Search Legislation

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2024.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor neu aelod cyswllt y cyd-bwyllgor fel y nodir yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “aelod cyswllt” (“associate member”) yw’r prif gomisiynydd a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol;

ystyr “aelod nad yw’n swyddog” (“non-officer member”) yw aelod o’r cyd-bwyllgor, nad yw’n gadeirydd iddo, sydd wedi ei benodi yn unol â rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru sydd wedi ei sefydlu yn unol ag adran 11(2) o’r Ddeddf(1);

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol” (“host Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg(2);

ystyr “cadeirydd” (“chair”) yw cadeirydd y cyd-bwyllgor;

ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw GIG Lloegr, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, yr Awdurdod Ymchwil Iechyd, unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig, unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, unrhyw Ymddiriedolaeth y GIG neu unrhyw Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG;

ystyr “y cyd-bwyllgor” (“the joint committee”) yw Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru a sefydlwyd yn unol â Chyfarwyddydau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024 a wnaed ar 6 Chwefror 2024;

ystyr “cynrychiolydd enwebedig” (“nominated representative”) yw swyddog-aelod a enwebwyd gan brif swyddogion Bwrdd Iechyd Lleol. Ystyr swyddog-aelod yn y cyd-destun hwn yw unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009(3);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “prif swyddog” (“chief officer”) yw prif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol.

RHAN 2Aelodaeth y cyd-bwyllgor

Aelodaeth y cyd-bwyllgor

3.—(1Mae’r cyd-bwyllgor i gynnwys—

(a)y prif swyddogion neu eu cynrychiolwyr enwebedig,

(b)cadeirydd, ac

(c)dim mwy na phum aelod nad yw’n swyddog.

(2Yn ogystal bydd aelod cyswllt na chaiff bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd nac unrhyw drafodion o’r cyd-bwyllgor.

Penodi’r cadeirydd a’r aelodau nad ydynt yn swyddogion

4.—(1Penodir y cadeirydd, a’r aelodau nad ydynt yn swyddogion, gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i benodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) fod yn unol â’r darpariaethau yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Y gofynion cymhwystra ar gyfer aelodau o’r cyd-bwyllgor

5.—(1Rhaid i berson fodloni’r gofynion cymhwystra yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn cyn y caniateir i’r person hwnnw gael ei benodi’n gadeirydd i’r cyd-bwyllgor neu’n aelod nad yw’n swyddog ohono, a rhaid iddo barhau i fodloni’r gofynion hynny tra bo’n dal y swydd honno.

(2Ni chaiff prif swyddog fod yn aelod o’r cyd-bwyllgor o dan reoliad 3(1)(a) o’r Rheoliadau hyn ond os yw’r person hwnnw yn parhau i ddal swydd fel prif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Ni chaiff cynrychiolydd enwebedig prif swyddog ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal swydd fel swyddog-aelod, fel y’i nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009, o Fwrdd Iechyd Lleol y prif swyddog sy’n enwebu.

(4Ni chaiff yr aelod cyswllt fod yn aelod o’r cyd-bwyllgor o dan reoliad 3(2) o’r Rheoliadau hyn ond os yw’r person hwnnw yn parhau i ddal swydd fel y prif gomisiynydd a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol.

(5Rhaid i aelodau hysbysu’r cyd-bwyllgor ar unwaith os ydynt yn dod yn anghymwys o dan y rheoliad hwn.

Deiliadaeth swydd cadeirydd

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 4.

(2Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, mae cadeirydd yn dal ac yn gadael y swydd yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.

(3Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na phedair blynedd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4.

(5Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd i’r cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.

Deiliadaeth swydd aelodau nad ydynt yn swyddogion

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn aelod nad yw’n swyddog o’r cyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 4.

(2Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, mae aelod nad yw’n swyddog yn dal ac yn gadael y swydd yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.

(3Caniateir i aelod nad yw’n swyddog gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na phedair blynedd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir i aelod nad yw’n swyddog, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd ar y cyd-bwyllgor wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4.

(5Ni chaiff person ddal swydd fel aelod nad yw’n swyddog o’r cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.

Terfynu penodiad cadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion

8.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, oni bai bod rhesymau eithriadol, dynnu cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog oddi ar y cyd-bwyllgor ar unwaith os ydynt yn penderfynu—

(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, neu

(b)nad yw’n ffafriol i reolaeth dda ar y cyd-bwyllgor,

i’r cadeirydd hwnnw neu’r aelod nad yw’n swyddog hwnnw barhau i ddal ei swydd.

(2Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog wedi dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru, oni bai bod rhesymau eithriadol, ei ddiswyddo.

(3Rhaid i gadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog hysbysu Gweinidogion Cymru a’r cyd-bwyllgor ar unwaith os yw’n dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

(4Os yw cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o’r cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu ragor, caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo’r aelod hwnnw oni bai eu bod wedi eu bodloni—

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb, a

(b)y bydd y cadeirydd neu’r aelod nad yw’n swyddog yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol o fewn unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol.

(5Caiff cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, ond yn ddarostyngedig i delerau penodiad y cadeirydd hwnnw neu’r aelod nad yw’n swyddog hwnnw. Rhaid i’r cadeirydd neu’r aelod nad yw’n swyddog hefyd hysbysu’r cyd-bwyllgor am ei ymddiswyddiad.

Atal dros dro aelodau a’r aelod cyswllt

9.—(1Cyn gwneud penderfyniad i ddiswyddo cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw neu’r aelod nad yw’n swyddog hwnnw am unrhyw gyfnod y maent yn ystyried ei fod yn rhesymol.

(2Pan fo cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person hwnnw a’r cyd-bwyllgor yn ysgrifenedig ar unwaith, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

(3Ni chaiff cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog, y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei hatal dros dro o dan baragraff (1), gyflawni swyddogaethau aelodaeth o’r cyd-bwyllgor yn ystod cyfnod yr ataliad dros dro.

(4Ni chaiff prif swyddog sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel prif swyddog gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol gyflawni swyddogaethau aelodaeth o’r cyd-bwyllgor yn ystod cyfnod yr ataliad dros dro.

(5Ni chaiff aelod cyswllt sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel prif gomisiynydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol gyflawni swyddogaethau aelodaeth gyswllt o’r cyd-bwyllgor yn ystod cyfnod yr ataliad dros dro.

Penodi is-gadeirydd

10.—(1Caiff aelodau’r cyd-bwyllgor benodi un o’r aelodau nad ydynt yn swyddogion, heblaw’r cadeirydd, i fod yn is-gadeirydd am unrhyw gyfnod, nad yw’n hwy na gweddill cyfnod y person hwnnw yn aelod, a bennir ganddynt wrth benodi.

(2Caiff aelod a benodir o dan baragraff (1) ymddiswyddo ar unrhyw adeg o swydd yr is-gadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cadeirydd neu, os yw swydd y cadeirydd yn wag, i’r aelodau.

(3Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 11.

Penodi is-gadeirydd pan fo’r cadeirydd wedi ei atal dros dro

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r cadeirydd wedi ei atal dros dro o dan reoliad 9.

(2Os yw is-gadeirydd wedi cael ei benodi o dan reoliad 10(1), mae’r penodiad hwnnw yn peidio â chael effaith.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ailbenodi’r person a grybwyllir ym mharagraff (2) neu benodi aelod arall nad yw’n swyddog i fod yn is-gadeirydd.

(4Rhaid i benodiad is-gadeirydd o dan baragraff (3) fod am gyfnod nad yw’n hwy na’r cyfnod byrraf o’r canlynol—

(a)y cyfnod y mae’r cadeirydd wedi ei atal dros dro ar ei gyfer, neu

(b)gweddill cyfnod penodiad yr aelod nad yw’n swyddog yn aelod.

(5Pan fydd y cyfnod y mae aelod wedi cael ei benodi’n is-gadeirydd ar ei gyfer yn dod i ben, caiff Gweinidogion Cymru ailbenodi’r aelod yn is-gadeirydd neu benodi aelod arall nad yw’n swyddog yn is-gadeirydd.

(6Caiff person a benodir o dan baragraff (3) neu (5) ymddiswyddo, ar unrhyw adeg, o swydd yr is-gadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(7Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad person yn is-gadeirydd o dan baragraff (3) neu (5) os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl y byddai er lles pennaf y cyd-bwyllgor i aelod arall nad yw’n swyddog fod yn is-gadeirydd.

(8Os yw—

(a)person yn ymddiswyddo o swydd is-gadeirydd o dan baragraff (6), neu

(b)Gweinidogion Cymru yn terfynu penodiad person yn is-gadeirydd o dan baragraff (7),

caiff Gweinidogion Cymru benodi aelod arall nad yw’n swyddog yn is-gadeirydd o dan baragraff (3).

Pwerau’r is-gadeirydd

12.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)os yw’r cadeirydd wedi ei atal dros dro o dan reoliad 9 ac mae aelod nad yw’n swyddog wedi ei benodi i fod yn is-gadeirydd o dan reoliad 11, neu

(b)os yw aelod nad yw’n swyddog wedi ei benodi i fod yn is-gadeirydd o dan reoliad 10 ac—

(i)mae swydd y cadeirydd yn wag am unrhyw reswm, neu

(ii)nid yw’r cadeirydd yn gallu cyflawni dyletswyddau’r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae’r is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau’r cadeirydd (yn ôl y digwydd).

RHAN 3Cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor

Cyfarfodydd a thrafodion

13.—(1Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gytuno ar reolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor.

(2Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gael eu cynnal yn unol â’r rheolau sefydlog sy’n ymwneud â’r cyd-bwyllgor.

RHAN 4Dirymiadau

14.—(1Mae Rheoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009(4) wedi eu dirymu.

(2Mae Rheoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014(5) wedi eu dirymu.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Chwefror 2024

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources