwy gyfeirio at—

(a)disgrifiad o fangre y mae’r amod yn gymwys mewn cysylltiad ag ef;

(b)disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig y mae’r amod yn gymwys mewn cysylltiad ag ef;

(c)natur neu gynnwys y contractau y darperir disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig yn y fangre odanynt yn unol â’r drwydded;

(d)y disgrifiad o DLlY y rhoddir y drwydded iddo;

(e)disgrifiad o berson y darperir llety ymwelwyr iddo yn y fangre yn unol â’r drwydded;

(f)unrhyw fater arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(4)O ran rheoliadau o dan is-adran (1)‍—

(a)rhaid iddynt wneud darpariaeth ynghylch cymhwyso unrhyw amodau a ragnodir gan y rheoliadau i drwyddedau a roddir (neu a adnewyddir) cyn i’r amodau hynny ddod i rym;

(b)cânt ddiwygio’r Ddeddf hon at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag amodau yn cael eu rhagnodi o dan yr adran hon.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)Ond nid yw’r gofyniad o dan is-adran (5) yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau a wnaed yn flaenorol o dan is-adran (1), a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 17 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Ceisiadau am drwydded: y weithdrefnLL+C

18Ceisiadau am drwydded: cyffredinolLL+C

(1)Caiff DLlY sy’n bwriadu darparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr rheoleiddiedig mewn mangr‍e y mae’r DLlY wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi wneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded llety ymwelwyr mewn cysylltiad â’r fangre honno.

(2)Ond at ddiben is-adran (1), nid yw “trwydded llety ymwelwyr” yn cynnwys trwydded llety ymwelwyr dros dro (gweler adran 27).

(3)Rhaid i gais o dan is-adran (1)—

(a)bod ar unrhyw ffurf, a chael ei wneud mewn unrhyw fodd, a bennir gan Weinidogion Cymru;

(b)cynnwys gydag ef unrhyw ffi a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau o dan adran 35(1) mewn cysylltiad â’u swyddogaethau o dan adran 20 (dyfarnu ar geisiadau).

(4)Rhaid i gais o dan is-adran (1) gynnwys unrhyw wybodaeth a bennir gan Weinidogion Cymru ynghylch—

(a)y fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi;

(b)y llety ymwelwyr rheoleiddiedig sydd i’w ddarparu (neu i’w gynnig) yn y fangre yn unol â’r drwydded;

(c)a yw’r gofynion cymeradwyo wedi eu bodloni mewn perthynas â’r cais;

(d)unrhyw fater arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol neu’n hwylus mewn cysylltiad â’u swyddogaethau o dan‍ Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon neu o dan reoliadau a wneir o dan Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 18 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

19Ceisiadau am drwydded: gofynion cymeradwyoLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch y gofynion sydd i’w bodloni mewn perthynas â chais gan DLlY am drwydded llety ymwelwyr (“y gofynion cymeradwyo”) (ond gweler hefyd adran 27 sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch gofynion cymeradwyo mewn perthynas â cheisiadau am drwyddedau dros dro).

(2)Y gofynion cymeradwyo yw—

(a)bod—

(i)y DLlY wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi, a

(ii)y cofrestriad hwnnw mewn perthynas â’r llety ymwelwyr rheoleiddiedig y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef;

(b)bod y DLlY wedi cwblhau’r hyfforddiant cymwys ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr (gweler adran 16);

(c)bod—

(i)y safonau ffitrwydd penodol (gweler adran 8) wedi eu cyrraedd, i’r graddau y maent yn gymwys mewn cysylltiad â’r fangre,

(ii)y fangre’n ymddangos fel pe bai’n cynnig amwynder digonol a phriodol i ymwelwyr, a

(iii)y safon gyffredinol o ran ffitrwydd (gweler adran 7) yn debygol o gael ei chyrraedd mewn cysylltiad â’r fangre yn ystod unrhyw gyfnod pryd y mae gan ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y llety.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi unrhyw ofynion cymeradwyo pellach y maent yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben—

(a)cynnal neu wella safon llety ymwelwyr yng Nghymru;

(b)cynnal neu wella amwynder mangre lle y darperir llety ymwelwyr neu amwynder y tir y mae’r fangre honno arno;

(c)hybu twristiaeth yng Nghymru.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ragnodi gofyniad cymeradwyo drwy gyfeirio at—

(a)disgrifiad o fangre y mae’r gofyniad yn gymwys mewn cysylltiad ag ef;

(b)disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig y mae’r gofyniad yn gymwys mewn cysylltiad ag ef;

(c)natur neu gynnwys y contractau y darperir disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig yn y fangre odanynt yn unol â’r drwydded;

(d)y disgrifiad o DLlY y rhoddir y drwydded iddo;

(e)disgrifiad o berson y darperir llety ymwelwyr iddo yn y fangre yn unol â’r drwydded;

(f)unrhyw fater arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ddiwygio’r Ddeddf hon at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â gofynion yn cael eu rhagnodi o dan yr adran hon.

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(7)Ond nid yw’r gofyniad o dan is-adran (6) yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau a wnaed yn flaenorol o dan is-adran (3), a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

(8)Yn yr adran hon mae‍ i gyfeiriadau at “y fangre” yr un ystyr ag yn adran 6(4).‍

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 19 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

20Ceisiadau am drwydded: dyfarnuLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael cais am drwydded llety ymwelwyr a wnaed gan DLlY yn unol ag adran 18.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)dyfarnu a yw’r gofynion cymeradwyo wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi, a

(b)rhoi hysbysiad i’r DLlY yn unol ag is-adran (7).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru roi’r drwydded llety ymwelwyr i’r DLlY (gweler adran 15(1))—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y gofynion cymeradwyo wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi, a

(b)pan fo unrhyw ffi a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau o dan adran 35(1) mewn cysylltiad â rhoi’r drwydded wedi ei thalu.

(4)Pan na fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr holl ofynion cymeradwyo wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi, rhaid iddynt wrthod y cais, yn ddarostyngedig i adran 21 (asesiadau pellach).

(5)At ddibenion yr adran hon—

(a)caiff Gweinidogion Cymru benderfynu pa un a ydynt wedi eu bodloni ai peidio fod gofyniad cymeradwyo wedi ei fodloni—

(i)dim ond ar sail gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y cais (neu wedi ei hepgor ohono) a, phan fo ar gael, unrhyw wybodaeth a gafwyd yn rhinwedd adran 21 (asesiadau pellach), neu

(ii)ar sail yr wybodaeth honno ac unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael i Weinidogion Cymru, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) wybodaeth a ddarperir mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau o dan Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon neu o dan reoliadau a wneir o dan Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon;

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y gofynion cymeradwyo yn adran 19(2)(c)(i) a (ii) wedi eu bodloni, caiff Gweinidogion Cymru ar y sail honno fod wedi eu bodloni bod y gofyniad yn adran 19(2)(c)(iii) wedi ei fodloni.

(6)Nid yw’r rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru (fel awdurdod trwyddedu) o dan erthygl 42(1)(a) o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (O.S. 2005/1541) (dyletswydd i geisio sylwadau gan awdurdod gorfodi) yn gymwys mewn perthynas â dyfarnu ar gais am drwydded llety ymwelwyr o dan yr adran hon neu adran 27.

(7)Rhaid i hysbysiad a roddir i’r DLlY o dan is-adran (2)(b)—

(a)rhoi gwybod i’r DLlY am ganlyniad y cais (gan gynnwys, pan fo’r cais yn cael ei wrthod, am y rhesymau pam nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr holl ofynion cymeradwyo wedi eu bodloni), a

(b)nodi unrhyw hawl i apelio a roddir gan adran 29.

(8)Mae penderfyniad a ddatgenir mewn hysbysiad o dan is-adran (2)(b) yn cymryd effaith ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

(9)Pan fo DLlY yn gwneud cais o dan adran 18 sy’n ymwneud â dwy neu ragor o fangreoedd, caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod y cais ar wahân mewn cysylltiad â phob mangre.

(10)At ddibenion yr adran hon, mae cyfeiriad at “y fangre”—

(a)mewn perthynas â chais am drwydded sy’n ymwneud â llety ymwelwyr rheoleiddiedig a ddarperir mewn rhan o’r fangre, yn gyfeiriad at y rhan honno o’r fangre lle y darperir y llety hwnnw, a

(b)yn achos cais am drwydded sy’n ymwneud â llety o ddisgrifiad a roddir yn adran 5(1)(a) (llety hunanddarpar rheoleiddiedig), yn cynnwys unrhyw ardal yn yr awyr agored, unrhyw garej neu unrhyw adeilad arall a ddarperir at ddefnydd yr ymwelydd a neb arall yn ystod y cyfnod pryd y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y llety;

(gweler hefyd adran 6(4) sy’n gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â chymhwyso safonau ffitrwydd i fangre lle y darperir llety ymwelwyr).‍

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 20 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

21Ceisiadau am drwydded: asesiad pellach cyn dyfarnuLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael cais am drwydded llety ymwelwyr a wnaed gan DLlY yn unol ag adran 18, a

(b)pan na fônt wedi eu bodloni bod yr holl ofynion cymeradwyo wedi eu bodloni, ond

(c)cyn cwblhau eu dyfarniad ar y cais, pan fônt yn ystyried ei bod yn briodol i gamau gweithredu pellach gael eu cymryd neu i wybodaeth bellach gael ei darparu.

(2)Pan fo’r adran hon yn gymwys rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad i’r DLlY eu bod yn cynnal asesiad pellach mewn perthynas â’r cais.

(3)Rhaid i hysbysiad a roddir i’r DLlY o dan is-adran (2)—

(a)nodi’r rhesymau pam nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr holl ofynion cymeradwyo wedi eu bodloni,

(b)pennu—

(i)unrhyw gamau gweithredu y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y caiff y DLlY eu cymryd, neu unrhyw wybodaeth y caiff y DLlY ei darparu, at ddiben bodloni Gweinidogion Cymru fod y gofynion cymeradwyo wedi eu bodloni, a

(ii)cyfnod, o ddim llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, y mae’r camau gweithredu hynny i gael eu cymryd, neu y mae’r wybodaeth honno i gael ei darparu, ynddo, ac

(c)pennu unrhyw gamau gweithredu eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol eu cymryd er mwyn dyfarnu a yw’r gofynion cymeradwyo wedi eu bodloni (a all gynnwys trefnu i berson awdurdodedig archwilio’r fangre gyda chytundeb y DLlY).

(4)Yn yr adran hon ac yn adrannau 30 ac 31, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 21 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

22Trwydded llety ymwelwyr: dyroddi tystysgrif a datganiad o wybodaethLL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi trwydded llety ymwelwyr o dan adran 20(3)‍ rhaid iddynt ddyroddi i’r DLlY—

(a)tystysgrif trwydded sy’n pennu—

(i)y llety ymwelwyr rheoleiddiedig y caniateir ei ddarparu (neu ei gynnig) yn y fangre yn unol â’r drwydded, a

(ii)yr amodau trwydded sy’n gymwys mewn perthynas â’r llety hwnnw, a

(b)datganiad o wybodaeth sy’n egluro—

(i)sut y mae’r Bennod hon a Phennod 3 yn gweithredu, a

(ii)sut y gellir gwneud cwynion i Weinidogion Cymru os yw ymwelydd yn pryderu bod amod yn y drwydded wedi ei dorri.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 22 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Trwyddedau: torri, unioni a dirymuLL+C

23DirymuLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â thrwydded llety ymwelwyr y mae DLlY yn meddu arni—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod amod yn y drwydded wedi ei dorri a bod yr amod yn debygol o—

(i)parhau i gael ei dorri, neu

(ii)cael ei dorri eto;

(b)os yw’r DLlY wedi cytuno y dylid dirymu’r drwydded.

(2)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu’r drwydded a rhoi hysbysiad i’r DLlY (“hysbysiad dirymu”)—

(a)yn rhoi gwybod i’r DLlY fod y drwydded wedi ei dirymu,

(b)yn nodi’r rhesymau pam y mae’r drwydded wedi ei dirymu, ac

(c)(ac eithrio pan fo’r DLlY wedi cytuno i’r drwydded gael ei dirymu) yn‍ esbonio unrhyw hawl i apelio yn erbyn eu penderfyniad i ddirymu’r drwydded a roddir gan adran 29.

(3)Mae dirymiad trwydded a ddatgenir mewn hysbysiad o dan is-adran (2) yn cymryd effaith—

(a)pan fo’r DLlY wedi cytuno i’r drwydded gael ei dirymu, ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, a

(b)mewn unrhyw achos arall—

(i)os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad, drannoeth diwrnod olaf y cyfnod apelio y cyfeirir ato yn adran 29;

(ii)os gwneir apêl, ar y diwrnod a bennir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf wrth ddyfarnu ar yr apêl neu ar y diwrnod y tynnir yr apêl yn ôl.

(4)Ond mae adran 24 yn gwneud darpariaeth ynghylch amgylchiadau pan na chaiff Gweinidogion Cymru, er bod is-adran (1)(a) o’r adran hon yn gymwys, ddirymu trwydded heb roi cyfle yn gyntaf i’r DLlY i unioni’r tor amod.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch yr amgylchiadau pryd—

(a)y caiff Gweinidogion Cymru roi gwybod i’r DLlY ymlaen llaw am eu bwriad i roi hysbysiad dirymu o dan is-adran (2) os y‍w amod trwydded sydd wedi ei dorri yn flaenorol yn cael ei dorri eto;

(b)y caiff hysbysiad dirymu a roddir o dan is-adran (2) gymryd effaith ar unwaith oherwydd difrifoldeb y tor amod.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 23 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

24Torri amodau trwydded: hysbysiadau adfer‍LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch yr amgylchiadau pan na chaiff Gweinidogion Cymru ddirymu trwydded yn rhinwedd adran 23(1)(a) heb ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad adfer”) yn gyntaf, yn rhoi cyfle i’r DLlY i unioni’r tor amod.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau adfer gan gynnwys mewn cysylltiad â (ond heb fod yn gyfyngedig i)—

(a)ffurf a chynnwys hysbysiad adfer;

(b)y camau y gall fod yn ofynnol eu cymryd, neu’r gweithgarwch y mae rhaid ei stopio, er mwyn unioni tor amod trwydded;

(c)yr amserlen ar gyfer cyflawni’r camau, neu ar gyfer stopio’r gweithgarwch, y cyfeirir atynt ym mharagraff (b);

(d)camau gweithredu ataliol y gall fod yn ofynnol eu cymryd er mwyn lleihau’r risg bod tor amod yn digwydd eto;

(e)yr amserlen ar gyfer cyflawni’r camau gweithredu y cyfeirir atynt ym mharagraff (d);

(f)yr amgylchiadau pryd na chaiff ymwelydd breswylio yn y fangre hyd nes bod tor amod trwydded wedi ei unioni, oherwydd risg o niwed difrifol i ymwelydd;

(g)yr amgylchiadau pryd y caniateir dyroddi hysbysiad dirymu o dan adran 23 oherwydd methiant i gydymffurfio â hysbysiad adfer;

(h)unrhyw amgylchiadau pryd na chaniateir dyroddi hysbysiad dirymu o dan adran 23, er gwaethaf methiant i gydymffurfio â hysbysiad adfer;

(i)amrywio hysbysiad adfer neu dynnu hysbysiad adfer yn ôl;‍

(j)archwilio mangre neu ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu at ddiben asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad adfer.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth—

(a)ar gyfer apelau;

(b)sy’n diwygio’r Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 24 mewn grym ar 5.3.2029, gweler a. 61(2)(a)

Trwyddedau: cyfnodau trwydded, adnewyddu a diwygioLL+C

25Cyfnodau trwydded ac adnewyddu trwyddedLL+C

(1)Mae trwydded llety ymwelwyr yn dod i ben ar ddiwedd—

(a)y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r dyddiad y’i rhoddir, neu

(b)unrhyw gyfnod aral‍l a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(b) ddarparu bod cyfnod rhagnodedig yn gymwys—

(a)mewn perthynas â disgrifiad o fangre;

(b)mewn perthynas â disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig;

(c)drwy gyfeirio at natur neu gynnwys y contractau y darperir disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig odanynt yn unol â thrwydded;

(d)mewn perthynas â disgrifiad o DLlY y rhoddir trwydded iddo;

(e)drwy gyfeirio at ddisgrifiad o berson y darperir llety ymwelwyr iddo mewn mangre yn unol â thrwydded;

(f)mewn perthynas ag unrhyw fater arall, neu drwy gyfeirio at unrhyw fater arall, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn perthynas ag adnewyddu trwydded llety ymwelwy‍r.

(4)O ran rheoliadau o dan is-adran (3)—

(a)rhaid iddynt wneud darpariaeth sy’n galluogi trwydded i gael ei thrin fel pe bai’n parhau i gael effaith tan y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn dyfarnu ar gais i adnewyddu;

(b)caniateir iddynt (ymysg pethau eraill) wneud darpariaeth ynghylch gwneud ceisiadau i adnewyddu, a dyfarnu arnynt;

(c)caniateir iddynt (ymysg pethau eraill) ragnodi gofynion sydd i’w bodloni mewn perthynas â chais gan DLlY i adnewyddu trwydded llety ymwelwyr—

(i)mewn perthynas â disgrifiad o fangre;

(ii)mewn perthynas â disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig;

(iii)drwy gyfeirio at natur neu gynnwys y contractau y darperir disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig odanynt yn unol â thrwydded;

(iv)mewn perthynas â disgrifiad o DLlY y rhoddir trwydded iddo;

(v)drwy gyfeirio at ddisgrifiad o berson y darperir llety ymwelwyr iddo mewn mangre yn unol â thrwydded;

(vi)mewn perthynas ag unrhyw fater arall, neu drwy gyfeirio at unrhyw fater arall, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(5)Caiff rheoliadau o dan‍ yr adran hon wneud darpariaeth—‍

(a)ar gyfer apelau;

(b)sy’n diwygio’r Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 25(1)(2) mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

I26A. 25(3)-(5) mewn grym ar 5.3.2029, gweler a. 61(2)(b)

26Diwygio trwyddedLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn perthynas‍ â diwygio trwydded llety ymwelwyr (ar sail barhaol neu dros dro).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)ynghylch—

(i)y weithdrefn y caiff DLlY wneud cais am ddiwygiad i drwydded drwyddi;

(ii)y weithdrefn y caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio trwydded drwyddi heb gytundeb y DLlY;

(b)ynghylch yr amgylchiadau pryd—

(i)y caniateir diwygio manylion y fangre neu’r llety y mae’r drwydded yn ymwneud â hi neu ag ef;

(ii)y caniateir diwygio amodau trwydded.

(3)Ond, pan fo rheoliadau o dan is-adran (1) yn darparu y caniateir diwygio trwydded fel nad yw amod yn adran 15(3)(c) (ffitrwydd mangre) yn gymwys i fangre y rhoddwyd y drwydded mewn cysylltiad â hi—

(a)rhaid i’r rheoliadau hefyd ddarparu bod rhaid i’r drwydded fod yn ddarostyngedig i’r amod yn is-adran (4);

(b)caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer trosedd ddiannod y gellir ei chosbi drwy ddirwy mewn cysylltiad â thorri’r amod yn is-adran (4).

(4)Yr amod yw nad yw’r DLlY yn caniatáu i unrhyw ymwelydd fynd i mewn i’r fangre y cyfeirir ati yn is-adran (3) at ddibenion preswylio yn y llety ymwelwyr rheoleiddiedig.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth—

(a)ar gyfer apelau;

(b)sy’n diwygio’r Ddeddf hon.

(6)At ddibenion yr adran hon, mae cyfeiriad at “mangre”—

(a)mewn perthynas â diwygiad i amod sy’n gymwys mewn cysylltiad â rhan o fangre lle y darperir llety ymwelwyr rheoleiddiedig, yn gyfeiriad at y rhan honno, a

(b)yn achos amod sy’n ymwneud â llety o ddisgrifiad a roddir yn adran 5(1)(a) (llety hunanddarpar rheoleiddiedig), yn cynnwys unrhyw ardal yn yr awyr agored, unrhyw garej neu unrhyw adeilad arall a ddarperir at ddefnydd yr ymwelydd a neb arall yn ystod y cyfnod pryd y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y llety;

(gweler hefyd adran 6(4) sy’n gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â chymhwyso safonau ffitrwydd i fangre lle y darperir llety ymwelwyr).

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 26 mewn grym ar 5.3.2029, gweler a. 61(2)(a)

Trwyddedau: trwyddedau dros dro‍LL+C

27Trwyddedau dros droLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo DLlY—

(a)yn bwriadu darparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr rheoleiddiedig mewn mangre yng Nghymru y mae’r DLlY wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi, a

(b)yn ystyried—

(i)bod y DLlY yn gallu dangos bod y gofynion cymeradwyo yn adran 19(2)(a) a (b) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r fangre, a

(ii)nad yw’r DLlY yn gallu, am y tro, ddangos bod y gofynion cymeradwyo yn adran 19(2)(c)(i) a (ii) (ffitrwydd mangre) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r fangre.

(2)Pan fo’r adran hon yn gymwys, caiff y DLlY wneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded llety ymwelwyr dros dro mewn cysylltiad â’r fangre.

(3)Yn is-adran (2), ystyr “trwydded llety ymwelwyr dros dro ” yw trwydded a roddir yn ddarostyngedig i—

(a)yr amodau a nodir yn adran 15(3)(a) a (b), a

(b)yr amod nad yw’r DLlY yn caniatáu i unrhyw ymwelydd fynd i mewn i’r fangre at ddibenion preswylio yn y llety ymwelwyr rheoleiddiedig.

(4)Rhaid i gais o dan is-adran (2)—

(a)bod ar unrhyw ffurf, a chael ei wneud mewn unrhyw fodd, a bennir gan Weinidogion Cymru;

(b)cynnwys gydag ef unrhyw ffi a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau o dan adran 35(1) mewn cysylltiad â’u swyddogaethau o dan is-adran (5);

(c)pennu’r gofynion cymeradwyo y mae’r DLlY yn ystyried nad ydynt wedi eu bodloni;

(d)cynnwys unrhyw wybodaeth arall a bennir gan Weinidogion Cymru.

(5)Pan fo DLlY yn gwneud cais o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y cais—

(a)dyfarnu a yw’r gofynion cymeradwyo yn adran 19(2)(a) a (b) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi, a

(b)rhoi hysbysiad i’r DLlY yn unol ag is-adran (9).

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru roi’r drwydded i’r DLlY—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y gofynion cymeradwyo y cyfeirir atynt yn is-adran (5)(a) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi, a

(b)pan fo unrhyw ffi a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau o dan adran 35(1) mewn cysylltiad â rhoi’r drwydded wedi ei thalu.

(7)Pan na fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y gofynion cymeradwyo yn adran 19(2)(a) a (b) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r fangre y mae’r cais yn ymwneud â hi, rhaid iddynt wrthod y cais.

(8)At ddibenion yr adran hon, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu pa un a ydynt wedi eu bodloni ai peidio fod gofyniad cymeradwyo wedi ei fodloni—

(a)dim ond ar sail gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y cais (neu wedi ei hepgor ohono), neu

(b)ar sail yr wybodaeth honno ac unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael i Weinidogion Cymru, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) wybodaeth a ddarperir mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau o dan Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon, neu yn rhinwedd y Rhannau hynny.

(9)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (5)(b)—

(a)rhaid i’r hysbysiad—

(i)rhoi gwybod i’r DLlY am ganlyniad y cais (gan gynnwys, pan fo’r cais yn cael ei wrthod, am y rhesymau pam nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y gofynion cymeradwyo yn adran 19(2)(a) a (b) wedi eu bodloni), a

(ii)nodi unrhyw hawl i apelio a roddir gan adran 29;

(b)mae unrhyw benderfyniad a ddatgenir yn yr hysbysiad yn cymryd effaith ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

(10)Pan fo DLlY yn gwneud cais o dan is-adran (2) sy’n ymwneud â dwy neu ragor o fangreoedd, caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod y cais ar wahân mewn cysylltiad â phob mangre.

(11)At ddibenion yr adran hon ac adran 28, mae cyfeiriad at “y fangre”—

(a)mewn perthynas â chais am drwydded sy’n ymwneud â llety ymwelwyr rheoleiddiedig a ddarperir mewn rhan o’r fangre, yn gyfeiriad at y rhan honno o’r fangre lle y darperir y llety hwnnw, a

(b)yn achos cais am drwydded sy’n ymwneud â llety o ddisgrifiad a roddir yn adran 5(1)(a) (llety hunanddarpar rheoleiddiedig), yn cynnwys unrhyw ardal yn yr awyr agored, unrhyw garej neu unrhyw adeilad arall a ddarperir at ddefnydd yr ymwelydd a neb arall yn ystod y cyfnod pryd y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y llety;

(gweler hefyd adran 6(4) sy’n gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â chymhwyso safonau ffitrwydd i fangre lle y darperir llety ymwelwyr).

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 27 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

28Trwyddedau dros dro: darpariaeth bellachLL+C

(1)Caiff DLlY y mae trwydded llety ymwelwyr dros dro wedi ei rhoi iddo o dan adran 27 (ar unrhyw adeg) wneud cais am drwydded llety ymwelwyr o dan adran 18 (“trwydded lawn”).

(2)Ond pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi trwydded lawn i DLlY mewn cysylltiad â mangre o dan adran 20, rhaid iddynt ddirymu’r drwydded llety ymwelwyr dros dro y mae’r DLlY yn meddu arni mewn cysylltiad â’r fangre honno.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch trwyddedau dros dro.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) (ymysg pethau eraill)—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer trosedd ddiannod y gellir ei chosbi drwy ddirwy mewn cysylltiad â thorri’r amod yn adran 27(3)(b);

(b)gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch cymhwyso troseddau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â thrwyddedau llety ymwelwyr dros dro, gan gynnwys darpariaeth sy’n addasu’r troseddau hynny o ran eu cymhwyso mewn perthynas â thrwyddedau o’r fath;

(c)diwygio—

(i)y Ddeddf hon;

(ii)Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5).

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 28 mewn grym ar 5.3.2029, gweler a. 61(2)(a)

ApelauLL+C

29Apelau trwyddeduLL+C

(1)Caiff‍ person y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad iddo am benderfyniad a dan is-adran (2) apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i’r tribiwnlys.

(2)Y penderfyniadau yw—

(a)penderfyniad gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â rhoi trwydded llety ymwelwyr;

(b)penderfyniad gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â dirymu trwydded llety ymwelwyr.

(3)Rhaid gwneud apêl o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad am y penderfyniad (“y cyfnod apelio”).

(4)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl i’r cyfnod hwnnw o 28 o ddiwrnodau ddod i ben os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)Ar apêl o dan is-adran (1), caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r penderfyniad;

(b)cyfarwyddo nad yw’r penderfyniad i gymryd effaith (neu, os yw’r penderfyniad wedi cymryd effaith, gyfarwyddo bod y penderfyniad i beidio â chael effaith);

(c)rhoi penderfyniad arall y gallai Gweinidogion Cymru fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn;

(d)gwneud unrhyw orchymyn arall (gan gynnwys gorchymyn interim) y mae’r tribiwnlys yn ystyried ei fod yn briodol.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “y tribiwnlys” yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 29 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Gorfodi‍LL+C

30Pŵer mynd i mewn ac archwilio at ddibenion gorfodiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo trwydded llety ymwelwyr wedi ei rhoi i DLlY mewn cysylltiad â mangre yn unol â’r Rhan hon, a

(b)pan fo gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu—

(i)bod y DLlY wedi rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r drwydded, neu

(ii)bod amod yn y drwydded wedi ei dorri.

(2)Pan fo’r adran hon yn gymwys a bo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben dyfarnu a yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) wedi codi, caiff person awdurdodedig (yn ddarostyngedig i is-adran (3)) fynd i mewn i’r fangre ar unrhyw adeg resymol.

(3)O ran person awdurdodedig—

(a)rhaid iddo roi rhybudd rhesymol i’r DLlY o’i fwriad i fynd i mewn i’r fangre;

(b)ni chaiff fynd i mewn i’r fangre drwy rym o dan yr adran hon;

(c)cyn mynd i mewn i fangre o dan yr adran hon, rhaid iddo, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person‍ gan Weinidogion Cymru;

(d)caiff gymryd gydag ef unrhyw bersonau eraill ac unrhyw offer y mae’r person awdurdodedig yn ystyried eu bod yn briodol;

(e)caiff edrych ar ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre, heblaw unrhyw ddogfennau sy’n eiddo i ymwelydd sy’n preswylio yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd ymaith.

(4)Yn is-adran (3)(e), mae cyfeiriadau—

(a)at ddogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;

(b)at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a

(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond y gellir cael mynediad atynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.

(5)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (3)(e) yn cynnwys pŵer—‍

(a)i osod gofynion o ran y ffurf y darperir dogfennau ynddi (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);

(b)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig arall y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni (heblaw dyfais sy’n eiddo i ymwelydd).

(6)Nid yw person awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth honni cyflawni swyddogaethau’r person o dan yr adran hon os yw’r llys wedi ei fodloni y cyflawnwyd y weithred yn ddidwyll a bod sail resymol dros ei chyflawni.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 30 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

31Gwarant i fynd i mewn i fangre a’i harchwilio at ddibenion gorfodiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw ynad heddwch wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)pan fo’r fangre yn fangre y mae trwydded wedi ei rhoi mewn perthynas â hi—

(i)bod sail resymol dros fynd i mewn i’r fangre at ddiben‍ dyfarnu a yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a grybwyllir yn adran 30(1)(b) wedi codi, a

(ii)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod neu fod gwrthodiad yn cael ei ddisgwyl yn rhesymol neu fod rhoi hysbysiad i’r DLlY o fwriad person awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre yn debygol o danseilio diben y mynediad, neu

(b)pan na fo’r fangre yn fangre y mae trwydded llety ymwelwyr wedi ei rhoi mewn perthynas â hi, fod sail resymol dros gredu bod y fangre yn cael (neu wedi cael) ei defnyddio fel lle y mae llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn cael (neu wedi cael) ei gynnig neu ei ddarparu yndd‍o.

(2)At ddibenion is-adran (1)(a)(ii), mae mynediad i fangre i’w drin fel pe bai wedi ei wrthod os na cheir ateb i gais am fynediad o fewn cyfnod rhesymol.

(3)Caiff yr ynad heddwch ddyroddi gwarant sy’n rhoi pŵer i fynd i mewn i’r fangre i berson awdurdodedig.

(4)Mae gwarant o dan yr adran hon yn rhoi pŵer i fynd i mewn i fangre—

(a)ar un achlysur yn unig, a

(b)ar adeg resymol yn unig, oni bai bod yr achos yn achos brys.

(5)O ran person sydd wedi ei awdurdodi i fynd i fangre o dan warant—

(a)cyn mynd i fangre o dan y warant, rhaid iddo, os gofynnir iddo wneud hynny—

(i)dangos tystiolaeth o awdurdodiad y person‍ gan Weinidogion Cymru;

(ii)dangos y warant;

(iii)datgan diben mynd i’r fangre;

(b)caiff gymryd gydag ef unrhyw bersonau eraill ac unrhyw offer y mae’r person yn ystyried eu bod yn briodol;

(c)caiff edrych ar ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre, heblaw unrhyw ddogfennau sy’n eiddo i ymwelydd sy’n preswylio yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd ymaith.

(6)Yn is-adran (5)(c), mae cyfeiriadau—

(a)at ddogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;

(b)at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a

(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond y gellir cael mynediad atynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.

(7)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (5)(c)yn cynnwys pŵer—‍

(a)i osod gofynion o ran y ffurf y darperir dogfennau ynddi (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);

(b)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig arall y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni (heblaw dyfais sy’n eiddo i ymwelydd).

(8)Mae gwarant o dan yr adran hon yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 1 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y’i dyroddir.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 31 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

TroseddauLL+C

32Llety ymwelwyr rheoleiddiedig mewn mangre ddidrwydded: troseddLL+C

(1)Mae’n drosedd i berson ddarpar‍u llety ymwelwyr rheoleiddiedig, yng nghwrs masnach neu fusnes, mewn unrhyw fangre oni bai—

(a)bod y person yn meddu ar drwydded llety ymwelwyr mewn cysylltiad â’r fangre sy’n ymwneud â’r llety ymwelwyr rheoleiddiedig;

(b)pan na fo’r person yn meddu ar drwydded llety ymwelwyr mewn cysylltiad â’r fangre sy’n ymwneud â’r llety ymwelwyr rheoleiddiedig, fod y person yn darparu’r llety gyda chaniatâd person (“P”) sy’n meddu ar drwydded o’r fath (ni waeth a roddwyd y caniatâd hwnnw gan P neu gydag awdurdod P).

(2)Nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) os oedd gan y person esgus rhesymol dros y weithred neu’r anweithred sy’n dod o fewn yr is-adran honno.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 32 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

33Trosedd o rwystro’n fwriadolLL+C

(1)Mae person y cyfeirir ato yn is-adran (2) yn cyflawni trosedd os yw’r person yn rhwystro’n fwriadol berson awdurdodedig sy’n arfer swyddogaeth yn ddilys o dan‍ adran 30.

(2)Y personau yw—

(a)person sy’n‍ meddu ar drwydded llety ymwelwyr mewn cysylltiad â’r fangre y mae’r person awdurdodedig yn arfer y swyddogaeth mewn perthynas â hi (“y fangre berthnasol”);

(b)person (heblaw person sy’n meddu ar drwydded llety ymwelwyr mewn cysylltiad â’r fangre berthnasol) sy’n darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn y fangre berthnasol;

(c)person sy’n cynorthwyo (neu sydd wedi cynorthwyo) gyda darparu llety ymwelwyr rheoleiddiedig gan berson a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b), neu sy’n hwyluso (neu sydd wedi hwyluso) darparu llety ymwelwyr rheoleiddiedig gan berson o’r fath, yn y fangre berthnasol.

(3)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn rhwystro’n fwriadol berson awdurdodedig wrth i’r person awdurdodedig hwnnw arfer pŵer a roddir yn rhinwedd gwarant o dan adran 31.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) neu (3)yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 33 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Swyddogaethau eraill Gweinidogion CymruLL+C

34Dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas â thrwyddeduLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal cofrestr o drwyddedau llety ymwelwyr.

(2)O ran y gofrestr a sefydlir o dan is-adran (1)—

(a)rhaid iddi gynnwys yr wybodaeth a nodir yn is-adran (3);

(b)caiff gynnwys unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau o dan‍ neu yn rhinwedd y Ddeddf hon y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

(3)Rhaid i gofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â thrwydded a roddir i DLlY o dan‍ y Bennod hon gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw’r DLlY;

(b)unrhyw enw busnes a ddefnyddir gan y DLlY;

(c)cyfeiriad busnes y DLlY;

(d)y llety ymwelwyr rheoleiddiedig y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef;

(e)y fangre y mae’r drwydded yn ymwneud â hi;

(f)y rhif cofrestru a ddyroddir gan ACC i’r DLlY mewn cysylltiad â’r fangre o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5);

(g)y dyddiad y rhoddir y drwydded a, phan fo’n gymwys, y dyddiad y diwygir neu yr adnewyddir hi;

(h)y dyddiad y bydd y drwydded yn dod i ben;

(i)unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag—

(i)y gofynion cymeradwyo;

(ii)amodau’r drwydded,

y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r wybodaeth a gynhwysir mewn cofnod yn y gofrestr o dan is-adran (2)(a).

(5)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi—

(a)enw unigolyn, oni bai—

(i)bod yr unigolyn yn cydsynio i’w enw gael ei gyhoeddi, neu

(ii)bod enw cyntaf a chyfenw’r unigolyn yn rhan o enw busnes DLlY;

(b)cyfeiriad unig breswylfa neu brif breswylfa unigolyn, oni bai—

(i)bod yr unigolyn yn cydsynio i’w gyfeiriad gael ei gyhoeddi, neu

(ii)bod y cyfeiriad yn gyfeiriad mangre‍ y mae DLlY wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (2)(b); ond ni chânt gyhoeddi gwybodaeth o dan yr is-adran hon os gwaherddir hwy rhag cyhoeddi’r wybodaeth honno drwy unrhyw ddeddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol.

(7)At ddibenion yr adran hon, “cyfeiriad busnes” partneriaeth, corff corfforedig neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 34 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

35Ffioedd mewn perthynas â thrwyddedau llety ymwelwyrLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn perthynas â chodi ffioedd mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan‍ neu yn rhinwedd y Bennod hon neu Bennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymysg pethau eraill) ddarparu ar gyfer—

(a)swm, neu uchafswm, ffi;

(b)ffi, neu uchafswm ffi, i’w phennu neu ei bennu yn unol â rheoliadau;

(c)ffioedd gwahanol mewn amgylchiadau gwahanol;

(d)gostwng, hepgor neu ad-dalu ffioedd;

(e)y dull y mae ffioedd i gael eu talu;

(f)apelau yn erbyn penderfyniadau yn ymwneud â ffioedd;

(g)ffi i gael ei hadennill yn ddiannod fel dyled sifil.

(3)Cyn gwneud y rheoliadau cyntaf o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol a‍ rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny ymateb.

(4)Cyn gwneud‍ yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 35 mewn grym ar 5.3.2029, gweler a. 61(2)(a)

36Pwerau i rannu gwybodaethLL+C

(1)Caiff person a grybwyllir yn is-adran (3) ddatgelu gwybodaeth i Weinidogion Cymru at ddibenion unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan‍ Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon neu o dan reoliadau a wneir o dan Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddatgelu gwybodaeth y maent yn ei dal mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau o dan‍ neu yn rhinwedd y Bennod hon, Rhan 4 neu Bennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf hon i—

(a)person a grybwyllir yn is-adran (3), pan fo’r wybodaeth yn cael ei datgelu at ddibenion swyddogaethau’r person hwnnw;

(b)unrhyw berson (gan gynnwys person a grybwyllir yn is-adran (3)), at ddibenion unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan‍ neu yn rhinwedd y Bennod hon, Rhan 4 neu Bennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf hon.

(3)Y personau a grybwyllir yn yr is-adran hon yw—

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;

(c)ACC;

(d)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(e)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(f)person a ddynodir yn awdurdod trwyddedu at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (rheoleiddio tai rhent preifat);

(g)unrhyw berson arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(4)Nid yw datgelu gwybodaeth o dan yr adran hon yn torri—

(a)unrhyw rwymedigaeth o ran cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n datgelu’r wybodaeth, na

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y caiff ei osod).

(5)Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) (diogelu gofynion ar gyfer prosesu data personol).

(6)Yn adran 18(1) (datgelu a ganiateir) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6)

(a)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (i);‍

(b)ym mharagraff (k)(ii), yn lle “adran 2 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969 (p. 51)” rhodder “Ddeddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 (dsc 00)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 36 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

37Darpariaeth benodol sy’n gymwys mewn cysylltiad â thrwyddedau safleoedd gwersylla a thrwyddedau safleoedd carafannauLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys os yw rheoliadau o dan adran 5(1)(b) (disgrifiad o “llety ymwelwyr rheoleiddiedig”) yn rhagnodi llety ymwelwyr ar—

(a)safle gwersylla y mae adran 269 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p. 49) yn gymwys iddo;

(b)safle carafannau y mae Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62) yn gymwys iddo.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, wrth roi neu adnewyddu trwydded llety ymwelwyr mewn perthynas â darparu llety ymwelwyr o’r disgrifiad hwnnw, bennu’r amodau‍ trwydded hynny (sy’n gymwys fesul achos unigol) y maent yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn—

(a)cyfyngu ar y cyfnod yn ystod unrhyw flwyddyn galendr y caniateir darparu’r llety ymwelwyr hwnnw ar y safle gwersylla neu’r safle carafannau perthnasol;

(b)cyfyngu ar gapasiti’r llety ymwelwyr hwnnw a ddarperir ar y safle gwersylla neu’r safle carafannau perthnasol;

(c)cynnal neu wella amwynder y tir y mae’r safle gwersylla neu’r safle carafannau perthnasol arno.

(3)Ni chaniateir pennu amodau o dan is-adran (2) ond gyda chytundeb y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal y mae’r safle gwersylla neu’r safle carafannau ynddi.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau addasu unrhyw ddarpariaeth yn y Bennod hon at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â’r amodau a bennir yn yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 37 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

PENNOD 3LL+CLLETY YMWELWYR RHEOLEIDDIEDIG: TELERAU CONTRACT

Telerau contractiol a ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyrLL+C

38Contractau llety ymwelwyrLL+C

(1)At ddibenion y Bennod hon, mae contract yn “contract llety ymwelwyr” os yw’r contract yn rhoi hawlogaeth i unigolyn (“ymwelydd”) i breswylio mewn llety ymwelwyr rheoleiddiedig am ddim mwy na 31 o nosweithiau (pa un a yw’r nosweithiau hynny yn olynol ai peidio).

(2)Yn is-adran (1), nid yw “contract llety ymwelwyr” yn cynnwys—

(a)contract gwasanaeth,

(b)contract prentisiaeth, nac

(c)contract am wasanaethau y mae person sydd â hawlogaeth i breswylio yn y llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn darparu gwasanaeth odano i’r DLlY.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 38 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

39Rhwymedigaeth gontractiol i sicrhau bod mangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyrLL+C

(1)Mae is-adran (2) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract llety ymwelwyr.

(2)Rhaid i’r DLlY sicrhau bod y fangre lle y darperir y llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn ffit i fod yn llety ymwelwyr pan fydd gan yr ymwelydd, yn unol â’r contract, hawlogaeth i breswylio yn y llety.

(3)O ran is-adran (2)—

(a)caniateir iddi gael ei hymgorffori fel un o delerau contract llety ymwelwyr gydag addasiadau, neu

(b)nid oes angen iddi gael ei hymgorffori fel un o delerau contract llety ymwelwyr,

os yw effaith yr addasiadau, neu effaith peidio ag ymgorffori is-adran (2), yn fwy ffafriol i’r ymwelydd.

(4)Caiff ymwelydd sydd â hawlogaeth i breswylio yn y fangre yn unol â’r contract ddibynnu ar y teler yn y contract sy’n ymgorffori is-adran (2), ni waeth a yw’r ymwelydd yn barti i’r contract hwnnw.

(5)Nid yw ymgorffori is-adran (2) fel un o delerau contract llety ymwelwyr yn cael unrhyw effaith ar weithredu unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw reol gyfreithiol sy’n fwy ffafriol i’r ymwelydd.

(6)Nid yw teler mewn contract llety ymwelwyr sy’n anghydnaws ag unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn cael unrhyw effaith—

(a)y teler yn y contract sy’n ymgorffori is-adran (2) (gydag addasiadau neu hebddynt);

(b)is-adran (4);

(c)adran 40;

(d)adran 41.

(7)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at is-adran (2) yn cynnwys cyfeiriad at y teler mewn contract llety ymwelwyr sy’n ymgorffori is-adran (2) (gydag addasiadau neu hebddynt).

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 39 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Cyfyngiadau ar y rhwymedigaeth i sicrhau bod mangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyrLL+C

40Cyfyngiadau ar y ddyletswydd ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: bai ymwelyddLL+C

(1)Nid yw adran 39 yn gosod unrhyw atebolrwydd ar y DLlY os nad yw’r fangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr yn llwyr neu’n bennaf oherwydd gweithred neu anweithred (gan gynnwys gweithred neu anweithred sy’n gyfystyr â diffyg gofal) ar ran yr ymwelydd.

(2)Nid yw’n ofynnol gan adran 39(2) i’r DLlY gyflawni gwaith nac atgyweiriadau os gellir priodoli’r cyflwr gwael yn llwyr neu’n bennaf i ddiffyg gofal ar ran yr ymwelydd.

(3)Ystyr “diffyg gofal” yw methu â gofalu’n briodol—

(a)am y fangre, a

(b)os yw’r fangre yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, am y rhannau cyffredin y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i’w defnyddio o dan y contract llety ymwelwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 40 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

41Cyfyngiadau ar y ddyletswydd ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: gwybodaeth DLlYLL+C

(1)Nid yw DLlY wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan adran 39(2)—

(a)os nad yw’r DLlY yn ymwybodol, a

(b)os na ellid disgwyl yn rhesymol i’r DLlY fod yn ymwybodol,

nad yw’r fangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr.

(2)Nid yw DLlY wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan adran 39(2) os yw’r DLlY yn gwneud y fangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr o fewn amser rhesymol ar ôl‍ i’r DLlY ddod yn ymwybodol, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol, nad yw’r fangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw hawlogaeth ymwelydd i breswylio yn y llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn dechrau ar adeg pan fo’r DLlY yn ymwybodol, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol, nad yw’r fangre yn ffit i fod yn llety ymwelwyr.

(4)At ddibenion dyfarnu beth yw “amser rhesymol”, rhaid rhoi sylw i—

(a)i ba raddau yr amherir ar fwynhad yr ymwelydd o’r fangre, a

(b)a yw’n rhesymol ac yn bosibl cyflawni’r gwaith neu’r atgyweiriadau angenrheidiol cyn diwedd y cyfnod yn ystod yr hwn y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 41 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Rhagolygol

RHAN 4LL+CDARPARU GWYBODAETH I’R CYHOEDD AM LETY YMWELWYR

Cyfeiriadur o fangreoedd llety ymwelwyrLL+C

42Cyfeiriadur o lety ymwelwyrLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys mewn cysylltiad â gwybodaeth—

(a)y mae’n ofynnol i ACC ei chyhoeddi yn unol ag adran 4(4) o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5) ac Atodlen 1 iddi (y gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr), a

(b)y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ei chyhoeddi yn unol ag adran 34 o’r Ddeddf hon (y gofrestr o drwyddedau llety ymwelwyr).

(2)Rhaid i ACC a Gweinidogion Cymru sicrhau bod yr wybodaeth y mae’r‍ is-adran hon yn gymwys iddi yn cael ei rhoi ar gael i’r cyhoedd, gyda’i gilydd, ar ffurf cyfeiriadur electronig o fangreoedd lle y darperir llety ymwelwyr.

(3)Yn unol â hynny, rhaid i’r cyfeiriadur gynnwys—

(a)mewn perthynas â phob mangre lle y darperir llety ymwelwyr—

(i)enw’r fangre (os oes gan y fangre enw);

(ii)cyfeiriad (gan gynnwys sir neu fwrdeistref sirol) y fangre;

(iii)enw’r DLlY (neu bob DLlY) sydd wedi ei gofrestru i ddarparu llety ymwelwyr yn y fangre (gan gynnwys unrhyw enw busnes a ddefnyddir gan y DLlY);

(iv)y rhif cofrestru a ddyroddir gan ACC i’r DLlY (neu i bob DLlY) mewn cysylltiad â’r fangre o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5);

(v)y disgrifiad o lety ymwelwyr a ddarperir yn y fangre gan y DLlY (neu gan bob DLlY);

(vi)enw’r llety ymwelwyr hwnnw (os oes gan y llety enw a’i fod yn wahanol i enw’r fangre);

(vii)uchafswm nifer y bobl y gellir eu lletya yn y llety ymwelwyr;

(viii)unrhyw wybodaeth arall o ddisgrifiad a roddir yn is-adran (1);

(b)mewn perthynas â mangre lle y mae DLlY yn darparu llety ymwelwyr rheoleiddiedig—

(i)manylion unrhyw drwydded y mae’r DLlY yn meddu arni mewn cysylltiad â’r fangre y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru eu rhoi ar gael yn rhinwedd is-adran (2) ;

(ii)cadarnhad o unrhyw esemptiad a roddir i’r DLlY rhag y gofyniad i fod yn drwyddedig mewn perthynas â’r fangre (neu’r rhan honno o’r fangre) lle y darperir y llety hwnnw, ac

(c)mewn perthynas â mangre lle y mae’r DLlY yn darparu llety ymwelwyr heblaw llety ymwelwyr rheoleiddiedig, gadarnhad nad yw’n ofynnol i’r DLlY fod yn drwyddedig o dan Ran 3 mewn perthynas â darparu’r llety hwnnw yn y fangre honno.

(4)Caiff ACC gynnwys unrhyw wybodaeth arall yn y cyfeiriadur sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau’r ACC o dan—

(a)y Ddeddf hon;

(b)Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5);

(c)Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6);

(d)unrhyw reoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys unrhyw wybodaeth arall yn y cyfeiriadur sy’n ymwneud ag arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y Deddf hon.

(6)Ond ni chaiff y cyfeiriadur gynnwys unrhyw wybodaeth na chaiff Gweinidogion Cymru nac ACC ei chyhoeddi yn rhinwedd—

(a)yn achos Gweinidogion Cymru, adran 34(5) o’r Ddeddf hon;

(b)yn achos ACC, adran 4(5) o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5).

(7)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys mewn perthynas â mangre y mae DLlY wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi, ni waeth a yw’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr yn y fangre honno ar unrhyw ddiwrnod penodol; ac mae cyfeiriadau at “a ddarperir” etc. i’w darllen yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 42 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Hysbysebu a marchnata etc.LL+C

43Gofynion sy’n ymwneud â hysbysebu a marchnata etc.LL+C

(1)Ni chaiff person hysbysebu na marchnata fel arall lety ymwelwyr (gan gynnwys llety ymwelwyr rheoleiddiedig) mewn mangre heb gynnwys, mewn modd ac ar ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru—

(a)y rhif cofrestru ar gyfer y fangre, a

(b)cyfarwyddiadau ynghylch sut i ddod o hyd i wybodaeth am y fangre, gan ddefnyddio’r rhif cofrestru hwnnw, yn y cyfeiriadur o lety ymwelwyr a roddir ar gael i’r cyhoedd o dan adran 42 (cyfeiriadur o lety ymwelwyr).

(2)At ddibenion‍ is-adran (1), y rhif cofrestru ar gyfer y fangre yw—

(a)pan‍ mai’r person sy’n hysbysebu neu’n marchnata fel arall y llety yw’r DLlY sy’n darparu neu’n cynnig y llety, y rhif cofrestru a ddyroddir gan ACC i’r person mewn cysylltiad â’r fangre o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5), neu

(b)pan‍ na fo’r person sy’n hysbysebu neu’n marchnata fel arall y llety yn DLlY y dyroddwyd rhif cofrestru iddo mewn cysylltiad â’r fangre, y rhif cofrestru a ddyroddwyd i’r DLlY sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r fangre mewn perthynas â’r llety sy’n cael ei hysbysebu neu ei farchnata fel arall.

(3)Ni chaiff person (“P”), yng nghwrs masnach neu fusnes, hysbysebu na marchnata fel arall, na chynnig, llety ymwelwyr rheoleiddiedig (ni waeth a yw P yn un o ddarparwyr y llety), oni bai bod P neu berson arall yn meddu ar drwydded llety ymwelwyr mewn cysylltiad â’r fangre sy’n ymwneud â’r llety ymwelwyr rheoleiddiedig o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 43 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

44Troseddau sy’n ymwneud â hysbysebu a marchnata etc. llety ymwelwyrLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnn‍w yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn adran 43(1).

(2)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn adran 43(3).

(3)Ond nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) os oes gan y person hwnnw esgus rhesymol dros y methiant i gydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.

(4)Heb gyfyngu ar gyffredinolrwydd is-adran (3), mae gan berson (“P”) esgus rhesymol—

(a)os cymerodd P bob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw;

(b)os nad oedd P yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, nad oedd P yn cydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.

(5)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan is-adrannau (1) a (2), mae person yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny, ond ni all gael ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 44 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

RHAN 5LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Rhagolygol

PENNOD 1LL+CAMRYWIOL

Cymhwyso’r Ddeddf i achosion arbennigLL+C

45Dyletswyddau ac atebolrwyddau partneriaethau a chyrff anghorfforedigLL+C

(1)Pan fo unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud o dan y Ddeddf hon i gael ei wneud gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n cynnal busnes mewn partneriaeth, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n bartner ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.

(2)Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt; ac os yw prif fan busnes y bartneriaeth yn yr Alban, caniateir hefyd iddo gael ei wneud gan unrhyw berson arall a awdurdodir gan y bartneriaeth.

(3)Pan fo unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud o dan y Ddeddf hon i gael ei wneud gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n cynnal busnes fel corff anghorfforedig, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n aelod rheoli o’r corff ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.

(4)Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob aelod rheoli o’r corff gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt.

(5)Mae atebolrwydd am dalu swm perthnasol o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan bersonau sy’n cynnal busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig yn atebolrwydd ar y cyd ac unigol i bob person sy’n aelod o’r bartneriaeth neu’r corff ar yr adeg y gwneir y peth neu’r adeg nas gwneir.

(6)At ddibenion yr adran hon—

(a)aelodau rheoli corff anghorfforedig yw—

(i)pob aelod o’r corff anghorfforedig sy’n dal swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd, neu unrhyw swydd debyg;

(ii)os nad oes unrhyw swydd o’r fath, pob aelod sy’n dal swydd aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff;

(iii)os nad oes unrhyw swydd na phwyllgor o’r fath, pob aelod o’r corff;

(b)ystyr “swm perthnasol” yw swm sy’n daladwy mewn perthynas â chael neu gadw trwydded llety ymwelwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 45 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

46Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynghylch partneriaethau a chyrff anghorfforedigLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag achosion pan fo personau yn cynnal busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, diddymu darpariaeth o’r fath, ei dirymu neu ei diwygio fel arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 46 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

47Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chyrff anghorfforedigLL+C

(1)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

(2)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig i gael ei ddwyn yn enw’r corff (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau).

(3)Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r corff anghorfforedig yn gorff corfforedig.

(4)Mae Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gorff anghorfforedig fel y mae yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

(5)Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.

(6)Mae dirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ar ei euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu o gronfeydd y corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 47 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

48Atebolrwydd troseddol uwch-swyddogion etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan—

(a)corff corfforedig;

(b)partneriaeth;

(c)corff anghorfforedig.

(2)Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gan y canlynol, neu gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)un o uwch-swyddogion y corff corfforedig neu’r bartneriaeth neu’r corff anghorfforedig, neu

(b)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn rhinwedd a grybwyllir ym mharagraff (a),

mae’r uwch-swyddog hwnnw neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforedig, y bartneriaeth neu’r corff anghorfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw—

(a)mewn perthynas â chorff corfforedig, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig;

(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;

(c)mewn perthynas â chorff anghorfforedig—

(i)aelod o’r corff anghorfforedig sy’n dal swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd, neu unrhyw swydd debyg;

(ii)aelod sy’n dal swydd aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff.

(4)Yn is-adran (3)(a), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 48 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

49Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch marwolaeth, analluedd ac ansolfeddLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag achosion pan fo DLlY yn marw, yn mynd yn analluog neu’n dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bodoli fel arall, diddymu darpariaeth o’r fath, ei dirymu, neu ei diwygio fel arall.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)ynglŷn â’r amgylchiadau pryd y mae DLlY yn mynd yn analluog neu’n dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bod yn analluog neu’n ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bodoli fel arall;

(b)sy’n rhagnodi amgylchiadau pryd y ceir caniatáu dilyniant yn narpariaeth llety ymwelwyr rheoleiddiedig (gweler Pennod 2 o Ran 3) ar sail interim neu dros dro, pan fo DLlY wedi marw, wedi mynd yn analluog neu wedi dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu wedi peidio â bodoli fel arall (gan gynnwys amgylchiadau pryd nad yw’r troseddau o dan adrannau 32 a 44 yn gymwys);

(c)sy’n caniatáu trosglwyddo trwydded llety ymwelwyr, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—

(i)sy’n rhagnodi amgylchiadau pryd y caniateir neu na chaniateir trosglwyddo trwydded llety ymwelwyr;

(ii)sy’n rhagnodi gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy cyn y caniateir trosglwyddo trwydded;

(iii)sy’n rhagnodi amgylchiadau pryd y mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i drosglwyddo trwydded;

(iv)ynglŷn â gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth a dyfarnu arnynt;

(v)ar gyfer codi ffioedd, ac mewn perthynas â hynny, mewn cysylltiad â throsglwyddo trwydded;

(d)sy’n gymwys yn ddarostyngedig i amodau;

(e)sy’n gymwys pa un a yw unrhyw un arall yn cynnal busnes y DLlY ar ôl i’r DLlY farw, mynd yn analluog neu ddod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu beidio â bodoli fel arall, ai peidio;

(f)ar gyfer—

(i)trosedd o dan‍ Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon, neu yn rhinwedd y Rhannau hynny, i beidio â bod yn gymwys;

(ii)troseddau diannod y gellir eu cosbi drwy ddirwy mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;

(iii)apelau.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 49 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

50Pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth i sicrhau dilyniant wrth gymhwyso’r Ddeddf hon pan—

(a)drosglwyddir busnes DLlY oddi wrth y DLlY i berson arall fel busnes gweithredol;

(b)pan drosglwyddir mangre lle y darperir llety ymwelwyr rheoleiddiedig.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)mewn perthynas â throsglwyddo busnes DLlY fel busnes gweithredol neu â throsglwyddo mangre lle y darperir llety ymwelwyr rheoleiddiedig—

(i)sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gael eu hysbysu am y trosglwyddiad;

(ii)i unrhyw atebolrwydd neu ddyletswydd ar ran y trosglwyddwr o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf hon, ddod yn atebolrwydd neu’n ddyletswydd i’r trosglwyddai;

(iii)i unrhyw beth a wnaed cyn y trosglwyddiad gan y trosglwyddwr neu mewn perthynas â’r trosglwyddwr gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai wedi ei wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas â’r trosglwyddai;

(iv)ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;

(v)sy’n rhagnodi amgylchiadau pryd y ceir caniatáu dilyniant yn narpariaeth llety ymwelwyr rheoleiddiedig ar sail interim neu dros dro, pan drosglwyddir busnes DLlY oddi wrth y DLlY i berson arall fel busnes gweithredol, neu pan drosglwyddir mangre lle y darperir llety ymwelwyr rheoleiddiedig (gan gynnwys amgylchiadau pryd nad yw’r troseddau o dan adrannau 32 a 44 yn gymwys);

(b)sy’n caniatáu trosglwyddo trwydded llety ymwelwyr, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—

(i)sy’n rhagnodi amgylchiadau pryd y caniateir neu na chaniateir trosglwyddo trwydded llety ymwelwyr;

(ii)sy’n rhagnodi gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy cyn y caniateir trosglwyddo trwydded;

(iii)sy’n rhagnodi amgylchiadau pryd y mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i drosglwyddo trwydded;

(iv)ynglŷn â gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth a dyfarnu arnynt;

(v)ar gyfer ac mewn perthynas â chodi ffioedd mewn cysylltiad â throsglwyddo trwydded.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n gymwys yn ddarostyngedig i amodau, ac yn benodol cânt—

(a)darparu ei bod yn ofynnol cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn cymhwyso unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran‍ (2)(a) i drosglwyddwr a throsglwyddai;

(b)gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth a dyfarnu arnynt.

(4)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)trosedd o dan Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon, neu yn rhinwedd y Rhannau hynny, i beidio â bod yn gymwys;

(b)troseddau diannod y gellir eu cosbi drwy ddirwy mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;

(c)apelau.

(5)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 50 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

51Pŵer i ddatgymhwyso darpariaethau penodol o’r DdeddfLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu nad yw personau o ddisgrifiad rhagnodedig, a fyddai fel arall yn cyflawni trosedd o dan adran 32 neu 44, yn cyflawni’r drosedd honno.

(2)Caiff y rheoliadau hefyd ddarparu nad yw’r gofyniad yn adran 39(2) yn gymwys i unrhyw berson a ragnodir yn unol ag is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 51 mewn grym ar 5.3.2029, gweler a. 61(2)(a)

Pŵer a throseddau sy’n ymwneud â darparu gwybodaethLL+C

52Pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwybodaeth”) i berson a grybwyllir yn is-adran (2), yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu unrhyw ddogfen—

(a)sydd o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion arfer eu swyddogaethau o dan Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon, neu yn rhinwedd y Rhannau hynny.

(2)Y personau y caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad gwybodaeth iddynt yw—

(a)person y mae trwydded llety ymwelwyr wedi ei rhoi iddo;

(b)person y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y gall fod yn darparu neu y gall fod yn cynnig darparu, neu y gall fod wedi darparu neu y gall fod wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr rheoleiddiedig;

(c)person sy’n cynorthwyo (neu sydd wedi cynorthwyo) gyda darparu llety ymwelwyr rheoleiddiedig gan berson a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b), neu sy’n hwyluso (neu sydd wedi hwyluso) darparu llety ymwelwyr rheoleiddiedig gan berson o’r fath.

(3)Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad gwybodaeth iddo, os oes gan y person fynediad at yr wybodaeth neu’r ddogfen o dan sylw, ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen—

(a)ar y ffurf sy’n ofynnol, a

(b)ar neu cyn—

(i)y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, neu

(ii)unrhyw ddyddiad arall y cytunir arno gan y person a Gweinidogion Cymru.

(4)Nid yw hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu ddogfen i Weinidogion Cymru os yw datgelu’r wybodaeth neu’r ddogfen honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(5)Ni chaniateir i wybodaeth a roddir gan berson mewn ymateb i hysbysiad gwybodaeth gael ei defnyddio mewn achos troseddol yn erbyn y person hwnnw, ond nid yw hyn yn gymwys—

(a)os yw’r achos am drosedd o dan adran 54 (darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol);

(b)os yw’r achos am drosedd o wyrdroi cwrs cyfiawnder;

(c)os, yn ystod yr achos, dygir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person, neu ar ei ran;

(d)os, yn ystod yr achos, gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person, neu ar ei ran.

(6)Rhaid i hysbysiad gwybodaeth gynnwys gwybodaeth am y canlyniadau o dan adran 53 o fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 52 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

53Trosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaethLL+C

(1)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag adran 52 yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 53 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

54Trosedd o ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniolLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)yn darparu unrhyw wybodaeth neu unrhyw ddogfen i Weinidogion Cymru, mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau o dan Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon, neu yn rhinwedd y Rhannau hynny, sy’n anwir neu’n gamarweiniol, a

(b)yn gwybod bod yr wybodaeth neu’r ddogfen yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid o ran a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.

(2)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)yn darparu i berson arall unrhyw wybodaeth neu unrhyw ddogfen sy’n anwir neu’n gamarweiniol,

(b)yn gwybod bod yr wybodaeth neu’r ddogfen yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid o ran a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, ac

(c)yn gwybod bod yr wybodaeth neu’r ddogfen i’w defnyddio gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau o dan Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon, neu yn rhinwedd y Rhannau hynny.

(3)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1) neu (2) (“P”) ddangos, ar adeg darparu’r wybodaeth neu’r ddogfen, fod P wedi rhoi gwybod i’r person y darparodd yr wybodaeth neu’r ddogfen iddo fod P yn gwybod, neu’n amau, ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol.

(4)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “yn anwir neu’n gamarweiniol” yw yn anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fodd perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 54 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Troseddau: hysbysiadau cosbLL+C

55Hysbysiadau cosbLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i berson os ydynt wedi eu bodloni bod y person wedi cyflawni trosedd o dan y Ddeddf hon.

(2)Mae hysbysiad cosb yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i’r person i ryddhau ei hun rhag unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi drwy dalu i Weinidogion Cymru swm a bennir yn yr hysbysiad yn unol â thelerau’r hysbysiad.

(3)Os yw person yn cael hysbysiad cosb, ni chaniateir i achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi gael ei ddwyn cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(4)Os yw person sy’n cael hysbysiad cosb yn talu’r swm a bennir yn yr hysbysiad yn unol â thelerau’r hysbysiad, ni all y person gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—

(a)o ran ffurf a chynnwys hysbysiadau cosb;

(b)o ran y swm sy’n daladwy o dan hysbysiad cosb a’r amser y mae’r swm i gael ei dalu ynddo (gan gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu i swm gwahanol fod yn daladwy mewn perthynas â throseddau gwahanol ac yn unol â’r amser erbyn pryd y caiff y swm ei dalu);

(c)sy’n pennu’r ffyrdd y caniateir i swm gael ei dalu ynddynt;

(d)o ran y cofnodion sydd i’w cadw mewn perthynas â hysbysiadau cosb;

(e)ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(i)ad-dalu unrhyw swm a delir cyn y tynnir hysbysiad yn ôl, a

(ii)yr amgylchiadau pan na chaniateir i achos am drosedd gael ei ddwyn er bod hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 55 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

PENNOD 2LL+CCYFFREDINOL

Rhagolygol

56Canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau‍ mewn cysylltiad â rheoleiddio llety ymwelwyr o dan neu yn rhinwedd Rhannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon.

(2)Cyn dyroddi canllawiau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 56 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

57Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon) ac mae hyn yn cynnwys—

(a)os yw rheoliadau o dan adran 5(1)(b) (ystyr “llety ymwelwyr rheoleiddiedig”) yn rhagnodi disgrifiad o lety ymwelwyr y mae adran 269 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p. 49) (trwyddedu safleoedd gwersylla) yn gymwys iddo, datgymhwyso’r adran honno o ran Cymru;

(b)os yw rheoliadau o dan adran 5(1)(b) (ystyr “llety ymwelwyr rheoleiddiedig”) yn rhagnodi disgrifiad o lety ymwelwyr y mae Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62) (trwyddedu safleoedd carafannau) yn gymwys iddo, datgymhwyso’r Rhan honno o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 57 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 61(1)

58Adolygu gweithrediad ac effaith y DdeddfLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cynnal adolygiad o weithrediad ac effaith Rhannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon, a

(b)cyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiad ar yr adolygiad.

(2)Rhaid cwblhau’r adolygiad o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rhannau hynny i rym yn llawn.

(3)Wrth gynnal adolygiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Rhaid gosod adroddiad o dan is-adran (1) gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 58 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 61(1)

59Rheoliadau o dan y Ddeddf honLL+C

(1)Mae pŵer neu ddyletswydd i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol Cymreig.

(2)Mae pŵer neu ddyletswydd i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;

(b)i wneud—

(i)darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(ii)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn addasu, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

(4)Mae rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd—

(a)adran 5(1)(b) (ystyr llety ymwelwyr rheoleiddiedig);

(b)adran 5(7)(d) (ystyr mangre);

(c)adran 6(2) (ystyr ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr);

(d)adran 17(1) (amodau pellach);

(e)adran 19(3) (gofynion cymeradwyo);

(f)adran 24(1) (torri amodau trwydded: hysbysiadau adfer);

(g)adran‍ 25 (cyfnodau trwydded ac adnewyddu trwydded);

(h)adran 26(1) (diwygio trwydded);

(i)adran‍ 28(3) (trwyddedau dros dro);

(j)y rheoliadau cyntaf o dan adran 35(1) (ffioedd mewn perthynas â thrwyddedau llety ymwelwyr);

(k)adran 37(4) (darpariaeth benodol sy’n gymwys mewn cysylltiad â thrwyddedau safleoedd gwersylla a thrwyddedau safleoedd carafannau);

(l)adran 46 (pŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â phartneriaethau a chyrff anghorfforedig);

(m)adran 49(1) (pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â marwolaeth, analluedd ac ansolfedd);

(n)adran 50(1) (pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol);

(o)adran 51(1) (pŵer i ddatgymhwyso darpariaethau penodol o’r Ddeddf);

(p)adran 55(5) (hysbysiadau cosb);

(q)adran 57(1) (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.) pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu deddfiad a gynhwysir mewn deddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

(5)Mae unrhyw reoliadau eraill o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.

(6)Yn is-adran (4), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur gan y Cynulliad;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 59 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 61(1)

60Dehongli a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinioLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon mae i’r termau a ganlyn yr ystyron a ganlyn—

  • ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;

  • mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys siale, lodies, caban gwyliau neu strwythur tebyg;

  • mae i “amwynderau, cyfleusterau a gwasanaethau i dwristiaid yng Nghymru” (“tourist amenities, facilities and services in Wales”) yr ystyr a roddir gan adran 2(4);

  • mae i “ar sail tymor byr” (“short-term basis”) yr ystyr a roddir yn adran 5(7);

  • ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod tân ac achub a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

  • ystyr “cofrestredig” (“registered”), oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw cofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5) ac mae cyfeiriadau at y gofrestr neu at gofnod yn y gofrestr i’w dehongli yn unol â hynny;

  • mae i “contract llety ymwelwyr” (“visitor accommodation contract”) yr ystyr a roddir yn adran 38;

  • mae i “darparu” (“providing”) neu “yn cynnig darparu” (“offering to provide”), yng nghyd-destun llety ymwelwyr, yr ystyr a roddir yn adran 5(7);

  • mae i “darparwr llety ymwelwyr” (“visitor accommodation provider”) (neu “DLlY” (“VAP”)) yr ystyr a roddir yn adran 5(7);

  • mae i “ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr” (“fitness for visitor accommodation”) yr ystyr a roddir yn adran 6;

  • mae i “gofynion cymeradwyo” (“approval requirements”) yr ystyr a roddir yn adran 19(1);

  • mae i “llety ymwelwyr” (“visitor accommodation”) yr ystyr a roddir yn adran 5(7);

  • mae i “llety ymwelwyr rheoleiddiedig” (“regulated visitor accommodation”) yr ystyr a roddir yn adran 5(1);

  • mae i “mangre” (“premises”) yr ystyr a roddir yn adran 5(7);

  • mae i “safon gyffredinol o ran ffitrwydd” (“general fitness standard”) yr ystyr a roddir yn adran 7;

  • mae i “safonau ffitrwydd penodol” (“specific fitness standards”) yr ystyr a roddir yn adran 8;

  • mae i “trwydded llety ymwelwyr” (“visitor accommodation licence”) yr ystyr a roddir yn adran 14(1);

  • ystyr “trwydded llety ymwelwyr dros dro” (“provisional visitor accommodation licence”) yw trwydded a roddir o dan adran 27;

  • mae i “ymwelydd” (“visitor”) yr ystyr a roddir yn adran 5(7).

(2)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriad at rywbeth a wneir o dan y Ddeddf hon, neu o dan ddarpariaeth o’r Ddeddf hon, yn cynnwys rhywbeth a wneir yn rhinwedd y Ddeddf hon neu’r ddarpariaeth honno fel y digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 60 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 61(1)

61Dod i rymLL+C

(1)Daw’r Bennod hon, heblaw adran 56 (canllawiau), i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig, ac eithrio—

(a)adrannau 16, 24,‍ 25(3)i(5), 26, 28, 35 a 51 a ddaw i rym ar 5 Mawrth 2029 os nad ydynt wedi dod i rym cyn y diwrnod hwnnw, a

(b)gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon, a ddaw i rym ar 4 Mawrth 2030 os nad ydynt wedi dod i rym cyn y diwrnod hwnnw.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig ddiwygio’r dyddiad y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) i ddiwrnod nad yw’n hwyrach na 2 flynedd ar ôl y diwrnod hwnnw.

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) wneud—

(a)darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym;

(b)darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol ac at ddibenion gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 61 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 61(1)

62Enw byrLL+C

Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—

(a)Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026, neu

(b)the Development of Tourism and Regulation of Visitor Accommodation (Wales) Act 2026.

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 62 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 61(1)

Rhagolygol

(a gyflwynir gan adran 4(2))

ATODLEN 1LL+CDIWYGIO DEDDF DATBLYGU TWRISTIAETH 1969

1LL+CMae Deddf Datblygu Twristiaeth 1969 (p. 51) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

2LL+CYn adran 1(2)(b), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

3LL+CYn adran 2—

(a)yn y geiriau ar ôl is-adran (1)(b)—

(i)yn lle “, VisitScotland and the National Assembly for Wales” rhodder “and VisitScotland”;

(ii)yn lle “, Scotland and Wales” rhodder “and Scotland”;

(b)yn y geiriau o flaen paragraff (a) yn is-adran (2)—

(i)yn lle “(4) and (4A)” rhodder “and (4)”;

(ii)hepgorer “and the National Assembly for Wales”;

(c)yn is-adran (2)(e), hepgorer “or the National Assembly for Wales”;

(d)yn is-adran (3), hepgorer “or the National Assembly for Wales”;

(e)hepgorer is-adran (4A);

(f)yn is-adran (5)—

(i)yn lle “, VisitScotland and the National Assembly for Wales” rhodder “and VisitScotland”;

(ii)hepgorer “or the National Assembly for Wales” ar ôl “the Boards” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(iii)hepgorer “and the National Assembly for Wales” ar ôl “those Boards”;

(g)yn is-adran (6)—

(i)hepgorer “and the National Assembly for Wales”;

(ii)yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Ministers”;

(h)hepgorer is-adran (7A);

(i)hepgorer is-adran (8A);

(j)ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

(10)See Part 2 of the Development of Tourism and Regulation of Visitor Accommodation (Wales) Act 2026 (asc 00) for the corresponding functions of the Welsh Ministers in relation to promoting the development of tourism in Wales.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

4LL+CYn adran 3—

(a)yn is-adran (1), yn lle “National Assembly for Wales”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Welsh Ministers”;

(b)yn is-adran (4), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(c)yn is-adran (5), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

5LL+CHepgorer adran 4A.

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

6LL+CYn adran 5(1)—

(a)yn lle “, VisitScotland and the National Assembly for Wales” rhodder “and VisitScotland”;

(b)yn lle “, Scotland and Wales” rhodder “and Scotland”.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

7LL+CYn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 1(1A)—

(i)yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(ii)ar ôl “grant” mewnosoder “under a scheme prepared in accordance with section 3”;

(iii)yn lle “the Assembly” rhodder “them”;

(b)ym mharagraff 2(1)—

(i)yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(ii)hepgorer “or (as the case may be) the Assembly”;

(iii)ar ôl “under this Act” mewnosoder “or (as the case may be) the Welsh Ministers under section 3”;

(c)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (1), hepgorer “or the National Assembly for Wales”;

(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A)Sub-paragraph (1) applies in relation to the Welsh Ministers and any person who has received a grant under a scheme prepared in accordance with section 3 from them as it applies in relation to a Tourist Board and the corresponding person.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

(a gyflwynir gan adran 14(3))

ATODLEN 2LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â’R GOFRESTR O DDARPARWYR LLETY YMWELWYR

Diwygio Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5)LL+C

1Mae Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

2Yn adran 3 (ystyr “darparwr llety ymwelwyr”), yn is-adran (5)(b) ar ôl “benodol” mewnosoder “(ac ni waeth a‍ oes datganiad yng nghofnod y person yn y gofrestr nad yw’r person yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

3Yn adran 4 (cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr)—‍

(a)yn is-adran (4)—

(i)daw’r geiriau “yr wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn rhinwedd Atodlen 1” yn baragraff (a);

(ii)ar ôl‍ y paragraff hwnnw—

(b)y rhif cofrestru a bennir o dan y Rhan hon ar gyfer pob DLlY;

(c)y rhif cofrestru a bennir o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob mangre;

(b)yn is-adran (5)(b)(ii), yn lle “lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr” rhodder “y mae’r DLlY wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi”;

(c)yn is-adran (7)—

(i)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a);

(ii)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(aa)ystyr “DLlY trwyddedig yw DLlY sydd yn meddu ar drwydded llety ymwelwyr o‍ fewn ystyr Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 (dsc 00) (gweler adran 14 o’r Ddeddf honno), a.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

4Yn adran 6 (ceisiadau i fod yn gofrestredig)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “14” rhodder “14A”;

(b)yn is-adran (3)(b) ar ôl “hwnnw” mewnosoder—

sy’n pennu—

(i)rhif cofrestru ar gyfer y DLlY, a

(ii)rhif cofrestru mewn cysylltiad â phob mangre lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

5Yn adran 8 (pŵer i gofrestru personau pan na fo cais wedi ei wneud i ACC), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Os yw ACC yn cofrestru person o dan is-adran (1), rhaid i ACC‍ ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n pennu—

(a)rhif cofrestru ar gyfer y person, a

(b)rhif cofrestru mewn cysylltiad â phob mangre lle y mae’r person yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

6Yn adran 9 (dyletswydd i hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau)—

(a)yn is-adran (2)(b), ar ôl “gofrestr” mewnosoder “(gan gynnwys, pan fo’r DLlY yn dymuno bod yn gofrestredig mewn cysylltiad â mangre wahanol neu ychwanegol neu mewn perthynas â llety ymwelwyr gwahanol neu ychwanegol, yr wybodaeth sy’n ymwneud â’r fangre neu’r llety y mae’n ofynnol ei chynnwys yn y gofrestr o dan Atodlen 1)”;

(b)yn is-adran (3)(b)—

(i)daw’r geiriau “yn pennu’r cywiriadau a wnaed i gofnod y DLlY” yn is-baragraff (i);

(ii)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder , a

(ii)pan fo’r cywiriad yn golygu ychwanegu mangre lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr at gofnod y DLlY yn y gofrestr, yn pennu rhif cofrestru mewn cysylltiad â’r fangre honno,.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

7Yn adran 11 (pŵer i newid y gofrestr pan na fo hysbysiad wedi ei roi i ACC)—

(a)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Pan fo ACC yn gwneud newid o dan is-adran (1) sy’n golygu ychwanegu mangre lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr at gofnod y DLlY yn y gofrestr, rhaid i ACC‍ ddyroddi hysbysiad i’r DLlY, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y newid, yn pennu rhif cofrestru mewn cysylltiad â’r fangre honno.;

(b)yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “y mae’r DLlY yn rhoi hysbysiad i ACC” hyd at y diwedd rhodder y mae’r DLlY—

(a)yn rhoi hysbysiad i ACC—

(i)os yw’r cofnod yn anghywir, sy’n darparu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i wneud cofnod y DLlY yn gywir, neu

(ii)sy’n cadarnhau bod y cofnod yn gywir, neu

(b)yn gwneud cais i ACC i gael ei ddileu o’r gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

8Yn adran 14 (dileu person o’r gofrestr ar gais i ACC)—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Caiff person sydd â chofnod yn y gofrestr wneud cais i ACC i gael ei ddileu o’r gofrestr (ond gweler adran 14A am amgylchiadau pryd y mae rhaid i berson wneud cais i ACC i gael ei ddileu o’r gofrestr).;

(b)hepgorer is-adran (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

9Ar ôl adran 14 mewnosoder—

Gofyniad i bersonau penodol wneud cais i gael eu dileu o’r gofrestrLL+C

14ACais mandadol i berson gael ei ddileu o’r gofrestr

(1)Rhaid i berson—

(a)nad yw’n DLlY trwyddedig, a

(b)nad yw’n dod o fewn is-adran (2),

cyn yr 31ain diwrnod yn olynol nad yw’r person hwnnw wedi darparu, neu wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw fangre, wneud cais o dan adran 14 i gael ei ddileu o’r gofrestr.‍

(2)Os—

(a)yw person yn peidio â bod yn DLlY trwyddedig, a

(b)yn ystod y cyfnod o 31 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y peidiodd y person â bod yn DLlY trwyddedig, nad yw person—

(i)yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw fangre;

(ii)yn dod yn DLlY trwyddedig,

rhaid i’r person, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, wneud cais o dan adran 14 i gael ei ddileu o’r gofrestr.

(3)At ddibenion yr adran hon—

(a)rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod yn ystod—

(i)y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae person yn gwneud cais am drwydded llety ymwelwyr o dan‍ Ran 3 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 (dsc 00) (“Deddf 2026”), ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y dyfernir ar y cais;

(ii)y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae penderfyniad sy’n ymwneud â rhoi neu ddirymu trwydded llety ymwelwyr yn dod yn ddarostyngedig i apêl o dan adran 29 o Ddeddf 2026, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y dyfernir yn derfynol ynghylch yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl;

(b)mae’r diwrnodau yn union cyn ac ar ôl cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (a) i’w trin fel pe baent yn ddiwrnodau olynol.

(4)At ddibenion y Rhan hon, nid yw person wedi darparu, neu wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw fangre os nad yw’r person hwnnw, yng nghwrs masnach neu fusnes, wedi darparu, neu wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre yng Nghymru y mae’r person yn ei feddiannu.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

10Yn adran 15 (cosbau pan fo person yn methu â gwneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr), yn is-adran (1)—‍

(a)yn lle “14(1)” rhodder “14A(1) neu (2)”;

(b)yn is-adran (2), yn lle “yw’r person” rhodder “nad yw’r person yn DLlY trwyddedig ac os yw’r person”;

(c)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)At ddibenion is-adrannau (2) a (3), rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod yn ystod—

(a)y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae person yn gwneud cais am drwydded llety ymwelwyr o dan‍ Ran 3 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 (“Deddf 2026”), ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y dyfernir ar y cais;

(b)y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae penderfyniad sy’n ymwneud â rhoi neu ddirymu trwydded llety ymwelwyr yn dod yn ddarostyngedig i apêl o dan adran 29 o Ddeddf 2026, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y dyfernir yn derfynol ynghylch yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

11Yn adran 16 (pŵer i ddileu person o’r gofrestr pan nad oes cais wedi ei wneud)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “14(1)” rhodder‍ “14A”;

(b)yn is-adran (4)(a), yn lle “y peidiodd y person â bod yn DLlY” rhodder “y darparodd y person lety ymwelwyr ddiwethaf, neu (os yw’n hwyrach) y cynigiodd y person ddarparu llety ymwelwyr ddiwethaf”.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

12Yn adran 21 (gwahardd cosbi ddwywaith)—

(a)daw’r geiriau “wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny” yn baragraff (a);

(b)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder , neu

(b)mewn perthynas â hynny, yn talu’r swm a bennir mewn hysbysiad cosb a roddir i’r person o dan adran 55 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 (dsc 00) (ac na thynnir yr hysbysiad yn ôl wedi hynny).

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

13Yn adran 26 (pwerau i wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (b) mewnosoder ;

(c)Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 (dsc 00),.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

14Yn adran 38 (ystyr “cyfnod cyfrifyddu”: ffurflenni blynyddol), yn is-adran (4)(b), yn lle “gwneud hynny” rhodder “bod yn DLlY”.

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

15Yn Atodlen 1 (yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr)—

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn lle “lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr” rhodder “y mae’r DLlY wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi”;

(ii)yn is-baragraff (c), hepgorer “y mae’r DLlY yn ei ddarparu, neu’n cynnig ei ddarparu,”;

(iii)yn is-baragraff (d), yn lle “y llety ymwelwyr a ddarperir yn y fangre” rhodder “y llety ymwelwyr yn y fangre”;

(b)ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2ARhaid i gofnod DLlY trwyddedig yn y gofrestr—

(a)cynnwys yr wybodaeth a ganlyn am y llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn y fangre y mae’r DLlY wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi—

(i)faint o lety ymwelwyr rheoleiddiedig sydd yn y fangre;

(ii)uchafswm nifer y bobl y gellir eu lletya ym mhob llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn y fangre;

(b)cynnwys datganiad, sy’n ymwneud â phob mangre y mae’r DLlY wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â hi (ni waeth a yw’r llety ymwelwyr yn y fangre yn llety ymwelwyr rheoleiddiedig), ynglŷn ag a yw’r DLlY am y tro yn darparu, neu’n cynnig darparu, y llety ymwelwyr y mae’r DLlY wedi ei gofrestru mewn perthynas ag ef ai peidio.

(c)ym mharagraff 6 (dehongli), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)ystyr “llety ymwelwyr rheoleiddiedig yw llety ymwelwyr sy’n dod o fewn adran 5(1)(a) o Ddeddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 (dsc 00) (llety hunanddarpar sy’n hunangynhwysol, ac sydd mewn adeilad, neu mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Diwygio Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6)LL+C

16(1)Mae Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 12 (prif swyddogaethau ACC), yn is-adran (2A), yn lle “lety ymwelwyr)” rhodder “ddarparwyr llety ymwelwyr) a Rhan 4 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 (dsc 00) (cyfeiriadur o fangreoedd llety ymwelwyr)”.‍

(3)Yn adran 172 (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2)(m) hepgorer “(gweler adran 5 o’r Ddeddf honno)”.

(4)Yn adran 187B (cymhwyso i’r Goron)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5)” mewnosoder “a Rhan 4 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026 (dsc 00)”;

(b)yn is-adran (2), ar ôl “Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025” mewnosoder “a Rhan 4 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026”;

(c)yn y pennawd—

(i)yn lle “a’r gofrestr o lety” rhodder “, y gofrestr o ddarparwyr llety”;

(ii)ar y diwedd mewnosoder “a’r cyfeiriadur o lety ymwelwyr”.

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources