Search Legislation

Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 401 (Cy. 130)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

Gwnaed

am 1.40 p.m. ar 24 Mawrth 2021

Yn dod i rym

1 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 15(2), 21(10), 32(1)(b), 36(3), 37(1)(a) a (b), 45, 46, 60(4), 65(5), 67, 82, 83, 97 a 98(2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1).

Yn unol ag adran 98(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a dirymu

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021.

(2Deuant i rym ar 1 Medi 2021.

(3Mae Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020(3) wedi eu dirymu.

Dehongli cyffredinol

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2018” yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(2Mae i gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (sut bynnag y’i mynegir) yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996(4).

(3Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf 2018 ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

(4Pan fo’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyfnod y mae’n ofynnol gwneud rhywbeth ynddo, neu cyn ei ddiwedd, ac na fo diwrnod olaf y cyfnod hwnnw yn ddiwrnod gwaith, mae’r cyfnod yn cael ei estyn i gynnwys y diwrnod gwaith canlynol.

Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rheoliadau hyn

3.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol (ar ba delerau bynnag) i gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, neu’n awdurdodi (ar ba delerau bynnag) corff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru i—

(a)hysbysu person am rywbeth, neu

(b)rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

(2Mae adran 88 o Ddeddf 2018 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon) yn gymwys i’r ddarpariaeth—

(a)fel pe bai’n ddarpariaeth yn Rhan 2 o Ddeddf 2018,

(b)fel pe bai’r cyfeiriadau yn yr adran honno at gorff llywodraethu neu awdurdod lleol yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, ac

(c)fel pe bai’r cyfeiriad yn adran 88(4) at adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(5) (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) yn gyfeiriad at adran 13 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019(6) (cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig).

Rhoi hysbysiad etc. o dan Ran 2 o Ddeddf 2018: diwygio adran 88

4.  Ar ddiwedd adran 88 o Ddeddf 2018 mewnosoder—

(6) Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig yn unol â’r adran hon i gael ei drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod yr anfonwyd y cyfathrebiad electronig.

RHAN 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Categorïau o blant sy’n derbyn gofal a ragnodir o dan adran 15 o Ddeddf 2018

5.  Nid yw plentyn i’w drin fel pe bai’n derbyn gofal at ddibenion Deddf 2018 os nad yw’n ofynnol, gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(7) (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya), i gynllun addysg personol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 83(2A) o’r Ddeddf honno) gael ei gynnwys fel rhan o gynllun gofal a chymorth y plentyn o dan yr adran honno.

Penderfyniadau awdurdodau lleol ar yr angen am gynlluniau datblygu unigol ar gyfer pobl ifanc

Dehongli rheoliadau 6 i 9 ac Atodlen 1

6.—(1Yn y rheoliad hwn, rheoliadau 7 i 9 ac Atodlen 1—

ystyr “addysg bellach neu hyfforddiant” (“further education or training”) yw addysg neu hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy’n gysylltiedig ag addysg neu hyfforddiant o’r fath, ond nid yw’n cynnwys unrhyw addysg neu hyfforddiant a geir gan berson ifanc tra bo’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (gweler rheoliad 2(2) ar gyfer pa bryd y mae person yn ddarostyngedig i orchymyn cadw);

ystyr “deilliannau” (“outcomes”) yw deilliannau sy’n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer gwaith, symud ymlaen i addysg arall, gan gynnwys addysg uwch, neu gyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol neu sgiliau neu nodweddion defnyddiol eraill ar gyfer bod yn oedolyn;

ystyr “rhaglen astudio” (“programme of study”) yw un neu ragor o gyrsiau o addysg bellach neu hyfforddiant, pa un a yw’n arwain at gymhwyster ai peidio ac yn achos mwy nag un cwrs, pa un a yw’r cyrsiau yn cael eu dilyn yn gydredol neu’n olynol ai peidio (ond os ydynt yn cael eu dilyn yn olynol rhaid iddynt fod yn rhan o raglen astudio gyffredinol).

(2Wrth benderfynu ar gyfnod para rhaglen astudio at ddibenion rheoliad 9 ac Atodlen 1—

(a)mae rhaglen astudio yn cael ei thrin fel pe bai’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person ifanc yn cychwyn, neu y disgwylir iddo gychwyn, ar y rhaglen astudio ac yn dod i ben â’r diwrnod y disgwylir i’r person ei chwblhau, a

(b)os yw’r rhaglen, neu ran ohoni, yn para am o leiaf 38 o wythnosau mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn, mae’r rhaglen, neu’r rhan honno ohoni, yn cael ei thrin fel pe bai’n cael ei chynnal dros flwyddyn.

(3Wrth benderfynu ar gyfnod para addysg bellach neu hyfforddiant arall a ddilynir gan berson ifanc at ddibenion rheoliad 9 ac Atodlen 1—

(a)mae’r addysg bellach neu’r hyfforddiant yn cael ei thrin neu ei drin fel pe bai wedi dechrau â diwrnod cyntaf y mis y cychwynnodd y person ifanc arni neu arno ac yn dod i ben â diwrnod olaf y mis—

(i)y cwblhaodd y person ifanc yr addysg bellach neu’r hyfforddiant neu y peidiodd fel arall â chael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant, neu

(ii)y disgwylir i’r person ifanc gwblhau’r addysg bellach neu’r hyfforddiant neu y disgwylir fel arall iddo beidio â chael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant;

(b)os yw’r addysg bellach neu’r hyfforddiant, neu ran ohoni neu ohono, yn para am o leiaf 38 o wythnosau mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn, mae’n cael ei thrin neu ei drin, neu mae’r rhan honno ohoni neu ohono yn cael ei thrin, fel pe bai’n cael ei chynnal neu ei gynnal dros flwyddyn.

Rhaglen astudio bosibl

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad awdurdod lleol o dan adran 14(1)(c)(ii) neu 31(6)(b) o Ddeddf 2018 o ran a yw cynllun datblygu unigol yn angenrheidiol ar gyfer person ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru nac wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)nodi deilliannau dymunol y person ifanc, os oes rhai, a

(b)ystyried pa raglenni astudio a all fod ar gael ac a fyddai’n addas i alluogi’r person ifanc i gyflawni’r deilliannau dymunol hynny.

(3Wrth ystyried y mater ym mharagraff (2)(b)—

(a)yn gyntaf rhaid i’r awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau yn y sector addysg bellach;

(b)ni chaiff yr awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio mewn sefydliadau ac eithrio’r rheini a grybwyllir ym mharagraff (7) ond pan fo’n ymddangos yn debygol na ellir diwallu anghenion rhesymol y person ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i ddilyn rhaglen astudio addas oni bai bod yr awdurdod lleol yn sicrhau ar gyfer y person ifanc—

(i)lle mewn sefydliad ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (7), neu

(ii)bwyd a llety.

(4Wrth benderfynu a yw rhaglen astudio a ddarperir gan sefydliad ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (7) yn addas ar gyfer person ifanc, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried, yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1, a oes posibilrwydd realistig y byddai’r person ifanc yn cyflawni deilliannau dymunol y person drwy ddilyn y rhaglen astudio neu drwy barhau i ddilyn y rhaglen astudio (gydag unrhyw addasiadau arfaethedig).

(5Pan fo’r person ifanc eisoes yn dilyn rhaglen astudio, nid yw paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio eraill os yw wedi ei fodloni bod y rhaglen y mae’r person ifanc yn ei dilyn yn parhau i fod yn addas, neu y byddai’n addas gydag addasiadau, i alluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person.

(6Nid oes angen i’r awdurdod lleol gydymffurfio â pharagraff (2) neu unrhyw ran ohono, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni na fyddai cydymffurfio ag ef, neu â’r rhan honno ohono, yn effeithio ar ei benderfyniad o dan adran 14(1)(c)(ii) neu 31(6)(b) o Ddeddf 2018.

(7Mae rheoliad 8 yn gymwys pan fo’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn unrhyw un o’r sefydliadau a ganlyn, neu pan fo’r person ifanc i fod yn ddisgybl neu’n fyfyriwr o’r fath, i ddilyn rhaglen astudio, neu i barhau i ddilyn rhaglen astudio, i gyflawni deilliannau dymunol y person ifanc—

(a)ysgol a gynhelir yng Nghymru neu Loegr;

(b)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr;

(c)Academi.

(8Mae rheoliad 9 yn gymwys i bob achos arall.

Yr angen am gynllun: rhaglenni astudio mewn ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a sefydliadau penodol yn Lloegr

8.—(1Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc os byddai’r awdurdod lleol, neu os yw’r awdurdod lleol, wrth lunio neu gynnal y cynllun ar gyfer y person ifanc, o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o Ddeddf 2018 i ddisgrifio darpariaeth o fath a restrir yn adran 14(7) o’r Ddeddf honno.

(2Mae hefyd yn angenrheidiol i awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc os yw’r person ifanc i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru i ddilyn rhaglen astudio.

(3Ar gyfer achosion nad ydynt yn dod o fewn paragraff (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried—

(a)yn achos person ifanc sydd i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, a yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;

(b)yn achos person ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn ysgol a gynhelir yn Lloegr, Academi neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn Lloegr, neu sydd i fod yn ddisgybl neu’n fyfyriwr o’r fath, a fyddai corff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad neu, yn achos Academi, y perchennog, yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(4Wrth ystyried mater y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r corff llywodraethu neu’r perchennog.

(5Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc—

(a)os yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), yn ystyried nad yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;

(b)os nad yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), wedi ei fodloni y byddai’r corff llywodraethu neu’r perchennog yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(6Fel arall nid yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc.

(7Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn gyfeiriadau at y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gelwir amdani gan anghenion dysgu ychwanegol y person ifanc er mwyn dilyn y rhaglen astudio neu barhau i ddilyn y rhaglen astudio.

Achosion eraill: anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant a’r angen am gynllun datblygu unigol

9.—(1Mae gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan na fo’r rhaglen astudio addas y bwriedir i’r person ifanc ei dilyn, neu barhau i’w dilyn, ynghyd ag unrhyw addysg bellach neu hyfforddiant arall a ddilynir gan y person ifanc, yn para am fwy na 2 flynedd.

(2Caiff yr awdurdod lleol benderfynu bod gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1) a 6(1) o Atodlen 1 yn gymwys.

(3At ddibenion penderfynu a oes gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan baragraff (2), mae paragraffau 3(2), 4(2), 5(2) a 6(2) o Atodlen 1 yn nodi’r priod ffactorau y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried ar gyfer pob un o’r amgylchiadau sy’n gymwys.

(4At ddibenion adran 31(6)(b) o Ddeddf 2018, mae gan berson ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan fo’r person ifanc yn dilyn rhaglen astudio addas yn unol â phenderfyniad o dan baragraff (2).

(5Pan fo gan y person ifanc anghenion rhesymol, neu pan fo awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y person ifanc anghenion rhesymol, am addysg neu hyfforddiant o dan y rheoliad hwn—

(a)at ddibenion adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018, mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc os byddai’r awdurdod lleol, pe bai’n llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc, o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o’r Ddeddf honno i bennu yn y cynllun ddarpariaeth o’r math a restrir yn adran 14(7)(a) o’r Ddeddf honno;

(b)at ddibenion adran 31(6)(b) o’r Ddeddf honno, mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol y person ifanc os yw’r awdurdod lleol o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o’r Ddeddf honno i bennu yn y cynllun ddarpariaeth o’r math a restrir yn adran 14(7)(a) o’r Ddeddf honno.

(6Fel arall nid yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc.

Hysbysiad o benderfyniad o dan adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018 nad oes angen cynllun

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018 nad oes angen llunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r person ifanc am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol wneud y penderfyniad a rhoi’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (2), yn brydlon ac mewn unrhyw achos cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cydsyniodd y person ifanc i’r penderfyniad o dan adran 13(1) o Ddeddf 2018 gael ei wneud.

(4Nid oes angen i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r gofyniad i wneud y penderfyniad a rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.

(5Wrth roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol hefyd roi i’r person ifanc—

(a)manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod lleol;

(b)gwybodaeth am sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod lleol o dan adran 9 o Ddeddf 2018 ar gyfer darparu i bobl wybodaeth a chyngor ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan Ran 2 o’r Ddeddf honno;

(c)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau o dan adran 68 o Ddeddf 2018;

(d)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 69 o Ddeddf 2018;

(e)gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg o dan adran 70 o Ddeddf 2018 yn erbyn y penderfyniad.

Terfynau amser ar gyfer atgyfeiriadau adran 20 a gofyn bod y penderfyniad i beidio â chynnal cynlluniau yn cael ei ailystyried

Terfyn amser i gorff GIG ymateb i atgyfeiriad adran 20

11.—(1Rhaid i gorff GIG sydd o dan ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o Ddeddf 2018 (cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG) gydymffurfio â’r ddyletswydd honno yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2).

(2Mae’r cyfnod rhagnodedig—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff GIG yn cael yr atgyfeiriad o dan adran 20 o Ddeddf 2018, a

(b)yn dod i ben ar ddiwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Nid oes angen i’r corff GIG gydymffurfio â’r ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2) os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.

Terfyn amser ar gyfer gofyn i benderfyniad i beidio â chynnal cynllun gael ei ailystyried

12.—(1Mae’r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 32(1)(b) o Ddeddf 2018 (ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau cyrff llywodraethu o dan adran 31)—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn rhoi’r hysbysiadau o dan adran 31(8) a (9) o’r Ddeddf honno, a

(b)yn dod i ben ar ddiwedd 4 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(2Pan fo’r hysbysiadau o dan adran 31(8) a (9) yn cael eu rhoi ar ddiwrnodau gwahanol (pa un ai oherwydd eu bod yn cael eu rhoi i bersonau gwahanol ar ddiwrnodau gwahanol neu eu rhoi o dan bob is-adran ar ddiwrnodau gwahanol), mae’r cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at y diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn rhoi’r hysbysiadau yn gyfeiriad at yr hwyrach o’r diwrnodau hynny.

Trosglwyddo cyfrifoldeb am gynlluniau datblygu unigol

Cais awdurdod lleol i drosglwyddo cynllun i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach

13.—(1Rhaid i gais gan awdurdod lleol o dan adran 36(2) o Ddeddf 2018 fod corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig, a

(b)dod gyda chopi o’r cynllun, oni bai bod gan y corff llywodraethu gopi ohono eisoes.

(2Mae’r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 36(3) o Ddeddf 2018 (y cyfnod y caiff awdurdod lleol atgyfeirio mater at Weinidogion Cymru ar ei ôl)—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn cael y cais o dan adran 36(2), a

(b)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 20 niwrnod amser tymor sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Pan fo corff llywodraethu yn cytuno i gais awdurdod lleol o dan adran 36(2)—

(a)rhaid iddo roi gwybod i’r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am ei gytundeb, a

(b)mae’n dod yn gyfrifol am y cynllun o dan adran 12(4) o Ddeddf 2018—

(i)ar y diwrnod y cytunir arno rhwng y corff llywodraethu a’r awdurdod i’r cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo;

(ii)fel arall ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael cytundeb ysgrifenedig y corff llywodraethu i’r cais.

(4Ym mharagraff (2), ystyr “diwrnod amser tymor” mewn perthynas â sefydliad yn y sector addysg bellach yw diwrnod y mae’r sefydliad i fod i gwrdd at ddiben addysgu myfyrwyr ar yr amod bod y diwrnod hwnnw o fewn cyfnod amser y mae’r sefydliad yn cyflenwi’r rhan fwyaf o’i gyrsiau llawnamser ynddo.

Atgyfeiriad awdurdod lleol at Weinidogion Cymru er mwyn penderfynu a ddylai corff llywodraethu sefydliad addysg bellach gynnal cynllun

14.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag atgyfeiriad o dan adran 36 o Ddeddf 2018 gan awdurdod lleol at Weinidogion Cymru am benderfyniad o ran a ddylai corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad.

(2Rhaid i’r atgyfeiriad—

(a)cael ei wneud o fewn y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod a ragnodir gan reoliad 13(2),

(b)cael ei wneud yn ysgrifenedig,

(c)dod gyda chopi o’r adrannau o’r cynllun datblygu unigol sy’n cynnwys y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol y person ifanc a’r disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, a

(d)dod gyda chopi o unrhyw wybodaeth arall yn y cynllun datblygu unigol y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i benderfynu ar y mater.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person ifanc a’r corff llywodraethu am yr atgyfeiriad a gwahodd sylwadau.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person ifanc, yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu am—

(a)eu penderfyniad o dan adran 36(4) o Ddeddf 2018, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(5Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylai’r corff llywodraethu gynnal y cynllun, mae dyletswydd y corff llywodraethu i’w gynnal o dan adran 12(4) o Ddeddf 2018 yn cymryd effaith—

(a)ar y diwrnod y caniateir ei bennu yn yr hysbysiad o dan baragraff (4);

(b)fel arall ar y diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn cael yr hysbysiad hwnnw.

Rhoi copïau o gynlluniau datblygu unigol mewn sefyllfaoedd trosglwyddo

15.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—

(a)mae corff llywodraethu neu awdurdod lleol (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 am gynnal neu gadw cynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw yn flaenorol o dan y Rhan honno gan gorff llywodraethu arall neu awdurdod lleol arall (“yr hen gorff”);

(b)byddai awdurdod lleol (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 am gynnal neu gadw cynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw yn flaenorol o dan y Rhan honno gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol arall (“yr hen gorff”) oni bai am ddiffyg gwybodaeth y corff newydd am yr amgylchiadau sy’n arwain at ei gyfrifoldeb am y cynllun (gweler adrannau 30(5) a 42(5) o Ddeddf 2018 a rheoliad 22(3));

(c)mae corff llywodraethu ysgol a gynhelir (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol yn rhinwedd bod awdurdod lleol (“yr hen gorff”) yn cyfarwyddo’r corff llywodraethu o dan adran 14(2)(b)(i) neu (4) o Ddeddf 2018.

(2Rhaid i’r hen gorff roi copi o’r cynllun i’r corff newydd oni bai bod gan y corff newydd gopi ohono eisoes.

(3Ond pan na fo’r hen gorff yn ymwybodol o’r amgylchiadau sy’n arwain at drosglwyddo cyfrifoldeb am y cynllun, nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (2) yn gymwys hyd nes bod yr hen gorff yn ymwybodol o’r amgylchiadau hynny.

Cyfnodau adolygu pan fo plentyn wedi dod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu pan fo plentyn neu berson ifanc wedi peidio â bod yn blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal

16.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—

(a)mae awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol, yn rhinwedd adran 35(10) o Ddeddf 2018, am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sydd wedi dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol (“y trosglwyddiad”);

(b)mae awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol, yn rhinwedd adran 35(12) a (13) o Ddeddf 2018, am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc sydd wedi peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal (“y trosglwyddiad”).

(2At ddibenion penderfynu ar y cyfnod adolygu y mae rhaid i’r awdurdod lleol, o dan adran 24(1) (ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(a)) neu 23(1) (ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(b)) o Ddeddf 2018, adolygu’r cynllun yn gyntaf ynddo yn dilyn y trosglwyddiad, mae adrannau 23 a 24 o’r Ddeddf honno yn gymwys (er gwaethaf adran 23(12) ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(a)) fel yr oeddent yn union cyn y trosglwyddiad.

Sicrhau darpariaeth arall pan fo cyfrifoldeb am gynllun yn cael ei drosglwyddo

17.—(1Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys—

(a)pan fo awdurdod lleol, yn dilyn trosglwyddo cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 35 o Ddeddf 2018, o dan ddyletswydd i sicrhau lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) neu 19(4) o’r Ddeddf honno, a

(b)pan na fo, yng ngoleuni’r amgylchiadau sydd wedi arwain at y trosglwyddiad, yn ymarferol mwyach i’r plentyn neu’r person ifanc fynychu’r ysgol neu’r sefydliad arall.

(2Nid yw dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau’r lle yn yr ysgol neu’r sefydliad arall yn gymwys hyd nes ei bod yn bosibl diwygio’r cynllun ac eithrio pan fo’r awdurdod yn trefnu bwyd a llety o dan baragraff (3).

(3Caiff yr awdurdod lleol drefnu bwyd a llety er mwyn galluogi’r plentyn neu’r person ifanc i barhau i fynychu’r ysgol neu’r sefydliad arall hyd nes ei bod yn bosibl diwygio’r cynllun datblygu unigol.

Personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

Yr angen am gynllun datblygu unigol ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth ar ôl ei ryddhau

18.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys at ddiben penderfyniad awdurdod cartref o dan adran 40(2)(b) o Ddeddf 2018.

(2Mae angen llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth ac eithrio—

(a)pan fo’n debygol y bydd y person sy’n cael ei gadw’n gaeth wedi cyrraedd 25 oed cyn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth, neu

(b)pan fo’n annhebygol, yn achos person ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth, y bydd gan y person anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan gaiff ei ryddhau.

(3At ddibenion paragraff (2)(b), mae gan berson ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—

(a)mae’r person ifanc wedi ei gofrestru’n ddisgybl neu wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn ysgol a gynhelir, sefydliad yn y sector addysg bellach neu Academi (pa un a yw’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr);

(b)mae gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan reoliad 9(1);

(c)mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan reoliad 9(2) fod gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant.

(4Pan fo’r awdurdod cartref yn penderfynu na fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff y person hwnnw ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth, rhaid i’r awdurdod cartref wneud y penderfyniad hwnnw a rhoi’r hysbysiad ohono o dan adran 40(4) o Ddeddf 2018 yn brydlon ac mewn unrhyw achos cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod—

(a)yn achos plentyn, y tynnwyd sylw’r awdurdod cartref, neu yr ymddangosai i’r awdurdod cartref fel arall, y gall fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol;

(b)yn achos person ifanc, y cydsyniodd y person ifanc i’r penderfyniad gael ei wneud o ran a oes gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol.

(5Nid oes angen i’r awdurdod cartref gydymffurfio â’r gofyniad i wneud y penderfyniad hwnnw a rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.

(6Wrth hysbysu person sy’n cael ei gadw’n gaeth, ac os yw’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn blentyn, riant y plentyn, o dan adran 40(4) o Ddeddf 2018, na fydd angen cynllun datblygu unigol, rhaid i’r awdurdod cartref hefyd roi—

(a)manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod cartref;

(b)gwybodaeth am sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod cartref o dan adran 9 o Ddeddf 2018 ar gyfer darparu i bobl wybodaeth a chyngor ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan Ran 2 o’r Ddeddf honno;

(c)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod cartref ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau o dan adran 68 o Ddeddf 2018;

(d)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod cartref ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 69 o Ddeddf 2018;

(e)gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg o dan adran 72 o Ddeddf 2018 yn erbyn y penderfyniad.

Diwygiadau i adran 44 o Ddeddf 2018

19.—(1Mae adran 44 o Ddeddf 2018 (darpariaethau penodol Rhan 2 nad ydynt i fod yn gymwys i blant a phersonau ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)corff GIG.;

(b)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)adran 20(5)(a) ac (c) (dyletswydd corff GIG i sicrhau triniaeth neu wasanaeth ac i gymryd pob cam rhesymol i’w sicrhau yn Gymraeg);.

Cadw’n gaeth o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983; cymhwyso Deddf 2018

Dehongli rheoliadau 20 i 25 ac Atodlen 2

20.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, rheoliadau 21 i 25 ac Atodlen 2—

mae i “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yr ystyr a roddir yn rheoliad 21;

ystyr “dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty” (“beginning of the detention in hospital”) mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yw—

(a)

dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan y Rhan honno, neu

(b)

pan fo cyfnod o gadw’n gaeth mewn lle diogel yn unol â chyfarwyddydau llys o dan y Rhan honno yn union cyn y cyfnod hwnnw, dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth yn y lle diogel;

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983(8).

(2Mae rheoliad 2(2) yn ymdrin ag ystyr cyfeiriadau at berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw.

(3At ddibenion y diffiniad o “dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty” ym mharagraff (1), nid yw’n berthnasol a yw’r cyfnod cadw yn unol ag un gorchymyn ai peidio.

Awdurdod lleol perthnasol

21.—(1Pan oedd y plentyn neu’r person ifanc yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r plentyn neu’r person ifanc yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ystyr “yr awdurdod lleol perthnasol” yw awdurdod cartref y plentyn neu’r person ifanc.

(2Pan nad oedd y plentyn neu’r person ifanc yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r plentyn neu’r person ifanc yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983—

(a)os oedd y plentyn neu’r person ifanc yn derbyn gofal yn union cyn dechrau’r cyfnod cadw hwnnw neu os yw wedi bod yn derbyn gofal ar unrhyw adeg ers hynny, ystyr yr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr sy’n gofalu am y plentyn neu’r person ifanc, neu sydd wedi gofalu am y plentyn neu’r person ifanc ddiweddaraf;

(b)fel arall ystyr yr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

(3Ond nid yw awdurdod lleol yn Lloegr yn awdurdod lleol perthnasol.

(4At ddiben paragraff (1), mae’r diffiniadau o “awdurdod cartref” a “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” (gweler adran 39 o Ddeddf 2018 sy’n cymhwyso ystyron a roddir yn adran 562J o Ddeddf Addysg 1996(9) yn ddarostyngedig, yn achos “awdurdod cartref”, i unrhyw reoliadau o dan adran 39(2)) yn gymwys fel pe bai’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yn parhau i fod yn gyfnod o gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(5At ddiben paragraff (2), mae plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal gan awdurdod lleol os yw’r plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(10) neu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion Deddf Plant 1989(11).

(6Wrth benderfynu at ddiben paragraff (2) lle y mae plentyn neu berson ifanc yn preswylio fel arfer, mae unrhyw gyfnod pan yw’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cadw i’w ddiystyru.

Plentyn neu berson ifanc a chanddo gynllun datblygu unigol cyn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty

22.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn neu berson ifanc yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,

(b)pan fo’r plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ac

(c)pan oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal neu ei gadw ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i’w drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 o Ddeddf 2018 at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf honno, ac unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) neu 40(7) o Ddeddf 2018 yn cael ei thrin fel pe bai’n cael ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).

(3Ond nid yw’r ddyletswydd i gynnal y cynllun ym mharagraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chynllun a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol ac eithrio’r awdurdod lleol perthnasol oni thynnir sylw’r awdurdod lleol perthnasol at y ffaith bod y cynllun yn cael ei gynnal neu ei gadw.

(4Mae Deddf 2018 a darpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno (gan gynnwys y Rheoliadau hyn) yn gymwys gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 2 mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw yn ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983.

(5Pan oedd y cynllun, yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty, yn cael ei gadw o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol—

(a)rhoi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc ei fod wedi dod yn gyfrifol am gynnal y cynllun,

(b)os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, roi gwybod i riant y plentyn, ac

(c)adolygu’r cynllun,

(ar gyfer pan oedd y cynllun yn cael ei gynnal gan gorff arall yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty, gweler adrannau 22(2) a 23 o Ddeddf 2018 fel y’u cymhwysir gan y rheoliad hwn).

(6Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol gwblhau’r adolygiad o’r cynllun yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod o 7 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(7Nid oes angen i’r awdurdod lleol perthnasol gwblhau’r adolygiad o fewn y cyfnod hwnnw o 7 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod.

(8At ddibenion paragraff (6), mae adolygiad wedi ei gwblhau pan yw’r awdurdod lleol perthnasol yn rhoi, o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)copi o’r cynllun datblygu unigol diwygiedig;

(b)hysbysiad o benderfyniad na ddylid diwygio’r cynllun;

(c)hysbysiad o benderfyniad nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol mwyach;

(d)os yw’r person yn berson ifanc, hysbysiad o benderfyniad nad oes angen cynnal y cynllun mwyach i ddiwallu anghenion rhesymol y person ifanc am addysg neu hyfforddiant.

Plentyn neu berson ifanc heb gynllun datblygu unigol cyn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty

23.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,

(b)pan fo’r plentyn yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ac

(c)pan nad oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal na’i gadw ar gyfer y plentyn o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(2Mae’r rheoliad hwn hefyd yn gymwys—

(a)pan, ar neu ar ôl 1 Medi 2022—

(i)bo person ifanc yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,

(ii)bo’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, a

(b)pan nad oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal na’i gadw ar gyfer y person ifanc o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(3Mae Deddf 2018 a darpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno (gan gynnwys y Rheoliadau hyn) yn gymwys gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 2 mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw yn ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 (yn benodol, gweler adran 13).

Rhyddhau plentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty

24.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn neu berson ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth,

(b)pan oedd awdurdod lleol perthnasol, yn union cyn rhyddhau’r plentyn neu’r person ifanc, yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 14 o Ddeddf 2018 ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc,

(c)pan fo awdurdod lleol, ar y dyddiad rhyddhau, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, a

(d)pan na fo’r person a ryddheir, yn union wrth ei ryddhau, yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (ar gyfer pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn union wrth ei ryddhau, gweler adran 35(9) a (10) o Ddeddf 2018).

(2Rhaid i’r awdurdod lleol a grybwyllir ym mharagraff (1)(c) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i’w drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 o Ddeddf 2018 at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf honno.

Plentyn neu berson ifanc yn trosglwyddo o gael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty i gael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol

25.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo plentyn neu berson ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw yn trosglwyddo o gael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 i gael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu Loegr (ar gyfer pan fo plentyn neu berson ifanc o’r fath yn trosglwyddo i gael ei gadw’n gaeth mewn llety ac eithrio llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu Loegr, gweler adran 562 o Ddeddf Addysg 1996(12) ac adran 44 o Ddeddf 2018).

(2Wrth gymhwyso’r diffiniad o “beginning of the detention” (yn adran 562J o Ddeddf Addysg 1996), at ddibenion adran 42 o Ddeddf 2018, nid yw’r cyfnod parhaus y cyfeirir ato yn cynnwys y cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 nac unrhyw gyfnod cyn y cyfnod hwnnw.

RHAN 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol

Dehongli rheoliadau 26 i 30

26.  Yn y rheoliad hwn a rheoliadau 27 i 30—

ystyr “athro neu athrawes addysg bellach” (“further education teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ac nid yw’n cynnwys person sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro o dan adran 9(5) o’r Ddeddf honno;

ystyr “cydlynydd anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs co-ordinator”) yw person sydd â chyfrifoldeb am gydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y nodir bod ganddynt anghenion addysgol arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996(13);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(14);

ystyr “gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”) yw—

(a)

cyngor neu gymorth mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol,

(b)

rheoli darpariaeth ddysgu ychwanegol,

(c)

asesu anghenion dysgu ychwanegol,

(d)

cyngor neu gymorth mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, ac

(e)

rheoli disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol;

(f)

ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach” (“further education learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

Cymhwyster neu brofiad rhagnodedig cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol

27.  Ni chaiff corff llywodraethu ysgol ddynodi person yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol o dan adran 60(2) o Ddeddf 2018 ond os yw’r person hwnnw—

(a)yn athro neu athrawes ysgol, neu

(b)yn gydlynydd anghenion addysgol arbennig o fewn yr ysgol yn union cyn 4 Ionawr 2021(15).

Cymhwyster rhagnodedig cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad yn y sector addysg bellach

28.  Ni chaiff corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach ddynodi person yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol o dan adran 60(2) o Ddeddf 2018 ond os yw’r person hwnnw yn athro neu athrawes addysg bellach.

Swyddogaethau cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol

29.  Y tasgau y mae cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol yn gyfrifol am eu cyflawni, neu am sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yw—

(a)nodi anghenion dysgu ychwanegol disgybl a chydlynu’r gwaith o wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n diwallu anghenion dysgu ychwanegol disgybl,

(b)sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol disgybl fel y bo’n ofynnol,

(c)cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol,

(d)hybu cynhwysiant disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol a’i fynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol,

(e)monitro effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir,

(f)cynghori’r athrawon ysgol yn yr ysgol ynghylch y dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol ar gyfer disgyblion unigol ag anghenion dysgu ychwanegol,

(g)goruchwylio a hyfforddi gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgol sy’n gweithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ac

(h)cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon ysgol yn yr ysgol er mwyn cynorthwyo’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni’r tasgau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (e).

Swyddogaethau cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad yn y sector addysg bellach

30.  Y tasgau y mae cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yn gyfrifol am eu cyflawni, neu am sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yw—

(a)nodi anghenion dysgu ychwanegol myfyriwr a chydlynu’r gwaith o wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n diwallu anghenion dysgu ychwanegol myfyriwr,

(b)sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol myfyriwr fel y bo’n ofynnol,

(c)cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol,

(d)hybu cynhwysiant myfyriwr ag anghenion dysgu ychwanegol yn y sefydliad yn y sector addysg bellach a’i fynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol y sefydliad yn y sector addysg bellach,

(e)monitro effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir,

(f)cynghori’r athrawon yn y sefydliad yn y sector addysg bellach ynghylch y dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol ar gyfer myfyrwyr unigol ag anghenion dysgu ychwanegol,

(g)goruchwylio a hyfforddi gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach sy’n gweithio gyda myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ac

(h)cyfrannu at hyfforddiant ar gyfer athrawon addysg bellach yn y sefydliad yn y sector addysg bellach er mwyn cynorthwyo’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni’r tasgau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (e).

Terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â chais adran 65

Terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â chais awdurdod lleol am wybodaeth neu help arall

31.—(1Rhaid i berson sydd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais awdurdod lleol o dan adran 65 o Ddeddf 2018 (dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arall) gydymffurfio â’r cais yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2).

(2Mae’r cyfnod rhagnodedig—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn cael y cais, a

(b)yn dod i ben ar ddiwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Nid oes angen i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2)—

(a)os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person, neu

(b)os nad yw’r cais yn ymwneud ag arfer swyddogaeth mewn cysylltiad â phlentyn neu berson ifanc penodol.

Nwyddau a gwasanaethau

Darparu nwyddau neu wasanaethau mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol

32.—(1Caiff awdurdod lleol gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i—

(a)person sy’n arfer swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, neu

(b)person sy’n gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y Rhan honno,

ar yr amod bod y nwyddau hynny neu’r gwasanaethau hynny yn cael eu cyflenwi at ddiben arfer y swyddogaethau hynny neu wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, yn ôl y digwydd.

(2Caiff y telerau a’r amodau y mae awdurdod lleol yn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau arnynt o dan baragraff (1) gynnwys telerau ac amodau o ran talu a chânt fod yn wahanol ar gyfer personau gwahanol neu ar achlysuron gwahanol.

(3Ond rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau na fyddai unrhyw delerau ac amodau o ran talu, drwy gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall, yn arwain at daliadau i’r awdurdod sy’n uwch na’r gost resymol iddo o gyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau y gwneir y taliadau mewn cysylltiad â hwy.

Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau a gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

Diwygio adran 68 o Ddeddf 2018

33.  Yn adran 68(8) o Ddeddf 2018 (trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau), ar ôl “ardal” mewnosoder “a phersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth y mae’r awdurdod lleol hwnnw yn awdurdod cartref iddynt”.

RHAN 4RHIENI A PHOBL IFANC NAD OES GANDDYNT ALLUEDD

Dehongli’r Rhan hon

34.  Yn y Rhan hon—

mae i “yr adeg berthnasol” (“the relevant time”) yr un ystyr ag yn adran 83(3) o Ddeddf 2018;

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw—

(a)

dirprwy a benodir gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(16) i wneud penderfyniadau ar ran y rhiant neu’r person ifanc mewn perthynas â materion o fewn Rhan 2 o Ddeddf 2018;

(b)

rhoddai atwrneiaeth arhosol (o fewn yr ystyr a roddir i “lasting power of attorney” yn adran 9 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005) a benodir gan riant plentyn neu gan berson ifanc i wneud penderfyniadau ar ran y rhiant neu’r person ifanc mewn perthynas â materion o fewn Rhan 2 o Ddeddf 2018;

(c)

atwrnai y mae atwrneiaeth barhaus (o fewn yr ystyr a roddir i “enduring power of attorney” yn Atodlen 4 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(17)) sydd wedi ei chreu gan y rhiant neu’r person ifanc wedi ei breinio ynddo, pan fo’r atwrneiaeth wedi ei chofrestru yn unol â pharagraffau 4 a 13 o’r Atodlen honno neu pan fo cais i gofrestru’r atwrneiaeth wedi ei wneud;

(d)

rhiant y person ifanc, pan na fo gan y person ifanc gynrychiolydd a restrir ym mharagraff (a), (b) neu (c).

Pan nad oes gan riant plentyn alluedd

35.—(1Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau yn narpariaethau Deddf 2018 a restrir isod at riant plentyn i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw—

(a)adran 11(4);

(b)adran 13(3);

(c)adran 18(3);

(d)adran 20(3)(a) a (b);

(e)adran 22(1)(b) a (2)(b);

(f)adran 23(8), (10) ac (11);

(g)adran 24(7), (9) a (10);

(h)adran 26(1)(b);

(i)adran 27(1)(b) a (4);

(j)adran 28(2)(b), (4), (5) a (7);

(k)adran 31(7)(b), (8) a (9);

(l)adran 32(1)(a) a (b) a (3);

(m)adran 64(3) a (4).

(2Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau at rieni plant, a rhieni disgyblion yn adran 9(3)(b) a (4)(a) o Ddeddf 2018 yn y drefn honno i’w darllen fel pe baent yn cynnwys y rhieni a chynrychiolydd i’r rhieni.

(3Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriad yn rheoliad 22(5)(b) at riant y plentyn i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.

Pan nad oes gan riant i blentyn sy’n berson sy’n cael ei gadw’n gaeth alluedd

36.  Pan nad oes gan riant i berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn alluedd ar yr adeg berthnasol—

(a)mae cyfeiriadau yn adrannau 40(4) a (5)(b) a 42(6) o Ddeddf 2018 at riant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw;

(b)mae’r cyfeiriad yn rheoliad 18(6) at riant y plentyn i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.

Pan nad oes gan berson ifanc alluedd

37.—(1Pan nad oes gan berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau at berson ifanc yn narpariaethau Deddf 2018 a restrir isod i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd y person ifanc—

(a)adran 11(3)(c) yn yr ail le y mae’n digwydd;

(b)adran 11(4) yn yr ail le y mae’n digwydd;

(c)adran 12(2)(b) yn yr ail le y mae’n digwydd;

(d)adran 13(2)(d) yn yr ail le y mae’n digwydd;

(e)adran 13(3) yn yr ail le y mae’n digwydd;

(f)adran 14(3) yn yr ail le y mae’n digwydd;

(g)adran 20(3)(a) a (b);

(h)adran 22(1)(a) a (2)(a);

(i)adran 23(8) yn yr ail le y mae’n digwydd;

(j)adran 23(10) ac (11)(a);

(k)adran 26(1)(b) yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

(l)adran 27(1)(b) yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

(m)adran 27(4);

(n)adran 28(2)(a), (4), (5) a (7);

(o)adran 31(7)(a), (8) a (9);

(p)adran 32(1)(a);

(q)adran 32(1)(b) yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

(r)adran 32(3).

(2Pan nad oes gan berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriadau at bobl ifanc yn adran 9(3)(a) ac at fyfyrwyr yn adran 9(5) o Ddeddf 2018 yn y drefn honno i’w darllen fel pe baent yn cynnwys y person ifanc a chynrychiolydd y person ifanc.

(3Pan nad oes gan berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau at berson ifanc yn y rheoliadau isod i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd y person ifanc—

(a)rheoliad 10(2), (3) a (5);

(b)rheoliad 14(3) a (4);

(c)rheoliad 22(5)(a).

Pan nad oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n berson ifanc alluedd

38.  Pan nad oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriadau yn y darpariaethau isod i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd i’r person ifanc hwnnw—

(a)y cyfeiriad at y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y trydydd lle y mae’n digwydd yn adran 40(4) o Ddeddf 2018;

(b)y cyfeiriad at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y lle cyntaf y mae’n digwydd yn adran 40(5)(b) o Ddeddf 2018;

(c)y cyfeiriadau yn adrannau 41(2)(a) a 42(4) o Ddeddf 2018 at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n berson ifanc;

(d)y cyfeiriad at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y lle cyntaf y mae’n digwydd yn adran 42(6) o Ddeddf 2018;

(e)y cyfeiriad at berson ifanc yn yr ail le y mae’n digwydd yn rheoliad 18(4)(b);

(f)y cyfeiriad at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y lle cyntaf y mae’n digwydd yn rheoliad 18(6).

Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau o dan adran 68 o Ddeddf 2018

39.  Pan nad oes gan riant plentyn neu gan berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, rhaid i drefniadau a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 68 o Ddeddf 2018 ddarparu i gynrychiolydd gymryd rhan yn y trefniadau ar ran rhiant y plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw.

Gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 69 o Ddeddf 2018

40.  Pan nad oes gan berson ifanc y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdano alluedd ar yr adeg berthnasol, rhaid i’r awdurdod lleol hwnnw atgyfeirio cynrychiolydd y person ifanc hwnnw i wasanaeth eirioli annibynnol os yw’r cynrychiolydd yn gofyn am wasanaeth eirioli annibynnol.

Cynrychiolaeth mewn apelau

41.  Pan nad oes gan riant plentyn, neu riant person sy’n cael ei gadw’n gaeth ac sy’n blentyn, alluedd ar yr adeg berthnasol, neu pan nad oes gan berson ifanc, neu berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n berson ifanc, alluedd ar yr adeg berthnasol, caiff ei gynrychiolydd apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru ar ei ran ac mae adrannau 70 a 72 o Ddeddf 2018 i’w dehongli yn unol â hynny.

Deddf Galluedd Meddyliol 2005

42.  Mae rheoliadau 35, 36, 37 a 39 yn cael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(18).

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

Am 1.40 p.m. ar 24 Mawrth 2021

Rheoliadau 6, 7 a 9

ATODLEN 1ANGHENION RHESYMOL AM ADDYSG NEU HYFFORDDIANT

Rhaglen astudio addas

1.—(1Y ffactorau y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried wrth benderfynu a oes posibilrwydd realistig y byddai dilyn rhaglen astudio arfaethedig neu barhau i ddilyn rhaglen astudio (gydag unrhyw addasiadau arfaethedig iddi) yn galluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person yw—

(a)gallu’r person ifanc i ddilyn y rhaglen astudio;

(b)addasrwydd y rhaglen astudio i gyflawni deilliannau dymunol y person ifanc;

(c)unrhyw ffactorau eraill y mae’r awdurdod lleol yn ystyried yn rhesymol eu bod yn berthnasol.

(2Wrth ystyried y ffactorau a grybwyllir yn is-baragraff (1), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried gwybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r ffactorau hynny, gan gynnwys unrhyw wybodaeth a ddarperir—

(a)gan y rheini sy’n ymwneud â darparu addysg neu hyfforddiant i’r person ifanc, neu’r rheini sydd wedi gwneud hynny yn ddiweddar;

(b)gan broffesiynolion iechyd neu ofal cymdeithasol, gan gynnwys unrhyw rai sy’n ymwneud â’r person ifanc;

(c)gan berchennog y sefydliad addysgol y gall rhaglen astudio arfaethedig gael ei dilyn ynddo;

(d)gan bersonau sy’n darparu gwasanaethau, neu sydd wedi eu cyflogi gan gyrff sy’n darparu gwasanaethau, yn unol â threfniadau a wneir neu gyfarwyddydau a roddir o dan adran 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(19) (darparu gwasanaethau gyrfaoedd).

Ffactorau ychwanegol pan fo person ifanc yn dilyn rhaglen astudio

2.  Pan fo’r person ifanc eisoes yn dilyn y rhaglen astudio, ni chaiff yr awdurdod lleol ddod i’r casgliad nad oes posibilrwydd realistig mwyach y byddai parhau i ddilyn y rhaglen astudio fel y’i bwriadwyd ar y dechrau yn galluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person oni bai ei fod wedi ystyried y ffactorau a ganlyn—

(a)bod pobl ifanc yn datblygu ar gyfraddau gwahanol ac efallai na fydd cynnydd person ifanc tuag at gyflawni’r deilliannau dymunol yn amlwg tan yn ddiweddarach yn y rhaglen astudio;

(b)bod y person ifanc yn disgwyl cael y cyfle i gwblhau’r rhaglen astudio fel y’i bwriadwyd ar y dechrau;

(c)a yw newid sylweddol yn amgylchiadau personol neu anghenion y person ifanc wedi effeithio ar allu’r person ifanc i ddysgu.

Rhaglen astudio y bwriedir iddi bara am fwy na 2 flynedd

3.—(1Bwriedir ar y dechrau i’r rhaglen astudio addas y bwriedir i’r person ifanc ei dilyn (gan gynnwys pan fo’n rhaglen astudio ychwanegol o dan baragraff 5(1)) gael ei chynnal dros gyfnod o fwy na 2 flynedd.

(2Y ffactorau, pan fônt yn berthnasol, y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried yw—

(a)pan fo’r rhaglen wedi ei chynllunio i ganiatáu i’r person ifanc gael mynediad at gwrs o addysg bellach neu hyfforddiant a ddilynir gan bobl ifanc nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol—

(i)hyd arferol y cwrs ar gyfer pobl ifanc nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, a

(ii)a oes angen amser ychwanegol ar y person ifanc, o’i gymharu â’r rhan fwyaf o bobl ifanc eraill nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol, i gwblhau’r cwrs;

(b)pan fo’r rhaglen astudio wedi ei chynllunio’n arbennig i ddarparu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer y person ifanc, a oes unrhyw resymau eithriadol sy’n ymwneud â gallu’r person ifanc i ddysgu fel na ellir cyflawni deilliannau dymunol y person yn realistig o fewn y cyfnod o 2 flynedd.

Estyn rhaglen astudio

4.—(1Nid yw’r person ifanc wedi gallu cwblhau rhaglen astudio (gan gynnwys pan fo’n rhaglen astudio ychwanegol o dan baragraff 5(1)) o fewn cyfnod para’r rhaglen fel y’i bwriadwyd ar y dechrau a bwriedir estyn y rhaglen i alluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person ar ddechrau’r rhaglen (“deilliannau gwreiddiol”) neu rai sy’n sylweddol debyg i’r deilliannau gwreiddiol (“deilliannau addasedig”).

(2Y ffactorau, pan fônt yn berthnasol, y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried yw—

(a)a oes modd osgoi’r amgylchiadau sy’n arwain at yr estyniad arfaethedig;

(b)a yw’r estyniad arfaethedig yn angenrheidiol i alluogi’r person ifanc i gwblhau’r rhaglen astudio a chyflawni’r deilliannau gwreiddiol neu’r deilliannau addasedig;

(c)a yw’r estyniad arfaethedig at ddiben y dylid bod wedi ymdrin ag ef yn ystod cyfnod para gwreiddiol y rhaglen astudio a phan fo hynny’n wir, y rhesymau pam nad ymdriniwyd ag ef;

(d)a yw’r estyniad arfaethedig yn gymesur â’r deilliannau gwreiddiol nad ydynt wedi eu cyflawni eto neu’r canlyniadau addasedig ac a oes angen hyd gwahanol o estyniad o dan yr amgylchiadau;

(e)pan fo’r rhaglen astudio wedi ei hestyn yn flaenorol—

(i)a yw’r estyniad arfaethedig yn codi o’r un ffeithiau â’r un blaenorol, a

(ii)a oes rhesymau eithriadol pam nad oedd y person ifanc yn gallu cyflawni’r deilliannau yn ystod yr estyniad blaenorol.

Rhaglen astudio ychwanegol

5.—(1Mae’r rhaglen astudio y bwriedir i’r person ifanc ei dilyn yn ychwanegol at addysg bellach neu hyfforddiant y mae’r person ifanc eisoes wedi ei dilyn neu ei ddilyn.

(2Y ffactorau, pan fônt yn berthnasol, y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried yw—

(a)nad yw’r person ifanc yn gallu elwa mewn ffordd ystyrlon ar yr addysg bellach flaenorol neu’r hyfforddiant blaenorol oherwydd—

(i)bod yr addysg bellach flaenorol neu’r hyfforddiant blaenorol wedi syrthio gymaint islaw’r safon ddisgwyliedig fel na ellir honni’n rhesymol bod ei darparwr neu ei ddarparwr wedi cyflenwi’r addysg neu’r hyfforddiant sy’n angenrheidiol i gyflawni deilliannau dymunol y person ifanc wrth ei dilyn neu ei ddilyn,

(ii)newid sylweddol yn amgylchiadau personol neu anghenion y person ifanc, neu

(iii)unrhyw amgylchiadau eithriadol eraill;

(b)pan fo’r person ifanc wedi dilyn yr addysg bellach flaenorol neu’r hyfforddiant blaenorol mewn ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach, na allai elfen hanfodol a sylweddol o’r addysg bellach neu’r hyfforddiant sy’n angenrheidiol i gyflawni deilliannau dymunol y person ifanc fod wedi ei chyflenwi fel rhan o’r addysg bellach flaenorol honno neu’r hyfforddiant blaenorol hwnnw;

(c)pan fo’r addysg bellach flaenorol neu’r hyfforddiant blaenorol wedi para am lai na 2 flynedd, cyfanswm cyfnod para’r addysg bellach flaenorol honno neu’r hyfforddiant blaenorol hwnnw a chyfnod para’r rhaglen astudio arfaethedig ac a yw’r graddau y mae cyfanswm y cyfnod para hwnnw yn fwy na 2 flynedd yn rhesymol o dan bob un o’r amgylchiadau;

(d)a oes unrhyw amgylchiadau eithriadol eraill i awgrymu nad yw’r person ifanc wedi cael mynediad effeithiol at addysg bellach neu hyfforddiant.

Amgylchiadau eithriadol eraill

6.—(1Mae’r amgylchiadau yn sylweddol debyg i un neu ragor o’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff 3(1), 4(1) neu 5(1).

(2Y ffactorau, pan fônt yn berthnasol, y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried yw’r ffactorau a nodir ym mharagraff 3(2), 4(2) neu 5(2) sy’n cyfateb i ba un bynnag o’r amgylchiadau ym mharagraff 3(1), 4(1) neu 5(1) sy’n sylweddol debyg.

Rheoliadau 20, 22 a 23

ATODLEN 2CYMHWYSO GYDAG ADDASIADAU DDEDDF 2018 MEWN PERTHYNAS Â PHERSONAU SY’N CAEL EU CADW’N GAETH MEWN YSBYTY O DAN RAN 3 O DDEDDF 1983

1.—(1Mae’r pwerau a’r dyletswyddau a roddir i awdurdod lleol neu a osodir ar awdurdod lleol gan Ran 2 o Ddeddf 2018, gan y Rheoliadau hyn neu fel arall o dan y Rhan honno, i’r graddau na fyddent yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc o fewn is-baragraff (3) oherwydd adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 neu adran 44(1) o Ddeddf 2018, yn gymwys i’r plentyn neu’r person ifanc gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn is-baragraff (4).

(2Mae darpariaethau eraill o Ddeddf 2018, y Rheoliadau hyn ac unrhyw ddarpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno, i’r graddau y maent yn gymwys at ddibenion y pwerau hynny a’r dyletswyddau hynny neu fel arall yn ymwneud â’r plentyn neu’r person ifanc, yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn is-baragraff (4).

(3Mae plentyn neu berson ifanc o fewn yr is-baragraff hwn os yw’r plentyn neu’r person ifanc—

(a)yn ddarostyngedig i orchymyn cadw, a

(b)yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983.

(4Yr addasiadau yw—

(a)mae cyfeiriadau, sut bynnag y’u mynegir, at awdurdod lleol sy’n gyfrifol (neu’n dod neu’n peidio â bod yn gyfrifol) am blentyn neu berson ifanc i’w dehongli fel pe baent yn gyfeiriadau at awdurdod lleol, sef yr awdurdod lleol perthnasol (neu sy’n dod neu’n peidio â bod yn awdurdod o’r fath) ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ac yn unol â hynny nid yw adran 99(4) i fod yn gymwys i’r cyfeiriadau hynny;

(b)hepgorer adran 13(2)(e);

(c)yn adran 14, hepgorer is-adrannau (2)(b) a (4);

(d)yn adran 15(1)—

(i)ar ddiwedd paragraff (a), hepgorer “a”;

(ii)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “ac”;

(iii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)os nad yw—

(i)yn ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

(ii)yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.;

(e)hepgorer adran 36;

(f)os yw’r ysbyty yn llety ieuenctid perthnasol, nid yw’r dyletswyddau a osodir ar awdurdod cartref gan adrannau 40 a 42 yn gymwys;

(g)yn adran 84(1)(a), ar y diwedd mewnosoder “neu reoliad 22(5) o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021”;

(h)yn adran 85(5)(a), ar ôl “42(6)” mewnosoder “a rheoliad 22(5) o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021”;

(i)yn rheoliad 16(1)(b), ar ôl “Ddeddf 2018” mewnosoder “neu reoliad 22(2)”.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”) yn sefydlu’r system yng Nghymru ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc. Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at y system y darperir ar ei chyfer yn Neddf 2018.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch dehongli termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau drwyddynt draw. Hefyd, mae darpariaethau dehongli penodol mewn rheoliadau eraill, pan fo’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn cael eu defnyddio at ddibenion rheoliadau sy’n ymdrin â mater penodol yn unig (er enghraifft, rheoliad 34 yn Rhan 4). Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysu rhywun neu roi dogfen i rywun o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn ymdrin ag ystod o faterion sy’n gysylltiedig â chynlluniau datblygu unigol, ac mae’n ychwanegu at ddarpariaethau Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2018. Yn benodol, mae rheoliadau 6 i 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch penderfyniadau awdurdodau lleol o dan adrannau 14 ac 31 o Ddeddf 2018 ynghylch yr angen i gynnal cynlluniau datblygu unigol ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru na sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru. Mae darpariaethau hefyd sy’n gysylltiedig â throsglwyddo cyfrifoldeb am gynllun datblygu unigol o un corff i un arall. Mae rheoliadau 20 i 25 yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddyletswyddau yn Neddf 2018 mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau atodol ym Mhennod 3 o Ran 2 o Ddeddf 2018 a swyddogaethau yn adrannau 68 a 69 o’r Ddeddf honno. Mae’n cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol. Mae adran 60 o Ddeddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir (ac eithrio ysgolion arbennig) a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ddynodi person (neu bersonau) yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i fod yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae rheoliadau 27 ac 28 yn nodi’r cymwysterau neu’r profiad y mae rhaid i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol feddu arnynt neu arno ac mae rheoliadau 29 a 30 yn rhoi swyddogaethau i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn effeithio ar allu’r corff llywodraethu i roi cyfrifoldebau pellach i’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r darpariaethau hyn yn disodli’r darpariaethau yn Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020, sydd wedi eu dirymu gan reoliad 1.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch rhieni a phobl ifanc nad oes ganddynt alluedd. Mae’n ymdrin â phobl ifanc, a rhieni plant, nad oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud y penderfyniadau neu i gymryd y camau gweithredu sy’n ofynnol. At ddibenion Deddf 2018, nid oes gan berson alluedd pan nad oes ganddo alluedd o fewn ystyr “lack capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005, hynny yw, pan nad oes ganddo alluedd meddyliol, nid galluedd cyfreithiol. Mae’r Rheoliadau yn darparu, pan na fo gan riant plentyn alluedd, fod pob cyfeiriad at riant y plentyn i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant. Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu, pan na fo gan berson ifanc alluedd, fod y cyfeiriadau at y person ifanc i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd y person ifanc, neu at riant y person ifanc.

Mae Rhan 4 yn ei gwneud yn glir bod y darpariaethau sy’n ymwneud â galluedd meddyliol yn cael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru .

(1)

2018 dccc 2. Gweler adran 99(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” ac “a ragnodir” a “rheoliadau”.

(2)

Mae’r cyfeiriadau yn adran 98(3) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

1996 p. 56. Mae’r is-adrannau hyn wedi eu diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), Atodlen 4, Rhan 1, paragraff 47, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 49 ac O.S. 2016/413 (Cy. 131), rheoliadau 153 a 157.

(6)

2019 dccc 4. Mae adran 13 wedi ei diwygio gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), Atodlen 1, paragraff 5(1), (3)(b) a (4)(a). Mae diwygiadau eraill i adran 13 nad ydynt yn berthnasol.

(7)

2014 dccc 4. Mewnosodwyd adran 83(2A), a diwygiwyd adran 83 yn fwy cyffredinol, gan adran 16 o Ddeddf 2018.

(8)

1983 p. 20. Mewnosododd adran 46 o Ddeddf (Dedfrydau) Troseddau 1997 (p. 43) adrannau 45A a 45B yn Rhan 3. Mae diwygiadau eraill i Ran 3 nad ydynt yn berthnasol.

(9)

1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 562J gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 50. Mae diwygiadau perthnasol iddi wedi eu gwneud gan O.S. 2010/1158, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 16(1), (2) a (4).

(10)

2014 dccc 4. Mae adran 74 yn darparu ar gyfer dehongli cyfeiriadau yn y Ddeddf honno at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

(11)

1989 p. 41. Mae adrannau 22(1) a 105(4) yn darparu ar gyfer dehongli cyfeiriadau at blentyn sy’n derbyn gofal. Mae adran 22(1) wedi ei diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35), adran 2(1) a (2) ac O.S. 2016/413, rheoliadau 55 a 69(a). Amnewidiwyd adran 105(4) gan O.S. 2016/413, rheoliadau 55 a 106(b).

(12)

1996 p. 56. Mae adran 562 wedi ei diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), Atodlen 4, Rhan 1, paragraff 47, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 49, O.S. 2010/1158, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 7(1) i (3) ac O.S. 2016/413, rheoliadau 153 a 157.

(15)

Daeth Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1351 (Cy. 299)) i rym ar 4 Ionawr 2021.

(16)

2005 p. 9.

(17)

Mae diwygiadau perthnasol wedi eu gwneud i Atodlen 4 gan O.S. 2012/2404, Atodlen 2, paragraff 53(1) a (6).

(18)

Nid yw adran 27(1)(g) yn caniatáu i benderfyniadau ar gyflawni cyfrifoldebau rhiant mewn materion nad ydynt yn ymwneud ag eiddo plentyn gael eu gwneud ar ran person.

(19)

1973 p. 50. Amnewidiwyd adran 10 gan Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p. 19), adran 45, ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1158, Atodlen 2, Rhan 2, paragraff 28(1) a (2). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 10, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1 ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources