Adrannau 34 i 38 – Cofrestru
67.Er mwyn galluogi ACC i gasglu a rheoli TGT yn effeithiol, mae’n bwysig ei fod yn gwybod pwy yw’r trethdalwyr. Mae adran 34 yn gosod dyletswydd ar ACC i gadw cofrestr o’r personau hynny sy’n gweithredu safleoedd tirlenwi awdurdodedig lle gwneir gwarediadau trethadwy. Ystyrir bod personau o’r fath yn cyflawni “gweithrediadau trethadwy” at ddibenion y Ddeddf hon. Rhaid i gofnod person ar y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2. Caiff ACC gyhoeddi unrhyw wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr er mwyn i fusnesau allu sicrhau eu bod yn anfon eu gwastraff i safleoedd tirlenwi awdurdodedig, ymysg pethau eraill.
68.Mae adran 35 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy fod wedi ei gofrestru gydag ACC. Rhaid i berson sy’n bwriadu cyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais i ACC i gael ei gofrestru ac mae’n rhaid iddo wneud hynny o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’n dechrau cyflawni’r gweithrediadau trethadwy.
69.Mae’n bwysig bod y gofrestr yn parhau’n gywir a’i bod yn adlewyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am weithredwyr safle tirlenwi. Felly, mae adran 36 yn ei gwneud yn ofynnol i berson cofrestredig, neu berson sydd wedi gwneud cais i gofrestru, roi gwybod i ACC am unrhyw newidiadau neu anghywirdebau yn yr wybodaeth y maent wedi ei darparu, a gwneud hynny mewn ffordd sy’n cydymffurfio â gofynion yr adran honno.
70.Mae adran 37 yn ei gwneud yn ofynnol i berson cofrestredig sy’n rhoi’r gorau i gyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais i ACC i ddileu ei gofrestriad, yn ddim hwyrach na 30 o ddiwrnodau wedi i’r gweithrediadau trethadwy ddod i ben.
71.Mae cosbau yn gysylltiedig â’r gofynion cofrestru yn adrannau 35 a 36. Gellir gweld y rhain yn adrannau 64 i 67 o’r Ddeddf.
72.Mae adran 38 yn diwygio adran 172(2) o DCRhT er mwyn i’r gweithdrefnau adolygu ac apelio yn Rhan 8 o’r Ddeddf honno fod yn gymwys i benderfyniadau sy’n ymwneud â chofrestru person gydag ACC at ddibenion TGT.