Adrannau 39 i 41 – Cyfrifo treth
73.Dylid darllen yr adrannau hyn o’r Ddeddf a’r nodiadau hyn ar y cyd â Phennod 3 o Ran 3 o DCRhT a’r nodiadau esboniadol perthnasol (paragraffau 46 a 47), sy’n mynd gyda DCRhT.
74.Mae adran 39 yn gosod dyletswydd ar weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n cyflawni gwarediadau trethadwy i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu. Rhaid i’r ffurflen dreth gynnwys asesiad o swm y dreth sydd i’w godi ar y gweithredwr a datgan bod yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y gweithredwr.
75.Rhaid dychwelyd ffurflenni treth, ynghyd ag unrhyw daliad treth, yn ddim hwyrach na diwrnod gwaith olaf y mis sy’n dilyn y mis y daw’r cyfnod cyfrifyddu i ben ynddo, oni bai bod y dyddiad hwnnw yn cael ei amrywio o dan adran 40. Er enghraifft, os daw cyfnod cyfrifyddu i ben ar 30 Mehefin, rhaid dychwelyd ffurflen dreth a thalu’r dreth erbyn diwrnod gwaith olaf mis Gorffennaf.
76.O ran gweithredwyr safleoedd tirlenwi cofrestredig, mae’r cyfnod cyfrifyddu cyntaf yn dechrau â’r diwrnod y maent yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy (neu, os yw’n hwyrach, y diwrnod y daw’n weithredwr cofrestredig) ac yn dod i ben â’r diwrnod y rhoddir gwybod iddynt amdano gan ACC. O hynny ymlaen, eu cyfnodau cyfrifyddu fydd pob cyfnod dilynol o 3 mis (oni bai bod y cyfnodau hynny yn cael eu hamrywio o dan adran 40).
77.O ran gweithredwyr safle tirlenwi nad ydynt yn gofrestredig, mae’r cyfnod cyfrifyddu cyntaf yn dechrau â’r diwrnod y maent yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy ac yn parhau hyd at ddiwedd y chwarter calendr y maent yn dechrau gwneud hynny (neu, os yw’n gynharach, y diwrnod cyn y diwrnod y daw’n weithredwr cofrestredig). O hynny ymlaen, pob chwarter calendr fydd y cyfnodau cyfrifyddu (sef cyfnodau o 3 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr).
78.Mae adran 40 yn rhoi’r pŵer i ACC amrywio hyd cyfnod cyfrifyddu a dyddiad ffeilio ffurflen dreth. Mae unrhyw amrywiad o’r fath i’w wneud drwy ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle tirlenwi.
79.Mae adran 41 yn darparu bod y dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y gwnaed y gwarediad ynddo. Fodd bynnag, ceir un eithriad i’r rheol hon: os yw gweithredwr safle tirlenwi yn dyroddi anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â gwarediad o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir y gwarediad, yna codir y dreth mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y dyroddir yr anfoneb ynddo. Felly, er enghraifft, pan fo cyfnodau cyfrifyddu gweithredwr safle tirlenwi yn chwarteri calendr ac y gwneir gwarediad trethadwy ar 28 Mehefin, gan ddyroddi anfoneb dirlenwi ar ei gyfer ar 1 Gorffennaf, y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer y dreth ar y gwarediad hwnnw fydd y chwarter calendr sy’n dod i ben ar 30 Medi yn hytrach na’r chwarter calendr sy’n dod i ben ar 30 Mehefin. Mae Atodlen 3 yn nodi’r wybodaeth y mae angen ei chynnwys ar anfoneb dirlenwi. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau i ddiwygio Atodlen 3.