Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, rhychwant, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022.

(2Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;

(b)yn gymwys o ran Cymru;

(c)yn dod i rym ar 24 Tachwedd 2022.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid;

ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio(1).

(2Mae i unrhyw ymadrodd Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadrodd Saesneg yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr â’r ymadrodd hwnnw yn Rheoliadau’r UE a ddargedwir.

Awdurdodiadau

3.—(1Mae Atodlenni 1 i 11 yn cynnwys awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid.

(2Yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) (adnewyddu awdurdodiad) o Reoliad 1831/2003, mae’r awdurdodiadau a nodir yn Atodlenni 1 i 11 yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 23 Tachwedd 2032.

Diwygio awdurdodiadau Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 presennol

4.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 306/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu a Suidae wedi eu diddyfnu heblaw Sus scrofa domesticus(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.

5.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 787/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.

6.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1020 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy a mân rywogaethau dofednod ar gyfer dodwy(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.

7.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2276 sy’n ymwneud ag awdurdodiad defnydd newydd o’r paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer hychod(5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “ Bacillus velezensis”.

Dirymiadau

8.  Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 12 wedi eu dirymu.

Darpariaethau trosiannol: Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 (Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1702)

9.—(1Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.

(2Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.

(3Yn y rheoliad hwn—

mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at yr awdurdodiad a gynhwysir yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 883/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi defnydd newydd o Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer lloi magu(6);

mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407, neu fel y’i dynodwyd yn flaenorol, Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 sydd â’r rhif adnabod 4b1702, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.

Darpariaethau trosiannol: Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 (Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 yn flaenorol) (rhif adnabod 4b1823)

10.—(1Caniateir i unrhyw sylwedd neu gynnyrch a labelwyd “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737” neu a labelwyd fel sylwedd neu gynnyrch sy’n cynnwys “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737”, ond sydd fel arall wedi cael ei gynhyrchu a’i labelu yn unol ag awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys mewn offeryn a grybwyllir yn rheoliadau 4 i 7, barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan yr awdurdodiad hwnnw.

(2Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.

(3Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.

(4Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2024 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.

(5Yn y rheoliad hwn—

mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn—

  • Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 107/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi(7), neu

  • Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 885/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, hwyaid i’w pesgi, soflieir, ffesantod, petris, ieir gini, colomennod, gwyddau i’w pesgi ac estrysiaid(8);

mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 neu, fel y’i dynodwyd yn flaenorol, Bacillus subtilis ATCC PTA-6737, sydd â’r rhif adnabod 4b1823, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.

Darpariaeth drosiannol: Decocwinad (Deccox®) (rhif adnabod 51756i (E756 yn flaenorol))

11.—(1Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a bwyd anifeiliaid sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael eu rhoi ar y farchnad a’u defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.

(2Yn y rheoliad hwn—

mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at yr awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1289/2004 sy’n ymwneud ag awdurdodi am 10 mlynedd yr ychwanegyn Deccox® mewn bwydydd anifeiliaid, sy’n perthyn i’r grŵp o gocsidiostatau a sylweddau meddyginiaethol eraill(9);

mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Decocwinad (Deccox®)a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw sydd â’r rhif adnabod E756.

Lynne Neagle

Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

31 Hydref 2022

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources