Search Legislation

Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

(a gyflwynir gan adran 4)

ATODLEN 1Taliadau a Ganiateir

Explanatory NotesShow EN

Rhent

1(1)Mae taliad rhent o dan gontract meddiannaeth safonol yn daliad a ganiateir.

(2)Ond, yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn, os yw swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol (“C1”) yn fwy na swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol arall (“C2”), mae’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 yn daliad gwaharddedig.

(3)Pan fo mwy nag un cyfnod perthnasol heblaw C1, C2 yw pa un bynnag o’r cyfnodau perthnasol eraill hynny y mae’r swm isaf o rent yn daladwy mewn cysylltiad ag ef.

(4)Mewn achos pan fo hyd un cyfnod perthnasol (C1) yn wahanol i hyd un arall (C2), er mwyn pennu—

(a)pa un a yw taliad gwaharddedig wedi ei wneud yn rhinwedd is-baragraff (2), a

(b)os felly, swm y taliad gwaharddedig,

mae’r camau a ganlyn i’w cymryd.

  • Cam 1

    Ar gyfer C1 ac C2 ill dau, mae cyfradd ddyddiol berthnasol (“CDdB”) y rhent i’w chyfrifo (ac yn achos swm nad yw’n rif cyfan mewn ceiniogau, yna wedi ei dalgrynnu i fyny i’r geiniog agosaf) drwy rannu cyfanswm y rhent ar gyfer y cyfnod â nifer y dyddiau yn y cyfnod.

  • Cam 2

    Os nad oes unrhyw wahaniaeth rhwng CDdB pob cyfnod, nid oes unrhyw daliad gwaharddedig.

  • Cam 3

    Ond os yw’r CDdB ar gyfer C1 yn wahanol i honno ar gyfer C2, pennu pa un o’r cyfraddau yw’r isaf (y “CDdB is”) a pha un yw’r uchaf (y “CDdB uwch”).

  • Cam 4

    Ar gyfer pa bynnag gyfnod y mae’r CDdB uwch yn daladwy, cyfrifo swm y rhent a fyddai wedi bod yn daladwy ar ei gyfer pe byddai rhent wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw ar y CDdB is.

  • Cam 5

    Cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng swm y rhent a gyfrifwyd o dan Gam 4, a swm y rhent sy’n daladwy mewn gwirionedd mewn cysylltiad â’r cyfnod y mae’r CDdB uwch yn daladwy.

    Mae’r swm canlyniadol yn daliad gwaharddedig yn rhinwedd is-baragraff (2).

(5)Pan fo—

(a)rhent yn daladwy yn fisol mewn cysylltiad ag C1 ac C2, neu pan fo C1 ac C2 ill dau yn gyfnodau a gyfrifir drwy gyfeirio at yr un nifer o fisoedd calendr, a

(b)swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 ac C2 yr un fath,

mae C1 ac C2 i’w trin at ddibenion Cam 2 yn is-baragraff (4) fel pe bai ganddynt yr un CDdB.

(6)Rhaid diystyru unrhyw wahaniaeth rhwng y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 a chyfnod perthnasol arall i’r graddau y mae’n deillio o amrywiad a ganiateir i’r rhent.

(7)Yn is-baragraff (6), ystyr “amrywiad a ganiateir”, mewn perthynas â rhent sy’n daladwy o dan gontract meddiannaeth safonol, yw amrywiad a wneir—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract;

(b)yn unol â theler yn y contract sy’n darparu ar gyfer amrywio’r rhent o dan y contract;

(c)gan ddeddfiad neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(8)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) a gynhwysir yn un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(i)Deddf Seneddol,

(ii)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ystyr “cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â chontract meddiannaeth safonol, yw unrhyw gyfnod y mae rhent i’w dalu mewn cysylltiad ag ef.

Blaendal sicrwydd

2(1)Mae taliad blaendal sicrwydd yn daliad a ganiateir.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “blaendal sicrwydd” yw arian a delir fel sicrwydd ar gyfer—

(a)cyflawni unrhyw rwymedigaethau deiliad contract, neu

(b)rhyddhau unrhyw atebolrwydd,

sy’n codi o dan gontract meddiannaeth neu mewn cysylltiad â chontract o’r fath.

(3)Ond os yw swm y blaendal sicrwydd yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.

(4)Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.

Blaendal cadw

3Mae taliad blaendal cadw yn daliad a ganiateir.

4Blaendal cadw yw swm—

(a)a delir i landlord, neu i asiant gosod eiddo, cyn rhoi contract meddiannaeth safonol;

(b)a delir at ddiben cadw’r hawl i gael y cynnig cyntaf mewn perthynas â rhoi’r contract, yn ddarostyngedig i gynnal gwiriadau addasrwydd o ran darpar ddeiliad y contract, a chytundeb rhwng y partïon i ymrwymo i’r contract;

(c)nad yw’n fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract.

5Pan fo swm sy’n ofynnol gan honni cydymffurfio â’r paragraff hwn yn fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig, ac mae’r gweddill i’w drin yn unol ag Atodlen 2.

Taliad yn achos diffygdaliad

6(1)Mae taliad y mae’n ofynnol ei wneud yn achos diffygdaliad gan ddeiliad y contract, o dan gontract meddiannaeth safonol, yn daliad a ganiateir, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “diffygdaliad” yw—

(a)methiant gan ddeiliad y contract i wneud taliad i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus, neu

(b)toriad gan ddeiliad y contract o un o delerau’r contract.

(3)Yn achos diffygdaliad y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, os yw swm y taliad sy’n ofynnol yn achos y diffygdaliad yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.

(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i—

(a)methiant gan ddeiliad contract i dalu rhent i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus;

(b)unrhyw ddisgrifiad ychwanegol o ddiffygdaliad a bennir gan reoliadau.

(5)Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.

Taliad mewn cysylltiad â’r dreth gyngor

7(1)Mae taliad y mae’n ofynnol i ddeiliad contract ei wneud i awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r dreth gyngor yn daliad a ganiateir os yw deiliad y contract yn atebol am wneud y taliad yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6, 8 neu 9 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (c. 14).

(2)Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod bilio” yr un ystyr ag a roddir i “billing authority” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (gweler adran 1(2) o’r Ddeddf honno).

Taliad mewn cysylltiad â darparu cyfleustodau

8(1)Mae taliad ar gyfer darparu cyfleustod, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(2)Mae taliad tuag at welliannau effeithlonrwydd ynni o dan gynllun y fargen werdd (o fewn yr ystyr a roddir i “green deal plan” gan adran 1 o Ddeddf Ynni 2011 (p.16)) yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “cyfleustod” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)trydan, nwy neu danwydd arall;

(b)dŵr neu garthffosiaeth.

Taliad mewn cysylltiad â thrwydded deledu

9(1)Mae taliad y mae’n ofynnol i ddeiliad contract ei wneud i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig mewn cysylltiad â thrwydded deledu yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol gan y contract i ddeiliad y contract wneud y taliad.

(2)Yn y paragraff hwn ystyr “trwydded deledu” yw trwydded at ddibenion adran 363 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (c. 21).

Taliad mewn cysylltiad â gwasanaeth cyfathrebu

10(1)Mae taliad ar gyfer gwasanaeth cyfathrebu, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “gwasanaeth cyfathrebu” yw gwasanaeth sy’n galluogi unrhyw un neu ragor o’r canlynol i gael ei ddefnyddio neu eu defnyddio—

(a)ffôn ac eithrio ffôn symudol;

(b)y rhyngrwyd;

(c)teledu cebl;

(d)teledu lloeren.

Newid ystyr “amrywiad a ganiateir” ym mharagraff 1

11Os yw rheoliadau a wneir o dan adran 7 yn diwygio’r Atodlen hon er mwyn newid ystyr “amrywiad a ganiateir” at ddibenion paragraff 1, cânt hefyd wneud diwygiadau canlyniadol i Bennod 3 o Ran 6 a Phennod 3 o Ran 7 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (amrywio contractau meddiannaeth safonol).

(a gyflwynir gan adran 9)

ATODLEN 2Ymdrin â Blaendal Cadw

Explanatory NotesShow EN

Cymhwyso

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan delir blaendal cadw mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol.

(2)Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at ddeiliad contract, mewn perthynas â blaendal cadw, yn gyfeiriadau at y person y mae ei hawl i gael y cynnig cyntaf wedi ei gadw gan y blaendal cadw.

Ystyr “terfyn amser ar gyfer cytundeb”

2(1)Yn yr Atodlen hon, ystyr y “terfyn amser ar gyfer cytundeb” yw pymthegfed diwrnod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y telir y blaendal cadw.

(2)Ond caiff y partïon gytuno yn ysgrifenedig i ddiwrnod gwahanol fod y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

(3)Caiff rheoliadau ddiwygio is-baragraff (1) i newid y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Gofyniad i ad-dalu blaendal cadw

3Yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn, rhaid i’r person a gafodd y blaendal cadw ei ad-dalu⁠—

(a)os yw’r partïon yn ymrwymo i’r contract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, neu

(b)os yw’r partïon yn methu ag ymrwymo i’r contract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

4Rhaid ad-dalu’r blaendal o fewn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau ag—

(a)pan fo paragraff 3(a) yn gymwys, y diwrnod y gwneir y contract, neu

(b)pan fo paragraff 3(b) yn gymwys, y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Eithriadau

5Nid yw paragraff 3(a) yn gymwys i’r graddau y cymhwysir swm y blaendal—

(a)tuag at y taliad rhent cyntaf o dan y contract, neu

(b)tuag at dalu blaendal sicrwydd o dan y contract.

6Os cymhwysir y blaendal cadw cyfan, neu ran ohono, yn unol â pharagraff 5(b), caiff y swm a gymhwysir ei drin at ddibenion adran 45 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) fel pe bai wedi ei dalu ar y dyddiad y gwneir y contract.

7Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys os yw deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r landlord neu’r asiant gosod eiddo ac—

(a)bod hawl resymol gan y landlord i ystyried y gwahaniaeth rhwng yr wybodaeth a ddarparwyd gan ddeiliad y contract a’r wybodaeth gywir wrth benderfynu pa un ai i roi contract i ddeiliad y contract, neu

(b)bod hawl resymol gan y landlord i ystyried gweithred deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol wrth benderfynu pa un ai i roi contract o’r fath.

8Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys os yw deiliad y contract yn hysbysu’r landlord neu’r asiant gosod eiddo cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb bod deiliad y contract wedi penderfynu peidio ag ymrwymo i gontract.

9Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys mewn perthynas â blaendal cadw a delir i landlord—

(a)os yw’r landlord yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, ond

(b)bod deiliad y contract yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw.

10Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys mewn perthynas â blaendal cadw a delir i asiant gosod eiddo—

(a)os yw’r asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, a

(b)bod y landlord yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw, ond

(c)bod deiliad y contract yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw.

Darpariaeth atodol ynghylch eithriadau ym mharagraffau 8 i 10

11(1)Ni ellir dibynnu ar yr eithriadau a bennir ym mharagraffau 8, 9 a 10 oni fodlonir yr amod yn is-baragraff (2).

(2)Yr amod yw, cyn talu’r blaendal cadw, fod deiliad y contract wedi cael yr wybodaeth sydd o fewn is-baragraff (3) oddi wrth naill ai’r landlord neu’r asiant gosod eiddo (os yw asiant o’r fath wedi ei gyfarwyddo gan y landlord mewn perthynas â’r contract).

(3)Mae gwybodaeth sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn wybodaeth a bennir mewn rheoliadau, neu’n wybodaeth o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

(4)Nid yw gwybodaeth i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu i ddeiliad y contract, at ddibenion is-baragraff (1), oni bai ei bod wedi ei darparu ym mha ffordd bynnag (os oes un) a bennir yn y rheoliadau.

(5)Mewn achos pan fo landlord wedi cyfarwyddo asiant gosod eiddo mewn perthynas â chontract, ni chaniateir dibynnu ar yr eithriad ym mharagraff 9, yn ogystal, oni bai bod yr asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

(a gyflwynir gan adran 20)

ATODLEN 3Diwygiadau i ddeddf rhentu cartrefi (cymru) 2016

Explanatory NotesShow EN

1Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Cyfyngiad ar roi hysbysiad ar gyfer meddiant: contractau safonol cyfnodol

2Ar ôl adran 177 (cyfyngiad ar landlord o dan gontract safonol cyfnodol yn rhoi hysbysiad ar gyfer meddiant: torri gofynion sicrwydd a blaendal), mewnosoder—

177ACyfyngiadau ar adran 173: taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 ar adeg pan fo—

(a)y landlord wedi ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno,

(b)o ganlyniad i’r gofyniad, taliad gwaharddedig wedi ei wneud i’r landlord neu i unrhyw berson arall, ac

(c)y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 ar adeg pan fo—

(a)blaendal cadw (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a

(b)yr amgylchiadau yn golygu bod y methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

(3)Wrth benderfynu at ddibenion yr adran hon a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—

(a)taliad rhent o dan y contract;

(b)taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.

3Yn adran 126 (y weithdrefn hysbysu ar gyfer amrywio, o dan adran 125, gontract meddiannaeth gan y landlord), yn is-adran (2), yn lle “neu adran 177 (torri gofynion sicrwydd a blaendal)” rhodder “, adran 177 (torri gofynion sicrwydd a blaendal) neu adran 177A (taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw)”.

Cyfyngiadau ar roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd contractau safonol cyfnod penodol

4(1)Ar ôl adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol), mewnosoder—

186ACyfyngiadau ar adran 186: torri’r gofynion rhoi gwybodaeth

(1)Os nad yw’r landlord yn cydymffurfio ag adran 31(1) neu (2) (dyletswydd i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract), ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 cyn diwedd y cyfnod cyfyngedig.

(2)Y cyfnod cyfyngedig yw chwe mis sy’n cychwyn â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.

(3)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 186 ar unrhyw adeg pan na fo’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 39 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth).

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186(1) fel un o delerau’r contract.

186BCyfyngiadau ar adran 186: torri gofynion sicrwydd a blaendal

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan na fo sicrwydd y gofynnodd y landlord amdano ar ffurf nad yw adran 43 yn ei chaniatáu wedi ei ddychwelyd i’r person a’i rhoddodd.

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan fo unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5) yn gymwys oni bai—

(a)bod blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract wedi ei ddychwelyd i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) naill ai’n llawn neu ar ôl tynnu unrhyw symiau a gytunwyd, neu

(b)bod cais i ’r l lys sirol wedi ei wneud o dan baragraff 2 o Atodlen 5 a bod y llys sirol wedi dyfarnu arno, ei fod wedi ei dynnu’n ôl, neu ei fod wedi ei setlo drwy gytundeb rhwng y partïon.

(3)Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond ni chydymffurfiwyd â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig.

(4)Mae blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract ond nid yw’r landlord wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b).

(5)Nid yw blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186(1) fel un o delerau’r contract; ac mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

186CCyfyngiadau ar adran 186: taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan fo—

(a)y landlord wedi ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno,

(b)o ganlyniad i’r gofyniad, taliad gwaharddedig wedi ei wneud i’r landlord neu i unrhyw berson arall, ac

(c)y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 186 ar adeg pan fo—

(a)blaendal cadw (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a

(b)yr amgylchiadau yn golygu bod methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

(3)Wrth benderfynu at ddibenion yr adran hon a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—

(a)taliad rhent o dan y contract;

(b)taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186(1) fel un o delerau’r contract.

(2)Yn adran 20 (ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (m), mewnosoder—

(ma)adran 186B (torri gofynion blaendal: cyfyngiad ar roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd contractau safonol cyfnod penodol),.

(3)Yn adran 135 (cyfyngiad ar amrywio), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (i), mewnosoder—

(ia)adran 186B (torri gofynion blaendal: cyfyngiad ar roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd contractau safonol cyfnod penodol),.

(4)Yn lle adran 183(2) (perthnasedd digwyddiadau o dan gontract safonol cyfnod penodol), rhodder—

(2)Mae adrannau 179 a 180 yn gymwys i hysbysiad a roddir o dan adran 186(1), ac i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 186(5) gan ddibynnu ar hysbysiad o’r fath, fel y maent yn gymwys i hysbysiad a roddir o dan adran 173, ac i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 178 gan ddibynnu ar hysbysiad a roddir o dan adran 173.

Cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contractau safonol cyfnod penodol

5Ar ôl adran 198 (cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: gofynion sicrwydd a blaendal), mewnosoder—

198ACyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord ar adeg pan fo—

(a)y landlord wedi ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno,

(b)o ganlyniad i’r gofyniad, taliad gwaharddedig wedi ei wneud i’r landlord neu i unrhyw berson arall, ac

(c)y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord ar adeg pan fo—

(a)blaendal cadw (o fewn yr ystyr a roddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a

(b)yr amgylchiadau yn golygu bod y methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

(3)Wrth benderfynu at ddibenion yr adran hon a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—

(a)taliad rhent o dan y contract;

(b)taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Cyfyngiadau ar lys yn gwrando hawliad meddiant gan landlord

6Yn adran 204 (cyfyngiadau ar lys yn gwrando hawliadau meddiant gan landlord)—

(a)yn is-adran (1)(a)(vii), ar ôl “177” mewnosoder “, 177A”;

(b)yn is-adran (1)(a)(ix), yn lle “adran 186 (cyfyngiad”, rhodder “, adrannau 186, 186A, 186B a 186C (cyfyngiadau”;

(c)yn is-adran (1)(a)(xiii), ar ôl “198” mewnosoder “, 198A”.

Darpariaeth ganlyniadol amrywiol

7Yn Atodlen 1 (trosolwg o ddarpariaethau sylfaenol a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth)—

(a)yn Rhan 2 (contractau safonol cyfnodol), yn nhabl 4, yn nodiadau’r cofnod ar gyfer adrannau 173 i 180 (terfynu drwy hysbysiad a roddir gan landlord)—

(i)yn lle “a 176” rhodder “, 176, 177 a 177A”;

(ii)yn lle “adran 176” rhodder “adran 177”;

(b)yn Rhan 3 (contractau safonol cyfnod penodol), yn nhabl 5—

(i)yng ngholofn gyntaf y cofnod ar gyfer adran 186, yn lle “Adran 186”, rhodder “Adrannau 186, 186A, 186B a 186C”;

(ii)yn nodiadau’r cofnod ar gyfer adran 186, ar y diwedd, mewnosoder “Os nad yw adran 186(1) wedi ei hymgorffori, nid yw adrannau 186A, 186B a 186C yn gymwys. Os yw contract yn ymgorffori adran 186(1), rhaid ymgorffori adrannau 186A, 186B a 186C, a rhaid ymgorffori adran 186B heb ei haddasu.”;

(iii)yn nodiadau’r cofnod ar gyfer adrannau 195 i 201 (terfynu drwy hysbysiad a roddir gan landlord o dan gymal terfynu’r landlord), yn lle “adran 196 (torri’r rheolau blaendal)” rhodder “adran 198 (torri gofynion sicrwydd a blaendal)”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources