Search Legislation

Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

(a gyflwynir gan adran 4)

ATODLEN 1DIDDYMIADAU A DIWYGIADAU CYSYLLTIEDIG

RHAN 1BYRDDAU DATBLYGU GWLEDIG

Deddf Amaethyddiaeth 1967 (p. 22)

1(1)Mae Deddf Amaethyddiaeth 1967 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 45 (Byrddau Datblygu Gwledig)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “any area” mewnosoder “, other than an area in Wales,”;

(b)hepgorer is-adran (10).

(3)Yn adran 46(3) (swyddogaethau Byrddau Datblygu Gwledig) hepgorer y geiriau o “, and, in relation to Wales,” hyd at y diwedd.

(4)Yn adran 49(8) (rheoli gwerthu tir penodol), ym mharagraff (i) o’r diffiniad o “appropriate tribunal” hepgorer “and Wales”.

(5)Yn adran 50(3)(g) (rheoli gwerthu tir: eithriadau) hepgorer “, the Natural Resources Body for Wales”.

(6)Yn adran 51, hepgorer is-adran (8) (cynlluniau ad-drefnu neu gyfuno: ystyr “appropriate Minister”).

(7)Yn adran 52, hepgorer is-adran (16) (apelau: ystyr “appropriate Minister”).

(8)Yn adran 54, hepgorer is-adran (5) (cyfarwyddydau: ystyr “appropriate Minister”).

(9)Yn adran 57(1) (dehongli Rhan 3), yn y diffiniad o “appropriate forestry authority” hepgorer “and the Natural Resources Body for Wales in relation to Wales”.

(10)Yn adran 75(2) (dehongli), yn y diffiniad o “local authority” hepgorer “, in Wales, the council of a county or county borough”.

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)

2Yn Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraff 30 a’r pennawd italig o’i flaen.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

3Yn Atodlen 3A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (swyddogaethau Gweinidogion y Goron etc. sy’n arferadwy yn gydredol neu ar y cyd â Gweinidogion Cymru), yn y tabl ym mharagraff 1(2), hepgorer y cofnod ar gyfer Deddf Amaethyddiaeth 1967.

RHAN 2ARDALOEDD PARTHAU MENTER

Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p. 65)

4(1)Mae Atodlen 32 i Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (parthau menter) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 1 (gwahoddiad i lunio cynllun)—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)hepgorer “and Wales”;

(ii)hepgorer paragraff (aa);

(b)yn is-baragraff (3), hepgorer “county, county borough”.

(3)Ym mharagraff 2(2)(a) (cynllun drafft) hepgorer is-baragraff (iia) (ond nid yr “and” ar ei ôl).

(4)Ym mharagraff 7(2) (hawl mynediad) hepgorer “and Wales”.

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)

5(a)hepgorer paragraffau (a) a (b), a’r “and” ar eu holau;

(b)ym mharagraff (c), hepgorer y geiriau o “and after” hyd at y diwedd.

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dccc 6)

6Yn adran 39(4) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dehongli), hepgorer y geiriau o “, ac mae unrhyw gyfeiriad” hyd at y diwedd.

RHAN 3YMDDIRIEDOLAETHAU GWEITHREDU TAI

Deddf Tai 1988 (p. 50)

7(1)Mae Rhan 3 o Ddeddf Tai 1988 (ardaloedd ymddiriedolaethau gweithredu tai) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 60(1) (ardaloedd ymddiriedolaethau gweithredu tai), ar ôl “land” mewnosoder “in England”.

(3)Yn adran 61 (ymgynghori a chyhoeddusrwydd)—

(a)hepgorer is-adran (1);

(b)yn is-adran (2), hepgorer “or secure contract-holders or introductory standard contract-holders”;

(c)hepgorer is-adran (6).

(4)Yn adran 66(4) (rheolaeth gynllunio)—

(a)ym mharagraff (a) hepgorer “Wales,”;

(b)ym mharagraff (b) ar ôl “land” mewnosoder “in England”.

(5)Yn adran 75(3) (darpariaeth atodol o ran gorchmynion trosglwyddo), hepgorer “, tenant who is a secure contract-holder or tenant who is an introductory standard contract-holder”.

(6)Yn adran 79 (gwaredu tir)—

(a)yn is-adran (2)—

(i)hepgorer “, a tenancy which is a secure contract or a tenancy which is an introductory standard contract”;

(ii)ar ddiwedd paragraff (za) mewnosoder “or”;

(iii)hepgorer paragraff (a) a’r “or” ar ei ôl;

(b)yn is-adran (5A) hepgorer “, tenancies which are secure contracts and tenancies which are introductory standard contracts”.

(7)Yn adran 82 (cymorth cyfreithiol)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)ym mharagraff (a) yn lle “, introductory tenant, secure contract holder or introductory standard contract-holder” rhodder “or the introductory tenant”;

(ii)ym mharagraff (b) yn lle “, introductory tenant, secure contract-holder, or introductory standard contract-holder” rhodder “or the introductory tenant”;

(b)yn is-adran (5), hepgorer paragraff (b), a’r “and” o’i flaen.

(8)Yn adran 84 (darpariaethau sy’n gymwys i denantiaethau diogel etc.)—

(a)yn is-adran (1)(a)—

(i)yn lle “, introductory tenancies, tenancies which are secure contracts or tenancies which are introductory standard contracts” rhodder “or introductory tenancies”;

(ii)yn lle “, an introductory tenant, a tenant who is a secure contract-holder or a tenant who is an introductory contract-holder” rhodder “or an introductory tenant”;

(b)yn is-adran (4)—

(i)hepgorer “the tenant who is the secure contract-holder, the tenant who is the introductory standard contract-holder,”;

(ii)ym mharagraff (c) hepgorer “tenant who is a secure contract-holder, tenant who is an introductory contract-holder,”.

(9)Yn adran 84A (trosglwyddo drwy orchymyn)—

(a)yn is-adran (6) hepgorer “a tenancy which is a secure contract, a tenancy which is an introductory standard contract,”;

(b)yn is-adran (7)(a) hepgorer “tenancies which are secure contracts or tenancies which are introductory standard contracts”.

(10)Yn adran 85 (rhenti), hepgorer is-adran (3).

(11)Yn adran 86(1) (cynyddu rhent), yn lle “an introductory tenancy, or an occupation contract” rhodder “or an introductory tenancy”.

(12)Yn adran 92 (dehongli Rhan 3), hepgorer is-adran (1A).

(13)Yn Atodlen 8 (ymddiriedolaethau gweithredu tai: cyllid etc.), ym mharagraff 5 yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3)Any sums required by the Treasury for fulfilling a guarantee under this paragraph are to be charged on and issued out of the Consolidated Fund.

Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10)

8Yn adran 3(5C) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (awdurdodau sylweddau peryglus) hepgorer “or (5)”.

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)

9Yn Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, ym mharagraff 9—

(a)hepgorer is-baragraff (1) (diwygio Rhan 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50));

(b)yn is-baragraff (2), yn lle “that Act” rhodder “the Housing Act 1988”.

Deddf Tai 1996 (p. 52)

10Yn Atodlen 3 i Ddeddf Tai 1996 (y sector rhentu cymdeithasol: mân ddiwygiadau), hepgorer paragraff 11.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)

11Yn Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 hepgorer paragraff 3 (ymddiriedolaethau gweithredu tai yng Nghymru).

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

12Yn Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 hepgorer paragraff 33 (mewnosod paragraff 5(3) yn Atodlen 8 i Ddeddf Tai 1988) a’r pennawd italig o’i flaen.

Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p. 48)

13Yn adran 53(9) o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 hepgorer paragraff (c) (mae “relevant Welsh landlord” yn cynnwys ymddiriedolaeth gweithredu tai).

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12)

14Yn adran 20(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (dehongli etc.), yn y diffiniad o “housing provider”, ar ddechrau paragraff (b) mewnosoder “in relation to England,”.

Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20)

15Yn Atodlen 22 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 hepgorer paragraff 9 (dynodi ardaloedd ymddiriedolaethau gweithredu tai: ymgynghori o ran Cymru) a’r pennawd italig o’i flaen.

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1)

16(1)Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 9(2) (landlordiaid cymunedol), hepgorer paragraff (c).

(3)Yn adran 243 (ystyr “awdurdod lleol” etc.), hepgorer is-adran (4).

(4)Yn adran 253 (mynegai), yn nhabl 2 hepgorer y cofnod ar gyfer ymddiriedolaeth gweithredu tai.

(5)Yn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), ym mharagraff 7(2) hepgorer paragraff (c).

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1)

17Yn Atodlen 15 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017—

(a)ym mharagraff 2(3) (gwerthiannau â disgownt gan gyrff sector cyhoeddus), hepgorer paragraff (e);

(b)ym mharagraff 9(3) (cyrff sy’n rhoi lesoedd rhanberchnogaeth), hepgorer paragraff (c);

(c)ym mharagraff 10(8) (buddiolwyr ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth), hepgorer paragraff (c);

(d)ym mharagraff 19(3) (gwerthiannau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig), yn y diffiniad o “corff cymwys”, hepgorer paragraff (b).

RHAN 4CYNLLUNIAU LLEOL, CYNLLUNIAU STRWYTHUR A CHYNLLUNIAU DATBLYGU UNEDOL

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8)

18Yn Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, hepgorer Rhan 1A (cynlluniau datblygu: darpariaethau trosiannol o ran Cymru).

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)

19(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 20 (cynlluniau datblygu unedol a Pharciau Cenedlaethol) hepgorer is-adrannau‍ (2) a (3)(b) ac (c).

(3)Yn Atodlen 5 (cynlluniau datblygu unedol yng Nghymru), hepgorer Rhannau 2 a 3.

(4)Yn Atodlen 17 (darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol), hepgorer paragraffau 16 a 17.

Deddf Cynllunio 2008 (p. 29)

20(1)Mae Deddf Cynllunio 2008 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 186 (pŵer yr Uchel Lys i anfon yn ôl gynlluniau datblygu unedol yng Nghymru).‍

(3)Yn adran 204 (Cymru: darpariaeth drosiannol mewn perthynas â thir o dan falltod)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “1 to” rhodder “3 and”;

(b)yn is-adran (2), hepgorer “1, 2,”;

(c)yn is-adran (3)—

(i)hepgorer paragraffau (a) a (b);

(ii)ym mharagraff (c), hepgorer “in the case of land falling within paragraphs 3 or 4 of Schedule 13 to TCPA 1990,”;

(d)yn is-adran (5), yn lle “1 to” rhodder “3 and”.

(4)Yn adran 241 (cychwyn), yn is-adran (5)—

(a)yn lle “Section 186 and the” rhodder “The”;

(b)yn lle “come” rhodder “comes”.

Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 (O.S. 2005/2847)‍

21Yn Atodlen 2 i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005, ar ôl “Part 2” mewnosoder “except section 28A”.

RHAN 5POLISÏAU YNNI MEWN CYNLLUNIAU DATBLYGU

Deddf Cynllunio ac Ynni 2008 (p. 21)

22(1)Mae Deddf Cynllunio ac Ynni 2008 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1 (polisïau ynni)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn yr is-adran honno fel y’i diwygiwyd gan baragraff 29(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 (p. 55), yn lle “supplementary plan,” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “supplementary plan and”;

(ii)hepgorer “, a corporate joint committee may in their strategic development plan, and a local planning authority in Wales may in their local development plan,”;

(b)yn is-adran (2), yn y diffiniad o “energy efficiency standards”, yn lle “appropriate national authority” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Secretary of State”;

(c)hepgorer is-adran (3);

(d)yn is-adran (4)—

(i)yn lle “(5) to (7)” rhodder “(5) and (7)”;

(ii)hepgorer paragraffau (aa) a (b);

(e)hepgorer is-adran (6).

(3)Yn adran 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “corporate joint committee”.

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4)

23Yn Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, hepgorer paragraffau 30 a 31 (diwygio adran 1 o Ddeddf Cynllunio ac Ynni 2008) a’r pennawd italig o’u blaenau.

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)

24(1)Mae Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (cyd-bwyllgorau corfforedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer paragraff 12(f) (diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4)).

(3)Hepgorer paragraffau 40 ac 41(a) (diwygio Deddf Cynllunio ac Ynni 2008 (p. 21)).

RHAN 6Y DROSEDD O SYMUD YMAITH BRIDD HEB GYDSYNIAD

Deddf Tir Amaethyddol (Symud Ymaith Bridd Arwyneb) 1953 (p. 10)

25Yn adran 1 o Ddeddf Tir Amaethyddol (Symud Ymaith Bridd Arwyneb) 1953 (y drosedd o symud ymaith bridd heb gydsyniad), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)The reference in subsection (1) of this section to agricultural land does not include agricultural land in Wales.

RHAN 7MESUR DIOGELWCH TÂN DOMESTIG (CYMRU) 2011

Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (mccc 3)

26Mae Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 wedi ei ddiddymu.

RHAN 8AD-DREFNU LLYWODRAETH LEOL

Pwyllgorau gwasanaethau cymdeithasol

27Yn adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (cyflawni swyddogaethau), hepgorer is-adran (10A).

28Yn Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972), hepgorer paragraff 26.

Y Corff Gweddilliol a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)

29(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 25 (un prif gyngor newydd yn darparu gwasanaethau ar gyfer un arall), hepgorer is-adran (9).

(3)Yn Rhan 5 (ad-drefnu llywodraeth leol Cymru: materion gweddilliol a staff)—

(a)hepgorer adran 39 (the Residuary Body for Wales neu Gorff Gweddilliol Cymru);

(b)yn adran 42(3) (trosglwyddo staff), hepgorer “or the Residuary Body”;

(c)yn adran 43(1)(a) (digollediad am golli swydd etc.), yn lle “, a new principal council or the Residuary Body”, rhodder “or a new principal council”;

(d)yn adran 44(2) (taliadau dileu swydd)—

(i)ym mharagraff (a)(ii), hepgorer “or to the Residuary Body”;

(ii)ym mharagraff (b), hepgorer is-baragraff (ii) a’r “or” o’i flaen;

(e)hepgorer Atodlen 13 (darpariaeth bellach yn ymwneud â’r Corff Gweddilliol).

(4)Yn Rhan 6 (darpariaethau trosiannol), yn adran 54(2)(c) (pŵer i wneud darpariaeth atodol)—

(a)hepgorer “or the Residuary Body”;

(b)hepgorer “or to the Residuary Body”.

(5)Yn Rhan 7 (amrywiol ac atodol), yn adran 64(1) (dehongli) hepgorer y diffiniad o “the Residuary Body”.

(6)Yn Atodlen 17 (arbedion a darpariaethau trosiannol), ym mharagraff 12(4)(a) hepgorer “or of the Residuary Body”.

30Yn adran 14(1) o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (buddiant landlord sy’n eiddo i awdurdod lleol etc.), hepgorer paragraff (i).

31Yn adran 33(9) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p. 30) (y gallu i orfodi cyfamodau penodol sy’n ymwneud â thir)—

(a)ym mharagraff (a) hepgorer “the Residuary Body for Wales (Corff Gweddilliol Cymru),”;

(b)ym mharagraff (b) hepgorer “in relation to the Residuary Body for Wales (Corff Gweddilliol Cymru) means Wales”.

32Yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (tenantiaethau na allant fod yn denantiaethau sicr), ym mharagraff 12(1), hepgorer paragraff (gg).

33Yn adran 252(12) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (y weithdrefn ar gyfer gwneud gorchmynion), yn y diffiniad o “local authority”, hepgorer “, the Residuary Body for Wales (Corff Gweddilliol Cymru)”.

34Yn adran 19(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) (eithriad i esemptiad y Goron), hepgorer paragraff (g).

35Yn adran 79(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (dehongli Rhan 3), yn y diffiniad o “public authority”—

(a)ar ôl “Local Government Act 1992,” mewnosoder “or”;

(b)hepgorer y geiriau o “, any joint authority established under section 34” hyd at y diwedd.

36Yn Atodlen 18 i Ddeddf Tai 1996 (p. 52), hepgorer paragraff 30 (diwygio Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)).

37Yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), hepgorer adran 150 (diddymu Corff Gweddilliol Cymru).

Darpariaeth drosiannol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)

38Yn Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (darpariaethau trosiannol) hepgorer—

(a)adran 46 (pwyllgorau o gynghorau presennol i ystyried materion penodol);

(b)adran 48 (grwpiau o gymunedau);

(c)adran 51 (rheoli gwarediadau a chontractau);

(d)adran 52 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 (p. 9) yn ystod y cyfnod trosiannol);

(e)adran 56 (cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid).

39Yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraff 57.

Cynlluniau datganoli a chydweithio o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994

40(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer Rhan 3 (cynlluniau datganoli (sy’n ymwneud â phwyllgorau ardal) a chydweithio).

(3)Yn adran 64(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “decentralisation scheme”.

41Yn Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau 123 a 124 (diwygio Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) a’r pennawd italig o’u blaenau.

RHAN 9DATGANIADAU O ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 (p. 33)

42Yn adran 5 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 (asesu anghenion yn dilyn hysbysiad bod personau anabl yn gadael addysg)—

(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (2)—

(i)ym mharagraff (a), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;

(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;

(c)yn is-adran (9)—

(i)yn y diffiniad o “prescribed”, ar ôl “made” mewnosoder “by the Secretary of State;”;

(ii)yn y diffiniad hwnnw, hepgorer paragraffau (a) a (b);

(iii)yn y diffiniad o “the responsible authority”, ym mharagraff (c) hepgorer “or the National Assembly for Wales”;

(iv)yn y paragraff hwnnw hepgorer “or the National Assembly as the case may be”;

(d)yn is-adran (10), hepgorer “and Wales”;

(e)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.

Deddf Addysg 1996 (p. 56)

43Yn Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (diwygiadau canlyniadol), ym mharagraff 64 hepgorer is-baragraff (3).

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)

44Yn Atodlen 2 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (ystyr “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol”), yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986, yn y golofn gyntaf, yn lle “, 2 a 5(5)” rhodder “a 2”.

RHAN 10BYRDDAU CYNLLUNIO PARCIAU CENEDLAETHOL

Deddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25)

45(1)Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 64 hepgorer is-adrannau (1) i (7) a (9) (awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru).

(3)Yn adran 65 hepgorer is-adran (4) (awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru: swyddogaethau).

(4)Yn adran 75(2) (gorchmynion)—

(a)hepgorer “, except in the case of a statutory instrument made by virtue of section 64 above which only—”;

(b)hepgorer paragraffau (a) i (e).

(5)Yn adran 79(1) (dehongli), ym mharagraff (a) o’r diffiniad o “existing authority”, hepgorer “or constituted by an order under paragraph 3A of that Schedule or section 2(1B) of the Town and Country Planning Act 1990”.

(6)Yn Atodlen 7, ym mharagraff 14 (swyddog Parc Cenedlaethol)—

(a)hepgorer is-baragraff (2)(b) a’r “or” o’i flaen;

(b)hepgorer is-baragraff (4).

(7)Yn Atodlen 10 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol yn ymwneud â Pharciau Cenedlaethol), ym mharagraff 30 hepgorer is-baragraffau (4) a (5).

(8)Yn Atodlen 22 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—

(a)hepgorer paragraff 42;

(b)ym mharagraff 43, yn lle “that Act” rhodder “the Town and Country Planning Act 1990”.

(9)Yn Atodlen 23 (darpariaethau trosiannol a darfodol ac arbedion), hepgorer—

(a)paragraff 7 a’r pennawd italig o’i flaen;

(b)paragraff 11;

(c)paragraff 15 a’r pennawd italig o’i flaen.

RHAN 11AWDURDOD DATBLYGU CYMRU

Deddf Diwydiant 1979 (p. 32)

46Mae Deddf Diwydiant 1979 wedi ei diddymu.

Deddf Diwydiant 1980 (p. 33)

47(1)Mae Deddf Diwydiant 1980 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 4 (cyfalaf difidend cyhoeddus).

(3)Yn adran 5 (terfynau ariannol), hepgorer is-adran (1).

(4)Hepgorer adran 6 (cyfyngiadau ar bwerau i gaffael cyfranddaliadau).

(5)Yn adran 21 (darpariaeth drosiannol), hepgorer is-adran (2).

Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1997 (p. 37)

48Mae Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1997 wedi ei diddymu.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)

49Yn Atodlen 14 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998—

(a)yn Rhan 1 (diwygio Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (p. 70))—

(i)hepgorer paragraffau 2 a 3 a’r penawdau italig o flaen y ddau ohonynt;

(ii)hepgorer paragraff 5;

(iii)hepgorer paragraffau 7 i 9 a’r penawdau italig o flaen pob un ohonynt;

(iv)ym mharagraff 11, hepgorer is-baragraff (3);

(v)hepgorer paragraff 12 a’r pennawd italig o’i flaen;

(b)yn Rhan 2 (diwygio deddfiadau eraill)—

(i)hepgorer paragraff 13 (diwygio Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960 (p. 67)), y pennawd italig o’i flaen a’r pennawd italig ar ei ôl;

(ii)hepgorer paragraffau 17 ac 20 (diwygio Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67)).

RHAN 12BWRDD DATBLYGU CYMRU WLEDIG

Deddf Datblygu Cymru Wledig 1976 (p. 75)

50Mae Deddf Datblygu Cymru Wledig 1976 wedi ei diddymu.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)

51(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer y darpariaethau a ganlyn (Bwrdd Datblygu Cymru Wledig yn dod i ben a darpariaethau cysylltiedig)—

(a)yn adran 129, is-adran (1);

(b)yn adran 130, is-adrannau (1) a (3) i (5);

(c)yn adran 131, is-adrannau (2) i (4);

(d)adran 133.

(3)Yn adran 154 (gorchmynion a chyfarwyddydau)—

(a)yn is-adran (3)(b), hepgorer “133(3),”;

(b)yn is-adran (6)(a), hepgorer “130(4), 133(3),”.

(4)Yn Atodlen 14, hepgorer paragraff 15 (diwygio Deddf Datblygu Cymru Wledig 1976 (p. 75)) a’r pennawd italig o’i flaen.

(5)Yn Atodlen 15, hepgorer paragraff 2 (diwygio Deddf y Comisiynydd Seneddol 1967 (p. 13)).

RHAN 13AWDURDOD TIR CYMRU

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)

52(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer y darpariaethau a ganlyn (Awdurdod Tir Cymru yn dod i ben)—

(a)adran 134;

(b)yn adran 135, is-adran (1);

(c)yn adran 136, is-adrannau (1) a (3) i (5);

(d)adran 139.

(3)Yn adran 137 (darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud ag Awdurdod Tir Cymru yn dod i ben)—

(a)yn is-adran (1), hepgorer “134 or”;

(b)hepgorer is-adrannau (2) i (4).

(4)Yn adran 154 (gorchmynion a chyfarwyddydau)—

(a)yn is-adran (3)(b), hepgorer “139(3),”;

(b)yn is-adran (6)(a), hepgorer “136(4), 139(3),”.

RHAN 14DIWYGIO ATODLEN 9 I DDEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69)

53Yn Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (anifeiliaid a phlanhigion y mae adran 14 yn gymwys iddynt)—

(a)yn Rhan 1 (anifeiliaid estron sydd wedi ymsefydlu yn y gwyllt)—

(i)yn y golofn gyntaf (common name) hepgorer “Flatworm, New Zealand” a’r ddarpariaeth gyfatebol “Artiposthia triangulata” yn yr ail golofn (scientific name);

(ii)yn y golofn gyntaf (common name) hepgorer “Pumpkinseed (otherwise known as Sun-fish or Pond-perch)” a’r ddarpariaeth gyfatebol “Lepomis gibbosus” yn yr ail golofn (scientific name);

(b)yn Rhan 2 (planhigion), yn y golofn gyntaf (common name) hepgorer “Salvinia, Giant” a’r ddarpariaeth gyfatebol “Salvinia molesta” yn yr ail golofn (scientific name).

RHAN 15HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS SYDD HEB EU COFNODI

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37)

54(1)Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 53 (diddymu hawliau tramwy sydd heb eu cofnodi)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “applies to a highway” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (3), ar ôl “public right of way” mewnosoder “over land in England”;

(c)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.

(3)Yn adran 54 (priffyrdd a hawliau tramwy a eithrir)—

(a)yn is-adran (1)(d), yn lle’r geiriau o “made” hyd at “National Assembly for Wales” rhodder “made by the Secretary of State”;

(b)yn is-adran (5)(c), yn lle’r geiriau o “made” hyd at “National Assembly for Wales” rhodder “made by the Secretary of State”;

(c)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.

(4)Yn adran 55 (hawliau llwybrau ceffylau)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “over any way” mewnosoder “in England”;

(b)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.

(5)Yn adran 56 (terfyn amser ar gyfer diddymu etc.)—

(a)yn is-adran (2)—

(i)hepgorer y geiriau o “(as respects England)” hyd at “(as respects Wales)”;

(ii)ym mharagraff (b) hepgorer “or the National Assembly for Wales (as the case may be)”;

(b)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.

55Ym mharagraff 4 o Atodlen 5 (mapiau a datganiadau diffiniol a chilffyrdd cyfyngedig), yn yr adran 54A a fewnosodir yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) (cilffyrdd sy’n agored i bob traffig i beidio â chael eu hychwanegu at fap diffiniol)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “any way” mewnosoder “in England”;

(b)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “: England”.

RHAN 16DIWYGIADAU AMRYWIOL SY’N YMWNEUD Â DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 1998

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)

56(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 28 (pŵer Gweinidogion Cymru i drosglwyddo swyddogaethau i gyrff penodol)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)hepgorer “or II”;

(ii)ym mharagraff (b) hepgorer “II or”;

(b)yn is-adran (2) hepgorer “or II”;

(c)yn is-adran (3)—

(i)hepgorer “or II”;

(ii)hepgorer paragraff (b), a’r “, or” o’i flaen.

(3)Yn Atodlen 4 (cyrff cyhoeddus y caniateir trosglwyddo eu swyddogaethau)—

(a)ym mharagraff 3A, yn lle “The Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”;

(b)hepgorer—

(i)paragraff 4 (pwyllgor cynghori i Gymru o dan adran 11 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25));

(ii)paragraff 8 (Cyngor Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (Cymru));

(iii)paragraff 10 (Bwrdd Croeso Cymru);

(iv)paragraff 11 (Awdurdod Datblygu Cymru);

(c)hepgorer Rhan 2 (pwyllgorau cynghori i Gymru o dan adran 19 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49)).

(4)Yn Atodlen 10 (diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 (p. 46) sy’n ymwneud â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23))—

(a)ym mharagraff 3, hepgorer is-baragraff (4);

(b)hepgorer paragraff 10;

(c)hepgorer paragraff 13;

(d)ym mharagraff 14, yn is-baragraff (2), hepgorer y geiriau o “after paragraph (b)” hyd at “and”;

(e)ym mharagraff 16, hepgorer is-baragraffau (5), (6) ac (8).

(5)Yn Atodlen 12 (diwygio deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004)—

(a)ym mharagraff 17 (diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1974 (p. 7)), yn is-baragraff (2)—

(i)hepgorer y geiriau o “before “or”” hyd at “and”;

(ii)hepgorer y geiriau o “and after” hyd at y diwedd;

(b)hepgorer paragraffau 21 a 22 (diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20)) a’r pennawd italig o’u blaenau;

(c)hepgorer paragraff 36(b) a’r “and” o’i flaen (diwygio Deddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40)).

(6)Yn Atodlen 16 (diwygiadau sy’n ymwneud â diddymu Tai Cymru)—

(a)hepgorer paragraff 1 (diwygio Deddf Cymdeithasau Cyfeillgar a Diwydiannol a Darbodus 1968 (p. 55));

(b)hepgorer paragraff 12 (diwygio Deddf Tai 1985 (p. 68));

(c)hepgorer paragraffau 56 a 57 (diwygio Deddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 (p. 1));

(d)hepgorer paragraff 68 (diwygio Deddf Tai 1988 (p. 50));

(e)hepgorer paragraff 84 ac, ym mharagraff 96, hepgorer is-baragraffau (1) i (5) ac (8) (diwygio Deddf Tai 1996 (p. 52));

(f)hepgorer paragraffau 98 i 100 (diwygio Deddf y Comisiwn Archwilio 1998 (p. 18)) a’r pennawd italig o’u blaenau.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

57Yn Atodlen 10 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—

(a)hepgorer paragraff 44 (Comisiynwyr Coedwigaeth);

(b)hepgorer paragraff 51 (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn i wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd);

(c)hepgorer paragraff 55 (Comisiynwyr Coedwigaeth).

RHAN 17DARPARIAETH DROSIANNOL MEWN PERTHYNAS Â DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 2006

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

58Yn Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (darpariaethau trosiannol)—

(a)hepgorer paragraffau 3 i 7 (etholiadau) a’r penawdau italig o flaen pob un ohonynt;

(b)hepgorer paragraff 9 (cyfnod swydd aelodau’r Cynulliad a etholwyd yn etholiad Cynulliad 2007) a’r pennawd italig o’i flaen;

(c)hepgorer paragraff 11 (anghymhwyso Arglwyddi Apêl Sefydlog) a’r pennawd italig o’i flaen;

(d)hepgorer paragraffau 14 i 19 (trefniadau pellach mewn perthynas ag etholiad 2007 a’r “initial period”) a’r penawdau italig o flaen pob un ohonynt;

(e)hepgorer paragraffau 22 i 25 (arfer swyddogaethau cyn penodi’r Prif Weinidog cyntaf) a’r pennawd italig o’u blaenau;

(f)hepgorer paragraff 28(1) (dynodiadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68));

(g)hepgorer paragraff 29 (y tro cyntaf yr enwebir Prif Weinidog) a’r pennawd italig o’i flaen;

(h)ym mharagraff 35(3), yn Nhabl 1 (rhestr o’r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth y mae’r weithdrefn gadarnhaol yn gymwys iddi), hepgorer—

(i)y cofnod ar gyfer adran 20(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 4);

(ii)y cofnodion ar gyfer adrannau 96 a 101(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43);

(i)ym mharagraff 35(4), yn Nhabl 2 (rhestr o’r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth y mae’r weithdrefn negyddol yn gymwys iddi)—

(i)hepgorer y cofnodion ar gyfer adrannau 79S(2) a 79T(2) o Ddeddf Plant 1989 (p. 41);

(ii)hepgorer y cofnod ar gyfer adran 16A(3) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25);

(iii)hepgorer y cofnodion ar gyfer paragraffau 5(2), 12(2)(d) a 17(2) o Atodlen 7 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31);

(iv)hepgorer y cofnod ar gyfer adran 109(6)(b) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38);

(v)hepgorer y cofnod ar gyfer adran 20(6) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41);

(vi)hepgorer y cofnodion ar gyfer adrannau 139(1), 192 a 193 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32);

(vii)yn y cofnod ar gyfer adran 197 o Ddeddf Addysg 2002, yn y golofn gyntaf, yn lle “that Act” rhodder “the Education Act 2002 (c. 32)”;

(viii)hepgorer y cofnodion ar gyfer adrannau 94(6), 96 a 101(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43);

(ix)hepgorer y cofnodion ar gyfer adran 18(2)(c) ac adran 21(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23);

(x)yn y cofnod ar gyfer adran 39(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, yn y golofn gyntaf, yn lle “that Act” rhodder “the Public Audit (Wales) Act 2004 (c. 23)”;

(j)hepgorer paragraffau 50 a 51 (Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sy’n diwygio Atodlen 5 hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol) a’r pennawd italig o’u blaenau;

(k)hepgorer paragraffau 53, 53A a 53B (taliadau i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru) a’r pennawd italig o’u blaenau;

(l)hepgorer paragraffau 54 i 56 a 58 i 63 (darpariaethau ariannol sy’n gymwys dros dro) a’r penawdau italig o flaen pob un o baragraffau 54 i 56, 58, a 60 i 63;

(m)hepgorer paragraffau 64, 64B, 64C, 64F a 64G (Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru) a’r penawdau italig o flaen pob un o baragraffau 64, 64B, 64F a 64G;

(n)hepgorer paragraff 65 (darpariaeth drosiannol hyd nes y bydd swydd Adfocad Cyffredinol Gogledd Iwerddon yn cael ei chreu) a’r pennawd italig o’i flaen;

(o)hepgorer paragraffau 66 a 67 (darpariaeth drosiannol hyd nes y bydd y Goruchaf Lys yn cael ei sefydlu) a’r pennawd italig o’u blaenau.

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43)

59Yn Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (addasiadau darfodol), hepgorer paragraff 10.

Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1)

60Yn yr Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), ym mharagraff 22, hepgorer paragraff (c).

RHAN 18DEDDF ETHOLIADAU CYMRU (CORONAFEIRWS) 2021

Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)

61Mae Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 wedi ei diddymu.

RHAN 19CYLLID LLYWODRAETH LEOL

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 (dsc 5)

62Yn adran 16 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024, hepgorer is-adran (8) ac ailrifer is-adran (9) yn is-adran (8).

(a gyflwynir gan adran 2)

ATODLEN 2MÂN DDIWYGIADAU I DDEDDF DEDDFWRIAETH (CYMRU) 2019

Cyflwyniad

1Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Cyfeiriadau at “is-offeryn Cymreig”

2Yn adran 3 (deddfwriaeth y mae Rhan 2 yn gymwys iddi), yn lle is-adran (3) rhodder—

(3)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Ddeddf gan Senedd Cymru (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at Ddeddf gan Senedd Cymru y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi yn rhinwedd is-adran (1).

(3A)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at yr is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn rhinwedd is-adran (1).

Gosod dogfennau gerbron Senedd Cymru

3Ar ôl adran 12 mewnosoder—

Gosod dogfennau gerbron Senedd Cymru

12AYstyr cyfeiriadau at osod dogfennau gerbron Senedd Cymru

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol gosod unrhyw ddogfen (gan gynnwys offeryn statudol Cymreig) gerbron Senedd Cymru.

(2)Mae’r cyfeiriad at osod y ddogfen yn gyfeiriad at gymryd y camau a bennir mewn perthynas â gosod dogfen gerbron Senedd Cymru yn rheolau sefydlog y Senedd.

Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grym

4Yn adran 16—

(a)yn is-adran (1), yn lle paragraff (a) a’r “neu” ar ei ôl rhodder—

(a)gan ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru na ddaw i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol neu drannoeth y diwrnod hwnnw, neu;

(b)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth oni bai bod yr is-ddeddfwriaeth i ddod i rym cyn y ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd.;

(c)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriadau at ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio deddfiad arall.

(7)Pan fo darpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn rhoi pŵer neu’n gosod dyletswydd drwy ddiwygio deddfiad arall, mae’r cyfeiriadau at Ddeddf neu offeryn yn is-adrannau (3)(a) a (b), (4) a (5) yn cynnwys y deddfiad arall fel y’i diwygiwyd.

Mesurau gan Eglwys Loegr: effaith cyfeiriadau a diwygiadau

5Yn adran 21(2) (cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau)—

(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;;

(b)ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.

6Yn adran 25(4) (mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwyd)—

(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;;

(b)ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.

7Yn adran 37 (ystyr diddymu a dirymu yn Rhan 2)—

(a)ym mhennawd yr adran, yn lle “Ystyr” rhodder “Dehongli darpariaethau ynghylch diwygio,”;

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)Yn adrannau 32 i 35, ac yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys at ddibenion yr adrannau hynny, mae “deddfiad yn cynnwys deddfiad sy’n Fesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr neu’n offeryn a wneir o dan Fesur o’r fath, neu sydd wedi ei gynnwys mewn Mesur neu offeryn o’r fath.

Parhad is-ddeddfwriaeth: dim effaith ar gymhwyso i’r Goron

8Yn adran 35, ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)Nid yw is-adran (3) yn peri i adran 28 gael effaith mewn perthynas ag unrhyw is-ddeddfwriaeth pan nad oedd yn cael effaith yn flaenorol.

Cyfeirio at is-offerynnau Cymreig

9Yn adran 36—

(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);

(b)ar ôl yr is-adran (1) newydd mewnosoder—

(2)Caniateir parhau i gyfeirio at is-offeryn Cymreig yn ôl ei enw er i’r offeryn gael ei ddirymu.

(c)daw’r pennawd yn “Cyfeirio at Ddeddf gan Senedd Cymru ar ôl iddi gael ei diddymu neu is-offeryn Cymreig ar ôl iddo gael ei ddirymu”.

(a gyflwynir gan adran 8)

ATODLEN 3DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36)

1Yn Neddf Offerynnau Statudol 1946—

(a)yn adran 1, hepgorer is-adran (1A);

(b)hepgorer adran 11A.

Deddf Gosod Dogfennau gerbron y Senedd (Dehongli) 1948 (p. 59)

2Yn Neddf Gosod Dogfennau gerbron y Senedd (Dehongli) 1948, yn adran 1(1A), ar ôl “any enactment” mewnosoder “to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 (anaw 4) does not apply”.

Deddf Marchnata Amaethyddol 1958 (p. 47)

3Yn adran 2 o Ddeddf Marchnata Amaethyddol 1958, ar ôl is-adran (12) (cyhoeddi yn y Gazette orchmynion yn cymeradwyo rhai cynlluniau marchnata amaethyddol penodol) mewnosoder—

(12A)Subsection (12) does not apply to the Welsh Ministers.

Deddf Dehongli 1978 (p. 30)

4Yn adran 23C, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)In section 14(b), the reference to a statutory instrument includes a Welsh statutory instrument.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

5Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

6Yn adran 115—

(a)hepgorer is-adrannau (5A) i (5E);

(b)yn is-adran (5F), hepgorer “official prints and”.

7Yn Atodlen 10, hepgorer paragraffau 1 i 3 a’r pennawd italig o’u blaenau.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)

8Ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn adran 123(8), yn lle “offeryn statudol y mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys iddo fel pe bai’r offeryn yn cynnwys rheolau a wneir gan Weinidogion Cymru” rhodder “offeryn statudol Cymreig”.

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4)

9Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

10Yn adran 3(2), o flaen “offeryn statudol” mewnosoder “offeryn statudol Cymreig neu’n”.

11Yn adran 22(2)—

(a)ar ôl “copi ardystiedig” mewnosoder “o’r print swyddogol”;

(b)yn lle “Argraffydd y Frenhines” rhodder “Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru”;

(c)yn lle “Ei Mawrhydi” rhodder “Ei Fawrhydi”.

12Yn adran 23(2)—

(a)yn lle “Argraffydd y Frenhines” rhodder “Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin”;

(b)yn lle “Ei Mawrhydi” rhodder “Ei Fawrhydi”.

13Yn adran 39—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “offeryn statudol”, yn y ddau le, mewnosoder “Cymreig”;

(b)yn is-adran (2), ar ôl “offeryn statudol” mewnosoder “Cymreig”.

14Hepgorer adran 40.

15Yn lle adran 43 rhodder—

43Rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol Cymreig;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Mae rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau a ganlyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd—

(a)adran 6(2);

(b)adran 37F(2)(c);

(c)adran 42(1), pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru, Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

(d)paragraff 6(3)(c) o Atodlen 1A.

(3)Mae rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau a ganlyn yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd—

(a)adran 42(1), oni bai bod is-adran (2)(c) o’r adran hon yn gymwys;

(b)paragraff 7 o Atodlen 1A;

(c)paragraff 16 o Atodlen 1B;

(d)paragraff 13 o Atodlen 1C.

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1)

16Yn Atodlen 1 i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, ym mharagraff 5, hepgorer is-baragraffau (5) a (6).

Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (p. 28)

17Yn Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, ym mharagraff 9, hepgorer is-baragraff (5).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources