Search Legislation

Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 1Y WEITHDREFN AR GYFER GWNEUD IS-DDEDDFWRIAETH CYMRU

1Rhan 2A newydd o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

(1)Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl Rhan 2 mewnosoder—

RHAN 2AY WEITHDREFN AR GYFER GWNEUD IS-DDEDDFWRIAETH CYMRU

Cyflwyniad
37AOfferynnau statudol Cymreig

(1)Dogfen yw “offeryn statudol Cymreig” sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth Cymru a wneir wrth arfer pŵer y mae’n ofynnol gan ddeddfiad ei arfer drwy offeryn statudol.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “is-ddeddfwriaeth Cymru” yw is-ddeddfwriaeth nas gwneir ond gan—

(a)Gweinidogion Cymru, neu

(b)unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at ddeddfiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i bŵer gael ei arfer drwy offeryn statudol yn cynnwys deddfiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i bŵer gael ei arfer drwy offeryn statudol Cymreig.

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2)(a) at Weinidogion Cymru yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y’i cyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38).

37BDehongli

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon a Rhan 2B.

(2)Yr “awdurdod cyfrifol” mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn statudol Cymreig yw—

(a)Gweinidogion Cymru mewn achos pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud, ei chadarnhau neu ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol;

(b)mewn unrhyw achos arall, y person sy’n gwneud yr is-ddeddfwriaeth.

(3)Ac eithrio yn is-adran (2) ac adrannau 37D(6) a 37E(9), mae cyfeiriadau at is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn cynnwys is-ddeddfwriaeth yn cael ei chadarnhau neu ei chymeradwyo drwy offeryn statudol Cymreig.

(4)Mae penderfyniad gan awdurdod cyfrifol o ran ai i ddosbarthu offeryn statudol Cymreig yn offeryn lleol i’w wneud yn ôl y graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn—

(a)yn gymwys yn gyffredinol, neu

(b)yn gymwys i ardal benodol yn unig, neu i unigolion neu bersonau penodol yn unig.

Gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth y Senedd
37CGweithdrefn gymeradwyo’r Senedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.

(2)Ni chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

37DGweithdrefn gadarnhau’r Senedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gadarnhau’r Senedd”.

(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud.

(3)Ond mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn statudol Cymreig yn peidio â chael effaith os na chaiff ei chadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—

(a)cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu

(b)digwyddiad a bennir yn y deddfiad.

(4)Pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn peidio â chael effaith o dan is-adran (3)—

(a)i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym pan fydd yn peidio â chael effaith, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),

(b)i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac

(c)rhaid i’r awdurdod cyfrifol, drwy orchymyn, ddirymu’r is-ddeddfwriaeth.

(5)Ond nid yw hyn yn effeithio ar—

(a)dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na

(b)gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.

(6)Mae gorchymyn o dan is-adran (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol Cymreig.

37EGweithdrefn annilysu’r Senedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.

(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud, ac mae is-adran (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.

(3)Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol Cymreig ger ei bron, benderfynu annilysu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn.

(4)Pan gaiff yr is-ddeddfwriaeth ei hannilysu—

(a)i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),

(b)i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac

(c)rhaid i’r awdurdod cyfrifol, drwy orchymyn, ddirymu’r is-ddeddfwriaeth.

(5)Ond nid yw hyn yn effeithio ar—

(a)dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na

(b)gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.

(6)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol Cymreig o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.

(7)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.

(8)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-adran (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.

(9)Mae gorchymyn o dan is-adran (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol Cymreig.

37FOfferynnau statudol Cymreig eraill sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan na fo deddfiad sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth drwy offeryn statudol Cymreig yn darparu bod y ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i—

(a)gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,

(b)gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, nac

(c)gweithdrefn annilysu’r Senedd.

(2)Ond nid yw’n gymwys pan fo’r is-ddeddfwriaeth—

(a)yn cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol,

(b)yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, neu

(c)yn cael ei gwneud o dan ddeddfiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(3)Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud; ac mae is-adran (4) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.

(4)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol Cymreig cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.

(5)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.

(6)Yn is-adran (2)(b), ystyr “gweithdrefn arbennig y Senedd” yw’r weithdrefn a bennir yn rheolau sefydlog Senedd Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd.

37GCyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y Senedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn gwneud, neu’n cynnig gwneud, is-ddeddfwriaeth drwy offeryn statudol Cymreig a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y Senedd.

(2)Mae’r weithdrefn yn y Senedd a grybwyllir gyntaf yn is-adran (3) yn gymwys ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y Senedd yn gymwys.

(3)Y gweithdrefnau yn y Senedd yw—

(a)gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd (gweler adran 37C);

(b)gweithdrefn gadarnhau’r Senedd (gweler adran 37D);

(c)gweithdrefn annilysu’r Senedd (gweler adran 37E);

(d)y gofyniad (dim ond) i osod yr offeryn statudol Cymreig gerbron Senedd Cymru ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud (gweler adran 37F).

(4)Os yw’r awdurdod cyfrifol wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol Cymreig y mae is-adran (1) yn gymwys iddo, nid yw hyn—

(a)yn ei atal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol Cymreig nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na

(b)yn effeithio ar y weithdrefn yn y Senedd sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn o’r fath.

Pwerau sydd eisoes yn bodoli i wneud is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn seneddol
37HCymhwyso’r Rhan hon mewn amgylchiadau gwahanol

(1)Mae Atodlen 1A yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon i is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn bod y Rhan hon mewn grym.

(2)Mae Atodlen 1B yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon, gydag addasiadau, i is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru a pherson arall heblaw awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)Mae Atodlen 1C yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon, gydag addasiadau, i Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder—

(a gyflwynir gan adran 37H)

ATODLEN 1ACYMHWYSO RHAN 2A I DDEDDFIADAU CYN-GYCHWYN

Dehongli

1Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym, ac

  • ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).

Cymhwyso’r Atodlen

2Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth Cymru (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 37A(2)) sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad cyn-gychwyn.

Offerynnau na chaniateir eu gwneud neu na chânt ddod i rym oni bai bod drafft yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—

(a)na chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu

(b)y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—

(a)bod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, a

(b)cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.

Offerynnau y caniateir eu gwneud ond y mae rhaid eu cadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth a’i gosod gerbron Senedd Cymru ond ei bod yn peidio â chael effaith oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei gadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—

(a)cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu

(b)digwyddiad a bennir yn y deddfiad.

(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—

(a)bod yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, a

(b)cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.

Offerynnau y caniateir eu gwneud ond sy’n ddarostyngedig i’w hannilysu drwy benderfyniad gan Senedd Cymru

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu neu’n cael yr effaith o ddarparu—

(a)bod yr is-ddeddfwriaeth neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn ddarostyngedig i’w hannilysu neu ei annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, neu

(b)y caniateir gosod drafft o’r is-ddeddfwriaeth neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys gerbron Senedd Cymru ond na chaniateir ei gwneud neu ei wneud os yw Senedd Cymru yn penderfynu na ddylid ei gwneud neu ei wneud o fewn 40 niwrnod i’w gosod neu i’w osod.

(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—

(a)bod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, a

(b)cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.

Offerynnau eraill sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru

6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod yr is-ddeddfwriaeth, neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys, yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3, 4 neu 5.

(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai—

(a)yn darparu i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig;

(b)yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio).

(3)Ond nid yw is-baragraff (2)(b) yn gymwys i offeryn statudol—

(a)sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol,

(b)sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, neu

(c)sydd wedi ei wneud o dan ddeddfiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(4)Yn is-baragraff (3)(b), ystyr “gweithdrefn arbennig y Senedd” yw’r weithdrefn a bennir yn rheolau sefydlog Senedd Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd.

Pŵer i wneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar yr Atodlen hon

7Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.

(a gyflwynir gan adran 37H)

ATODLEN 1BCYMHWYSO RHAN 2A I DDEDDFWRIAETH AR Y CYD NEU DDEDDFWRIAETH GYFANSAWDD

RHAN 1DEHONGLI
Dehongli

1Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym;

  • ystyr “deddfiad ôl-gychwyn” (“post-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed ar ôl i Ran 2A ddod i rym;

  • ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).

RHAN 2OFFERYNNAU AR Y CYD NEU OFFERYNNAU CYFANSAWDD A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU CYN-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan

2Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud o dan ddeddfiad cyn-gychwyn—

(a)gan Weinidogion Cymru a pherson arall, heblaw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));

(b)drwy offeryn statudol.

Offerynnau na chaniateir eu gwneud neu na chânt ddod i rym oni bai bod drafft yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—

(a)na chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu

(b)y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.

Offerynnau y caniateir eu gwneud ond y mae rhaid eu cadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth a’i gosod gerbron Senedd Cymr‍u, ond‍ ei bod yn peidio â chael effaith oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei gadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—

(a)cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu

(b)digwyddiad a bennir yn y deddfiad.

(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, fel y’i haddesir ym mharagraff 13.

Offerynnau y caniateir eu gwneud ond sy’n ddarostyngedig i’w hannilysu drwy benderfyniad gan Senedd Cymru

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—

(a)bod offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i’w annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, neu

(b)y caniateir gosod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru ond na chaniateir ei wneud os yw Senedd Cymru’n penderfynu na ddylid ei wneud o fewn 40 niwrnod i’w osod.

(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 14.

Offerynnau eraill sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru

6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3, 4 neu 5.

(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod yr is-ddeddfwriaeth, neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys, gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio) yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 15.

RHAN 3OFFERYNNAU AR Y CYD NEU OFFERYNNAU CYFANSAWDD A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU ÔL-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan

7Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud o dan ddeddfiad ôl-gychwyn—

(a)gan Weinidogion Cymru a pherson arall, heblaw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));

(b)drwy offeryn statudol.

Cymhwyso gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.

(2)Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.

Cymhwyso gweithdrefn gadarnhau’r Senedd

9(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gadarnhau’r Senedd”.

(2)Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, fel y’i haddesir ym mharagraff 13.

Cymhwyso gweithdrefn annilysu’r Senedd

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.

(2)Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 14.

Cymhwyso’r gofyniad i osod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru

11(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i—

(a)gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,

(b)gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, nac

(c)gweithdrefn annilysu’r Senedd.

(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio) yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 15.

RHAN 4GWEITHDREFNAU ADDASEDIG YN Y SENEDD AR GYFER OFFERYNNAU AR Y CYD NEU OFFERYNNAU CYFANSAWDD
Gweithdrefn gymeradwyo addasedig y Senedd

12(1)Mae is-baragraff (2) yn addasiad i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd yn adran 37C sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.

(2)Ni chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Gweithdrefn gadarnhau addasedig y Senedd

13(1)Mae is-baragraffau (2) i (6) yn addasiad i weithdrefn gadarnhau’r Senedd yn adran 37D sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.

(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud.

(3)Ond mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn statudol yn peidio â chael effaith os na chaiff ei chadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—

(a)cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu

(b)digwyddiad a bennir yn y deddfiad.

(4)Pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn peidio â chael effaith o dan is-baragraff (3)—

(a)i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym pan fydd yn peidio â chael effaith, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),

(b)i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac

(c)caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.

(5)Ond nid yw hyn yn effeithio ar—

(a)dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na

(b)gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.

(6)Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.

Gweithdrefn annilysu addasedig y Senedd

14(1)Mae is-baragraffau (2) i (9) yn addasiad i weithdrefn annilysu’r Senedd yn adran 37E sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.

(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud, ac mae is-baragraff (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.

(3)Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol ger ei bron, benderfynu annilysu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn.

(4)Pan gaiff yr is-ddeddfwriaeth ei hannilysu—

(a)i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),

(b)i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac

(c)caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.

(5)Ond nid yw hyn yn effeithio ar—

(a)dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na

(b)gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.

(6)Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.

(7)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.

(8)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.

(9)Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.

Y weithdrefn addasedig ar gyfer gosod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru

15(1)Mae is-baragraffau (2) i (4) yn addasiad i’r weithdrefn ar gyfer gosod is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru yn adran 37F sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.

(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud; ac mae is-baragraff (3) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.

(3)Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.

(4)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.

RHAN 5DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Pŵer i wneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar yr Atodlen hon

16Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.

(a gyflwynir gan adran 37H)

ATODLEN 1CCYMHWYSO RHAN 2A I ORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR

RHAN 1DEHONGLI
Dehongli

1Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym;

  • ystyr “deddfiad ôl-gychwyn” (“post-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed ar ôl i Ran 2A ddod i rym;

  • ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).

RHAN 2GORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU CYN-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan

2Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth‍ sydd i’w wneud fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad cyn-gychwyn.

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor na chaniateir eu gwneud neu na chânt ddod i rym oni bai bod drafft yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—

(a)na chaniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu

(b)y caniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei gynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 10.

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor y caniateir eu gwneud ond sy’n ddarostyngedig i’w hannilysu drwy benderfyniad gan Senedd Cymru

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i’w annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(2)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor fod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 11.

Gorchmynion eraill yn y Cyfrin Gyngor sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru.

(2)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys—

(a)pan fyddai’r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru (gan anwybyddu unrhyw ofyniad am gydsyniad neu ymgynghoriad), a

(b)pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3 neu 4, neu fod rhaid ei osod gerbron Senedd Cymru.

(3)Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.

RHAN 3GORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU ÔL-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan

6Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad ôl-gychwyn.

Cymhwyso gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.

(2)Mae’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 10.

Cymhwyso gweithdrefn annilysu’r Senedd

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.

(2)Mae’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 11.

Cymhwyso’r gofyniad i osod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru

9(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru.

(2)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys—

(a)pan fyddai’r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru (gan anwybyddu unrhyw ofyniad am gydsyniad neu ymgynghoriad), a

(b)pan na fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i—

(i)gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,

(ii)gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, na

(iii)gweithdrefn annilysu’r Senedd,

neu fod rhaid ei osod gerbron Senedd Cymru.

(3)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.

RHAN 4GWEITHDREFNAU ADDASEDIG YN Y SENEDD AR GYFER GORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR
Gweithdrefn gymeradwyo addasedig y Senedd

10(1)Mae is-baragraff (2) yn addasiad i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd yn adran 37C sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.

(2)Ni chaniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Gweithdrefn annilysu addasedig y Senedd

11(1)Mae is-baragraffau (2) i (9) yn addasiad i weithdrefn annilysu’r Senedd yn adran 37E sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.

(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gael ei wneud, ac mae is-baragraff (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddod i rym.

(3)Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol ger ei bron, benderfynu bod‍ y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor i’w annilysu.

(4)Pan‍ gaiff y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ei annilysu—

(a)i’r graddau nad yw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddo ar gyfer dod i rym y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor),

(b)i’r graddau y mae’r‍ Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan‍ y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu gan ddibynnu arno, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac

(c)caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.

(5)Ond nid yw unrhyw benderfyniad o’r fath neu unrhyw ddirymiad o’r fath yn effeithio ar—

(a)dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr offeryn, na

(b)gwneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor newydd.

(6)Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd wedi ei gynnwys ynddo ddod i rym.

(7)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.

(8)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.

(9)Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.

Y weithdrefn addasedig ar gyfer gosod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru

12(1)Mae is-baragraffau (2) i (4) yn addasiad i’r weithdrefn ar gyfer gosod is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru yn adran 37F sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.

(2)Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gael ei wneud; ac mae is-baragraff (3) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddod i rym.

(3)Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd wedi ei gynnwys ynddo ddod i rym.

(4)Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.

RHAN 5DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Pŵer i wneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar yr Atodlen hon

13Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.

2Dim gofyniad i wneud gorchmynion traffig ffyrdd drwy offeryn statudol Cymreig

(1)Yn adran 325 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66) (darpariaethau o ran rheoleiddio, cynlluniau a gorchmynion), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)But powers conferred by this Act on the Welsh Ministers are not exercisable by Welsh statutory instrument (see Schedule 1A to the Legislation (Wales) Act 2019 (anaw 4)) where provision made under the power—

(a)is of temporary application, or

(b)is not subject to the Senedd approval procedure, the Senedd confirmation procedure or the Senedd annulment procedure;

(and a power conferred by this Act on the Welsh Ministers to make such a provision includes a power to revoke or vary the provision, which is not exercisable by Welsh statutory instrument).

(2)Yn adran 124 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p. 27) (darpariaethau o ran gorchmynion), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)But in relation to the exercise by the Welsh Ministers of a power to make an order under or by virtue of sections 1, 9, 14, 16A, 29 or 84—

(a)the requirement in subsection (2) to make the order by Welsh statutory instrument (see Schedule 1A to the Legislation (Wales) Act 2019 (anaw 4)) does not apply, and

(b)the Welsh Ministers’ power includes a power to make an order to revoke or vary an order previously made under or by virtue of those sections, and the requirement in subsection (2) does not apply to such an order.

RHAN 2CYHOEDDI ETC. DDEDDFWRIAETH CYMRU

3Rhan 2B newydd o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

Yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4), ar ôl Rhan 2A (fel y’i mewnosodir gan Ran 1 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

RHAN 2BCYHOEDDI ETC. DDEDDFWRIAETH CYMRU

Cyflwyniad
37IArgraffydd y Brenin ar gyfer Cymru

Mae Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin i arfer y swyddogaethau a roddir gan y Rhan hon i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru mewn cysylltiad â Deddfau Senedd Cymru, offerynnau statudol Cymreig a dogfennau cysylltiedig.

Cadw a chyhoeddi Deddfau Senedd Cymru
37JRhifo Deddfau Senedd Cymru

(1)Mae Deddfau Senedd Cymru i’w rhifo mewn perthynas â phob blwyddyn galendr—

(a)yn olynol (gan ddechrau â rhif 1),

(b)yn y drefn, yn ystod y flwyddyn honno, y cafodd y Bil ar gyfer pob Deddf y Cydsyniad Brenhinol, ac

(c)gan ddefnyddio’r rhagddodiad “dsc”.

(2)Yn unol â hynny, ar bob copi o Ddeddf gan Senedd Cymru y mae Clerc‍ y Senedd yn ysgrifennu dyddiad Cydsyniad Brenhinol y Ddeddf honno arno (yn unol ag adran 115(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), rhaid i’r Clerc ysgrifennu hefyd—

(a)y flwyddyn galendr y cafodd y Bil ar gyfer y Ddeddf honno y Cydsyniad Brenhinol ynddi, a

(b)y rhagddodiad a rhif y Ddeddf honno.

(3)Mae’r flwyddyn galendr, y rhagddodiad a’r rhif sydd wedi eu hysgrifennu ar y copi o’r Ddeddf yn ffurfio rhan o’r Ddeddf.

37KPrintiau swyddogol a chopïau ardystiedig o Ddeddfau Senedd Cymru

(1)Mae’r copi o Ddeddf gan Senedd Cymru y mae Clerc‍ y Senedd yn ysgrifennu dyddiad y Cydsyniad Brenhinol, y flwyddyn galendr, y rhagddodiad a’r rhif arno i’w alw y “print swyddogol” o’r Ddeddf.

(2)Rhaid i Glerc‍ y Senedd—

(a)gwneud copi o’r print swyddogol a’i ardystio’n gopi gwir, a

(b)anfon—

(i)y print swyddogol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a

(ii)y copi ardystiedig o’r print swyddogol at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.

(3)Caiff y copi ardystiedig o’r print swyddogol o Ddeddf fod ar ffurf electronig.

37LCadw Deddfau Senedd Cymru

Rhaid i Lyfrgell Genedlaethol Cymru sicrhau bod print swyddogol o Ddeddf gan Senedd Cymru sy’n dod i’w llaw—

(a)yn cael ei gadw, a

(b)ar gael i’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol.

37MCyhoeddi Deddfau Senedd Cymru

(1)Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi’r copi ardystiedig o’r print swyddogol o Ddeddf gan Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo ddod i’w law.

(2)Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd gyhoeddi, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddi ddod i’w law, unrhyw ddogfen sy’n gysylltiedig â’r copi ardystiedig o’r print swyddogol o Ddeddf gan Senedd Cymru—

(a)y mae Clerc‍ y Senedd yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei chyhoeddi;

(b)y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei chyhoeddi.

(3)Yn yr adran hon, mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein (ond gweler hefyd adran 37Y mewn perthynas â gwerthu copïau print).

Cadw a chyhoeddi offerynnau statudol Cymreig
37NFersiynau swyddogol a chopïau ardystiedig o offerynnau statudol Cymreig

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i offeryn statudol Cymreig gael ei wneud, rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud copi ardystiedig o’r offeryn a’i anfon—

(a)i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a

(b)at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.

(2)Wrth anfon copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn unol ag is-adran (1)(b), rhaid i’r awdurdod cyfrifol hefyd ddarparu’r wybodaeth a ganlyn—

(a)y dyddiad y gwnaed yr offeryn;

(b)y dyddiad neu’r dyddiadau y daw’r offeryn i rym, neu ddisgrifiad o’r ffordd y mae i ddod i rym;

(c)y pennawd pwnc neu’r penawdau pwnc y mae’r awdurdod cyfrifol wedi ei roi neu eu rhoi i’r offeryn ar sail ei bwnc;

(d)y weithdrefn yn y Senedd (gweler Rhan 2A) y mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn yn ddarostyngedig iddi.

(3)O ran copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig—

(a)mae’n gopi o’r offeryn hwnnw sydd wedi ei ardystio’n gopi gwir gan yr awdurdod cyfrifol, a

(b)caiff fod ar ffurf electronig.

(4)Nid yw’r gofyniad i anfon copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn gymwys i offeryn sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol.

37OCadw offerynnau statudol Cymreig

Rhaid i Lyfrgell Genedlaethol Cymru sicrhau bod copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig sy’n dod i’w llaw gan awdurdod cyfrifol—

(a)yn cael ei gadw, a

(b)ar gael i’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol.

37PRhifo a dosbarthu offerynnau statudol Cymreig

(1)Mae offerynnau statudol Cymreig i’w—

(a)dyrannu i’r gyfres o offerynnau statudol Cymreig ar gyfer y flwyddyn galendr y’u gwneir ynddi;

(b)rhifo o fewn y gyfres honno—

(i)yn olynol (gan ddechrau â rhif 1), a

(ii)cyn agosed ag y bo modd at y drefn y deuant i law.

(2)Yn unol â hynny, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i gopi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig ddod i’w law, rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru—

(a)dyrannu’r offeryn a’i rifo yn unol ag is-adran (1), a

(b)cadarnhau’r pennawd pwnc neu’r penawdau pwnc a roddwyd i’r offeryn gan yr awdurdod cyfrifol.

(3)Wrth roi rhif i offeryn statudol Cymreig yn unol ag is-adran (2), caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru roi is-rif pellach i’r offeryn (o fewn y gyfres y mae’r offeryn wedi ei ddyrannu iddi).

37QCyhoeddi offerynnau statudol Cymreig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r canlynol wedi dod i law Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru—

(a)copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig a anfonwyd yn unol ag adran 37N(1), a

(b)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn adran 37N(2) sy’n ymwneud â’r offeryn.

(2)Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, gyhoeddi’r offeryn ar y ffurf a ddangosir yn y copi ardystiedig ac, wrth wneud hynny, ymgorffori’r materion a ganlyn—

(a)y pennawd cyfres “OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU”;

(b)blwyddyn galendr y gyfres o offerynnau statudol Cymreig y mae’r offeryn wedi ei ddyrannu iddi yn unol ag adran 37P(1)(a), ac wedyn “Rhif” a’r rhif a roddwyd iddo yn unol ag adran 37P(1)(b) (er enghraifft, “2026 Rhif 1”);

(c)pennawd pwnc neu benawdau pwnc yr offeryn a gadarnhawyd o dan adran 37P(2)(b);

(d)datganiad yn dangos y dyddiad y gwnaed yr offeryn;

(e)ac eithrio yn achos offeryn nad yw ond yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phryd y mae deddfiad arall i ddod i rym, ddatganiad yn dangos y dyddiad neu’r dyddiadau y daw’r offeryn i rym neu’n disgrifio’r ffordd y mae’r offeryn i ddod i rym.

(3)Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd gyhoeddi, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddi ddod i’w law, unrhyw ddogfen sy’n gysylltiedig â chopi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig y mae’r awdurdod cyfrifol yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei chyhoeddi.

(4)Yn yr adran hon, mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein (ond gweler hefyd adran 37Y mewn perthynas â gwerthu copïau print).

37RCyhoeddi offerynnau statudol Cymreig sy’n ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo offeryn statudol Cymreig yn cynnwys is-ddeddfwriaeth sy’n cael effaith yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd (gweler adran 37D o ran hynny).

(2)Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru—

(a)bod yr offeryn wedi ei gadarnhau gan Senedd Cymru neu wedi peidio â chael effaith am na chafodd ei gadarnhau (yn ôl y digwydd), a

(b)am y dyddiad y digwyddodd hynny.

(3)Pan fo Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru wedi ei hysbysu bod offeryn statudol Cymreig wedi ei gadarnhau gan Senedd Cymru, wrth gyhoeddi’r offeryn rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ymgorffori (yn ychwanegol at y materion a grybwyllir yn adran 37Q(2)) ddatganiad yn dangos bod yr offeryn wedi ei gadarnhau.

37SAchos am drosedd o dan offeryn statudol Cymreig nas cyhoeddwyd: amddiffyniad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i achos yn erbyn person am drosedd sy’n doriad o ddarpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn statudol Cymreig.

(2)Mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd yr offeryn wedi ei gyhoeddi gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn unol ag adran 37Q ar ddyddiad y toriad honedig.

(3)Ond nid yw’r amddiffyniad hwn ar gael os profir bod camau rhesymol eraill wedi eu cymryd cyn y dyddiad hwnnw, gan yr awdurdod cyfrifol neu ar ei ran, i ddwyn y drosedd i sylw—

(a)y cyhoedd,

(b)personau y byddai’r drosedd yn debygol o effeithio arnynt, neu

(c)y person a gyhuddwyd.

(4)Nid yw is-adrannau (2) na (3) yn effeithio ar unrhyw ddeddfiad nac unrhyw reol gyfreithiol sy’n ymwneud â’r adeg pan ddaw unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol Cymreig i rym.

37TOfferynnau statudol Cymreig drafft

(1)Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo ddod i’w law, gopi ardystiedig o ddrafft o offeryn statudol Cymreig y mae’r awdurdod cyfrifol yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei gyhoeddi.

(2)O ran copi ardystiedig o ddrafft o offeryn statudol Cymreig—

(a)mae’n gopi o’r drafft hwnnw sydd wedi ei ardystio’n gopi gwir gan yr awdurdod cyfrifol, a

(b)caiff fod ar ffurf electronig.

(3)Yn yr adran hon—

(a)mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein (ond gweler hefyd adran 37Y mewn perthynas â gwerthu copïau print);

(b)ystyr “yr awdurdod cyfrifol” yw’r person a fyddai’r awdurdod cyfrifol pe bai’r offeryn statudol Cymreig yn cael ei wneud.

Cyhoeddi deddfwriaeth Cymru ar ei ffurf gyfredol
37UCyhoeddi effeithiau deddfwriaeth

(1)Pan fo Deddf gan Senedd Cymru neu offeryn statudol Cymreig yn cynnwys un neu ragor o ddarpariaethau sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiadau, rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru lunio a chyhoeddi tabl yn dangos effeithiau’r Ddeddf neu’r offeryn ar y deddfiadau hynny.

(2)Rhaid cyhoeddi tabl yn ymwneud â Deddf gan Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r copi ardystiedig o’r print swyddogol o’r Ddeddf gael ei gyhoeddi o dan adran 37M.

(3)Rhaid cyhoeddi tabl yn ymwneud ag offeryn statudol Cymreig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei gyhoeddi o dan adran 37Q.

(4)Yn yr adran hon mae gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein.

37VCyhoeddi deddfwriaeth Cymru fel y’i diwygiwyd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn diwygio deddfwriaeth Cymru.

(2)Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi’r ddeddfwriaeth fel y mae wedi ei diwygio.

(3)Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, i’r graddau y mae’n ymarferol, gyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (2) o’r adeg pan ddaw diwygiad i rym.

(4)Pan nad yw diwygiad wedi dod i rym eto, caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd gyhoeddi’r ddeddfwriaeth fel y caiff ei diwygio, os yw’n nodi’n glir nad yw’r diwygiad wedi dod i rym eto.

(5)Yn yr adran hon—

(a)mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein;

(b)ystyr “deddfwriaeth Cymru” yw—

(i)Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru;

(ii)offeryn statudol Cymreig.

Cofnod deddfwriaeth
37WCofnod o ddeddfwriaeth Cymru

(1)Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gadw a chyhoeddi cofnod sy’n cynnwys—

(a)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2) am bob Deddf gan Senedd Cymru a gyhoeddir o dan adran 37M;

(b)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (3) am bob offeryn statudol Cymreig a gyhoeddir o dan adran 37Q.

(2)Yr wybodaeth (mewn perthynas â Deddfau Senedd Cymru) yw—

(a)yr enw;

(b)y flwyddyn galendr y cafodd y Cydsyniad Brenhinol;

(c)y rhagddodiad a’r rhif a ysgrifennwyd ar y Ddeddf yn unol ag adran 37J;

(d)y dyddiad y cyhoeddwyd y copi ardystiedig o’r print swyddogol o’r Ddeddf.

(3)Yr wybodaeth (mewn perthynas ag offerynnau statudol Cymreig) yw—

(a)yr enw;

(b)y flwyddyn galendr y’i gwnaed;

(c)y rhif a roddwyd iddo o dan adran 37P(2);

(d)y dyddiad y cyhoeddwyd yr offeryn.

(4)Yn yr adran hon mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein.

37XStatws tystiolaethol y cofnod

Mewn unrhyw achos cyfreithiol mae’r dyddiad yn y cofnod a gyhoeddir yn unol ag adran 37W mewn cysylltiad ag offeryn statudol Cymreig i’w drin fel tystiolaeth derfynol o’r dyddiad y cyhoeddwyd yr offeryn am y tro cyntaf gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.

Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru: argraffu a gwerthu
37YArgraffu a gwerthu deddfwriaeth Cymru a dogfennau cysylltiedig

(1)Caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru argraffu a gwerthu copïau o unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a ganlyn—

(a)Mesur Cynulliad;

(b)Deddf gan Senedd Cymru;

(c)offeryn statudol Cymreig;

(d)drafft o offeryn statudol Cymreig;

(e)nodiadau esboniadol ar gyfer Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru;

(f)unrhyw ddogfen arall sy’n gysylltiedig â Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru, os yw Clerc‍ y Senedd neu Weinidogion Cymru wedi gofyn am gyhoeddi’r ddogfen;

(g)unrhyw ddogfen sy’n gysylltiedig ag offeryn statudol Cymreig, os yw’r awdurdod cyfrifol wedi gofyn am gyhoeddi’r ddogfen.

(2)Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys pan ddaw cais i law Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gan unrhyw berson am gopi print o unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a ganlyn—

(a)Mesur Cynulliad;

(b)Deddf gan Senedd Cymru;

(c)offeryn statudol Cymreig, heblaw offeryn sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol;

(d)nodiadau esboniadol ar gyfer Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru, os yw Clerc‍ y Senedd neu Weinidogion Cymru wedi gofyn am eu cyhoeddi.

(3)Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru argraffu copi o’r ddogfen a’i anfon i’r cyfeiriad a bennir gan y person a wnaeth y cais.

(4)Ond caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru osod tâl am argraffu ac anfon copi o ddogfen yn unol ag is-adran (2), ac nid oes rhaid iddo argraffu ac anfon copi o’r ddogfen hyd nes bod y tâl wedi ei dalu.

Cyhoeddi is-ddeddfwriaeth nas gwneir drwy offeryn statudol Cymreig
37ZGweinidogion Cymru i gyhoeddi is-ddeddfwriaeth nas gweir drwy offeryn statudol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-offeryn Cymreig, o fewn yr ystyr a roddir gan adran 3(2), nad yw ond yn cynnwys is-ddeddfwriaeth—

(a)a wneir gan Weinidogion Cymru, a

(b)nad yw’n ofynnol ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig (ac o ganlyniad nad yw’n ddarostyngedig i’r gofynion sy’n gymwys i offeryn o’r fath o dan y Rhan hon).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi penderfyniad ynghylch rhifo a dosbarthu offerynnau statudol Cymreig y mae’r adran hon yn gymwys iddynt.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud offeryn o’r fath—

(a)dyrannu rhif a blwyddyn i’r offeryn yn unol â’r penderfyniad,

(b)dosbarthu’r offeryn yn unol â phwnc yr offeryn neu unrhyw fater arall y cyfeirir ato yn y penderfyniad, ac

(c)cyhoeddi’r offeryn ar-lein.

Cyffredinol
37Z1Cyfeiriadau at offerynnau statudol Cymreig

Caniateir cyfeirio at offeryn statudol Cymreig—

(a)yn ôl ei enw yn Gymraeg neu Saesneg (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r enw mewn grym ai peidio), neu

(b)yn ôl y rhagddodiad “O.S.C.” a’i flwyddyn a rhif (er enghraifft “O.S.C. 2026/1”), pan mai—

(i)y flwyddyn yw blwyddyn galendr y gyfres o offerynnau statudol Cymreig y dyrannwyd yr offeryn iddi yn unol ag adran 37P(1)(a);

(ii)y rhif yw’r rhif a roddwyd i’r offeryn yn unol ag adran 37P(1)(b).

37Z2Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru: dirprwyo swyddogaethau

(1)Caniateir i swyddogaeth a roddir i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru o dan y Rhan hon gael ei chyflawni ar ran Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gan berson arall sydd wedi ei awdurdodi gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.

(2)Pan fo swyddogaeth yn cael ei chyflawni gan berson arall yn rhinwedd is-adran (1)—

(a)mae Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflawni’r swyddogaeth, a

(b)mae unrhyw beth a wneir gan y person sydd wedi ei awdurdodi o dan yr is-adran honno yn unol â’r awdurdodiad i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.

RHAN 3DIDDYMIADAU I DDEDDFWRIAETH CYMRU

4Diddymiadau a diwygiadau cysylltiedig

Mae Atodlen 1 yn cynnwys—

(a)diddymiadau i ddeddfiadau penodol (gan gynnwys drwy ddiwygio’r deddfiadau hynny i’w datgymhwyso o ran Cymru) nad ydynt o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd mwyach;

(b)darpariaeth mewn cysylltiad â’r diddymiadau hynny.

RHAN 4CYFFREDINOL

5Craffu ar ôl deddfu

Ar ôl adran 42 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4), mewnosoder—

42AAdolygu Rhannau 2A a 2B o’r Ddeddf hon

(1)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol adolygu gweithrediad ac effaith Rhannau 2A a 2B.

(2)Rhaid i’r adolygiad gael ei gynnal yn ystod y cyfnod—

(a)sy’n dechrau ddwy flynedd ar ôl y diwrnod y daw’r Rhannau hynny i rym, a

(b)sy’n dod i ben heb fod yn hwyrach na thair blynedd ar ôl y diwrnod hwnnw.

(3)Fel rhan o’r adolygiad, rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol ymgynghori â’r Llywydd a Chlerc y Senedd, ac unrhyw berson arall y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn ei ystyried yn briodol.

(4)Rhaid i’r adroddiad blynyddol nesaf a lunnir gan y Cwnsler Cyffredinol o dan adran 2(7) ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau gynnwys—

(a)gwybodaeth am y materion a ystyriwyd fel rhan o’r adolygiad, a

(b)casgliadau’r Cwnsler Cyffredinol.

6Gweithgareddau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru

Ar ôl paragraff (d) o adran 2(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4), mewnosoder—

(e)datrys unrhyw amwysedd, a chywiro unrhyw wallau, yng nghyfraith Cymru.

7Mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

Mae Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

8Diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y Ddeddf hon.

9Dod i rym

(1)Daw’r adran hon ac adran 10 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adran 2, ac eithrio bod y cyfeiriadau at “offeryn statudol Cymreig” yn y testun a fewnosodir gan is-adrannau (1) a (2) i’w darllen fel “offeryn statudol” hyd nes y daw Rhan 2A o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 i rym;

(b)adran 4;

(c)adran 7;

(d)Atodlen 1;

(e)Atodlen 2.

(3)Ond os nad yw paragraff 29(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 (p. 55) (diwygio adran 1(1) o Ddeddf Cynllunio ac Ynni 2008 (p. 21)) mewn grym ar ddiwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2), daw paragraff 22(2)(a)(i) o Atodlen 1 i rym pan ddaw paragraff 29(2) o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno i rym.

(4)Daw’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod (neu ddiwrnodau) a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4) gynnwys darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed.

10Enw byr

Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—

(a)Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025, neu

(b)the Legislation (Procedure, Publication and Repeals) (Wales) Act 2025.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources