- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(a gyflwynir gan adran 90)
1Mae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2Yn adran 39 (storio gwybodaeth etc. yn ddiogel) (fel y’i diwygir gan baragraff 7 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);
(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—
“(2)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a bennir o dan adran 21(7) (cofnod disgownt dŵr) neu 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi) o DTGT.”
3Yn adran 40 (ystyr “dyddiad ffeilio”) (fel y’i diwygir gan baragraff 9 o Atodlen 23 i DTTT), yn lle’r geiriau o “y “dyddiad ffeilio”” i’r diwedd rhodder “—
(a)ystyr “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth trafodiadau tir, yw’r diwrnod erbyn pryd y mae’n ofynnol dychwelyd y ffurflen o dan DTTT;
(b)mae i “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, yr ystyr a roddir gan adran 39(4) o DTGT.”
4Yn adran 104 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: darpariaeth bellach)—
(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(b)yn is-adran (1), ar ôl “103,” mewnosoder “103A neu 103B,”;
(c)yn is-adran (2), hepgorer “busnes”.
5Yn adran 105 (cynnal archwiliadau o dan adran 103: defnyddio offer a deunyddiau)—
(a)yn y pennawd, ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(b)yn is-adran (1) yn lle “103 i’r fangre busnes” rhodder “103, 103A neu 103B i’r fangre”;
(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—
“(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).”
6Yn adran 107 (dangos awdurdodiad i gynnal archwiliadau), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A, 103B”.
7Yn adran 108 (cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre)—
(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “103“ mewnosoder “, 103A, 103B”;
(b)yn is-adran (1)(b), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(c)yn is-adran (2), ar ôl “103” mewnosoder “, 103A neu 103B”;
(d)yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “103” i ddiwedd paragraff (a) (ond heb gynnwys y gair “a” ar ôl y paragraff hwnnw) rhodder “103, 103A neu 103B—
(a)onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni,”;
(e)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)Y gofyniad cymwys yw—
(a)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;
(b)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;
(c)yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.”
8Yn adran 111 (dehongli Pennod 4)—
(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);
(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—
“(2)At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.”
9Yn adran 118 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny) (fel y’i diwygir gan baragraff 39 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);
(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—
“(2)Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.”
10Yn adran 121 (gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgelu), yn is-adran (1), ar ôl “adran 118,” mewnosoder “118A,”.
11Yn adran 122 (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (fel y’i hamnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).”;
(b)yn is-adran (3), yn lle “adran 122A” rhodder “adrannau 122ZA a 122A”.
12Yn adran 122A (cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig) (a fewnosodir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), ar ôl “adran 122” mewnosoder “neu 122ZA”.
13Yn adran 126 (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth) (fel y’i diwygir gan baragraff 45 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (2), yn lle “adran 122 neu 122A” rhodder “adrannau 122 i 122A”.
14Yn adran 127 (asesu cosbau) (fel y’i diwygir gan baragraff 46 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)yn is-adran (5), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”;
(b)yn is-adran (6), ar ôl “adran 122” mewnosoder “, 122ZA”.
15Yn adran 157A (llog taliadau hwyr ar gosbau) (a fewnosodir gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (1), yn lle “y mae’n ofynnol ei dalu o dan Ran 5 o’r Ddeddf hon” rhodder “sy’n ymwneud â threth ddatganoledig”.
16Yn adran 172 (penderfyniadau apeliadwy) (fel y’i diwygir gan baragraff 62 o Atodlen 23 i DTTT), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.”
17Yn adran 182 (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl) (fel y’i diwygir gan baragraff 64 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)yn is-adran (2), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;
(b)yn is-adran (4), ym mharagraff (a), yn lle “adran 154” rhodder “dyddiad talu arferol y gosb”;
(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—
“(7)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad talu arferol y gosb” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu cosb o dan—
(a)adran 154, neu
(b)adran 70 o DTGT.”
18Yn adran 190 (dyroddi hysbysiadau gan ACC) (fel y’i diwygir gan baragraff 68 o Atodlen 23 i DTTT), yn is-adran (9)(a), ar ôl “103(4) neu 105(3)” mewnosoder “(gan gynnwys unrhyw hysbysiad a roddir o dan adran 103(4) fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5))”.
19Yn adran 192 (dehongli) (fel y’i diwygir gan baragraff 70 o Atodlen 23 i DTTT)—
(a)yn is-adran (2), mewnosoder yn y lleoedd priodol—
““ystyr “DTGT” (“LDTA“) yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3);”;
““mae i “treth gwarediadau tirlenwi” (“landfill disposals tax”) yr un ystyr ag yn DTGT;”;
(b)yn yr is-adran honno, yn y diffiniad o “Deddfau Trethi Cymru”—
(i)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a);
(ii)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, ac
(c)DTGT.”
20Yn adran 193 (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir) (fel y’i diwygir gan baragraff 71 o Atodlen 23 i DTTT), yn Nhabl 1, mewnosoder yn y lleoedd priodol—
DTGT (“LDTA”) | adran 192(2) |
Treth gwarediadau tirlenwi (“landfill disposals tax”) | adran 192(2) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: