Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 87 (Cy. 17)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Gwnaed

30 Ionawr 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

1 Chwefror 2023

Yn dod i rym

22 Chwefror 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983(1) ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a), (b) ac (c) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3), a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4).

RHAN 1LL+CEnwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

CymhwysoLL+C

2.—(1Mae’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio—

(a)rheoliadau 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56 a 57 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018);

(b)rheoliadau 33, 34, 35, 36, 58 a 59 (grantiau ar gyfer dibynyddion: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018).

(2Mae’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio—

(a)rheoliadau 4 a 5 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: ffioedd a dyfarniadau);

(b)rheoliad 6 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: ffioedd a dyfarniadau);

(c)rheoliad 15 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: personau cymhwysol);

(d)rheoliad 16 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: personau cymhwysol);

(e)rheoliadau 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 61, 62, 63, 68, 69, 70 a 71 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: cymhwystra);

(f)rheoliadau 47, 64 a 72 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: cymhwystra);

(g)rheoliad 65 (diwygiad i’r trothwy rhandaliadau blynyddol: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018);

(h)rheoliad 66 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018);

(i)rheoliadau 73 a 74 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

PENNOD 1LL+CCyflwyniad

3.  Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CMyfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig

4.  Ym mhob un o reoliadau 4(1B), 5(4), 6(5), 7(5) ac 8(4) yn lle “9B a 9BA” rhodder “9B, 9BA a 9E”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

5.  Yn yr Atodlen—LL+C

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn y diffiniad o “family member” yn y testun Saesneg, yn lle “aelod o deulu” rhodder “aelod o’r teulu”;

(ii)yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”, ym mharagraff (d), yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9E neu at ddibenion paragraffau 9C a 9D mewn perthynas â pherson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;

(b)ym mharagraff 9C(1)(a)—

(i)yn is-baragraff (i), yn lle “yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;

(ii)yn is-baragraff (ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu a fyddai’n berson o’r fath pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 3LL+CAelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo

6.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9Ch(1)(a) yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

PENNOD 1LL+CCyflwyniad

7.  Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(6) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CHepgor darpariaethau diangen

8.  Yn rheoliad 6—LL+C

(a)ym mharagraff (2)(b)(i), hepgorer “2A,”, “9A,” a “9BA, 9C, 9D,”;

(b)ym mharagraff (2)(b)(ii), hepgorer “9,”;

(c)ym mharagraff (2A)(a), hepgorer “9,”;

(d)ym mharagraff (2B), yn lle “8A, 9B, 9BA a 9D” rhodder “8A a 9B”;

(e)ym mharagraff (10E)(a)—

(i)ym mharagraff (i) yn lle “(a)(iii), (iv) neu (v)” rhodder “(1)(a)(iii) neu (iv)”;

(ii)ym mharagraff (ii) yn lle “3(1)(a)(iii) neu (iv)” rhodder “3(1)(a)(iv)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

9.  Yn rheoliad 15—LL+C

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;

(b)hepgorer paragraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

10.  Yn rheoliad 17—LL+C

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;

(b)hepgorer paragraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

11.  Yn rheoliad 20—LL+C

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae” rhodder “Mae”;

(b)hepgorer paragraff (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

12.  Yn rheoliad 22—LL+C

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;

(b)hepgorer paragraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

13.  Yn Atodlen 1—LL+C

(a)ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “aelod o deulu”—

(i)ym mharagraffau (c) a (d), hepgorer “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

(ii)ym mharagraff (e) yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C a 9D” rhodder “paragraff 9B”;

(b)hepgorer paragraffau 2A, 3(1)(a)(iii), 9, 9A, 9BA, 9C a 9D.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

PENNOD 1LL+CCyflwyniad

14.  Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(7) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CMyfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig

15.  Yn yr Atodlen—LL+C

(a)ym mharagraff 1(1), ym mharagraff (e) o’r diffiniad o “aelod o deulu”, yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9E ac at ddibenion paragraffau 9C a 9D mewn perthynas â phersonau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;

(b)ym mharagraff 9C(1)(a)—

(i)yn is-baragraff (i), yn lle “yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;

(ii)yn is-baragraff (ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu a fyddai’n berson o’r fath pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 3LL+CAelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo

16.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9D(1)(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

PENNOD 1LL+CCyflwyniad

17.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(8) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CCymorth ariannol – codiadau

18.  Yn rheoliad 16—LL+C

(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,295” rhodder “£4,215”;

(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£4,705” rhodder “£4,785”;

(c)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,220” rhodder “£2,175”;

(d)ym mharagraff (4)(b), yn lle “£2,280” rhodder “£2,325”.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

19.  Yn rheoliad 19—LL+C

(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,705” rhodder “£4,785”;

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,280” rhodder “£2,325”.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

20.  Yn rheoliad 24(3)(a), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

21.  Yn rheoliad 26(3)—LL+C

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

22.  Yn rheoliad 27—LL+C

(a)ym mharagraff (7)(a), yn lle “£184” rhodder “£187”;

(b)ym mharagraff (7)(b), yn lle “£315” rhodder “£321”;

(c)ym mharagraff (9)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

23.  Yn rheoliad 28(2), yn lle “£1,862” rhodder “£1,896”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

24.  Yn rheoliad 43—LL+C

(a)ym mharagraff (2)(i), yn lle “£6,163” rhodder “£6,277”;

(b)ym mharagraff (2)(ii), yn lle “£11,152” rhodder “£11,357”;

(c)ym mharagraff (2)(iii), yn lle “£9,492” rhodder “£9,667”;

(d)ym mharagraff (2)(iv), yn lle “£9,492” rhodder “£9,667”;

(e)ym mharagraff (2)(v), yn lle “£7,961” rhodder “£8,108”;

(f)ym mharagraff (3)(i), yn lle “£5,580” rhodder “£5,683”;

(g)ym mharagraff (3)(ii), yn lle “£10,155” rhodder “£10,342”;

(h)ym mharagraff (3)(iii), yn lle “£8,256” rhodder “£8,408”;

(i)ym mharagraff (3)(iv), yn lle “£8,256” rhodder “£8,408”;

(j)ym mharagraff (3)(v), yn lle “£7,375” rhodder “£7,511”.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

25.  Yn rheoliad 45—LL+C

(a)ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “£2,926” rhodder “£2,980”;

(b)ym mharagraff (1)(a)(ii), yn lle “£5,484” rhodder “£5,585”;

(c)ym mharagraff (1)(a)(iii), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;

(d)ym mharagraff (1)(a)(iv), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;

(e)ym mharagraff (1)(a)(v), yn lle “£3,901” rhodder “£3,973”;

(f)ym mharagraff (1)(b)(i), yn lle “£2,926” rhodder “£2,980”;

(g)ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle “£5,484” rhodder “£5,585”;

(h)ym mharagraff (1)(b)(iii), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;

(i)ym mharagraff (1)(b)(iv), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;

(j)ym mharagraff (1)(b)(v), yn lle “£3,901” rhodder “£3,973”;

(k)ym mharagraff (1)(c)(i), yn lle “£4,622” rhodder “£4,708”;

(l)ym mharagraff (1)(c)(ii), yn lle “£8,364” rhodder “£8,518”;

(m)ym mharagraff (1)(c)(iii), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;

(n)ym mharagraff (1)(c)(iv), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;

(o)ym mharagraff (1)(c)(v), yn lle “£5,971” rhodder “£6,081”;

(p)ym mharagraff (2)(a)(i), yn lle “£2,224” rhodder “£2,265”;

(q)ym mharagraff (2)(a)(ii), yn lle “£4,194” rhodder “£4,271”;

(r)ym mharagraff (2)(a)(iii), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;

(s)ym mharagraff (2)(a)(iv), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;

(t)ym mharagraff (2)(a)(v), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;

(u)ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “£2,224” rhodder “£2,265”;

(v)ym mharagraff (2)(b)(ii), yn lle “£4,194” rhodder “£4,271”;

(w)ym mharagraff (2)(b)(iii), yn lle “£3,411” rhodder “£3,474”;

(x)ym mharagraff (2)(b)(iv), yn lle “£3,411” rhodder “£3,474”;

(y)ym mharagraff (2)(b)(v), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;

(z)ym mharagraff (2)(c)(i), yn lle “£4,185” rhodder “£4,262”;

(aa)ym mharagraff (2)(c)(ii), yn lle “£7,616” rhodder “£7,757”;

(bb)ym mharagraff (2)(c)(iii), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;

(cc)ym mharagraff (2)(c)(iv), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;

(dd)ym mharagraff (2)(c)(v), yn lle “£5,531” rhodder “£5,633”.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

26.  Yn rheoliad 50—LL+C

(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “£91” rhodder “£93”;

(b)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£176” rhodder “£179”;

(c)ym mharagraff (1)(c), yn lle “£192” rhodder “£196”;

(d)ym mharagraff (1)(d), yn lle “£192” rhodder “£196”;

(e)ym mharagraff (1)(e), yn lle “£138” rhodder “£141”.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

27.  Yn rheoliad 56—LL+C

(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,622” rhodder “£4,708”;

(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£8,364” rhodder “£8,518”;

(c)ym mharagraff (3)(c), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;

(d)ym mharagraff (3)(d), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;

(e)ym mharagraff (3)(e), yn lle “£5,971” rhodder “£6,081”;

(f)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£4,185” rhodder “£4,262”;

(g)ym mharagraff (4)(b), yn lle “£7,616” rhodder “£7,757”;

(h)ym mharagraff (4)(c), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;

(i)ym mharagraff (4)(d), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;

(j)ym mharagraff (4)(e), yn lle “£5,531” rhodder “£5,633”.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

28.  Yn rheoliad 88(3)(a), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

29.  Yn rheoliad 91—LL+C

(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”;

(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

30.  Yn rheoliad 92—LL+C

(a)ym mharagraff (6)(a), yn lle “£184” rhodder “£187”;

(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “£315” rhodder “£321”;

(c)ym mharagraff (8)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

31.  Yn rheoliad 93(2), yn lle “£1,862” rhodder “£1,896”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

32.  Yn rheoliad 117(2)(a), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 3LL+CGrantiau ar gyfer dibynyddion

33.  Yn rheoliad 29(2), yn lle—LL+C

(a)“£1,159” rhodder “£1,180”;

(b)“£3,473” rhodder “£3,537”;

(c)“£4,632” rhodder “£4,717”;

(d)“£5,797” rhodder “£5,904”.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

34.  Yn rheoliad 89(3), yn lle “50” rhodder “25”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

35.  Yn rheoliad 94(2), yn lle—LL+C

(a)“£1,159” rhodder “£1,180”;

(b)“£3,473” rhodder “£3,537”;

(c)“£4,632” rhodder “£4,717”;

(d)“£5,797” rhodder “£5,904”.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 35 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

36.  Yn rheoliad 98—LL+C

(a)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, pan fo’r dwysedd astudio—

(a)

yn 25 y cant neu’n fwy ond yn llai na 30 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 25 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(b)

yn 30 y cant neu’n fwy ond yn llai na 40 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 30 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(c)

yn 40 y cant neu’n fwy ond yn llai na 50 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 40 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(d)

yn 50 y cant neu’n fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(e)

yn 60 y cant neu’n fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(f)

yn 75 y cant neu’n fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn.;

(b)yn lle paragraff (5) rhodder—

(5) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, pan fo’r dwysedd astudio—

(a)

yn 25 y cant neu’n fwy ond yn llai na 30 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 25 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(b)

yn 30 y cant neu’n fwy ond yn llai na 40 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 30 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(c)

yn 40 y cant neu’n fwy ond yn llai na 50 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 40 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(d)

yn 50 y cant neu’n fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(e)

yn 60 y cant neu’n fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(f)

yn 75 y cant neu’n fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn.;

(c)yn lle paragraff (7), rhodder—

(7) Yn achos lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, pan fo’r dwysedd astudio—

(a)

yn 25 y cant neu’n fwy ond yn llai na 30 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 25 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(b)

yn 30 y cant neu’n fwy ond yn llai na 40 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 30 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(c)

yn 40 y cant neu’n fwy ond yn llai na 50 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 40 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(d)

yn 50 y cant neu’n fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(e)

yn 60 y cant neu’n fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(f)

yn 75 y cant neu’n fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn.;

(d)ym mharagraff (9), yn lle “50” rhodder “25”.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Rhl. 36 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 1LL+CCyflwyniad

37.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(9) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 37 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CMyfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig

38.  Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “6BA,” mewnosoder “6BB,”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Rhl. 38 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

39.  Yn rheoliad 44(1), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Rhl. 39 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

40.  Yn rheoliad 54, yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Rhl. 40 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

41.  Yn rheoliad 62(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Rhl. 41 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

42.  Yn rheoliad 69(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Rhl. 42 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

43.  Yn rheoliad 80(2)(b)(iii), yn lle “neu 6D(a)” rhodder “, 6D(1)(a) neu 6D(2)(a)”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I43Rhl. 43 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

44.  Yn Atodlen 2—LL+C

(a)yn lle paragraff 1(2)(d) rhodder—

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—

(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)y tiriogaethau tramor.;

(b)ym mharagraff 4A—

(i)yn lle is-baragraff (1)(b) rhodder—

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor, pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.

(ii)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, ac;

(c)ym mharagraff 6A(1)(c)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(d)ym mharagraff 6A(1)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(e)ym mharagraff 6A(2)(d), yn lle’r geiriau o “preswylio fel arfer” hyd at y diwedd rhodder—

preswylio fel arfer n union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—

(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)y tiriogaethau tramor.;

(f)ar ôl paragraff 6BA mewnosoder—

Categori 6BB – Personau o’r tiriogaethau tramor Prydeinig sydd wedi setlo

6BB.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sydd—

(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol, ac

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 9(2).;

(g)yn lle paragraff 6D rhodder—

6D.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

(b)sy’n ymgymryd—

(i)â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,

(b)sydd—

(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 9(2).;

(h)yn lle paragraff 7A(c) rhodder—

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, a;

(i)ym mharagraff 8A(1), yn lle paragraff (d) rhodder—

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.;

(j)ym mharagraff 9—

(i)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)

P,

(b)

priod neu bartner sifil P, neu

(c)

yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.;

(ii)yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—

(a)

yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(b)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(c)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;

(d)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

(e)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;

(f)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.;

(k)ym mharagraff 11(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;;

ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Rhl. 44 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

45.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 4(1)(a)(i)—LL+C

(a)yn lle “6A(2)” rhodder “6A(2)(d)(i)”;

(b)hepgorer “6BA,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Rhl. 45 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

46.  Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnodion a ganlyn—LL+C

“tiriogaethau tramor”Atodlen 2, paragraff 11(1)
“tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”Atodlen 2, paragraff 11(1)

Gwybodaeth Cychwyn

I46Rhl. 46 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 3LL+CAelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo

47.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6C(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Rhl. 47 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 4LL+CCymorth ariannol – codiadau

48.  Yn rheoliad 55, yn Nhabl 7—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Categori 1Byw gartref£8,950
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£13,635
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£10,720
Categori 2Byw gartref£4,475
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£6,815
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£5,360

Gwybodaeth Cychwyn

I48Rhl. 48 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

49.  Yn rheoliad 56—LL+C

(a)yn Nhabl 8—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Byw gartref£9,950
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£14,635
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£11,720

(b)yn Nhabl 8A—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Byw gartref£4,475
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£6,815
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£5,360

Gwybodaeth Cychwyn

I49Rhl. 49 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

50.  Yn rheoliad 57(7), yn Nhabl 9—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Byw gartref£93
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£179
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£141

Gwybodaeth Cychwyn

I50Rhl. 50 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

51.  Yn rheoliad 58(2), yn Nhabl 10—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£7,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Gwybodaeth Cychwyn

I51Rhl. 51 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

52.  Yn rheoliad 58A(2), yn Nhabl 10A—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£8,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Gwybodaeth Cychwyn

I52Rhl. 52 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

53.  Yn rheoliad 63(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I53Rhl. 53 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

54.  Yn rheoliad 72(2), yn Nhabl 11—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£3,322

Gwybodaeth Cychwyn

I54Rhl. 54 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

55.  Yn rheoliad 74, yn Nhabl 12—LL+C

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£1,896

Gwybodaeth Cychwyn

I55Rhl. 55 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

56.  Yn rheoliad 76(2)—LL+C

(a)yn Nhabl 13—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Un plentyn dibynnol£187
Mwy nag un plentyn dibynnol£321

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Rhl. 56 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

57.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I57Rhl. 57 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 5LL+CGrantiau ar gyfer dibynyddion

58.  Yn rheoliad 69(1)(c), yn lle “50%” rhodder “25%”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Rhl. 58 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

59.  Yn rheoliad 77—LL+C

(a)ym mharagraff (1), yn lle—

(i)“£6,159” rhodder “£6,272”;

(ii)“£8,473” rhodder “£8,629”;

(iii)“£9,632” rhodder “£9,809”;

(iv)“£10,797” rhodder “£10,996”;

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Os yw cwrs presennol y myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—

(a)

25%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 25% o leiaf ond yn llai na 30%;

(b)

30%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 30% o leiaf ond yn llai na 40%;

(c)

40%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 40% o leiaf ond yn llai na 50%;

(d)

50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;

(e)

60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;

(f)

75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Rhl. 59 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

RHAN 7LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

PENNOD 1LL+CCyflwyniad

60.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(10) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I60Rhl. 60 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CMyfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig

61.  Yn rheoliad 3(2)(a), ar ôl “10BA,” mewnosoder “10BB,”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I61Rhl. 61 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

62.  Yn rheoliad 8(d), yn lle “neu 10D(1)(a)” rhodder “, 10D(1)(a) neu 10D(2)(a)”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I62Rhl. 62 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

63.  Yn Atodlen 1—LL+C

(a)ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); Aruba; Bermuda; De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; Gibraltar; Mayotte; Montserrat; Polynesia Ffrengig; St Barthélemy; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension); St Pierre a Miquelon; Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Wallis a Futuna; Yr Ynys Las; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaro; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; ac Ynysoedd Turks a Caicos;;

ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla; Bermuda; De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; Gibraltar; Montserrat; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension); Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; ac Ynysoedd Turks a Caicos;.

(b)yn lle paragraff 1(4) rhodder—

(4) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)A;

(b)priod neu bartner sifil A; neu

(c)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.;

(c)yn lle paragraff 1(5) rhodder—

(5) At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;

(d)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

(e)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath; ac

(f)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.;

(d)ym mharagraff 3(1)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(e)ym mharagraff 7A(1)(c)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(f)ym mharagraff 8A(1)(b)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(g)ym mharagraff 10A(1)—

(i)ym mharagraff (c)—

(aa)hepgorer “Gibraltar,”;

(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(ii)ym mharagraff (d)—

(aa)hepgorer “Gibraltar,”;

(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(h)ym mharagraff 10A(2)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(i)ar ôl paragraff 10BA mewnosoder—

10BB.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig; ac

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 1(4).;

(j)yn lle paragraff 10D rhodder—

10D.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar; neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;

(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Awrdal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 1(4).

(k)ym mharagraff 11A(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(l)ym mharagraff 12A—

(i)yn is-baragraff (c)—

(aa)hepgorer “Gibraltar,”;

(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(ii)yn is-baragraff (d)—

(aa)hepgorer “Gibraltar,”;

(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(m)ym mharagraff 13A(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a Thwrci” rhodder “, Twrci a’r tiriogaethau tramor”.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Rhl. 63 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 3LL+CAelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo

64.  Yn Atodlen 1—LL+C

(a)ym mharagraff 1(1), ym mharagraff (e) o’r diffiniad o “aelod o deulu”, yn lle “paragraffau 10, 10B, 10C a 10D” rhodder “paragraffau 10, 10B a 10D ac at ddibenion paragraff 10C mewn perthynas â pherson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;

(b)ym mharagraff 10C(1)(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Rhl. 64 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 4LL+CDiwygiad i’r trothwy blynyddol

65.  Yn rheoliad 14(5)(a), yn lle “£10,609” rhodder “hanner cant y cant o’r swm a bennir yn rheoliad 13(1)”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I65Rhl. 65 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

CHAPTER 5LL+CCymorth ariannol – codiadau

66.  Yn rheoliad 13—LL+C

(a)ym mharagraff (1), yn lle “£27,880” rhodder “£28,395”;

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “£27,880” rhodder “£28,395”.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Rhl. 66 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

RHAN 8LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

PENNOD 1LL+CCyflwyniad

67.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(11) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I67Rhl. 67 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CMyfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig

68.  Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “8BA,” mewnosoder “8BB,”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I68Rhl. 68 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

69.  Yn rheoliad 16(1)(b)(iii), yn lle “neu 8D(a)” rhodder “, 8D(1)(a) neu 8D(2)(a)”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I69Rhl. 69 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

70.  Yn Atodlen 2 —LL+C

(a)ym mharagraff 1(2)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(b)ym mharagraff 6A(1)(b)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(c)ym mharagraff 6A(2)(b)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(d)ym mharagraff 8A(1)(c)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(e)ym mharagraff 8A(1)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(f)ym mharagraff 8A(2)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(g)ar ôl paragraff 8BA mewnosoder—

8BB.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, ac

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 11(2).;

(h)yn lle paragraff 8D rhodder—

8D.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 11(2).;

(i)ym mharagraff 9A(c)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(j)ym mharagraff 9A(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(k)ym mharagraff 10A(1)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a Thwrci” rhodder “, Twrci a’r tiriogaethau tramor”;

(l)ym mharagraff 11—

(i)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)A,

(b)priod neu bartner sifil A, neu

(c)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.;

(ii)yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;

(d)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

(e)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;

(f)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.;

(m)ym mharagraff 13(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;;

ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Rhl. 70 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

71.  Yn Atodlen 4, yn Nhabl 3, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnodion a ganlyn—LL+C

“tiriogaethau tramor”Atodlen 2, paragraff 13(1)
“tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”Atodlen 2, paragraff 13(1)

Gwybodaeth Cychwyn

I71Rhl. 71 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 3LL+CAelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo

72.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8C(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I72Rhl. 72 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

CHAPTER 4LL+CCymorth ariannol – codiadau

73.  Yn rheoliad 31—LL+C

(a)ym mharagraff (2), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”;

(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Rhl. 73 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

74.  Yn rheoliad 36—LL+C

(a)ym mharagraff (8), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”;

(b)ym mharagraff (10), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Rhl. 74 mewn grym ar 22.2.2023, gweler rhl. 1(2)

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

30 Ionawr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”) (gweler Rhan 2 o’r Rheoliadau),

(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) (gweler Rhan 3 o’r Rheoliadau),

(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) (gweler Rhan 4 o’r Rheoliadau),

(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (gweler Rhan 5 o’r Rheoliadau),

(e)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) (gweler Rhan 6 o’r Rheoliadau),

(f)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol”) (gweler Rhan 7 o’r Rheoliadau), ac

(g)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) (gweler Rhan 8 o’r Rheoliadau).

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cychwyn a chymhwyso’r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 2 yn nodi’r rheoliadau hynny sydd i fod yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 (gweler paragraff 1) a’r rheoliadau hynny sydd i fod yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 (gweler paragraff 2).

Mae Rhannau 2 a 4 yn diwygio Rheoliadau 2007 a Rheoliadau 2015, yn y drefn honno. Mae Pennod 2 o’r Rhannau hynny yn gwneud diwygiadau fel bod statws ffioedd cartref a statws person cymhwysol yn gymwys i fyfyrwyr sydd o diriogaethau tramor Prydeinig (“TTPau”) penodedig ac sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig. Mae Pennod 3 o’r Rhannau hynny yn gwneud diwygiadau fel bod aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn cymhwyso i gael statws ffioedd cartref a statws person cymhwysol.

Mae Pennod 2 o Ran 3 yn hepgor darpariaethau diangen yn Rheoliadau 2014.

Yn Rhan 6, Rhan 7 a Rhan 8 fel ei gilydd, mae Pennod 2 yn darparu i bersonau sydd â statws preswylydd sefydlog wrth gyrraedd y Deyrnas Unedig, ac a ddaeth i’r Deyrnas Unedig o TTPau penodedig, gymhwyso i gael cymorth penodol i fyfyrwyr (mae israddedigion yn gymwys i gael cymorth at ffioedd dysgu ond nid ydynt yn gymwys i gael grantiau a benthyciadau at gostau byw). Er mwyn cymhwyso i gael cymorth, bydd angen i bersonau sy’n preswylio yn y TTPau fodloni’r gofyniad i breswylio fel arfer am dair blynedd yn y Deyrnas Unedig, yn Nhiriogaethau Dibynnol y Goron neu mewn TTPau penodedig. Gwneir darpariaeth gyfatebol hefyd ar gyfer y rheini a gwmpesir gan y cytundeb ymadael â’r UE, y Cytundeb Gwahanu â Gwladwriaethau’r AEE-EFTA a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd sydd wedi treulio rhan o’u cyfnod preswylio naill ai yn y TTPau neu yn nhiriogaethau tramor yr UE.

Yn Rhan 6, Rhan 7 a Rhan 8 fel ei gilydd, mae Pennod 3 yn gwneud diwygiadau fel bod aelodau o deuluoedd pob person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sy’n cychwyn ar gyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 yn cymhwyso i gael cymorth i fyfyrwyr. Rhaid i’r categori hwn o berson fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd am dair blynedd cyn dechrau ei gwrs er mwyn cymhwyso i gael cymorth. Yn flaenorol, dim ond aelodau o deuluoedd gwladolion y Deyrnas Unedig a oedd yn gymwys i gael cymorth.

Mae Pennod 2 o Ran 5, Pennod 4 o Ran 6, Pennod 5 o Ran 7 a Phennod 4 o Ran 8 yn cynyddu symiau amrywiol a bennir yn Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018, y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019, yn y drefn honno.

Mae Pennod 3 o Ran 5 a Phennod 5 o Ran 6 yn diwygio Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018, yn y drefn honno, i ganiatáu i fyfyrwyr rhan-amser sy’n astudio ar ddwysedd rhwng 25% a 50% gymhwyso i gael grantiau ar gyfer dibynyddion ac i gynyddu swm yr incwm a ddiystyrir wrth gyfrifo hawlogaeth i gael grantiau ar gyfer dibynyddion.

Mae Pennod 4 o Ran 7 yn diwygio’r Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol drwy gynyddu uchafswm y cymorth y caiff Gweinidogion Cymru ei dalu fel rhandaliad o gymorth sy’n ddyledus i fyfyriwr mewn cysylltiad ag unrhyw un flwyddyn academaidd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2010/1080, Atodlen 1, paragraff 12; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.

(2)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(1) gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 2006/1458 gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o’r Ddeddf honno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(b) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y mae’n ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru, gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Darparodd adran 44 o’r Ddeddf honno hefyd fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) ac (c) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 2004 i fod i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

2015 dccc 1. Gweler adran 57(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” ac “a ragnodir” a “rheoliadau”.

(7)

O.S. 2015/1484 (Cy. 163); y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2021/481 (Cy. 148).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: