Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 919 (Cy. 144) (C. 52)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023

Gwnaed

21 Awst 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 148(2) a (3) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, ac mae i eiriau ac ymadroddion eraill yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Medi 2023

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 4 Medi 2023—

(a)adran 13 (datganiad o flaenoriaethau strategol);

(b)adran 14 (cynllun strategol ar gyfer y Comisiwn);

(c)adran 17 (rhyddid academaidd darparwyr a staff addysg uwch);

(d)adran 18 (awtonomi sefydliadol darparwyr addysg drydyddol);

(e)adran 19 (cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu darparwyr addysg drydyddol);

(f)adran 20 (canllawiau);

(g)adran 21 (pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau cyffredinol);

(h)adran 22 (swyddogaethau ychwanegol y Comisiwn);

(i)adran 24 (cynlluniau trosglwyddo);

(j)adran 25(7) (y gofrestr);

(k)adran 30(1) (amodau cymesur);

(l)adran 34 (pŵer i ddarparu ar gyfer amodau cofrestru parhaus mandadol pellach);

(m)adran 46 (gofynion ar gyfer datganiad terfyn ffioedd);

(n)adran 85(1), (2)(a) a (b) (pŵer Gweinidogion Cymru i gyllido’r Comisiwn);

(o)adran 87(2) (polisi ar bwerau cyllido);

(p)adran 89(1) a (2) (cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau);

(q)adran 130 (gwybodaeth a chyngor oddi wrth y Comisiwn a gwybodaeth oddi wrth Weinidogion Cymru);

(r)adran 132(1)(a) i (e), (g) i (k) a (2) (pwerau i rannu gwybodaeth);

(s)adran 141 (diogelu data);

(t)adran 142 (cyhoeddi);

(u)adran 147 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);

(v)yn Atodlen 1 (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)—

(i)paragraff 5 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(ii)paragraff 7 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(iii)paragraff 8(1) i (3), (6) i (8) a (10);

(iv)paragraff 9(1) i (3) a (4)(a);

(v)paragraff 10 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(vi)paragraff 11(1) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, (3), (4) a (6) i (10);

(vii)paragraff 13;

(viii)paragraff 14;

(ix)paragraff 15(1)(a);

(x)paragraff 18;

(xi)paragraff 19;

(xii)paragraff 20;

(xiii)paragraff 21;

(xiv)paragraff 22;

(w)Atodlen 2 (trosglwyddo eiddo a staff i’r Comisiwn);

(x)yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—

(i)paragraff 20(1);

(ii)paragraff 20(2)(a);

(iii)paragraff 28(a).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Medi 2023 i’r graddau a bennir

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 4 Medi 2023 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—

(a)adran 2 (hybu dysgu gydol oes), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 2 yn cael ei dwyn i rym);

(b)adran 3 (hybu cyfle cyfartal), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 3 yn cael eu dwyn i rym);

(c)adran 4 (annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 4 yn cael eu dwyn i rym);

(d)adran 5 (hybu gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 5 yn cael ei dwyn i rym);

(e)adran 6(1)(a) (hybu gwaith ymchwil ac arloesi), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 6(1)(a) yn cael ei dwyn i rym);

(f)adran 7 (hybu cydlafurio a chydlynu mewn addysg drydyddol ac ymchwil), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 7 yn cael eu dwyn i rym);

(g)adran 8 (cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 8 yn cael ei dwyn i rym);

(h)adran 9(1) (hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 9(1) yn cael eu dwyn i rym);

(i)adran 10 (hybu cenhadaeth ddinesig), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 10 yn cael ei dwyn i rym);

(j)adran 11 (hybu golwg fyd-eang), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 11 yn cael eu dwyn i rym);

(k)adran 12 (hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 12 yn cael ei dwyn i rym);

(l)adran 25, at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;

(m)adran 25(1), (4), (6)(a) a (6)(b) (i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-adrannau (4) a (5)), at ddibenion adran 25(7) (ond nid fel bod unrhyw ddyletswyddau o dan yr is-adrannau hynny yn cael eu dwyn i rym);

(n)adran 25(4)(d), at ddibenion adran 27(2) (amodau cofrestru cychwynnol) (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 25(4)(d) yn cael ei dwyn i rym);

(o)adran 25(9)(a) a (10) (i’r graddau y mae is-adran (10) yn ymwneud ag is-adran (9)(a));

(p)adran 27 (amodau cofrestru cychwynnol), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;

(q)adran 27(1), (2) ac (8), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i lunio’r ddogfen y cyfeirir ati yn adran 27(2) (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 27(2) yn cael ei dwyn i rym);

(r)adran 28(1) i (3) (amodau cofrestru parhaus cyffredinol), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol yn unol ag adran 28(1) (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 28(1) yn cael eu dwyn i rym);

(s)adran 31(1)(a) i (f), (i), (j) a (2) (amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfer pob darparwr cofrestredig), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol yn unol ag adran 28(1) (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 31(1) yn cael ei dwyn i rym);

(t)adran 32 (amod cofrestru parhaus mandadol ar y terfynau ffioedd), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;

(u)adran 32 ac adran 33 (amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfle cyfartal), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol yn unol ag adran 28(1) (ond nid fel bod unrhyw ddyletswyddau o dan adrannau 32 a 33 yn cael eu dwyn i rym);

(v)adran 35 (dyletswydd y Comisiwn i roi canllawiau ynghylch amodau cofrestru parhaus), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i lunio canllawiau ar gyfer darparwyr cofrestredig ynghylch amodau cofrestru parhaus (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan yr adran honno yn cael ei dwyn i rym);

(w)adran 36 (dyletswydd y Comisiwn i fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu sut y bydd yn monitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus gan ddarparwyr cofrestredig (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan yr adran honno yn cael ei dwyn i rym);

(x)adran 41 (datgofrestru), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;

(y)adran 43 (datgofrestru’n wirfoddol a datgofrestru gyda chydsyniad), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;

(z)adran 47(1) i (5) (cymeradwyo datganiad terfyn ffioedd), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu’r amod terfyn ffioedd yn unol ag adran 32(3)(a) a’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol yn unol ag adran 28(1) (ond nid fel bod unrhyw ddyletswyddau o dan adran 47(2) na (4) yn cael eu dwyn i rym);

(aa)adran 54 (asesu ansawdd addysg uwch), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;

(bb)adran 57 (dyletswydd y Prif Arolygydd i arolygu ac adrodd), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;

(cc)adran 83 (dynodi darparwyr addysg drydyddol eraill), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;

(dd)adran 84 (dehongli Rhan 2), ac eithrio’r diffiniad o “ffioedd uwchlaw’r terfyn”;

(ee)adran 87(1) a (5), ac eithrio’r cyfeiriadau at adrannau 88 a 105 yn is-adran (5), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87(1) (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan yr adran honno yn cael ei dwyn i rym);

(ff)adran 88 (cymorth ariannol i ddarparwyr penodedig ar gyfer addysg uwch), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;

(gg)adran 89(3) i (5), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87;

(hh)adran 97 (cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87;

(ii)adran 101 (y chweched dosbarth mewn ysgolion), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87;

(jj)adran 103 (cymorth ariannol ar gyfer gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig ag addysg drydyddol), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87;

(kk)adran 104 (cymorth ariannol ar gyfer prentisiaethau), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87;

(ll)adran 105 (cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ac arloesi), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;

(mm)yn Atodlen 1, paragraff 9(5), ac eithrio i’r graddau y mae’n cyfeirio at baragraff 6(5).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024

4.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2024—

(a)adrannau 2 i 5 a 7 i 12 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;

(b)adran 16 (adolygu’r cynllun strategol);

(c)adran 85 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(d)yn Atodlen 1—

(i)paragraff 4 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(ii)paragraff 6;

(iii)paragraff 8 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(iv)paragraff 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(v)paragraff 11 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(e)yn Atodlen 4—

(i)paragraff 28 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(ii)paragraff 40.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024 i’r graddau a bennir

5.  Daw adran 94 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau cymwys dros 19 oed) i rym ar 1 Ebrill 2024 at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024 yn ddarostyngedig i drefniadau darfodol

6.—(1Daw adran 15 (cymeradwyo, cyhoeddi a gweithredu’r cynllun strategol) i rym ar 1 Ebrill 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ebrill 2024 ac sy’n dod i ben ar 16 Rhagfyr 2024.

(2Mae adran 15(1) i’w darllen fel pe bai’r geiriau “cynllun strategol a lunnir o dan adran 14 at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad o dan adran 13(1)” yn darllen fel “y cynllun strategol cyntaf y mae’n ei lunio o dan adran 14 at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo erbyn 15 Rhagfyr 2024”.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

21 Awst 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru ac mae’n dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“y Ddeddf”). Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wnaed o dan y Ddeddf.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a restrir yn erthyglau 2 a 3 ar 4 Medi 2023 a’r darpariaethau a restrir yn erthyglau 4 i 6 ar 1 Ebrill 2024.

Caiff y darpariaethau a restrir yn erthyglau 2 a 4 eu dwyn i rym yn llawn a chaiff y rhai yn erthyglau 3 a 5 eu dwyn i rym i’r graddau a bennir. Mae erthygl 6 yn dwyn i rym adran 15 o’r Ddeddf, sy’n ddarostyngedig i ddarpariaeth ddarfodol.

Mae erthyglau 2(v)(i) i (xiv), 3(mm) a 4(d)(i) i (v) yn dwyn i rym y rhan fwyaf o ddarpariaethau Atodlen 1 i’r Ddeddf nad ydynt eisoes mewn grym. Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”). Hynny yw, darpariaeth megis aelodaeth, trafodion, a phwerau atodol. Daw’r mwyafrif o’r darpariaethau hynny i rym ar 4 Medi 2023 ond caiff darpariaethau sy’n ymwneud ag aelod cyswllt staff y Comisiwn eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2024.

Mae erthygl 3(a) i (k) yn dwyn i rym ddyletswyddau strategol y Comisiwn a nodir yn adrannau 2 i 5, 6(1)(a), 7, 8, 9(1) a 10 i 12 o’r Ddeddf ond dim ond at ddibenion galluogi’r Comisiwn i lunio cynllun strategol o dan adran 14.

Mae erthygl 4(a) yn dwyn i rym ddyletswyddau strategol y Comisiwn yn adrannau 2 i 5 a 7 i 12 o’r Ddeddf i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.

Mae erthygl 2(a) yn dwyn i rym adran 13 o’r Ddeddf, sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu blaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi, ac mewn cysylltiad â hwy.

Mae erthygl 2(b) yn dwyn i rym adran 14 o’r Ddeddf, sy’n gosod dyletswydd ar y Comisiwn i lunio cynllun strategol sy’n nodi sut y mae’n bwriadu cyflawni ei ddyletswyddau strategol o dan adrannau 2 i 12 o’r Ddeddf ac ymdrin â’r blaenoriaethau a nodir yn natganiad Gweinidogion Cymru a gyhoeddir o dan adran 13.

Mae erthygl 6 yn dwyn i rym adran 15 o’r Ddeddf, sy’n gosod dyletswydd ar y Comisiwn i anfon cynllun strategol a lunnir o dan adran 14 at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Fodd bynnag, caiff adran 15 ei dwyn i rym yn ddarostyngedig i addasiad mewn cysylltiad â’r amseriad ar gyfer cyflwyno’r cynllun strategol cyntaf fel bod rhaid ei anfon at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo erbyn 15 Rhagfyr 2024.

Mae erthygl 4(b) yn dwyn i rym adran 16 o’r Ddeddf, sy’n gosod dyletswydd ar y Comisiwn i adolygu ei gynllun strategol cyhoeddedig os yw Gweinidogion Cymru yn diwygio eu datganiad o flaenoriaethau. Mae’r adran yn galluogi’r Comisiwn i adolygu ei gynllun ar unrhyw adeg arall.

Mae erthygl 2(c) yn dwyn i rym adran 17 o’r Ddeddf, sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru a’r Comisiwn i roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr addysg uwch a’u staff academaidd.

Mae erthygl 2(d) yn dwyn i rym adran 18 o’r Ddeddf, sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru a’r Comisiwn i roi sylw i bwysigrwydd diogelu awtonomi sefydliadol darparwyr addysg drydyddol.

Mae erthygl 2(e) yn dwyn i rym adran 19 o’r Ddeddf, sy’n darparu nad oes dim byd yn y Ddeddf sy’n galluogi’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws â’i rwymedigaethau cyfraith elusennau neu ei ddogfennau llywodraethu.

Mae erthygl 2(f) yn dwyn i rym adran 20 o’r Ddeddf, sy’n gosod dyletswydd ar y Comisiwn i roi sylw i ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

Mae erthygl 2(g) yn dwyn i rym adran 21 o’r Ddeddf, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau cyffredinol i’r Comisiwn ynghylch arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.

Mae erthygl 2(h) yn dwyn i rym adran 22 o’r Ddeddf, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n rhoi swyddogaethau atodol i’r Comisiwn.

Mae erthygl 2(i) ac (w) yn dwyn i rym adran 24 o’r Ddeddf ac Atodlen 2 iddi. Mae Atodlen 2 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud cynlluniau sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i’r Comisiwn staff, eiddo, hawliau ac atebolrwyddau.

Mae erthyglau 2(j) i (m) a 3(l) i (z) yn dwyn i rym ddarpariaethau ym Mhennod 1 o Ran 2 o’r Ddeddf i alluogi’r Comisiwn i ymgymryd â gwaith paratoi mewn cysylltiad â chofrestru darparwyr addysg drydyddol.

Mae erthygl 2(j) yn dwyn i rym adran 25(7) o’r Ddeddf, sy’n ymwneud â cheisiadau i gofrestru gyda’r Comisiwn. Mae erthygl 3(m) hefyd yn dwyn i rym adran 25(1), (4) a (6)(a) a (b) (i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-adrannau (4) a (5)) at ddibenion adran 25(7).

Mae erthygl 3(l) yn dwyn i rym adran 25 o’r Ddeddf i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ymwneud â chategorïau cofrestru ac i bennu’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr yn y gofrestr.

Rhaid i’r Comisiwn gofrestru darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr os yw’n bodloni’r amodau yn adran 25(4) o’r Ddeddf. Mae’r amodau’n cynnwys, ym mharagraff (d), ofyniad i fodloni amodau cofrestru cychwynnol perthnasol. Mae adran 27(2) o’r Ddeddf yn gosod rhwymedigaeth ar y Comisiwn i gyhoeddi dogfen sy’n pennu’r gofynion sydd i’w diwallu mewn perthynas â’r amodau cofrestru cychwynnol. Mae erthygl 3(n) a (q) yn dwyn i rym, yn ôl eu trefn, adran 25(4)(d) ac adran 27(1), (2) ac (8) at ddibenion galluogi’r Comisiwn i lunio’r ddogfen honno.

Mae erthygl 3(p) yn dwyn i rym adran 27 o’r Ddeddf i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ymwneud ag amodau cofrestru cychwynnol pellach.

Mae erthygl 3(r) yn dwyn i rym adran 28(1) i (3) o’r Ddeddf i alluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol.

Mae erthygl 3(o) yn dwyn i rym adran 25(9)(a) a (10) (i’r graddau y mae is-adran (10) yn ymwneud ag is-adran (9)(a)) i ddarparu ar gyfer ystyr “amodau cofrestru parhaus” at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf.

Mae erthygl 3(s) ac (u) yn dwyn i rym, yn ôl eu trefn, adran 31(1)(a) i (f), (i), (j) a (2) ac adrannau 32 a 33 at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol. Mae adrannau 31 i 33 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer amodau cofrestru parhaus mandadol. Mae adran 32 yn ymwneud â therfynau ffioedd ac mae adran 33 yn ymwneud â chyfle cyfartal.

Mae erthygl 3(t) yn dwyn i rym adran 32 o’r Ddeddf i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â therfynau ffioedd. Mae erthyglau 2(m) a 3(z) yn dwyn i rym, yn ôl eu trefn, ddarpariaeth gysylltiedig yn adran 46 mewn cysylltiad â datganiadau terfyn ffioedd ac adran 47(1) i (5) o’r Ddeddf mewn cysylltiad â chymeradwyo’r datganiadau hynny.

Mae erthygl 2(l) yn dwyn i rym adran 34 o’r Ddeddf, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer amodau cofrestru parhaus mandadol pellach.

Mae erthygl 2(k) yn dwyn i rym adran 30(1) o’r Ddeddf, sy’n ymwneud â chymesuredd amodau.

Mae erthygl 3(v) ac (w) yn dwyn i rym, yn ôl eu trefn, adrannau 35 a 36 o’r Ddeddf at ddibenion galluogi’r Comisiwn i lunio canllawiau sy’n ymwneud ag amodau cofrestru parhaus ac i ymgymryd â gwaith paratoi tuag at benderfynu sut y bydd yn monitro cydymffurfedd darparwyr cofrestredig ag amodau cofrestru parhaus.

Mae erthygl 3(x) ac (y) yn dwyn i rym, yn ôl eu trefn, adrannau 41 a 43 o’r Ddeddf at ddibenion galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â datgofrestru.

Mae erthygl 3(aa) yn dwyn i rym adran 54 o’r Ddeddf at ddibenion gwneud rheoliadau sy’n ymwneud ag asesiadau ansawdd addysg uwch.

Mae erthygl 3(bb) yn dwyn i rym adran 57 o’r Ddeddf at ddibenion gwneud rheoliadau sy’n ymwneud ag arolygiadau gan Brif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Mae erthygl 3(cc) yn dwyn i rym adran 83 o’r Ddeddf at ddibenion gwneud rheoliadau sy’n ymwneud â dynodi darparwyr addysg drydyddol.

Mae erthygl 2(n) yn dwyn i rym adran 85(1), (2)(a) a (b) o’r Ddeddf o 4 Medi 2023, sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i gyllido’r Comisiwn. Mae erthygl 4(c) yn dwyn i rym adran 85 at yr holl ddibenion sy’n weddill o 1 Ebrill 2024.

Mae erthyglau 2(o) a 3(ee) yn dwyn i rym, yn ôl eu trefn, adran 87(2), ac 87(1) a (5) o’r Ddeddf (ac eithrio’r cyfeiriad at adrannau 88 a 105 o’r Ddeddf yn is-adran (5)), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i lunio datganiad o dan adran 87(1). Mae adran 87(1) yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi datganiad ar sut y mae’n bwriadu arfer ei bwerau cyllido.

Mae erthygl 3(gg), (hh), (ii), (jj) a (kk) yn dwyn i rym, yn ôl eu trefn, adrannau 89(3) i (5), 97, 101, 103 a 104 o’r Ddeddf (mae’r adrannau hynny’n cynnwys pwerau cyllido) at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87.

Mae erthygl 3(ff) yn dwyn i rym adran 88 o’r Ddeddf at ddibenion gwneud rheoliadau sy’n ymwneud â darparwyr penodedig a chymorth ariannol oddi wrth y Comisiwn.

Mae erthygl 2(p) yn dwyn i rym adran 89(1) a (2) o’r Ddeddf i ganiatáu i reoliadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch penodol gael eu gwneud.

Mae erthygl 3(ll) yn dwyn i rym adran 105 o’r Ddeddf at ddibenion gwneud rheoliadau sy’n ymwneud â darparwyr penodedig a chymorth ariannol oddi wrth y Comisiwn.

Mae erthygl 5 yn dwyn i rym adran 94 o’r Ddeddf at ddibenion gwneud rheoliadau sy’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant ar gyfer personau cymwys dros 19 oed.

Mae erthygl 2(q) ac (r) yn dwyn i rym, yn ôl eu trefn, adran 130 o’r Ddeddf, sy’n ymwneud â gwybodaeth a chyngor oddi wrth y Comisiwn a gwybodaeth oddi wrth Weinidogion Cymru, a darpariaethau penodol yn adran 132 o’r Ddeddf, sy’n ymwneud â phwerau i rannu gwybodaeth.

Mae erthygl 2(s) yn dwyn i rym adran 141 o’r Ddeddf, sy’n darparu nad yw unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf sy’n ei gwneud yn ofynnol datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth, neu sy’n galluogi datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth, yn datgymhwyso, mewn unrhyw ffordd, y ddeddfwriaeth diogelu data bresennol.

Mae erthygl 2(t) yn dwyn i rym adran 142 o’r Ddeddf, sy’n ymwneud â dyletswyddau i gyhoeddi o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 2(u) ac (x) yn dwyn i rym, yn ôl eu trefn, adran 147 o’r Ddeddf, a diwygiadau canlyniadol i adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac i Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae erthygl 4(e) yn dwyn i rym ddiwygiadau canlyniadol i Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac i reoliad 3(4) o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 (O.S. 2017/90 (Cy. 33)).

NODYN AM Y GORCHYMYN CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 115 Rhagfyr 2022O.S. 2022/1318 (Cy. 267)(C. 106)
Adran 9 (yn rhannol)15 Rhagfyr 2022O.S. 2022/1318 (Cy. 267)(C. 106)

Atodlen 1

Paragraffau 1; 2; 3; 4(1)(a) ac (c); 5(1) a (2); 7(1) a (2); 10(1), (3), (4) a (7); 11(1) (yn rhannol) a (2); 12

15 Rhagfyr 2022O.S. 2022/1318 (Cy. 267)(C. 106)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources