Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

Y ddyletswydd

Adran 2 - Dyletswydd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r amcanion

29.Mae adran 2(1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer swyddogaethau penodol yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol.

30.Er mwyn cydymffurfio â’r ddyletswydd hon, bydd angen i Weinidogion Cymru ystyried pob un o’r pedwar amcan RhTG pan fyddant yn arfer swyddogaeth y mae’r ddyletswydd yn gymwys iddi ac wedi hyn bydd angen arfer y swyddogaeth yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion hynny (i’w hystyried gyda’i gilydd), i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol. Bwriedir i’r amcanion RhTG ategu ei gilydd, ac, mewn rhai achosion, golyga hyn y caiff camau gweithredu eu cymryd sy’n cyfrannu at yr holl amcanion, er nid o reidrwydd yn gyfartal. Mewn achosion eraill, efallai na fydd hyn yn bosibl, er enghraifft, pan nad yw arfer swyddogaeth benodol yn cael unrhyw effaith mewn cysylltiad ag un neu ragor o’r amcanion.

31.Ym mhob achos, bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer swyddogaethau perthnasol yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at yr amcanion (i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol). Golyga hyn pan fo mwy nag un opsiwn i Weinidogion Cymru, bydd angen iddynt ddewis yr opsiwn y maent yn ystyried sy’n fwyaf buddiol yn nhermau ei gyfraniad at gyflawni’r amcanion RhTG.

32.Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru y mae’r ddyletswydd yn gymwys iddynt wedi eu nodi yn is-adrannau (2) a (3) ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 3.

33.Mae is-adran (2) yn darparu bod y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn gymwys iddynt yn:

  • swyddogaethau o dan y Ddeddf hon (adran 2(2)(a));

  • swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad arall sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer (i) amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu (ii) gweithgareddau ategol (adran 2(2)(b));

  • swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad arall sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i Weinidogion Cymru reoleiddio (i) amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu (ii) gweithgareddau ategol (adran 2(2)(c)).

34.Mae is-adran (3) yn darparu nad yw’r ddyletswydd RhTG ond yn gymwys i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2)(b) a (2)(c) i’r graddau bod y swyddogaethau hynny’n cael eu harfer i ddarparu cymorth ar gyfer neu i reoleiddio, (a) amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu (b) gweithgareddau ategol (ac nid felly i’r graddau yr arferir y swyddogaethau hynny at ryw ddiben arall).

35.Diffinnir “amaethyddiaeth” yn adran 51; diffinnir “gweithgaredd ategol” yn adran 52; a diffinnir “swyddogaethau” yn adran 54.

36.Gall gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth gynnwys, er enghraifft, gweithgareddau neu ddigwyddiadau hamdden pan fo prif ddefnydd y tir yn parhau’n amaethyddol yn bennaf e.e. gweithgareddau neu ddigwyddiadau a gynhelir ar gyfer nifer penodol o ddyddiau yn unig yn ystod unrhyw flwyddyn benodol.

Adran 3 - Eithriadau rhag y ddyletswydd yn adran 2

37.Mae adran 3 yn darparu nad yw’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys i’r swyddogaethau a restrir ym mharagraffau (a) i (f).

38.Mae’r swyddogaethau a eithrir yn ymwneud yn bennaf â chynllun y taliad sylfaenol, gan gynnwys darpariaeth ganlyniadol a throsiannol sy’n ymwneud â chynllun y taliad sylfaenol a’r polisi amaethyddol cyffredin. Mae cynllun y taliad sylfaenol yn system cymorth incwm cynhwysol nad yw’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion RhTG.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources