- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(1)Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl Rhan 2 mewnosoder—
(1)Dogfen yw “offeryn statudol Cymreig” sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth Cymru a wneir wrth arfer pŵer y mae’n ofynnol gan ddeddfiad ei arfer drwy offeryn statudol.
(2)Yn is-adran (1), ystyr “is-ddeddfwriaeth Cymru” yw is-ddeddfwriaeth nas gwneir ond gan—
(a)Gweinidogion Cymru, neu
(b)unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at ddeddfiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i bŵer gael ei arfer drwy offeryn statudol yn cynnwys deddfiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i bŵer gael ei arfer drwy offeryn statudol Cymreig.
(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2)(a) at Weinidogion Cymru yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y’i cyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38).
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon a Rhan 2B.
(2)Yr “awdurdod cyfrifol” mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn statudol Cymreig yw—
(a)Gweinidogion Cymru mewn achos pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud, ei chadarnhau neu ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol;
(b)mewn unrhyw achos arall, y person sy’n gwneud yr is-ddeddfwriaeth.
(3)Ac eithrio yn is-adran (2) ac adrannau 37D(6) a 37E(9), mae cyfeiriadau at is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn cynnwys is-ddeddfwriaeth yn cael ei chadarnhau neu ei chymeradwyo drwy offeryn statudol Cymreig.
(4)Mae penderfyniad gan awdurdod cyfrifol o ran ai i ddosbarthu offeryn statudol Cymreig yn offeryn lleol i’w wneud yn ôl y graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn—
(a)yn gymwys yn gyffredinol, neu
(b)yn gymwys i ardal benodol yn unig, neu i unigolion neu bersonau penodol yn unig.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.
(2)Ni chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gadarnhau’r Senedd”.
(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud.
(3)Ond mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn statudol Cymreig yn peidio â chael effaith os na chaiff ei chadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(4)Pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn peidio â chael effaith o dan is-adran (3)—
(a)i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym pan fydd yn peidio â chael effaith, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)rhaid i’r awdurdod cyfrifol, drwy orchymyn, ddirymu’r is-ddeddfwriaeth.
(5)Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)Mae gorchymyn o dan is-adran (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol Cymreig.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.
(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud, ac mae is-adran (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(3)Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol Cymreig ger ei bron, benderfynu annilysu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn.
(4)Pan gaiff yr is-ddeddfwriaeth ei hannilysu—
(a)i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)rhaid i’r awdurdod cyfrifol, drwy orchymyn, ddirymu’r is-ddeddfwriaeth.
(5)Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol Cymreig o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(7)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(8)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-adran (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.
(9)Mae gorchymyn o dan is-adran (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol Cymreig.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan na fo deddfiad sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth drwy offeryn statudol Cymreig yn darparu bod y ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i—
(a)gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,
(b)gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, nac
(c)gweithdrefn annilysu’r Senedd.
(2)Ond nid yw’n gymwys pan fo’r is-ddeddfwriaeth—
(a)yn cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol,
(b)yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, neu
(c)yn cael ei gwneud o dan ddeddfiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(3)Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud; ac mae is-adran (4) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(4)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol Cymreig cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(5)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(6)Yn is-adran (2)(b), ystyr “gweithdrefn arbennig y Senedd” yw’r weithdrefn a bennir yn rheolau sefydlog Senedd Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn gwneud, neu’n cynnig gwneud, is-ddeddfwriaeth drwy offeryn statudol Cymreig a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y Senedd.
(2)Mae’r weithdrefn yn y Senedd a grybwyllir gyntaf yn is-adran (3) yn gymwys ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y Senedd yn gymwys.
(3)Y gweithdrefnau yn y Senedd yw—
(a)gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd (gweler adran 37C);
(b)gweithdrefn gadarnhau’r Senedd (gweler adran 37D);
(c)gweithdrefn annilysu’r Senedd (gweler adran 37E);
(d)y gofyniad (dim ond) i osod yr offeryn statudol Cymreig gerbron Senedd Cymru ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud (gweler adran 37F).
(4)Os yw’r awdurdod cyfrifol wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol Cymreig y mae is-adran (1) yn gymwys iddo, nid yw hyn—
(a)yn ei atal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol Cymreig nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na
(b)yn effeithio ar y weithdrefn yn y Senedd sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn o’r fath.
(1)Mae Atodlen 1A yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon i is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn bod y Rhan hon mewn grym.
(2)Mae Atodlen 1B yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon, gydag addasiadau, i is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru a pherson arall heblaw awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(3)Mae Atodlen 1C yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon, gydag addasiadau, i Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wneir drwy offeryn statudol.”
(3)Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder—
(a gyflwynir gan adran 37H)
1Yn yr Atodlen hon—
ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym, ac
ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).
2Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth Cymru (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 37A(2)) sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad cyn-gychwyn.
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)na chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu
(b)y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—
(a)bod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, a
(b)cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.
4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth a’i gosod gerbron Senedd Cymru ond ei bod yn peidio â chael effaith oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei gadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—
(a)bod yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, a
(b)cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.
5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)bod yr is-ddeddfwriaeth neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn ddarostyngedig i’w hannilysu neu ei annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, neu
(b)y caniateir gosod drafft o’r is-ddeddfwriaeth neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys gerbron Senedd Cymru ond na chaniateir ei gwneud neu ei wneud os yw Senedd Cymru yn penderfynu na ddylid ei gwneud neu ei wneud o fewn 40 niwrnod i’w gosod neu i’w osod.
(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—
(a)bod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, a
(b)cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.
6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod yr is-ddeddfwriaeth, neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys, yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3, 4 neu 5.
(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai—
(a)yn darparu i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig;
(b)yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio).
(3)Ond nid yw is-baragraff (2)(b) yn gymwys i offeryn statudol—
(a)sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol,
(b)sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, neu
(c)sydd wedi ei wneud o dan ddeddfiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(4)Yn is-baragraff (3)(b), ystyr “gweithdrefn arbennig y Senedd” yw’r weithdrefn a bennir yn rheolau sefydlog Senedd Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd.
7Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.
(a gyflwynir gan adran 37H)
1Yn yr Atodlen hon—
ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “deddfiad ôl-gychwyn” (“post-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed ar ôl i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).
2Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud o dan ddeddfiad cyn-gychwyn—
(a)gan Weinidogion Cymru a pherson arall, heblaw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));
(b)drwy offeryn statudol.
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)na chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu
(b)y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth a’i gosod gerbron Senedd Cymru, ond ei bod yn peidio â chael effaith oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei gadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, fel y’i haddesir ym mharagraff 13.
5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)bod offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i’w annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, neu
(b)y caniateir gosod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru ond na chaniateir ei wneud os yw Senedd Cymru’n penderfynu na ddylid ei wneud o fewn 40 niwrnod i’w osod.
(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 14.
6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3, 4 neu 5.
(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod yr is-ddeddfwriaeth, neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys, gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio) yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 15.
7Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud o dan ddeddfiad ôl-gychwyn—
(a)gan Weinidogion Cymru a pherson arall, heblaw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));
(b)drwy offeryn statudol.
8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.
(2)Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
9(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gadarnhau’r Senedd”.
(2)Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, fel y’i haddesir ym mharagraff 13.
10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.
(2)Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 14.
11(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i—
(a)gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,
(b)gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, nac
(c)gweithdrefn annilysu’r Senedd.
(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio) yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 15.
12(1)Mae is-baragraff (2) yn addasiad i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd yn adran 37C sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)Ni chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
13(1)Mae is-baragraffau (2) i (6) yn addasiad i weithdrefn gadarnhau’r Senedd yn adran 37D sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud.
(3)Ond mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn statudol yn peidio â chael effaith os na chaiff ei chadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(4)Pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn peidio â chael effaith o dan is-baragraff (3)—
(a)i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym pan fydd yn peidio â chael effaith, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.
(5)Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.
14(1)Mae is-baragraffau (2) i (9) yn addasiad i weithdrefn annilysu’r Senedd yn adran 37E sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud, ac mae is-baragraff (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(3)Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol ger ei bron, benderfynu annilysu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn.
(4)Pan gaiff yr is-ddeddfwriaeth ei hannilysu—
(a)i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.
(5)Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(7)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(8)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.
(9)Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.
15(1)Mae is-baragraffau (2) i (4) yn addasiad i’r weithdrefn ar gyfer gosod is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru yn adran 37F sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud; ac mae is-baragraff (3) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(3)Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(4)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
16Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.
(a gyflwynir gan adran 37H)
1Yn yr Atodlen hon—
ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “deddfiad ôl-gychwyn” (“post-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed ar ôl i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).
2Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w wneud fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad cyn-gychwyn.
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)na chaniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu
(b)y caniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei gynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 10.
4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i’w annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor fod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 11.
5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru.
(2)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys—
(a)pan fyddai’r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru (gan anwybyddu unrhyw ofyniad am gydsyniad neu ymgynghoriad), a
(b)pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3 neu 4, neu fod rhaid ei osod gerbron Senedd Cymru.
(3)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
6Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad ôl-gychwyn.
7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.
(2)Mae’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 10.
8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.
(2)Mae’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 11.
9(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru.
(2)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys—
(a)pan fyddai’r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru (gan anwybyddu unrhyw ofyniad am gydsyniad neu ymgynghoriad), a
(b)pan na fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i—
(i)gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,
(ii)gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, na
(iii)gweithdrefn annilysu’r Senedd,
neu fod rhaid ei osod gerbron Senedd Cymru.
(3)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
10(1)Mae is-baragraff (2) yn addasiad i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd yn adran 37C sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.
(2)Ni chaniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
11(1)Mae is-baragraffau (2) i (9) yn addasiad i weithdrefn annilysu’r Senedd yn adran 37E sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.
(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gael ei wneud, ac mae is-baragraff (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddod i rym.
(3)Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol ger ei bron, benderfynu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor i’w annilysu.
(4)Pan gaiff y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ei annilysu—
(a)i’r graddau nad yw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddo ar gyfer dod i rym y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor),
(b)i’r graddau y mae’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu gan ddibynnu arno, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.
(5)Ond nid yw unrhyw benderfyniad o’r fath neu unrhyw ddirymiad o’r fath yn effeithio ar—
(a)dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr offeryn, na
(b)gwneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor newydd.
(6)Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd wedi ei gynnwys ynddo ddod i rym.
(7)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(8)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.
(9)Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.
12(1)Mae is-baragraffau (2) i (4) yn addasiad i’r weithdrefn ar gyfer gosod is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru yn adran 37F sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.
(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gael ei wneud; ac mae is-baragraff (3) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddod i rym.
(3)Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd wedi ei gynnwys ynddo ddod i rym.
(4)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
13Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: