RHAN 5YR ATHROFA DYSGU CYMRAEG GENEDLAETHOL

38Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol

(1)

Sefydlir yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel corff corfforedig.

(2)

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at yr “Athrofa Dysgu Cymraeg” yn gyfeiriadau at y corff hwnnw.

(3)

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch yr Athrofa Dysgu Cymraeg.

Annotations:
Commencement Information

I1A. 38 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

Amcan a swyddogaethau’r Athrofa Dysgu Cymraeg

39Hwyluso a chefnogi dysgu Cymraeg gydol oes

(1)

Amcan yr Athrofa Dysgu Cymraeg yw cefnogi pobl i ddysgu Cymraeg, a hwyluso’u cynnydd, fel bod rhagor o bobl (o bob oedran) yn dysgu’r iaith.

(2)

Er mwyn cyflawni’r amcan hwn, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg—

(a)

rhoi cyfeiriad ac arweiniad strategol i ddarparwyr dysgu Cymraeg;

(b)

darparu, neu hwyluso darpariaeth, deunyddiau dysgu Cymraeg;

(c)

cynllunio ar gyfer datblygu’r gweithlu addysg at ddiben gwella dulliau addysgu’r Gymraeg;

(d)

gwneud trefniadau i ddarparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg—

(i)

i’r gweithlu addysg,

(ii)

yn y gweithle, a

(iii)

i bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(e)

gwneud trefniadau i wella lefelau gallu yn y Gymraeg—

(i)

ymysg y gweithlu addysg,

(ii)

yn y gweithle, a

(iii)

ymysg dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(f)

dylunio a datblygu darpariaeth dysgu Cymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol, neu hwyluso gwaith dylunio a datblygu o’r fath;

(g)

datblygu a chynnal cwricwlwm cenedlaethol dysgu Cymraeg ar gyfer dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(h)

casglu a chyhoeddi data, o leiaf unwaith bob 12 mis, ar ddysgwyr Cymraeg sydd dros oedran ysgol gorfodol.

(3)

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (2)(c), (d)(i) ac (e)(i), rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg roi sylw i’r asesiad sydd yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg yn rhinwedd adran 25(2)(a) (asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg y mae ei angen mewn awdurdodau lleol).

(4)

Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg hefyd—

(a)

cydlynu a chomisiynu ymchwil ar addysgu neu ddysgu Cymraeg;

(b)

rhoi cyngor i unrhyw berson ar addysgu neu ddysgu Cymraeg;

(c)

rhoi cymorth ariannol i unrhyw‍ berson mewn perthynas ag addysgu neu ddysgu Cymraeg;

(d)

gwneud unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg a hwyluso’u cynnydd, os yw’n ystyried bod hynny’n briodol er mwyn cyflawni targed a osodir gan y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg o dan adran 24(8).

(5)

At ddiben diwallu gwahanol anghenion pobl sydd dros oedran ysgol gorfodol ac sy’n dysgu (neu sy’n dymuno dysgu) Cymraeg, rhaid i’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg a ddylunnir ac a ddatblygir yn unol ag is-adran (2)(f)—

(a)

cynnwys amrywiaeth o lefelau a gweithgareddau dysgu;

(b)

cynnwys amrywiaeth o leoliadau dysgu a dulliau astudio;

(c)

cael ei threfnu yn y fath fodd fel ei bod yn hwyluso cynnydd dysgwyr‍ drwy’r gwahanol lefelau dysgu.

(6)

Rhaid seilio’r cwricwlwm cenedlaethol dysgu Cymraeg y cyfeirir ato yn is-adran (2)(g) a’r lefelau dysgu y cyfeirir atynt yn is-adran (5)(a) ac (c) ar—

(a)

y lefelau cyfeirio cyffredin a nodir yn y Tabl yn Atodlen 1, a

(b)

y Cod a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6.

(7)

Yn y Rhan hon—

ystyr “darparwr dysgu Cymraeg‍” (“Welsh language learning provider”) yw person a ariennir gan yr Athrofa Dysgu Cymraeg i ddarparu addysgu Cymraeg i bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996.

Annotations:
Commencement Information

I2A. 39 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

40Swyddogaethau ychwanegol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi swyddogaethau ychwanegol i’r Athrofa Dysgu Cymraeg.

(2)

Rhaid i swyddogaeth a roddir o dan is-adran (1) ymwneud â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg neu hwyluso’u cynnydd.

Annotations:
Commencement Information

I3A. 40 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

41Hybu cyfle cyfartal

(1)

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu’r canlynol—

(a)

cynyddu cyfranogiad mewn rhaglenni dysgu Cymraeg gan bobl dros oedran ysgol gorfodol sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol;

(b)

cadw dysgwyr dros oedran ysgol gorfodol sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd‍ rhaglenni dysgu Cymraeg;

(c)

lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn dysgu Cymraeg rhwng grwpiau gwahanol o ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

(2)

Yn yr adran ho‍n—

ystyr “grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” (“under-represented groups”) yw grwpiau o bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn rhaglenni dysgu Cymraeg o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;

ystyr “rhaglenni dysgu Cymraeg” (“Welsh language learning programmes”) yw rhaglenni dysgu Cymraeg a ddarperir gan yr Athrofa Dysgu Cymraeg neu gan ddarparwr dysgu Cymraeg.

Annotations:
Commencement Information

I4A. 41 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

42Hybu arloesedd a gwelliant parhaus

(1)

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu’r canlynol—

(a)

arloesedd a gwelliant parhaus mewn perthynas â dysgu Cymraeg;

(b)

codi safonau o ran dysgu Cymraeg er mwyn cynyddu’r niferoedd sy’n siarad a defnyddio’r Gymraeg, a gwella eu gallu.

(2)

At ddibenion is-adran (1), rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg roi sylw i bwysigrwydd—

(a)

sicrhau bod y rhai hynny sy’n addysgu’r Gymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol yn cael eu galluogi i ddarparu addysg o safon uchel;

(b)

datblygiad proffesiynol parhaus y rhai hynny sy’n addysgu’r Gymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(c)

ystyried barn dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol.

Annotations:
Commencement Information

I5A. 42 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

43Hybu cydlafurio mewn perthynas â dysgu Cymraeg

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu’r canlynol—

(a)

cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg;

(b)

cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg ac ysgolion‍ a gynhelir a rhwng darparwyr dysgu Cymraeg ac ysgolion meithrin a gynhelir;

(c)

cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg a darparwyr addysg drydyddol eraill yng Nghymru;

(d)

cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg a chyflogwyr yng Nghymru.

Annotations:
Commencement Information

I6A. 43 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

44Hybu cydlynu mewn perthynas â dysgu Cymraeg

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu’r canlynol—

(a)

cydlynu yn narpariaeth dysgu Cymraeg yng Nghymru i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(b)

rhannu arfer orau mewn perthynas â dulliau addysgu a throsglwyddo’r Gymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol.

Annotations:
Commencement Information

I7A. 44 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

45Cymhwyso safonau’r Gymraeg

(1)

Yn Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc.: safonau) i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1), yn y tabl, o dan y pennawd “Cyffredinol”, ar ôl y cofnod ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd mewnosoder—

““Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (“The National Institute for Learning Welsh”)

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Safonau llunio polisi

Safonau gweithredu

Safonau cadw cofnodion”.

(2)

Yn rheoliad 3 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 (O.S. 2017/90) (Cy. 33)‍ ym mharagraff (3), ar ôl “Corfforaethau Addysg Uwch yng Nghymru” mewnosoder “Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol”.

Annotations:
Commencement Information

I8A. 45 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

Cyffredinol

46Cynllun strategol

(1)

Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg, ar gyfer pob cyfnod cynllunio, lunio cynllun strategol.

(2)

Rhaid i’r cynllun strategol nodi sut y mae’r Athrofa Dysgu Cymraeg yn bwriadu—

(a)

arfer ei swyddogaethau er mwyn cyflawni ei hamcan, a

(b)

arfer ei swyddogaethau yn unol ag adrannau 41 i 44.

(3)

Wrth lunio’r cynllun strategol rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg ymgynghori â’r personau canlynol—

(a)

Gweinidogion Cymru;

(b)

Comisiynydd y Gymraeg;

(c)

y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(d)

y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (rhif y cwmni 07550507);

(e)

darparwyr dysgu Cymrae‍g;

(f)

unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(4)

Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg gyflwyno’r cynllun strategol i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 3 mis cyn dechrau’r cyfnod cynllunio y mae’n ymwneud ag ef.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun strategol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y cytunir arnynt â’r Athrofa Dysgu Cymraeg.

(6)

Rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg gyhoeddi’r cynllun strategol sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(7)

Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg adolygu‘r cynllun strategol a chyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i‘w gymeradwyo, ac mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys i gynllun diwygiedig fel y maent yn gymwys i’r cynllun gwreiddiol.

(8)

Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod cynllunio” yw—

(a)

cyfnod cyntaf sy’n dechrau â dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau ac yn dod i ben â dyddiad a bennir felly, a

(b)

pob cyfnod dilynol o 3 blynedd neu unrhyw gyfnod arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Annotations:
Commencement Information

I9A. 46 mewn grym ar 1.8.2027, gweler a. 56(3)

47Adroddiad blynyddol

(1)

Cyn gynted ag y bo‘n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i‘r Athrofa Dysgu Cymraeg—

(a)

llunio a chyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno, a

(b)

anfon copi o‘i hadroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o‘r adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru.