Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 172 (Cy. 40)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 3.06 p.m. ar 19 Chwefror 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.45 p.m. ar 19 Chwefror 2021

Yn dod i rym

20 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Chwefror 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 4(6) mewnosoder—

(6A) Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn un o Atodlenni 1 i 4 yn gymwys i ardal yn ddarostyngedig i’r addasiadau dros dro a bennir mewn perthynas â’r ardal honno yn Atodlen 5.

(3Yn rheoliad 57(1), yn lle is-baragraff (h) rhodder—

(h)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn—

(i)sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,

(ii)sydd wedi ei ddynodi’n athletwr elît gan Gyngor Chwaraeon Cymru at ddibenion—

(aa)y Rheoliadau hyn,

(bb)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(cc)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

(dd)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(ee)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

(iii)sy’n “mabolgampwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020(3),

(iv)sy’n “mabolgampwr proffesiynol” o fewn yr ystyr a roddir i “professional sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020(4), neu

(v)sy’n “athletwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite athlete” gan baragraff 39(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Gogledd Iwerddon) 2020(5);;

(4Ym mharagraff 1 o Atodlen 4, yn is-baragraff (4)(f)—

(a)ar ôl is-baragraff (ii), mewnosoder “neu”;

(b)hepgorer is-baragraff (iv) a’r “neu” yn union o’i flaen.

(5Ym mharagraff 2 o Atodlen 4, yn is-baragraff (4)(i), hepgorer is-baragraff (ii) a’r “neu” yn union o’i flaen.

(6Ym mharagraff 6A o Atodlen 4—

(a)yn is-baragraff (1), ar ôl “ddisgybl” mewnosoder “dynodedig”;

(b)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Yn y paragraff hwn, ystyr “disgybl dynodedig” yw disgybl ym mlwyddyn 3 neu’n uwch.;

(c)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (a), ar ôl “ddisgybl” mewnosoder “dynodedig”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “disgybl rhag mynd” rhodder “i ddisgybl dynodedig fynd”;

(iii)ym mharagraff (c), yn lle “disgybl rhag mynd” rhodder “i ddisgybl dynodedig fynd”;

(iv)ym mharagraff (d), yn lle “disgybl rhag mynd” rhodder “i ddisgybl dynodedig fynd”;

(v)ym mharagraff (e), yn lle “disgybl sy’n ddisgybl preswyl rhag preswylio” rhodder “i ddisgybl dynodedig sy’n ddisgybl preswyl breswylio”.

(7Ym mharagraff 6B o Atodlen 4, yn lle is-baragraff (2)(a) rhodder—

(a)sefydliad addysg bellach—

(i)i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall, neu

(ii)i wneud cwrs mewn peirianneg, adeiladu, lletygarwch, arlwyo neu amaethyddiaeth, pan fo presenoldeb yn y sefydliad yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r myfyriwr i gwblhau elfen ofynnol o’r cwrs;.

(8Ym mharagraff 6D o Atodlen 4, ar y diwedd mewnosoder—

(m)mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

(n)ystyr “blwyddyn 3” yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;

(o)ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran.

(9Yn Atodlen 5, ar ôl y tabl mewnosoder—

Addasiadau dros dro

2.  Mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 4, am y cyfnod o ddechrau’r diwrnod ar 20 Chwefror 2021 tan ddiwedd y diwrnod ar 12 Mawrth 2021—

(a)mae paragraff 1(4)(f) o Atodlen 4 i’w ddarllen—

(i)fel pe bai’r “neu” ar ôl is-baragraff (ii) wedi ei hepgor, a

(ii)fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (iii)

neu

(iv)mewn grŵp o ddim mwy na 4 o bersonau o ddim mwy na 2 aelwyd, ond caiff y grŵp hefyd gynnwys unrhyw ofalwr i berson yn y grŵp ac unrhyw blant o’r naill aelwyd neu’r llall sydd o dan 11 oed.;

(b)mae paragraff 2(4)(i) o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (i)

neu

(ii)mewn grŵp o ddim mwy na 4 o bersonau o ddim mwy na 2 aelwyd, ond caiff y grŵp hefyd gynnwys unrhyw blant o’r naill aelwyd neu’r llall sydd o dan 11 oed,.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 3.06 p.m. ar 19 Chwefror 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio i wneud addasiadau dros dro i’r cyfyngiadau a’r gofynion sy’n gymwys i ardal Lefel Rhybudd 4 o dan Atodlen 4 i’r prif Reoliadau. Mae’r darpariaethau dros dro yn caniatáu i hyd at 4 o bobl o 2 aelwyd wahanol wneud ymarfer corff gyda’i gilydd yn yr awyr agored (er bod rhaid o hyd i’r ymarfer corff ddechrau o’r man lle y mae’r bobl yn byw a gorffen yno).

Er mwyn darparu ar gyfer addasiadau dros dro o’r fath, mae diwygiad cyfatebol wedi ei wneud i reoliad 4(8). Effaith hyn yw bod y cyfyngiadau a’r gofynion ar gyfer pob lefel rhybudd (fel y’u nodir yn Atodlenni 1 i 4) yn gymwys i ardal yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau dros dro a bennir mewn perthynas â’r ardal honno yn Atodlen 5. Felly yn ogystal ag edrych ar Atodlen 5 i benderfynu pa un o Atodlenni 1 i 4 sy’n gymwys i ardal, rhaid ichi hefyd ystyried sut y gall yr Atodlen berthnasol fod wedi ei haddasu gan Atodlen 5.

Mae Rhan 3A o Atodlen 4 i’r prif Reoliadau yn gwahardd perchnogion ysgolion yng Nghymru mewn ardal Lefel Rhybudd 4 rhag caniatáu i ddisgyblion fynd i fangreoedd ysgolion. Mae hefyd yn gwahardd perchnogion sefydliadau addysg bellach rhag caniatáu i fyfyrwyr fynd i’r sefydliadau hynny. Mae hyn yn ddarostyngedig i eithriadau penodol yn y ddau achos.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 3A o Atodlen 4 i’r prif Reoliadau fel nad yw’r gwaharddiad ar berchnogion ysgolion yn gymwys ond mewn perthynas â disgyblion ym mlwyddyn 3 neu’n uwch. Mae hefyd yn diwygio’r Rhan honno fel nad yw’r gwaharddiad ar berchnogion sefydliadau addysg bellach yn gymwys os yw’r myfyriwr yn ymgymryd â chwrs mewn peirianneg, adeiladu, lletygarwch, arlwyo neu amaethyddiaeth a bod angen iddo fynd i’r sefydliad i gwblhau ei gwrs.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau pellach i Atodlen 4 i’r prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(5)

Rh.S. 2020 Rhif 90, fel y’i diwygiwyd gan Reolau Statudol 2020 Rhifau 138, 140, 154, 155, 163, 168, 179, 185, 189, 193, 194, 200, 203, 212, 216, 223, 228, 234, 241, 243, 244, 254, 275, 278, 289, 326, 344, a 355 a Rheolau Statudol 2021 Rhifau 4, 5, 6, 9, 10, 13, 17 a 32.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources