Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 500 (Cy. 149)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021

Gwnaed

am 2.54 p.m. ar 22 Ebrill 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 4.45 p.m. ar 22 Ebrill 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 23 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 23 Ebrill 2021.

RHAN 2Diwygiadau

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiad i reoliad 6B

3.  Yn rheoliad 6B(1A) (gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru), o flaen “yn gymwys”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “neu reoliad 12E(2)(f)”.

Diwygiad i reoliad 6K

4.  Yn rheoliad 6K(1) (profi’r gweithlu), ar ôl “Atodlen 2” mewnosoder “neu reoliad 12E(2)(g)”.

Diwygiadau i reoliad 12E

5.—(1Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (2)(e) mewnosoder—

(f)yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 14 o Atodlen 5;

(g)yn berson—

(i)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith fel gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr gofal proffesiynol yn y Deyrnas Unedig,

(ii)sy’n gymwys i ymarfer proffesiwn a reoleiddir gan unrhyw un neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(3) neu adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(4), a

(iii)sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cyflogaeth fel gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr gofal proffesiynol.

(3Ym mharagraff (3F)(b), yn yr addasiad i reoliad 10(4), ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—

(i)pan fo P yn berson sy’n dod o fewn paragraff (2)(f), at ddiben ymgymryd â’r gwaith hwnnw.

Diwygiad i Atodlen 3A

6.  Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lle priodol mewnosoder—

India.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 2.54 p.m. ar 22 Ebrill 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn esemptio person sy’n cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol, sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunyddiau penodol i’w defnyddio i ddarparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd, rhag y gofyniad i drefnu profion cyn iddo gyrraedd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6K o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn cymhwyso’r gofynion ar brofi’r gweithlu i weithwyr iechyd neu weithwyr gofal penodol sy’n cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol er mwyn ymgymryd â chyflogaeth.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn caniatáu i’r ddau gategori hynny o berson gael mynediad i Gymru.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n cynnwys y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol yng Nghymru. Mae rheoliad 6 yn ychwanegu India at y rhestr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources