Search Legislation

Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 3, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a Dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 3, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2023.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984(1);

ystyr “Deddf 2022” (“the 2022 Act”) yw Deddf Diogelwch Adeiladau 2022.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae i ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1984 yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Medi 2023

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2022 i rym ar 5 Medi 2023—

(a)adran 32(1) a (4) (awdurdodau rheolaeth adeiladu) o ran Cymru, ac adran 32(3) at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 91ZD o Ddeddf 1984;

(b)o ran Cymru—

(i)adran 33 (rheoliadau adeiladu), at yr holl ddibenion sy’n weddill;

(ii)adrannau 34 a 35 (deiliaid dyletswyddau a dyletswyddau cyffredinol, a chymhwysedd y diwydiant);

(iii)adran 36 (cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn darfod etc), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 32 a 53A o Ddeddf 1984, a pharagraff 4A(6) o Atodlen 4 iddi;

(iv)adran 37 (penderfynu ar geisiadau penodol gan awdurdod cenedlaethol priodol), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 30A o Ddeddf 1984;

(v)adran 38 (cydymffurfedd a hysbysiadau stop), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 35B, 35C a 35D o Ddeddf 1984;

(vi)adran 39 (torri rheoliadau adeiladu), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 35 o Ddeddf 1984;

(vii)adran 41 (dirymu etc ddarpariaethau penodol a wneir o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972);

(viii)adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu)—

(aa)at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 58C, 58O, 58U, 58V, 58Z4 a 58Z5 o Ddeddf 1984;

(bb)at ddiben llunio a chyhoeddi dogfennau o dan adrannau 58F, 58H, 58R, 58T, 58Z a 58Z3 o Ddeddf 1984;

(cc)i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod adran 58Y yn Neddf 1984;

(ix)adran 44 (swyddogaethau nad ydynt yn arferadwy ond drwy arolygwyr cofrestredig adeiladu, neu gyda eu cyngor), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 46A a 54B o Ddeddf 1984;

(x)adran 46 (gwaith adeilad risg uwch: cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 52A a 55 o Ddeddf 1984;

(xi)adran 47 (gwaith adeilad risg uwch: cyrff cyhoeddus);

(xii)adrannau 49 i 52 (tystysgrifau planiau, canslo hysbysiad cychwynnol, hysbysiadau cychwynnol newydd a chasglu gwybodaeth), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adrannau 50, 52, 53, 53B, 53C a 53D o Ddeddf 1984, a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi;

(xiii)paragraffau Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 3 o Ddeddf 2022) a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn;

(xiv)adran 56 (apelau) (yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(ix) o Ddeddf 2022);

(xv)paragraff 30 o Atodlen 6 (apelau a phenderfyniadau eraill), at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 101A o Ddeddf 1984;

(xvi)adran 57 (ffioedd a thaliadau).

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Hydref 2023

3.  O ran Cymru, daw adran 156 (diwygio Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005) ac eithrio is-adran (4) (ac is-adran (8) i’r graddau y mae’n ymwneud ag erthygl 22B o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005)(2) i rym ar 1 Hydref 2023.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2024

4.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2022 i rym ar 1 Ionawr 2024—

(a)o ran Cymru, adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu), i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod Rhan 2A yn Neddf 1984 ac eithrio adrannau 58H i 58L, 58T i 58W, 58Y, 58Z1 i 58Z6 a 58Z8((3);

(b)adran 42, i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod adran 58Z10 yn Neddf 1984.

Darpariaethau trosiannol

5.  Mae ymgyngoriadau a ddechreuodd cyn 5 Medi 2023 o dan naill ai adran 14(7) neu (8) o Ddeddf 1984 yn bodloni’r gofynion ymgynghori yn yr is-adrannau hynny, fel y’u diwygir gan baragraff 17 o Atodlen 5 i Ddeddf 2022.

6.  Nid yw’r diwygiadau i erthygl 32 o’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) a wneir gan adran 156(10)(b) ac (c) o Ddeddf 2022 yn gymwys i drosedd a gyflawnir cyn 1 Hydref 2023.

7.  Rhwng 5 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023 mae cyfeiriadau at “regulatory authority” yn adran 58Y o Ddeddf 1984 i’w darllen fel pe bai adran 58A o Ddeddf 1984 mewn grym.

Arbedion

8.  Er bod adran 106(3) o Ddeddf 1984 wedi ei hepgor gan baragraff 67 o Atodlen 5 i Ddeddf 2022, mae adran 106(3) yn parhau i fod yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo cais o dan y ddarpariaeth honno wedi ei wneud i lys ynadon cyn i’r diddymiad ddod i rym.

9.  Er bod paragraffau 5 a 9 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 wedi eu hepgor (gan baragraff 83(3) a (7) o Atodlen 5 i Ddeddf 2022), mae unrhyw ddarpariaethau yn y rheoliadau a ganlyn (sydd mewn grym yn union cyn 5 Medi 2023) ac a wnaed o dan baragraff 5 neu 9 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 yn parhau i fod mewn grym ac maent yn gymwys fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 105B o Ddeddf 1984 a chaniateir iddynt gael eu hamrywio neu eu dirymu yn unol â hynny—

(a)Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010(4),

(b)Rheoliadau Adeiladu 2010(5), ac

(c)Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010(6).

10.  Er bod paragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 wedi ei amnewid (gan baragraff 83(8) o Atodlen 5 i Ddeddf 2022), mae unrhyw ddarpariaethau yn y rheoliadau a ganlyn (sydd mewn grym yn union cyn 5 Medi 2023) ac a wnaed o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 yn parhau i fod mewn grym ac maent yn gymwys fel pe baent wedi eu gwneud o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 fel y’i hamnewidiwyd a chaniateir iddynt gael eu hamrywio neu eu dirymu yn unol â hynny—

(a)Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010,

(b)Rheoliadau Adeiladu 2010, ac

(c)Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

18 Awst 2023

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources