Search Legislation

Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 1TROSOLWG

1Trosolwg o’r Ddeddf

(1)Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf hon.

(2)Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn drosedd i landlord neu asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i daliadau penodol gael eu gwneud, neu i gamau penodol eraill gael eu cymryd yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol.

(3)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch ad-dalu blaendaliadau cadw (fel y’u diffinnir yn Atodlen 1).

(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorfodaeth, gan gynnwys darpariaeth ynghylch pwerau i wneud gwybodaeth yn ofynnol, a chosbau penodedig.

(5)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adennill taliadau a waherddir gan y Ddeddf hon, a blaendaliadau cadw a gedwir yn ôl yn groes i’r Ddeddf hon.

(6)Mae Rhan 6 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn perthynas â rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd penodol a godir gan asiantiaid gosod eiddo.

(7)Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth gyffredinol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch y gofynion gweithdrefnol ar gyfer gwneud rheoliadau, ac ynghylch cymhwyso i’r Goron.

RHAN 2GWAHARDD TALIADAU PENODOL ETC.

2Gwaharddiadau sy’n gymwys i landlordiaid

(1)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud i’r landlord, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud.

(2)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol i berson ymrwymo i gontract am wasanaethau gyda’r landlord, neu gydag unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol ymrwymo i’r contract am wasanaethau.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r contract am wasanaethau o dan sylw yn darparu i wasanaethau gael eu darparu gan berson y mae’r contract meddiannaeth safonol yn rhoi’r hawl iddo feddiannu annedd, neu y byddai’n rhoi’r hawl iddo feddiannu annedd (pa un a yw’r contract am wasanaethau hefyd yn darparu i unrhyw berson arall ddarparu gwasanaethau ai peidio).

(4)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol bod benthyciad yn cael ei roi i’r landlord, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r benthyciad gael ei roi.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Caiff y llys sy’n euogfarnu person (“y troseddwr”) o drosedd o dan is-adran (1) orchymyn i’r troseddwr dalu swm y taliad o dan sylw neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad i’r person a’i talodd.

3Gwaharddiadau sy’n gymwys i asiantiaid gosod eiddo

Explanatory NotesShow EN

(1)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud i’r asiant gosod eiddo, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud.

(2)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i berson ymrwymo i gontract am wasanaethau gyda’r asiant gosod eiddo, neu gydag unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol ymrwymo i’r contract am wasanaethau.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r contract am wasanaethau o dan sylw yn gontract rhwng landlord ac asiant gosod eiddo yn unig, mewn cysylltiad â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo y mae’r asiant i ymgymryd ag ef ar ran y landlord.

(4)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol bod benthyciad yn cael ei roi i’r asiant gosod eiddo, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r benthyciad gael ei roi.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Caiff y llys sy’n euogfarnu person (“y troseddwr”) o drosedd o dan is-adran (1) orchymyn i’r troseddwr dalu swm y taliad o dan sylw neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad i’r person a’i talodd.

4Taliadau gwaharddedig a thaliadau a ganiateir

Explanatory NotesShow EN

(1)Mae unrhyw daliad o arian yn daliad gwaharddedig oni bai—

(a)ei fod yn daladwy gan landlord i asiant gosod eiddo mewn cysylltiad â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo y mae’r asiant yn ymgymryd ag ef ar ran y landlord, neu

(b)ei fod yn daliad a ganiateir yn rhinwedd Atodlen 1.

(2)Mae’r Atodlen honno yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)rhent;

(b)blaendaliadau sicrwydd;

(c)blaendaliadau cadw;

(d)diffygdaliadau;

(e)taliadau mewn cysylltiad â’r dreth gyngor;

(f)taliadau mewn cysylltiad â chyfleustodau;

(g)taliadau mewn cysylltiad â thrwydded deledu;

(h)taliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfathrebu.

5Telerau contract nad ydynt yn rhwymo

Explanatory NotesShow EN

(1)Nid yw teler mewn contract meddiannaeth safonol yn rhwymo deiliad contract i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud, neu i ymrwymo i gontract am wasanaethau, neu i fenthyciad gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3.

(2)Ond mae’r contract yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall.

6Cymhwyso adrannau 2 i 5 i ofynion a chontractau sydd eisoes yn bodoli

Explanatory NotesShow EN

Nid yw adrannau 2 i 5 yn gymwys mewn cysylltiad ag—

(a)gofyniad a osodir cyn i’r Rhan hon ddod i rym;

(b)gofyniad sy’n ffurfio rhan o gontract meddiannaeth safonol yr ymrwymir iddo cyn i’r Rhan hon ddod i rym.

7Pŵer i ddiwygio’r diffiniad o “taliad a ganiateir”

Explanatory NotesShow EN

(1)Caiff rheoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon at ddibenion ychwanegu, addasu neu ddileu cyfeiriad yn Atodlen 1 at gategori o daliad.

(2)Ond nid yw’r pŵer yn is-adran (1) yn estyn i ddileu talu rhent o’r categorïau o daliad sy’n daliadau a ganiateir o dan y Ddeddf hon.

8Ystyr “asiant gosod eiddo”, “gwaith gosod” a “gwaith rheoli eiddo”

Explanatory NotesShow EN

At ddibenion y Rhan hon a Rhannau 3 i 5—

  • ystyr “asiant gosod eiddo” (“letting agent”) yw person sy’n ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo (pa un a yw’r person hwnnw’n ymgymryd â gwaith arall ai peidio);

  • mae i “gwaith gosod” (“lettings work”) a “gwaith rheoli eiddo” (“property management work”) yr un ystyron ag yn Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (gweler adrannau 10 a 12 o’r Rhan honno).

RHAN 3TRIN BLAENDALIADAU CADW

9Trin blaendaliadau cadw

Explanatory NotesShow EN

(1)Mae taliad sy’n daliad a ganiateir yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 1 (sy’n caniatáu talu blaendaliadau cadw) i’w drin fel pe bai wedi ei wneud yn unol â’r telerau a nodir yn Atodlen 2.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â thaliad a wneir cyn i Atodlen 2 ddod i rym.

RHAN 4GORFODAETH

Pwerau awdurdod gorfodi i wneud gwybodaeth etc. yn ofynnol

10Pŵer i wneud dogfennau neu wybodaeth yn ofynnol

Explanatory NotesShow EN

(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi arfer y pwerau a roddir gan is-adrannau (2) a (3) mewn perthynas â dogfennau neu wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod at ddiben ymchwilio i ba un a gyflawnwyd unrhyw drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd sydd wedi ei lleoli yn ardal yr awdurdod gorfodi.

(2)Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gyflwyno, ar amser, mewn lleoliad, ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw ddogfennau—

(a)a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o ddogfen a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, a

(b)sydd yng ngwarchodaeth y person neu o dan reolaeth y person.

(3)Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu, ar ffurf ac mewn modd a bennir yn yr hysbysiad, ac ar amser, mewn lle ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth—

(a)a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)sy’n hysbys i’r person.

(4)Y personau o fewn yr adran hon yw—

(a)person sy’n landlord o dan gontract meddiannaeth safonol neu sydd wedi bod yn landlord o dan gontract o’r fath;

(b)person sy’n ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth safonol, neu sydd wedi bod yn ddeiliad contract o dan gontract o’r fath;

(c)person sy’n asiant gosod eiddo neu sydd wedi bod yn asiant o’r fath.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) gynnwys gwybodaeth ynghylch canlyniadau posibl peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(6)Caiff person y cyflwynir unrhyw ddogfen iddo yn unol â hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) wneud copi o’r ddogfen.

(7)Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan yr adran hon i unrhyw berson gyflwyno unrhyw ddogfen neu ddarparu unrhyw wybodaeth y byddai gan y person hawl i wrthod ei chyflwyno neu ei darparu, mewn achos yn yr Uchel Lys, ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.

(8)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly, mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy.

11Trosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad o dan adran 10

Explanatory NotesShow EN

(1)Mae’n drosedd i berson fethu â gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i’r person ei wneud gan hysbysiad o dan adran 10.

(2)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mae’n amddiffyniad bod gan y person esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Mae’n drosedd i berson fynd ati’n fwriadol i newid, i atal neu i ddinistrio unrhyw ddogfen yr oedd yn ofynnol i’r person ei chyflwyno gan hysbysiad o dan adran 10.

(5)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly—

(a)mae’r cyfeiriad yn is-adran (4) at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy, a

(b)mae’r cyfeiriad yn yr is-adran honno at atal dogfen yn cynnwys cyfeiriad at ddinistrio’r modd o atgynhyrchu’r wybodaeth.

12Trosedd o ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas â hysbysiad o dan adran 10

Explanatory NotesShow EN

(1)Mae’n drosedd i berson y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 10, gan honni cydymffurfio â’r hysbysiad, ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—

(a)yn gwybod bod yr wybodaeth a ddarperir yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(b)yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.

(2)Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—

(a)yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, a

(b)yn gwybod bod yr wybodaeth i’w defnyddio at ddiben darparu gwybodaeth gan honni cydymffurfio â gofynion hysbysiad a roddir i berson arall o dan adran 10.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “anwir neu gamarweiniol” yw’n anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fater perthnasol.

Hysbysiadau cosb benodedig

13Hysbysiadau cosb benodedig

Explanatory NotesShow EN

(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi reswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 2 neu 3 yn ardal yr awdurdod, caiff y swyddog roi hysbysiad cosb benodedig i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r drosedd.

(2)Hysbysiad cosb benodedig, at ddibenion is-adran (1), yw hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson ryddhau unrhyw atebolrwydd i gael euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu cosb o £1000.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi swm gwahanol yn lle’r swm a bennir am y tro yn is-adran (2).

(4)Mae hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan yr adran hon i’w drin fel pe bai wedi ei roi o dan adran 29 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) at ddibenion is-adrannau (2), (3) a (6) i (8) o’r adran honno (darpariaeth ynghylch sut y rhoddir hysbysiadau cosb benodedig) ac at y diben hwn mae’r cyfeiriad at “yr awdurdod trwyddedu” yn is-adran (8)(a) o’r adran honno i’w drin fel pe bai’n gyfeiriad at yr awdurdod gorfodi o dan sylw.

(5)Ni chaniateir i dderbyniadau cosb benodedig a geir gan awdurdod gorfodi yn rhinwedd yr adran hon gael eu defnyddio heblaw at ddiben swyddogaethau’r awdurdod sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon.

Hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddedu

14Dyletswydd awdurdod tai lleol i hysbysu awdurdod trwyddedu am euogfarn

Explanatory NotesShow EN

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod person wedi ei euogfarnu am drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd yn ei ardal, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag is-adran (2).

(2)Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad am yr euogfarn i’r awdurdod trwyddedu a ddynodir o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7), neu, os oes mwy nag un awdurdod trwyddedu wedi ei ddynodi felly, i bob un o’r awdurdodau hynny.

(3)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol roi hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddedu os cafodd yr achos a arweiniodd at yr euogfarn ei ddwyn gan yr awdurdod trwyddedu o dan adran 19.

Canllawiau

15Dyletswydd i roi sylw i ganllawiau

Explanatory NotesShow EN

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod gorfodi roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Ystyr “swyddog awdurdodedig” yn y Rhan hon

16Ystyr “swyddog awdurdodedig”

Explanatory NotesShow EN

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi yn gyfeiriad at berson (pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion y Rhan hon.

Yr awdurdod gorfodi at ddibenion y Rhan hon

17Awdurdodau gorfodi

Explanatory NotesShow EN

(1)At ddibenion y Rhan hon, yr awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ardal awdurdod tai lleol yw pob un o’r canlynol—

(a)yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal, a

(b)yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal.

(2)Ond ni chaiff awdurdod trwyddedu sydd, yn rhinwedd is-adran (1)(b), yn awdurdod gorfodi ar gyfer ardal awdurdod tai lleol, arfer unrhyw swyddogaeth awdurdod gorfodi mewn perthynas â’r ardal honno, na dwyn achos o dan adran 19 mewn perthynas â’r ardal honno, heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal.

(3)Caniateir i gydsyniad o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu swyddogaethau penodol.

(4)At ddibenion yr adran hon, ystyr “awdurdod trwyddedu” yw person sydd wedi ei ddynodi’n awdurdod trwyddedu o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

(5)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ardal awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at yr ardal y mae’n awdurdod gorfodi ar ei chyfer, neu’r ardaloedd y mae’n awdurdod gorfodi ar eu cyfer, yn ôl y digwydd.

Rhannu gwybodaeth a’r pŵer i ddwyn achos troseddol

18Darparu a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau gorfodi

Explanatory NotesShow EN

(1)Os yw awdurdod gorfodi yn gofyn am wybodaeth gan awdurdod gorfodi arall, rhaid i’r awdurdod arall hwnnw gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod yn ystyried y byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy ar wahân i fod o dan y Rhan hon).

(2)Yr wybodaeth y gellir gofyn amdani gan awdurdod gorfodi o dan is-adran (1) yw gwybodaeth y mae’r awdurdod hwnnw wedi ei chael—

(a)o dan yr adran hon, a

(b)fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(3)Caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a), (b) neu (c) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.

(4)Yn ogystal â hynny, caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a) neu (b) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”).

(5)Yr wybodaeth yw honno—

(a)sydd wedi ei darparu iddo gan awdurdod gorfodi arall o dan is-adran (1);

(b)y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei chael fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon;

(c)y mae ganddo, yn rhinwedd adran 36 o Ddeddf 2014, ganiatâd i’w defnyddio at ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.

(6)Nid yw adran 17(2) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaethau a roddir i awdurdod gorfodi gan yr adran hon.

19Pŵer awdurdod trwyddedu i ddwyn achos troseddol

Explanatory NotesShow EN

Caiff awdurdod gorfodi sy’n awdurdod trwyddedu ddwyn achos troseddol mewn cysylltiad â throsedd yr honnir iddi gael ei chyflawni o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd sydd wedi ei lleoli yn ei ardal (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 17(2)).

Cyfyngiadau ar derfynu gan landlord gontractau meddiannaeth safonol

20Diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: cyfyngiadau ar derfynu contractau

Explanatory NotesShow EN

Mae Atodlen 3 yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â thaliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw a gedwir, ac yn gwneud diwygiadau cysylltiedig pellach.

Canllawiau i awdurdod trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014

21Diwygio adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014

Explanatory NotesShow EN

Yn adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (canllawiau o dan Ran 1 o’r Ddeddf), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Caiff canllawiau a roddir i awdurdod trwyddedu gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch materion sydd i’w hystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw methiant i ad-dalu swm unrhyw daliad gwaharddedig neu flaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) yn effeithio ar addasrwydd person i gael ei drwyddedu o dan y Rhan hon.

RHAN 5ADENNILL SWM GAN DDEILIAD Y CONTRACT

22Adennill taliad gwaharddedig neu flaendal cadw

(1)Caiff person (yr “hawlydd”) wneud cais i’r llys sirol i adennill swm—

(a)unrhyw daliad gwaharddedig a wnaed gan yr hawlydd, neu ar ei ran, mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol;

(b)unrhyw flaendal cadw a dalwyd gan yr hawlydd, neu ar ei ran, mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol.

(2)Caiff llys y gwneir cais iddo o dan is-adran (1)(a), os yw’r llys wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol—

(a)bod taliad gwaharddedig wedi ei wneud gan yr hawlydd, neu ar ei ran, a

(b)bod y taliad cyfan hwnnw eto i’w dalu i’r hawlydd, neu fod rhan o’r taliad hwnnw eto i’w thalu iddo,

orchymyn ad-dalu i’r hawlydd, yn unol â’r gorchymyn, swm y taliad neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad.

(3)Caiff llys y gwneir cais iddo o dan is-adran (1)(b), os yw’r llys wedi ei fodloni, yn ôl pwysau tebygolrwydd—

(a)bod blaendal cadw wedi ei dalu gan yr hawlydd neu ar ei ran, a

(b)y methwyd ag ad-dalu’r blaendal cadw cyfan, neu ran ohono, i’r hawlydd yn unol ag Atodlen 2,

orchymyn ad-dalu i’r hawlydd, yn unol â’r gorchymyn, swm y blaendal cadw neu (mewn achos pan fo rhan o’r blaendal cadw wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r blaendal cadw.

(4)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â thaliad gwaharddedig os yw achos troseddol wedi ei gychwyn yn rhinwedd adran 2 neu 3 mewn cysylltiad â’r taliad hwnnw, oni bai bod yr achos hwnnw wedi ei derfynu.

(5)Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (2) neu (3) wneud ad-dalu swm yn ofynnol, os yw’r swm hwnnw wedi ei roi tuag at dalu rhent, neu’r blaendal sicrwydd, o dan y contract meddiannaeth safonol o dan sylw.

RHAN 6RHOI CYHOEDDUSRWYDD I FFIOEDD ASIANTIAID GOSOD EIDDO

23Rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd asiantiaid gosod eiddo

(1)Caiff rheoliadau ddiwygio Pennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (c. 15) (dyletswydd i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd etc.)—

(a)i’w gwneud yn ofynnol i asiant gosod eiddo sicrhau bod unrhyw hysbysebwr ar-lein yn rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd perthnasol yr asiant, i’r graddau y mae’r ffioedd hynny’n ymwneud ag anhedd-dai yng Nghymru;

(b)i ganiatáu i fwy nag un gosb gael ei gosod ar asiant gosod eiddo mewn perthynas â’r un achos o dorri dyletswydd yn y Bennod honno, i’r graddau y mae’r toriad yn ymwneud ag anhedd-dai yng Nghymru.

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “hysbysebwr ar-lein”, mewn perthynas ag asiant gosod eiddo, yw person sy’n hysbysebu, ar y fewnrwyd, wasanaethau y mae’r asiant yn eu cynnig mewn perthynas ag anhedd-dai yng Nghymru;

(b)mae i “anhedd-dy”, “asiant gosod eiddo” a “ffioedd perthnasol” yr un ystyron â “dwelling-house”, “letting agent” a “relevant fees” ym Mhennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

RHAN 7DARPARIAETHAU TERFYNOL

24Gofyniad i awdurdod tai lleol hyrwyddo ymwybyddiaeth o effaith y Ddeddf

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol wneud trefniadau i wybodaeth fod ar gael yn gyhoeddus yn ei ardal, ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod yn meddwl sy’n briodol, am effaith y Ddeddf hon, gan gynnwys sut y gellir adennill taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw.

(2)Wrth wneud trefniadau at ddibenion yr adran hon, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

25Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â thenantiaethau sicr

Explanatory NotesShow EN

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth er mwyn i’r Ddeddf hon fod yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau a bennir gan y rheoliadau, mewn perthynas â thenantiaeth sicr ar gyfer annedd.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae i “tenantiaeth sicr” yr un ystyr ag “assured tenancy” yn Neddf Tai 1988 (c. 50) (ac mae’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliadol sicr).

26Troseddau gan gyrff corfforaethol

Explanatory NotesShow EN

(1)Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod, ar ran—

(a)uwch-swyddog i’r corff corfforaethol, neu

(b)person sy’n honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff corfforaethol,

mae’r uwch-swyddog neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael achos llys yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol.

(3)Ond yn achos corff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, ystyr “cyfarwyddwr” at ddibenion yr adran hon yw aelod o’r corff corfforaethol.

27Rheoliadau

Explanatory NotesShow EN

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaethau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(3)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 7, adran 13 neu baragraffau 2 neu 6 o Atodlen 1 (pa un a yw’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall o’r Ddeddf hon ai peidio) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

28Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “annedd” (“dwelling”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (y cyfeirir ati yn yr adran hon fel “Deddf 2016”);

  • ystyr “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”) yw’r cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • mae i “blaendal cadw” (“holding deposit”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 1;

  • mae i “blaendal sicrwydd” (“security deposit”) yr ystyr a roddir yn Atodlen 1;

  • ystyr “contract meddiannaeth safonol” (“standard occupation contract”) yw contract sy’n gontract safonol at ddibenion Deddf 2016;

  • mae i “deiliad contract” (“contract-holder”) yr un ystyr ag yn Neddf 2016;

  • mae i “landlord” (“landlord”) yr un ystyr ag yn Neddf 2016; ac os oes dau neu ragor o bersonau yn landlord ar y cyd, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y landlord yn gyfeiriadau at bob un o’r personau hynny;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • mae i “taliad gwaharddedig” (“prohibited payment”) yr ystyr a roddir yn adran 4.

29Cymhwyso i’r Goron

(1)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i’r Goron.

(2)Nid yw unrhyw achos o dorri unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon yn gwneud y Goron yn atebol yn droseddol, ond caiff yr Uchel Lys ddatgan bod unrhyw weithred neu anweithred ar ran y Goron sy’n gyfystyr â thoriad o’r fath yn anghyfreithlon.

30Dod i rym

(1)Mae’r adran hon ac adran 31 yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed.

31Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources